Gwneud cais am gyllid neu reoli eich prosiect treftadaeth

Gwneud cais am gyllid neu reoli eich prosiect treftadaeth

Tudalen wedi ei diweddaru: 30 Tachwedd 2023

Noder: rydym yn profi rhai anawsterau technegol ar hyn o bryd ar ein gwasanaeth Cael arian ar gyfer prosiect treftadaeth sy’n atal pobl rhag cofrestru. Bydd y dudalen gofrestru ar gael eto o 9am ddydd Llun y 4ydd o Ragfyr. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Defnyddiwch ein gwasanaeth, Gael Cyllid Ar Gyfer Prosiect Treftadaeth, i: 

  • gwneud cais am grant rhwng £3,000 a £250,000   
  • cyflwyno Ymholiad Prosiect ar gyfer syniad prosiect rhwng £10,000 a £250,000  
  • cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer ceisiadau mwy na £250,000  
  • rheoli prosiect ar y gwasanaeth newydd 

Pontio i Treftadaeth 2033

Rydym wedi cyhoeddi’r cynllun cyflwyno tair blynedd cyntaf ar gyfer ein strategaeth 10 mlynedd newydd, Treftadaeth 2033. Mae'n cynnwys manylion am ein cyllidebau a'n blaenoriaethau, a newidiadau sydd ar ddod i Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Wrth i ni bontio i Treftadaeth 2033, bydd rhai o’n rhaglenni grant ar gau i geisiadau am gyfnod byr.

Ar gyfer grantiau rhwng £250,000 a £10m:

  • mae ceisiadau rownd ddatblygu bellach ar gau dros dro
  • ni effeithir ar geisiadau'r rownd gyflwyno a Mynegiadau o Ddiddordeb, a byddwn yn darparu mwy o wybodaeth i ymgeiswyr ynghylch pontio i’n hegwyddorion buddsoddi Treftadaeth 2033 newydd

Ar gyfer grantiau rhwng £10,000 a £250,000:

  • mae ffurflenni ymholiad a cheisiadau prosiect bellach ar gau dros dro

Ar gyfer grantiau rhwng £3,000 a £10,000:

  • 12 hanner dydd ar 6 Rhagfyr 2023: ceisiadau olaf am grantiau o dan £10,000

O fis Ionawr 2024, byddwn ar agor ar gyfer y ceisiadau cyntaf am grantiau rhwng £10,000 a £10m o dan Treftadaeth 2033, gydag arweiniad a ffurflenni cais newydd.