Swyddi yng Nghronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Gwneud cais i weithio gyda ni: neges gan ein tîm gweithredol
Diolch am ddangos diddordeb mewn gweithio yng Nghronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Rydym yn cefnogi pob math o dreftadaeth ym mhob rhan o'r DU. Gallai hynny gynnwys parc lleol, tirwedd drawiadol, adeilad hanesyddol neu gasgliad o atgofion. Rydym yn angerddol am y gwahaniaeth y mae'r dreftadaeth hon yn ei wneud i fywydau pobl. Os ydych yn gyffrous am helpu i wneud treftadaeth yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb, rydym am glywed gennych
Rydym hefyd am adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a buddsoddi ynddynt. Felly beth bynnag fo'ch cefndir a beth bynnag yw eich profiad, rydym yn croesawu eich cais.
Ein gwerthoedd
Mae pedwar gwerth yn eistedd wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym ni:
-
Cynhwysol
-
Uchelgeisiol
-
Cydweithredol
- Ymddiriedol
Maent yn ein helpu i feithrin llwyddiant i'n pobl yn ogystal ag i dreftadaeth, cymunedau a'r amgylchedd. Sicrhewch eich bod yn darllen am y Gwerthoedd ac Ymddygiadau hyn cyn gwneud cais i ni, gan eu bod yn rhan ganolog o'r broses ymgeisio.
Mae ein gwerthoedd a'n hymddygiad yn gwneud Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn lle gwych i weithio ynddo. Mawr obeithiwn y gallwch ymuno â ni.
Dymuniadau gorau a phob lwc gyda'ch cais.
Eilish, Isabel, Harnish ac Anne
Gweithio gyda ni
Fel y prosiectau rydym yn eu hariannu, mae ein staff wedi'u lleoli ledled y DU. Mae gennym rolau mewn buddsoddi ac ymgysylltu, polisi, strategaeth, ymchwil, marchnata a chyfathrebu, cyfreithiol a llywodraethu, Adnoddau Dynol, TG, cyllid a mwy.
Dysgwch fwy am fanteision gweithio gyda ni ac archwiliwch ein swyddi gwag presennol isod. Rydym hefyd yn postio cyfleoedd i ymuno â'n byrddau a'n pwyllgorau yma.