Ein gwaith
Ein blaenoriaethau presennol
Ein heffaith
Dros y 25 mlynedd diwethaf, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw'r cyllidwr grant penodedig mwyaf i dreftadaeth y DU.
Rydym wedi dyfarnu dros £8biliwn i fwy na 44,000 o brosiectau ledled y DU ers 1994.
Rydym yn ariannu pob math o brosiectau, cyn belled â'u bod yn helpu i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau.
Ein cyllid
Yn 2019, lansiwyd Fframwaith Ariannu Strategol newydd gennym. Mae'n nodi ein gweledigaeth a'n hegwyddorion ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys ein dau faes ffocws â blaenoriaeth: tirweddau a natur a chymuned.
Lle da i ddechrau yw ein tudalen ariannu.
Sectorau Treftadaeth
Ardaloedd, adeiladau a henebion
Mae gofalu am adeiladau hanesyddol, henebion ac archaeoleg yn sicrhau y gallwn ddiogelu'r lleoedd y mae pobl yn eu caru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Treftadaeth gymunedol
Gall dathlu ein treftadaeth gymunedol helpu i ddod â phobl at ei gilydd, teimlo balchder yn y man lle maent yn byw a chofio straeon a thraddodiadau.
Diwylliannau ac atgofion
Rydym yn ariannu prosiectau sy'n helpu i archwilio, achub a dathlu traddodiadau, arferion, sgiliau a gwybodaeth gwahanol gymunedau.
Diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth
Mae ein cyllid yn dathlu'r adeiladau, trafnidiaeth a thechnoleg arloesol a helpodd i lunio'r byd modern.
Tirweddau, parciau a natur
Mae'r angen i gynorthwyo adferiad natur yn fater brys. Dyna pam mae ariannu tirweddau a natur yn un o'n blaenoriaethau ariannu strategol allweddol tan 2024.
Amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau
Mae amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau yn adrodd straeon ein treftadaeth ddiwylliannol. Drwy eu casgliadau maent yn helpu i roi ymdeimlad o le a hunaniaeth i ni.