Ymholiad Prosiect: £10,000 i £250,000

Ymholiad Prosiect: £10,000 i £250,000

Cyflwynwch Ymholiad Prosiect i dderbyn adborth ar eich syniad am brosiect cyn i chi wneud cais am grant rhwng £10,000 a £250,000.

Mae'r Ffurflen Ymholiad Prosiect yn ffordd wych o dderbyn adborth a chyngor gennym ni cyn i chi ddechrau gweithio ar gais llawn i'r rhaglen hon.

Mae’n gam dewisol ac nid yw’n ffurfio rhan o’r broses ymgeisio ffurfiol. Gallwch symud ymlaen i wneud cais unrhyw bryd.  

Cyn cyflwyno

Mae'r adborth y byddwch yn ei dderbyn gan eich Ymholiad Prosiect wedi'i ddylunio i'ch helpu datblygu prosiect sy'n cyfateb i:

Cyfeiriwch at yr uchod cyn cyflwyno ymholiad.

Cwestiynau Ymholiad Prosiect

Gallwch weld y cwestiynau Ymholiad Prosiect yma.

A ydych wedi siarad ag unrhyw un yn Y Gronfa ynghylch eich syniad?

Os ydych, dywedwch wrthym beth yw eu henw.

Beth yw’r angen am y prosiect hwn?

Er enghraifft, a oes perygl o golli eich treftadaeth? Neu, a oes cyfle i gysylltu â phen-blwydd neu ddigwyddiad coffau? Dywedwch wrthym am unrhyw ymchwil yr ydych wedi'i wneud gyda'ch cynulleidfa. Mae gennych 200 o eiriau.

Disgrifiwch yr hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod y prosiect

Gofynnir i chi gynnwys unrhyw dasgau y mae'n rhaid i chi eu gwneud i gyflawni nod y prosiect. Mae gennych 200 o eiriau.

A oes gennych deitl ar gyfer y prosiect?

Gellir newid hyn unrhyw bryd. Peidiwch â phoeni os nad oes gan y prosiect deitl eto, gallwch adael hwn yn wag.

Dywedwch wrthym am dreftadaeth y prosiect

Gan gynnwys i bwy y mae'n bwysig a pham. Mae gennych 100 o eiriau.

Amlinellwch sut y bydd eich prosiect yn ymateb i'n pedair egwyddor fuddsoddi.

Eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar gryfder y ffocws a'r pwyslais ar bob egwyddor, a dangos hynny. Mae gennych 300 o eiriau.

Pwy fydd yn cymryd rhan yn y prosiect?

Dywedwch wrthym bwy fydd yn rhedeg y prosiect, unrhyw bartneriaethau ac a fydd pobl yn gwirfoddoli ar y prosiect. Mae gennych 100 o eiriau.

Faint o amser ydych chi'n meddwl y bydd y prosiect yn ei gymryd?

Rhowch amcangyfrif o'r dyddiadau dechrau a dod i ben os oes gennych nhw. Mae gennych 50 o eiriau.

Faint mae'r prosiect yn debygol o gostio?

Os ydych yn gwybod, dywedwch wrthym am y costau pwysicaf. Gellir amcangyfrif y costau hyn. Mae gennych 200 o eiriau.

Faint o ariannu ydych chi’n bwriadu gwneud cais amdano gennym?

£[nodwch y swm]

Sut i gyflwyno

Pan fyddwch yn barod, cwblhewch y cwestiynau ar ein gwasanaeth.

Cyn cyflwyno, bydd angen i chi gofrestru cyfrif i chi'ch hun ac i'r sefydliad yr ydych yn gwneud cais amdano.

Clywed yn ôl gennym

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno ymholiad bydd aelod o'ch tîm Ymgysylltu lleol yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gan ddibynnu ar natur eich prosiect a'r wybodaeth y byddwch yn ei darparu, efallai y byddwn yn rhoi adborth i chi trwy e-bost neu'n trefnu siarad â chi.  

Gall ein cyngor gynnwys:

  • ai ni yw'r ariannwr priodol ar gyfer eich prosiect
  • pa feysydd y byddwch efallai eisiau eu datblygu ymhellach i sicrhau bod eich prosiect yn bodloni ein hegwyddorion buddsoddi'n gryf
  • sut y gallwch gryfhau ffocws treftadaeth eich prosiect

Diweddariadau i'r arweiniad

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.