Mentrau strategol
Rydym am greu'r effaith a'r budd mwyaf i dreftadaeth y DU o'n hariannu.
Mae ein mentrau strategol yn ffordd i ni fynd i'r afael â materion treftadaeth hirsefydlog ar raddfa fawr, cefnogi dulliau cydgysylltiedig traws-tiriogaethol a rhoi syniadau ac arloesiadau newydd ar waith yn gyflym.
Dros oes ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033, rydym yn disgwyl cyflwyno amrywiaeth o fentrau. Mae'r rhai yr ydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd yn cynnwys:
Lleoedd Treftadaeth
Rydym am roi hwb i falchder mewn lle a chysylltiad â threftadaeth ar draws lleoedd cyfan yn hytrach na phrosiectau unigol. Ein nod yw gwneud treftadaeth yn rhan annatod o gynlluniau a dulliau sy’n gwneud ardaloedd lleol yn lleoedd gwell i fyw, gweithio ac ymweld â nhw.
Ym mis Hydref 2023 fe wnaethom gyhoeddi’r naw cyntaf o hyd at 20 o leoedd ledled y DU lle byddwn yn buddsoddi £200miliwn:
- Dinas Armagh, Banbridge a Craigavon
- Swydd Durham
- Glasgow
- Caerlŷr
- Medway
- Castell-nedd Port Talbot
- Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln
- Stoke-on-Trent
- Torbay
Ystyriaethau ar gyfer cais Lleoedd Treftadaeth:
- rhaid i weithgareddau prosiect craidd cael ei leoli yn mewn un o'n lleoedd treftadaeth
- dylai prosiectau fod yn rhan o uchelgais ehangach i wella neu drawsnewid yr ardal, gyda chefnogaeth partneriaid a sefydliadau lleol
- dylai prosiectau fod yn gydweithredol a bydd angen iddynt ddangos tystiolaeth o gefnogaeth gan bartner(iaid) lleol
Os ydych yn gwneud cais i un o’n Lleoedd Treftadaeth a nodwyd:
- cysylltwch â'ch tîm lleol i gael cyngor ar eich prosiect treftadaeth cyn gwneud cais
- Cyflwynwch Ymholiad Prosiect (ceisiadau hyd at £250,000) am gyngor ychwanegol. Ar gyfer ceisiadau dros £250,000 rhaid i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb cyn gwneud cais.
- dilynwch ein harweiniad Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i baratoi a chyflwyno eich cais
- dechreuwch deitl eich prosiect gyda'r hashnod ‘#HP’ fel y gallwn weld ei fod yn gais Lleoedd Treftadaeth
Cael gwybod mwy am ein menter strategol Lleoedd Treftadaeth a bwrw golwg ar ein hyb Lleoedd Ffyniannus ar gyfer astudiaethau achos, straeon a blogiau seiliedig ar le.
Tirweddau Integredig
Mae treftadaeth naturiol y DU yn dirywio. Byddwn yn cefnogi prosiectau ar raddfa fawr sy'n adfywio tirweddau, yn cefnogi adferiad natur ac yn gwella cysylltedd pobl a bywyd gwyllt. Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Tirweddau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Parciau Cenedlaethol, sefydliadau cadwraeth, cymunedau a’r rhai sy’n gweithio’r tir, gyda’n gilydd byddwn yn cychwyn adferiad tirweddau a chynefinoedd cyfan. Rydym am gefnogi treftadaeth naturiol doreithiog, treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a systemau naturiol iach. Drwy ysgogi prosiectau uchelgeisiol ar raddfa’r dirwedd byddwn yn sicrhau newid sylweddol o ran adferiad byd natur dros y deng mlynedd nesaf.
Disgwyliwn lansio’r fenter hon ddiwedd gwanwyn 2024.
Dinasoedd a Threfi Natur
Mae ymgysylltu â byd natur yn agos at le mae pobl yn byw yn hanfodol i’n hiechyd a’n lles. Trwy gefnogi adferiad byd natur yn ein dinasoedd a’n trefi gallwn helpu natur i ffynnu, cynyddu cysylltiad pobl â bywyd gwyllt a gwneud lleoedd yn well i fyw a gweithio ynddynt. Byddwn yn cefnogi dinasoedd a threfi ledled y DU, mewn partneriaeth ag eraill, i sicrhau adferiad byd natur trefol trwy barciau a mannau gwyrdd hanesyddol ffyniannus.
Disgwyliwn lansio’r fenter hon yn ail hanner 2024.
Treftadaeth mewn angen a chyfleoedd ac argyfyngau eraill
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyblygrwydd ac ymateb yn gyflym pan fydd angen. Gallai hyn olygu cefnogi caffael treftadaeth eithriadol, nodi digwyddiadau arwyddocaol neu gefnogi meysydd o dreftadaeth a sefydliadau sy'n delio ag argyfwng nas rhagwelwyd.
Rydym hefyd yn ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer ariannu wedi'i dargedu ar gyfer treftadaeth sydd mewn perygl ac sydd angen cadwraeth. Ochr yn ochr ag ariannu prosiectau unigol, rydym am gefnogi sefydliadau i adeiladu gallu, datblygu dulliau cynllunio prosiectau ac amrywiaethu ffrydiau incwm.
Mwy i ddod
Mae ein timau'n gweithio'n galed i ddatblygu'r mentrau a'r cyfleoedd hyn a byddwn yn rhannu rhagor o fanylion pan fyddant ar gael.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael ein newyddion a chyhoeddiadau diweddaraf wedi'u danfon yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.