Natur am Byth – Achub Rhywogaethau dan Fygythiad Cymru

Natur am Byth – Achub Rhywogaethau dan Fygythiad Cymru

Madfall dywod - madfall fychan werdd mewn glasswellt
Madfall dywod

National Lottery Grants for Heritage – £250,000 to £5million

Coedffranc West
Neath Port Talbot
Natural Resources Wales
£5093088
Mae partneriaeth Natur am Byth yn dod â deg sefydliad cadwraeth blaenllaw at eu gilydd i ddiogelu ac achub 67 o rywogaethau mwyaf bregus Cymru.

Ymysg y rhywogaethau rheini, mae’r wiber, y gwenyn, tormaen piws, cen bryoria, coesgoch a ystlum pedol lleiaf o dan risg uchel o ddiflannu yng Nghymru.

Dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, dyma un o'r rhaglenni cadwraeth mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd erioed yng Nghymru. Bydd hefyd yn creu 20 o swyddi a llawer o gyfleoedd i bobl ailgysylltu â natur yn eu cymdogaeth trwy wirfoddoli.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Mae Natur am Byth yn brosiect uchelgeisiol, cyffrous a phwysig a fydd yn helpu cynefinoedd, rhywogaethau a phobl i ffynnu gyda'i gilydd."

a plant with purple flowers growing on a rock
Mae tormaen piws o dan fygythiad yng Nghymru

Bydd ein cyllid yn helpu i ganiatáu:

  • gwaith partneriaeth gyda sefydliadau gan gynnwys: Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod, Buglife, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, Cadwraeth Pili Byw, Plantlife, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, RSPB Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent
  • y prosiect i redeg dros bedair blynedd mewn 11 lleoliad ledled Cymru i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol dirywiad rhywogaethau yn lleol
  • i gannoedd o dirfeddianwyr a gwirfoddolwyr cymunedol yn rhan o gyflawni newid cadarnhaol ar gyfer adfer natur ac i bobl yn eu hardaloedd

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: “Nid fu erioed o'r blaen bartneriaeth gyda chymaint o sefydliadau gwirfoddol a CNC yn cydweithio fel hyn i fynd i'r afael â'r argyfwng natur. Bydd y bartneriaeth yn dod â gwybodaeth wyddonol arbenigol, rhwydweithiau lleol a phrofiad heb ei ail at ei gilydd i ymgysylltu â chymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol mewn cynlluniau i ddiogelu natur.