Penderfyniadau ariannu
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol o dan £10 miliwn
Gwneir penderfyniadau'n lleol, yn dibynnu ar swm y grant.
Hyd at £250,000
Gwneir y penderfyniadau hyn yn fisol mewn cyfarfodydd penderfyniadau dirprwyedig Ardal/Gwlad. Caiff y cyfarfodydd hyn eu rheoli a'u cadeirio gan Benaethiaid Buddsoddi.
Rhwng £250,000 a £10 miliwn
Gwneir y penderfyniadau hyn gan bwyllgorau yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, Cymru a ledled Lloegr. Mae'r pwyllgorau'n cyfarfod bob tri mis.
Gallwch weld penderfyniadau o'r 12 mis diwethaf yn eich ardal chi:
Penderfyniadau Cymru
Gwelwch benderfyniadau ein Bwrdd isod (dim ond cofnodion Pwyllgorau Cymru a'r rhai sy'n berthnasol i Gymru sydd wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg - mae croeso cynnes i chi gysylltu â cymorthcymraeg@heritagefund.org.uk os hoffech ragor o wybodaeth)
Dyfarniadau eraill
Gwneir y penderfyniadau hyn gan ein Bwrdd Ymddiriedolwyr neu gan baneli a ddirprwyir gan y Bwrdd. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol dros £10 miliwn gyda phenderfyniadau a wnaed yng nghyfarfodydd y Bwrdd.
- Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol gyda phenderfyniadau a wnaed yng nghyfarfodydd y Bwrdd.
- Dyfarniadau a mentrau arbennig gyda phenderfyniadau a wnaed gan baneli a ddirprwyir gan y Bwrdd.
Gallwch ddod o hyd i gofnodion a'r penderfyniadau hyn o'r flwyddyn ddiwethaf isod.
(Gellir gofyn am benderfyniadau hŷn drwy ryddid gwybodaeth, drwy e-bostio foi@heritagefund.org.uk.)
Publications
Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, Mawrth 2023
Publications
Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol, Rhagfyr 2022
Publications
Penderfyniadau'r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG), Mawrth 2023
Publications
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Ionawr 2023
Publications
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Rhagfyr 2022
Publications
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Tachwedd 2022
Publications
Penderfyniadau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Choetiroedd Cymunedol, Mawrth 2022
Publications