Tirweddau, parciau a natur

Tirweddau, parciau a natur

Pobl yn tirlunio yn yr Ardd Japaneaidd yn Cowden, yr Alban
Pobl yn tirlunio yn yr Ardd Japaneaidd yn Cowden, yr Alban. Credyd: Devlin Photo Ltd
Ni fu erioed mor hanfodol gofalu am fyd natur a helpu pobl i ddeall ei bwysigrwydd.

Ers 1994, rydym wedi dyfarnu £2biliwn i 4,700 o brosiectau tir, natur a bioamrywiaeth ar draws y DU.

Diogelu'r amgylchedd yw un o'n pedair egwyddor fuddsoddi Treftadaeth 2033.

Rydym yn blaenoriaethu prosiectau tirwedd a natur sy'n:

  • cefnogi adferiad byd natur
  • cyflwyno atebion sy'n seiliedig ar fyd natur i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd
  • ailgysylltu pobl â thirweddau, amgylcheddau morol a byd natur

Yr argyfwng hinsawdd

Mae gan y sector treftadaeth rôl bwysig i'w chwarae o ran gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr a thaclo newid yn yr hinsawdd. Darganfod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud i daclo’r argyfwng hinsawdd.

Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan y prosiectau a ariannwn

Rydym eisiau i bob math o brosiectau treftadaeth, mawr a bach:

  • gyfyngu ar unrhyw niwed posib i'r amgylchedd
  • cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac yn enwedig ar fyd natur

Darllen ein harweiniad cynaladwyedd amgylcheddol.

Sut i gael eich ariannu

Mwy o wybodaeth

Darganfod pa brosiectau a ariannwn, a'r hyn y gallech chi ei wneud gyda'n buddsoddiad i helpu amddiffyn ein byd naturiol.
 

Butterfly

Rydym yn cefnogi prosiectau sy'n gwarchod ac yn gwella cynefinoedd ac yn diogelu rhywogaethau gwerthfawr y DU.

Romney Marsh

Disgwyliwn i brosiectau llwyddiannus ddangos sut y byddant yn mynd i'r afael â'r heriau allweddol a wynebir gan dirweddau a natur y DU.

Green roof of cafe

Mae parciau cyhoeddus yn wynebu gostyngiad difrifol mewn cyllid gan awdurdodau lleol. Dyma sut y gallwn helpu eich parciau a mannau gwyrdd trefol.

Mae'r DU yn fyd-enwog am ei chyfoeth o barciau a gerddi hanesyddol. Dyma sut y gall ein cyllid helpu i ofalu amdanynt.

People swimming and playing in the Jubilee Pool

Straeon

Astudiaeth achos: Pwll Jiwbilî Penzance

Y prosiect Mae Pwll jiwbilî yn lido Art Deco 85 oed sydd wedi'i leoli ger harbwr Penzance yng Nghernyw. Ar ôl cael ei adnewyddu, agorodd yn 2020 gyda phwll gwres geothermol cyntaf y DU. Mae'r system wresogi geothermol arloesol yn gweithio drwy echdynnu dŵr cynnes o ffynnon geothermol dwfn 410m –