Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000

Rydym yn ariannu prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth genedlaethol, rhanbarthol a lleol y DU.

Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 30 Ionawr 2024.

Trosolwg  

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen ariannu ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU.

Defnyddiwch yr arweiniad hwn i wneud cais am grantiau rhwng £10,000 a £250,000.  

Ai hon yw'r rhaglen iawn i chi?

  • A yw eich sefydliad eisiau gofalu am dreftadaeth a'i chynnal yn y DU?
  • A fydd eich prosiect treftadaeth yn para ddim mwy na phum mlynedd?
  • A oes angen grant rhwng £10,000 a £250,000 arnoch?
  • A ydych yn sefydliad nid-er-elw, yn berchennog preifat ar ased treftadaeth neu'n bartneriaeth?
  • A yw eich prosiect yn cymryd ein pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth?

Os gwnaethoch chi ateb yn gadarnhaol i'r cwestiynau hyn, mae'n bosibl bod Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn addas i chi.

Ein hegwyddorion buddsoddi  

Mae pedair egwyddor fuddsoddi'n llywio ein holl benderfyniadau gwneud grantiau o dan ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033:

  • achub treftadaeth
  • diogelu'r amgylchedd
  • cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad
  • cynaladwyedd sefydliadol

Mae'n rhaid i chi gymryd pob un o'r pedair egwyddor hyn i ystyriaeth yn eich cais. Eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar gryfder y ffocws a'r pwyslais ar bob egwyddor, a dangos hynny.

Bydd yr egwyddorion buddsoddi, a'n mentrau strategol, yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb yn y dyfodol.

Pethau y mae angen i chi eu gwybod

  • Mae'n rhaid peidio â dechrau ar ein prosiect cyn i ni wneud penderfyniad.
  • Does dim terfyn amser felly gallwch wneud cais pryd bynnag y byddwch yn barod.
  • Gallwch gael cyngor ar eich prosiect cyn i chi wneud cais trwy gyflwyno Ymholiad Prosiect dewisol.
  • Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais a'r holl ddogfennau ategol cywir, byddwn yn asesu eich cais ac yn ceisio rhoi penderfyniad i chi ymhen wyth wythnos.
  • Fel arfer mae taliadau ar gyfer y lefel grant hon yn cael eu gwneud mewn tri cham: 50% ymlaen llaw, 30% ymlaen llaw, ac yna 20% mewn ôl-daliadau.
  • Rydym yn darparu llawer o arweiniad arfer da. Gallwch ddarllen yr arweiniad sy'n berthnasol i chi i'ch helpu i ddatblygu a rheoli eich prosiect. 

Rydym yn ariannu prosiectau sy'n gwerthfawrogi, yn cynnal ac yn gofalu am dreftadaeth i bawb ar draws y DU, nawr ac yn y dyfodol.  

Gall treftadaeth olygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Gall fod yn unrhyw beth o'r gorffennol yr ydych yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

Gallai hyn gynnwys natur a chynefinoedd, adeiladau ac amgylcheddau hanesyddol, neu ddiwylliannau, traddodiadau ac atgofion pobl. Archwiliwch yr ystod eang o fathau o dreftadaeth y gallai eich prosiect eu cynnwys.

Rydym yn ariannu prosiectau sydd:

  • yn canolbwyntio'n glir ar dreftadaeth - gall hyn fod yn dreftadaeth genedlaethol, rhanbarthol neu leol yn y DU
  • yn cymryd y pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth
  • yn cynnwys cynllun clir gyda dechrau, canol a diwedd diffiniedig
  • heb ddechrau eto
  • yn gallu dangos yr angen am fuddsoddiad gan y Loteri Genedlaethol

Mae'n bwysig cynllunio eich prosiect yn ofalus, gan gynnwys costau, amserlenni a derbyn cymorth ar gyfer eich prosiect cyn i chi ddechrau llenwi cais. Bydd yr arweiniad isod yn eich helpu i feddwl am yr hyn y dylech ei gynnwys yn eich prosiect a'r costau y gallwn eu talu.

Gall ein grantiau treftadaeth gefnogi ystod eang o weithgareddau a chostau prosiect uniongyrchol, megis:  

  • treuliau gwirfoddolwyr, swyddi staff newydd a chostau hyfforddi  
  • gwaith cyfalaf, atgyweirio, cynnal a chadw a chadwraeth  
  • ffioedd proffesiynol, costau digwyddiadau a gweithgareddau i gryfhau eich sefydliad
  • caffael treftadaeth a chostau sy'n gysylltiedig â'r hyn sy'n cael ei brynu
  • costau i ymuno â Fit for the Future, rhwydwaith cynaladwyedd amgylcheddol DU gyfan

Ni allwn dalu costau presennol nac unrhyw weithgaredd sydd wedi digwydd cyn i’r grant gael ei ddyfarnu, nac unrhyw beth sy’n hyrwyddo achos neu gredoau sefydliadau gwleidyddol neu ffydd.

Ni fyddwn yn cefnogi prosiectau sy'n cynnwys gosod glaswellt neu blanhigion artiffisial, fodd bynnag caniateir arwynebau diogelwch chwarae arbenigol ac arwynebau chwaraeon proffesiynol.

Iaith Gymraeg

Os bydd eich prosiect yn digwydd yng Nghymru, mae'n rhaid i chi ystyried y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith. Dywedwch wrthym sut y byddwch chi'n hyrwyddo ac yn cefnogi'r Gymraeg ac yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru.

Gwnewch yn siŵr bod cyfieithu wedi'u cynnwys yn eich cynllun prosiect a chyllideb eich prosiect o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau prosiect y cais.

Am ragor o wybodaeth gweler ein Harweiniad prosiect dwyieithog yng Nghymru.

Hyrwyddo a chydnabod ariannu

Mae cydnabod eich grant gan y Gronfa Treftadaeth yn rhan bwysig o'ch prosiect. Dyma’ch cyfle i ddangos sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi treftadaeth yn y DU, ac i ddiolch yn gyhoeddus i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud eich prosiect yn bosibl.

Bydd cynllunio'n gynnar, a dyrannu cyllideb briodol, yn eich helpu i fodloni ein gofynion a chydnabod eich grant mewn ffyrdd sy'n greadigol ac yn addas ar gyfer eich prosiect.

Rydym yn eich annog i ddatblygu cynigion neu ddigwyddiadau hyrwyddo arloesol ar gyfer chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, er enghraifft, efallai y byddwch yn cofrestru ar gyfer Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol i redeg cynigion arbennig.

Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer cydnabyddiaeth yn y categori costau 'Cyhoeddusrwydd a hyrwyddo' yn adran costau prosiect y cais. Rydym yn argymell i chi seilio'r costau hyn ar ddyfynbrisiau gan ddarpar gyflenwyr.

Defnyddiwch ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth i gynllunio eich gweithgareddau'n gymesur â maint eich grant.

Gwerthuso ac adrodd

Mae gwerthuso o ansawdd da yn eich helpu i ddeall eich effaith ac yn rhoi cyfle i eraill ddysgu o'ch profiad. Yn ei dro, mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i nodi'r gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud drwy ein grantiau.

Rydym yn argymell i chi ymwreiddio gwerthuso yn eich prosiect o’r cychwyn cyntaf. Yn ôl ein tystiolaeth, po fwyaf gofalus y mae prosiectau'n cyllidebu ar gyfer eu gwerthusiad, yr uchaf fydd ansawdd yr adroddiad terfynol.

Bydd angen i chi gynnwys cyllideb ar gyfer gwerthuso ac adrodd yn y categori costau 'Gwerthuso' yn adran costau prosiect eich cais.

Adennill costau llawn

Os ydych yn sefydliad yn y sector gwirfoddol (er enghraifft, efallai bod gennych fwrdd ymddiriedolwyr ac wedi'ch ariannu gan grantiau a rhoddion), gallwn dalu cyfran o orbenion eich sefydliad ar ffurf adennill costau llawn.

Mae adennill costau llawn yn golygu sicrhau ariannu ar gyfer yr holl gostau sydd ynghlwm wrth redeg prosiect. Mae hyn yn golygu y gallwch ofyn i gostau prosiect uniongyrchol gael eu hariannu yn ogystal â chyfran gymesur o gostau sefydlog eich sefydliad.

Gall hyn gynnwys costau sy’n cefnogi’r prosiect yn rhannol, ond sydd hefyd yn cefnogi prosiectau neu weithgareddau eraill y mae eich sefydliad yn eu darparu, megis cyflogau staff sy’n gweithio ar draws prosiectau ym meysydd gweinyddu, rheoli, AD, neu godi arian, costau swyddfa fel rhent neu gyfleustodau a ffioedd cyfreithiol neu archwilio.

Gall ariannu sy’n talu am rai o’ch costau rhedeg fod yn bwysig i’ch cynaladwyedd, felly rydym yn eich annog i ystyried cynnwys hyn yn eich cyllideb yn y categori costau ‘Adennill costau llawn’ os ydych yn gymwys.  

Mae arweiniad cydnabyddedig ar gyfrifo’r swm adennill costau llawn sy’n berthnasol i’ch prosiect ar gael gan sefydliadau megis Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Cyfraniadau gennych chi, partneriaid neu gefnogwyr

Argymhellwn i chi ystyried a allai arianwyr, sefydliadau neu bobl eraill gefnogi eich prosiect drwy gyfraniadau ychwanegol sydd naill ai'n arian parod neu heb fod yn arian parod. Bydd hyn yn helpu dangos i ni fod yna ddiddordeb yn eich prosiect ac ymrwymiad iddo pan fyddwn yn dechrau asesu eich cais.

Er y gallwn ariannu cyfanswm cost y prosiect, bydd angen i chi ddweud wrthym pam na allwch godi cyfraniadau arian parod neu heb fod yn arian parod o'ch adnoddau eich hun neu ffynonellau eraill os yw hyn yn wir. 

O dan y rhaglen hon, rydym yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau nid-er-elw, perchnogion preifat ased treftadaeth a phartneriaethau.

Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o sefydliadau y gallwn eu hariannu:

  • elusennau, ymddiriedolaethau a sefydliadau corfforedig elusennol
  • grwpiau cymunedol a gwirfoddol
  • cynghorau cymuned/plwyf
  • cwmnïau buddiant cymunedol
  • sefydliadau ffydd neu eglwysig
  • awdurdodau lleol
  • sefydliadau sector cyhoeddus eraill
  • perchnogion preifat ased treftadaeth, er enghraifft adeilad, tir, gwrthrych neu gasgliad

Mae angen i sefydliadau fod â chyfrif banc, dogfen lywodraethu, a dau neu fwy o aelodau nad ydynt yn perthyn i'w gilydd nac yn byw yn yr un cyfeiriad.

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys i wneud cais, cysylltwch â'ch tîm lleol drwy gyflwyno Ymholiad Prosiect.

Partneriaethau

Rydym yn eich annog i weithio gyda phobl eraill i ddatblygu a chyflawni eich prosiect.  

Mae partner yn sefydliad arall neu gorff trydydd parti sy'n rhan annatod o gyflawni'ch prosiect.

Nid yw partneriaid yn isgontractwyr. Bydd ganddynt rôl weithredol yn y prosiect a byddant yn cymryd rhan yn y prosiect. Byddant yn helpu i adrodd ar y prosiect, yn mynychu cyfarfodydd partneriaeth rheolaidd ac yn cefnogi gwerthusiad y prosiect.  

Os ydych yn bwriadu gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni cyfran sylweddol o'ch prosiect, mae'n rhaid i chi ffurfioli eich perthynas trwy gytundeb partneriaeth.

Perchnogion preifat treftadaeth

Fel perchennog preifat ased treftadaeth, er enghraifft adeilad, tir, gwrthrych neu gasgliad, rhaid i chi ddangos bod budd cyhoeddus eich prosiect yn drech nag unrhyw fudd preifat.

Os yw eich prosiect yn cynnwys unrhyw waith cyfalaf, bydd angen i chi ddangos i ni fod eich prosiect:

  • yn cynyddu mynediad cyhoeddus i dreftadaeth ac ymgysylltiad y cyhoedd â hi'n sylweddol
  • yn cael ei gefnogi gan y cyhoedd a'u bod yn frwd drosto
  • angen buddsoddiad gan y Loteri Genedlaethol

Os nad yw perchennog y dreftadaeth yn gwneud y cais, byddwn yn gofyn iddynt ymrwymo i delerau'r grant.

Ni fyddwn yn ariannu:

  • gwaith y gellir yn rhesymol ei ystyried ei fod yn ddyletswydd statudol y perchennog
  • prynu adeiladau neu unrhyw asedau treftadaeth
  • codi adeiladau newydd 

Defnyddiwch y rhestr wirio hon i sicrhau eich bod yn barod i wneud cais:

  • Rwyf wedi darllen yr arweiniad ymgeisio a'r cwestiynau ymgeisio
  • Rwyf wedi ddarllen y telerau grant ar gyfer y rhaglen hon
  • Rwyf wedi llunio cyllideb ar gyfer y prosiect a gwirio fy nghostiadau
  • Rwyf wedi paratoi'r holl ddogfennau ategol gorfodol gan gynnwys cynllun prosiect, cofrestr risgiau a chyfrifon fy sefydliad
  • Gallaf fodloni’r gofyniad perchnogaeth ar gyfer unrhyw eitemau y gobeithiwn eu caffael gyda’r grant hwn, os yn berthnasol
  • Mae gennyf unrhyw ganiatâd neu drwyddedau sydd eu hangen arnaf, er enghraifft trwydded ystlumod neu ganiatâd adeilad rhestredig
  • Rwyf wedi cynllunio sut i werthuso fy mhrosiect
  • Rwyf wedi cynllunio sut i gydnabod fy ngrant, os bydd fy nghais yn llwyddiannus

Pan fyddwch yn barod, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth Ymholiad Prosiect dewisol i dderbyn adborth ar eich syniad o fewn 10 diwrnod gwaith.

Neu, ewch yn syth i'n gwasanaeth ar-lein i wneud cais nawr.

Nid oes terfyn amser ar gyfer ceisiadau. 

Bydd angen i chi ddarparu'r dogfennau ategol perthnasol a amlinellir yn yr adran hon fel rhan o'r broses ymgeisio.

Rhaid i chi ddarparu'r dogfennau gorfodol a ganlyn:

  • dogfen lywodraethu (oni bai eich bod wedi’ch eithrio)
  • gwybodaeth cyfrifon
  • cynllun prosiect a chofrestr risgiau

Ni fydd pob un o'r dogfennau eraill a restrir isod yn berthnasol i'ch prosiect. Bydd yr wybodaeth ychwanegol a'r arweiniad i'r cwestiynau ymgeisio'n eich helpu i benderfynu a ydynt yn berthnasol. Peidiwch â chyflwyno unrhyw ddogfennau ychwanegol, gan na fyddwn yn eu defnyddio wrth wneud ein hasesiad.

Dogfen lywodraethu (er enghraifft, cyfansoddiad)  

Rhaid i chi ddarparu copi o ddogfen lywodraethu eich sefydliad.  

Rhaid bod gennych o leiaf ddau berson ar eich bwrdd neu bwyllgor rheoli nad ydynt yn perthyn i'w gilydd trwy waed neu briodas, nac yn byw yn yr un cyfeiriad.

Dylai eich dogfen lywodraethu gynnwys y canlynol:

  • enw cyfreithiol a nodau eich sefydliad
  • datganiad sy’n atal eich sefydliad rhag dosbarthu incwm neu eiddo i’w aelodau yn ystod ei oes
  • datganiad sy’n cadarnhau, os caiff eich sefydliad ei ddirwyn i ben neu ei ddiddymu, y bydd asedau’r sefydliad yn cael eu dosbarthu i sefydliad elusennol neu nid-er-elw arall ac nid i aelodau’r sefydliad
  • y dyddiad y cafodd ei fabwysiadu a llofnod eich cadeirydd neu berson awdurdodedig arall

Ni allwn ariannu eich sefydliad os nad yw eich cyfansoddiad yn cynnwys yr uchod. Mae'r Comisiwn Elusennau'n darparu arweiniad ar greu dogfen lywodraethu.

Nid oes angen i ni weld eich dogfen lywodraethu os ydych yn:

  • sefydliad cyhoeddus, er enghraifft, awdurdod lleol neu brifysgol
  • perchennog preifat treftadaeth
  • elusen sy'n gofrestredig gyda Chomisiynau Elusennau Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu Reoleiddiwr Elusennau'r Alban  

Cyfrifon

Rhaid i chi ddarparu eich cyfrifon diweddaraf sydd wedi'u harchwilio neu eu dilysu gan gyfrifydd.

Os yw cyfrifon eich sefydliad yn hŷn na 18 mis oed, neu os sefydlwyd eich sefydliad lai na 14 mis yn ôl ac nad oes ganddo set o gyfrifon wedi'u harchwilio, rhaid i chi ddarparu eich tair cyfriflen banc ddiwethaf neu lythyr gan eich banc.

Cynllun prosiect a chofrestr risgiau

Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno cynllun prosiect a chofrestr risgiau.

Argymhellwn i chi ddefnyddio ein templed cynllun prosiect a chofrestr risgiau.

Disgrifiadau swydd (os yn berthnasol)  

Os ydych yn bwriadu recriwtio staff neu brentisiaid newydd i helpu cyflwyno eich prosiect, mae angen i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer pob swydd newydd. Dylai pob disgrifiad swydd gynnwys y cyflog a'r oriau gwaith arfaethedig.

Briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir (os yn berthnasol)

Mae briffiau'n disgrifio unrhyw waith yr ydych yn bwriadu ei brynu i mewn yn ystod eich prosiect.

Os ydych yn comisiynu gwaith, er enghraifft, gan artist neu bensaer, dylech ddarparu brîff. Dylai'r brîff ddisgrifio'r gwaith, faint o amser y bydd yn ei gymryd, faint y bydd yn ei gostio a'r sgiliau gofynnol.

Gallwch gael mwy o wybodaeth a defnyddio ein templed o frîff.  

Cyfrifo adennill costau llawn (os yn berthnasol)  

Os ydych wedi cynnwys adennill costau llawn fel pennawd cost yng nghostau eich prosiect, rhaid i chi ddarparu dogfen sy'n dangos sut rydych wedi cyfrifo hyn yn seiliedig ar gyfrifon a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Mae arweiniad cydnabyddedig ar gyfrifo’r swm adennill costau llawn sy’n berthnasol i’ch prosiect ar gael gan sefydliadau megis Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Ni allwn dderbyn ceisiadau sy’n cynnwys adennill costau llawn gan sefydliadau sector cyhoeddus (er enghraifft, amgueddfeydd a ariennir gan lywodraeth, awdurdodau lleol neu brifysgolion).

Delweddau o'r prosiect (os yn berthnasol)  

Os yn berthnasol, darparwch hyd at chwe delwedd sy'n helpu i roi darlun o'ch prosiect.

Gwnewch yn siŵr bod gennych bob caniatâd sydd ei angen, megis perchnogaeth ar hawlfraint a ffurflenni caniatâd cyfranogwyr, i rannu'r delweddau hyn gyda ni, gan y byddwn o bosibl yn eu defnyddio i hysbysu pobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect.

Tystiolaeth o gefnogaeth (os yn berthnasol)

Darparwch hyd at chwe darn o dystiolaeth o gefnogaeth, er enghraifft llythyrau, e-byst neu ffurflenni adborth, gan sefydliadau neu unigolion eraill sy'n cefnogi neu'n cymryd rhan yn eich prosiect.  

Mae darparu tystiolaeth o gefnogaeth yn ffordd dda o ddangos i ni eich bod wedi siarad â phobl eraill a bod ganddynt ddiddordeb yn eich prosiect a'u bod wedi'u hymrwymo iddo.

Cytundebau partneriaeth (gorfodol os yn berthnasol)

Os ydych yn bwriadu gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni eich prosiect, bydd angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth. Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r holl bartneriaid a dylai pob parti ei lofnodi. Dylai'r ddogfen hon adlewyrchu anghenion eich prosiect ac mae'n bosibl y bydd angen i chi ofyn am gyngor annibynnol ar y ffordd orau o lunio cytundeb.

Arolwg cyflwr (os yn berthnasol)

Os yw eich prosiect yn ymwneud â chadwraeth treftadaeth, rhaid i chi ddarparu arolwg cyflwr neu ddogfen briodol arall i ddweud wrthym beth yw cyflwr presennol y dreftadaeth a'r gwaith sydd ei angen i ddychwelyd y dreftadaeth i gyflwr da.  

Dylai'r arolwg neu'r adroddiad hefyd nodi blaenoriaeth gymharol y gwaith arfaethedig, er mwyn i chi wybod pa waith sydd fwyaf hanfodol, y mae angen ymdrin ag ef fwyaf ar fyrder.

Mae mathau eraill o arolwg a allai fod yn berthnasol i’w cynnwys fel rhan o arolwg cyflwr, megis arolwg perfformiad ac effeithlonrwydd ynni adeilad.

Tystiolaeth o gyfraniadau arian parod (os yn berthnasol)

Os bydd unrhyw ran o gyllideb eich prosiect ar ffurf cyfraniadau arian parod o ffynonellau heblaw'r grant yr ydych yn gwneud cais amdano gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rhaid i chi gynnwys dogfen sy'n amlinellu'r cyfraniadau hyn ac yn dangos tystiolaeth ohonynt.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfraniad arian parod gan eich sefydliad eich hun. Gallai hwn fod yn llythyr yn cadarnhau’r cynnig o arian neu’n gopi o gyfriflen banc yn dangos yr arian yn eich cyfrif.

Dogfennau perchnogaeth (os yn berthnasol)

Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw waith cyfalaf, bydd angen i chi ddarparu copïau o unrhyw ddogfennau sy'n berthnasol i'ch perchnogaeth. Enghreifftiau o'r rhain yw dogfennau perchnogaeth y Gofrestrfa Tir, neu brydles neu benawdau telerau.

Os ydych yn bwriadu prynu adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth, fe ddewch o hyd i fwy o wybodaeth am yr hyn y dylid ei ddarparu yn ein hadran caffael adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth.

Y broses asesu

Dewiswch yn ofalus pryd i wneud eich cais. Peidiwch â rhuthro i gyflwyno cais cyn eich bod yn barod, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi meddwl am y ffordd orau o bennu hyd a lled eich gweithgarwch a sut y byddwch yn ei reoli.

Rydym yn derbyn nifer uwch o geisiadau nag y gallwn eu hariannu ac mae angen blaenoriaethu lle y gall ein buddsoddiad wneud gwahaniaeth sylweddol.  

Dylech ateb yr holl gwestiynau ar y ffurflen gais.

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais ar-lein, byddwn yn gwirio bod popeth yn ei le a byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad. Ni fydd modd i ni ddechrau asesu'ch cais hyd nes y bydd gennym yr wybodaeth berthnasol a'r dogfennau ategol.

Oni bai bod angen i ni wirio unrhyw beth gyda chi, mae'n annhebygol y byddwch yn clywed gennym eto hyd nes i ni roi gwybod i chi am y penderfyniad.

Fel sefydliad sy’n dosbarthu arian cyhoeddus, rydym yn cynnal rhai gwiriadau ar yr wybodaeth a roddwch i ni pan fyddwch yn gwneud cais (er enghraifft, efallai y byddwn yn gwirio’ch hanes gyda ni neu’n cynnal gwiriadau hunaniaeth neu dwyll).

Pan fyddwn yn asesu eich cais, byddwn yn ystyried amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys:

  • a yw eich prosiect yn berthnasol i dreftadaeth yn y DU
  • yr anghenion a'r cyfleoedd y bydd eich prosiect yn mynd i'r afael â nhw
  • i ba raddau y bydd eich prosiect yn cymryd pob un o'r pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth
  • sut y bydd effaith eich prosiect yn cael ei chynnal

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn ystyried materion fel sicrhau lledaeniad daearyddol o’n hariannu.  

Os nad yw eich cais yn amlwg yn ymwneud â threftadaeth y DU neu os nad yw'n cymryd pob un o'r pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth, mae'n bosibl y caiff ei wrthod yn gynharach yn ystod y broses asesu a byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Ystyried risg

Wrth asesu'ch cais, byddwn yn gwneud dyfarniad pwyllog ar y risgiau posibl i’ch prosiect a’ch risgiau sefydliadol presennol – ac yn edrych i weld a ydych wedi nodi’r rhain a dweud wrthym sut y byddwch yn lliniaru yn eu herbyn.  

Bydd pob prosiect yn wynebu bygythiadau a chyfleoedd y bydd angen i chi eu nodi a'u rheoli. Rydym am i chi fod yn realistig ynghylch y risgiau y gallai eich prosiect a'ch sefydliad eu hwynebu fel eich bod mewn sefyllfa dda i reoli a chyflwyno'r prosiect yn llwyddiannus.

Dylech hefyd ystyried chwyddiant a chostau wrth gefn yn ofalus yn eich cais.

Mae chwyddiant ar gyfer prosiectau adeiladu'n debygol o barhau'n uchel hyd y gellir rhagweld. Dylech ddarparu ar gyfer chwyddiant yn seiliedig ar amserlen y prosiect, ynghyd â ffactorau eraill fel y deunyddiau a ddefnyddir, gofynion o ran llafur a lleoliad.

Gallwch gyrchu dadansoddiadau a rhagamcaniadau ar gyfer costau chwyddiant o ffynonellau megis Building Cost Information Service ac ymgynghoriaethau gan gynnwys Gardiner & Theobold Market Intelligence, Turner & Townsend a Rider Levett Bucknall.  

Y mathau o risgiau a phroblemau y dylech eu hystyried yw:

  • ariannol: er enghraifft, gostyngiad yn y cyfraniad o ffynhonnell ariannu arall
  • sefydliadol: er enghraifft, prinder pobl â'r sgiliau sydd eu hangen arnoch neu staff sy'n gorfod gweithio ar brosiectau eraill
  • economaidd: er enghraifft, cynnydd annisgwyl yng nghost deunyddiau
  • technegol: er enghraifft, darganfod lleithder annisgwyl ac eang
  • cymdeithasol: er enghraifft, ymatebion negyddol i ymgynghori neu ddiffyg diddordeb gan eich cynulleidfa darged
  • rheoli: er enghraifft, newid arwyddocaol yn nhîm y prosiect
  • cyfreithiol: er enghraifft, rheoli cymhorthdal, neu newidiadau yn y gyfraith sy'n golygu nad yw'r prosiect yn ymarferol
  • amgylcheddol: er enghraifft, anawsterau wrth ddod o hyd i ffynonellau pren o goedwigoedd a reolir yn dda

Amser asesu

Unwaith y bydd gennym bopeth sydd ei angen arnom, anelwn at asesu ceisiadau o fewn wyth wythnos, ond ar brydiau mae'n bosibl y bydd asesu'n cymryd mwy o amser. (Noder: ni allwn ddechrau asesu eich cais hyd nes bod yr holl wiriadau gofynnol wedi’u cwblhau a’n bod wedi derbyn yr holl wybodaeth ategol ofynnol.)

Penderfyniadau

Mae penderfyniadau'n cael eu gwneud bob mis gan uwch staff buddsoddi neu ymgysylltu eich gwlad neu ardal.

Os yw eich cais yn llwyddiannus  

Rhaid i chi aros i dderbyn caniatâd gennym cyn dechrau ar eich prosiect. Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen ar-lein a rhoi’r canlynol i ni:

  • manylion eich cyfrif banc (gorfodol)
  • prawf o berchnogaeth/gofynion prydles (ar gyfer pob prosiect cyfalaf, os bu unrhyw newidiadau ers cyflwyno'r cais)
  • manylion caniatadau statudol a/neu drwyddedau sydd eu hangen ac a gafwyd (os yn berthnasol)
  • cadarnhad o ariannu partneriaeth (os yn berthnasol)
  • rhagamcaniad llif arian parod y prosiect  
  • strwythur rheoli'r prosiect a dulliau o ddewis ymgynghorwyr, contractwyr a chyflenwyr  
  • amserlen neu raglen waith y prosiect  

Bydd angen cyfrif banc ar eich sefydliad. Rhaid i'r enw ar y cyfrif banc hwn gyfateb yn union i enw'r sefydliad sy'n gwneud y cais.

Bydd angen i chi ymrwymo i'n telerau grant.

Sut rydym yn talu eich grant

Byddwn yn talu eich grant mewn tri rhandaliad:

  1. byddwn yn rhoi 50% o'r grant i chi ymlaen llaw
  2. unwaith y byddwch wedi gwario hanner cyntaf cyfanswm costau cymwys eich prosiect, byddwn yn rhoi’r 30% nesaf i chi
  3. byddwn yn talu'r 20% terfynol o'ch grant pan fyddwch wedi gorffen eich prosiect ac wedi anfon adroddiad cwblhau terfynol, gwerthusiad prosiect a phrawf o gydnabod eich grant atom

Byddwn yn cadw'r 20% olaf o’ch grant hyd nes y byddwn yn fodlon bod y prosiect wedi’i gwblhau, bod y grant wedi’i wario’n briodol, a’ch bod wedi anfon eich adroddiad gwerthuso a phrawf o’ch cydnabyddiaeth o’r ariannu atom.

Os yw eich prosiect yn ymwneud â chaffael treftadaeth, byddwn yn talu swm llawn y grant sydd ei angen ar gyfer y pryniant mewn un taliad.

Os byddwch yn gwario llai ar y prosiect nag yr oeddech yn ei ddisgwyl, ni fyddwn yn talu'r grant llawn i chi. Os byddwch yn gwario mwy ar y prosiect nag yr oeddech yn ei ddisgwyl, ni allwn roi mwy i chi na'r grant y gwnaethom ei ddyfarnu.

Adrodd  

Rydym yn eiddgar i glywed am sut mae eich prosiect yn dod yn ei flaen a'r cyflawniadau rydych wedi'u gwneud gyda'r ariannu. Fel rhan o'ch adroddiadau ffurfiol ar eich grant, mae'n rhaid i chi roi diweddariadau i ni am y prosiect yn ystod oes eich prosiect. Byddwn yn eich hysbysu am amlder yr adrodd sy'n eich cefnogi orau ac sy'n adlewyrchu risg y prosiect.

Os yw eich cais yn aflwyddiannus

Mae’r broses asesu'n gystadleuol ac ni allwn ariannu pob un o’r ceisiadau o ansawdd da a dderbyniwn. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn dweud pam wrthych ac efallai yn awgrymu eich bod yn gwneud cais arall, ond mae'n rhaid i chi siarad â ni am hyn cyn gwneud cais arall. 

Efallai bod gennych gynlluniau i ddefnyddio ein grant i ariannu caffael adeilad, tir neu eitemau treftadaeth.

Gallwn ariannu prosiectau sy'n ymwneud â phrynu tir ac/neu adeiladau sy'n bwysig i'n treftadaeth ac sydd ar werth am bris y farchnad neu'n is na hynny. Mae'n rhaid mai budd o ran rheoli treftadaeth dros y tymor hir a rhoi mynediad i'r cyhoedd yw'r prif resymau dros eich pryniant arfaethedig.

Ni all unigolion preifat neu sefydliadau er-elw ddefnyddio ein hariannu i gaffael adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth.

Mae’n bwysig bod pryniannau’n gweddu i’n strategaeth a’n hegwyddorion buddsoddi fel ariannwr. Os yw eich prosiect yn ymwneud â phrynu tir neu adeiladau, rhaid i chi eu prynu ar rydd-ddaliad neu â les sydd ag o leiaf 99 mlynedd yn weddill arni.

Byddwn yn helpu i brynu adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth dim ond os byddwch yn dangos y canlynol yn eich cais:

  • bydd risgiau i gadwraeth yr adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth wedi'u lleihau os bydd y pryniant yn llwyddiannus
  • mae'r pris yn adlewyrchu cyflwr a gwerth yr ased(au) treftadaeth yn gywir
  • bydd yr ased(au) treftadaeth yn hygyrch i'r cyhoedd ar ôl eu prynu a bydd y pryniant yn golygu y bydd mwy o bobl yn ymwneud â threftadaeth
  • gallwch ddangos bod gennych gynlluniau digonol ar gyfer gofal a chynnal a chadw hirdymor dros gyfnod o 10 mlynedd o leiaf ar ôl cwblhau’r prosiect
  • gallwch ddangos bod yr hyn y dymunwch ei brynu'n arwyddocaol i dreftadaeth yn lleol, yn rhanbarthol neu'n genedlaethol

Dylai eich cais gynnwys y canlynol:

  • Gwybodaeth am hanes ac arwyddocâd yr adeiladau, y tir neu'r eitemau treftadaeth.
  • Datganiad ynghylch pam mai chi yw'r sefydliad cywir i fod yn berchennog arno. Dylai hyn gael ei ategu gan yr hyn a ddywedwch yn eich polisïau, megis eich polisi caffaeliadau, rheoli casgliadau neu gasglu.
  • Tystiolaeth mai chi fydd y perchennog llawn, neu achos da dros berchnogaeth ar y cyd sydd wedi'i chynllunio'n dda.
  • Prawf dogfennol o darddle (tarddiad) yr eitem(au) treftadaeth. Mae enghreifftiau o brawf yn cynnwys dogfennau gwerthu, dogfennau cyfreithiol, dogfennau allforio, datganiad ysgrifenedig gan y perchennog presennol a dogfennau hanes.
  • Tystiolaeth mai’r perchnogion presennol yw’r perchnogion (bod ganddynt deitl cyfreithiol) a bod ganddynt yr hawl i werthu ac i drosglwyddo’r teitl i’r perchennog newydd. Yn achos prynu eiddo neu dir, gall hyn gynnwys tystiolaeth o unrhyw gyfamodau cyfreithiol, hawliau (fel pysgota, saethu, mwynau, draenio), tenantiaethau tymor hir neu fyr, hawliau tramwy neu fynediad, neu unrhyw fuddiannau eraill sydd ynghlwm wrth y tir neu'r adeilad.
  • Prisiad annibynnol ar sail marchnad agored ar gyfer yr ased(au) treftadaeth y dymunwch eu prynu. Dylai hyn gynnwys rhesymeg y prisiwr sy'n cyd-fynd â'r prisiad, nid datganiad o'r gwerth yn unig. Yn achos caffael tir ac eiddo, rydym yn croesawu prisiadau gan y Prisiwr Dosbarth. Nid oes angen i chi gomisiynu prisiad ar gyfer eitemau sy'n destun gohiriad allforio neu'n rhan o'r Broses Prisio Trysor.
  • Tystiolaeth eich bod wedi dilyn arweiniad cyfredol ar hynafiaethau cludadwy, masnachu anghyfreithlon, ac eitemau a chasgliadau a allai fod yn sensitif. Dylech ddarparu datganiad yn amlinellu eich ymchwil i'r cyfreithiau a'r canllawiau perthnasol ar gaffaeliadau moesegol.
  • Disgrifiad o sut y byddwch yn rheoli'r adeiladau, y tir neu'r eitemau treftadaeth a'u cadw'n ddiogel, ar yr adeg y byddwch yn eu prynu ac yn y dyfodol.
  • Adroddiad cadwraethwr yn nodi a oes gan y dreftadaeth unrhyw anghenion cadwraeth ac, os oes, sut y byddwch yn diwallu'r anghenion hynny. Dylai'r adroddiad gynnwys tystiolaeth bod gan eich sefydliad yr amodau amgylcheddol cywir i gartrefu'r pryniant.

Ni fyddwn yn cefnogi pryniannau y credwn sydd uwchlaw gwerth y farchnad. Bydd prisiad annibynnol o’r eitem(au) y dymunwch eu prynu'n cael ei wneud fel rhan o’r broses asesu. Fel arfer byddwn yn barod i gefnogi pryniant ar ffigwr hyd at 10% uwchlaw brig unrhyw amrediad o brisiad a dderbynnir.

Mae’r costau cymwys sy’n gysylltiedig â phryniant yn cynnwys:

  • y pris prynu ei hun
  • ffioedd a ysgwyddir gan eich sefydliad fel prynwr gan gynnwys prisiadau, ffioedd asiant a phremiwm y prynwr ar gyfer pryniannau mewn arwerthiant
  • TAW na ellir ei hadennill

Cofiwch wneud yn siŵr bod y rhain wedi'u hadlewyrchu yn eich tabl costau.

Mae costau anghymwys yn cynnwys:

  • ffioedd y gwerthwr (er enghraifft, ffioedd cyfreithiol ac asiant)

Dylech hefyd gynnwys costau holl weithgareddau eraill eich prosiect ar ôl i chi brynu’r adeiladau, y tir neu’r eitemau treftadaeth.  

Os ydych eisoes yn rheoli'r ased(au) treftadaeth yr ydych am eu prynu, bydd angen i chi ddangos i ni pa fanteision ychwanegol a ddaw yn sgil y pryniant. Bydd angen i chi ddangos bod yr holl opsiynau ar gyfer gwneud cytundeb rheoli priodol gyda'r perchennog presennol wedi'u harchwilio cyn gwneud cais am grant i brynu.

Byddwn yn ariannu prynu gweithiau celf, archifau, gwrthrychau a chasgliadau eraill sy’n bwysig i’r dreftadaeth ac a grëwyd mwy na 10 mlynedd yn ôl. Byddwn hefyd yn ariannu prynu eitemau mwy diweddar o bwysigrwydd treftadaeth, ond dim ond os ydynt yn rhan o gasgliad mwy, sy’n fwy na 10 mlwydd oed.

Ni fyddwn yn rhoi blaenoriaeth i bryniant dim ond oherwydd gohiriad allforio. Mae gohiriad allforio'n rhoi cyfle i sefydliadau godi'r arian gofynnol i brynu eitem neu gasgliad y bwriedir ei allforio. Mae'r gohiriad allforio'n gohirio'r drwydded allforio am gyfnod penodol er mwyn i gynnig gael ei wneud o'r tu mewn i'r DU. Os ydych yn bwriadu gwneud cais i ni dylech gysylltu â'ch swyddfa leol cyn gynted â phosibl, ac o fewn y cyfnod gohirio cyntaf.

Os yw eich prosiect yn cynnwys prynu adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth, bydd telerau’r grant yn parhau am gyfnod amhenodol. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am arwystl ar yr eitem(au), y tir neu'r adeiladau. Os, yn y dyfodol, y byddwch am waredu'r hyn yr ydych wedi'i brynu, rhaid i chi ofyn am ein caniatâd a gallwn hawlio ein grant yn ôl. Os yw'r eitem(au) eisoes ar fenthyg i'ch sefydliad, bydd angen i chi ddangos i ni pa fanteision ychwanegol a ddaw yn sgil eu prynu.

Os bydd un sefydliad a ariennir yn gyhoeddus am gaffael eitem dreftadaeth gan sefydliad tebyg, mae'n annhebygol y bydd digon o fudd cyhoeddus i ni ystyried ariannu'r pryniant. Efallai na fydd hyn yn wir, fodd bynnag, os yw’r caffaeliad yn ymwneud yn uniongyrchol ag achub treftadaeth sydd mewn perygl, a gellir cymeradwyo grant os yw’r gwrthrych, y tir, yr adeilad neu’r casgliad mewn perygl o gael ei golli o’r parth cyhoeddus oherwydd methiant sefydliadol y perchennog presennol.

Os oes angen penderfyniad brys arnoch gennym ni, rhaid i chi gysylltu â'ch swyddfa leol i drafod hyn cyn i chi wneud cais. Gallwch ddefnyddio'ch cais neu'ch Ymholiad Prosiect i nodi'r rhesymau pam fod angen cais llwybr cyflym arnoch. Dim ond os yw'r terfyn amser yn golygu na allwn asesu eich cais o fewn ein hamserlen arferol y byddwn yn ystyried cynnig penderfyniadau llwybr cyflym ar gyfer prynu eitemau neu gasgliadau treftadaeth.

Bydd ein staff yn trafod goblygiadau ein gweithdrefn llwybr cyflym ar gyfer eich cais gyda chi. Os oes gennych gyfnod amser byr i brynu'r eitem(au), gofynnwn i chi roi manylion i ni ynghylch sut y caiff y gwrthrych hwn ei integreiddio i'ch gweithgareddau dysgu a'ch rhaglenni cyhoeddus presennol. Byddwn yn disgwyl i weithgareddau a rhaglenni fod yn briodol ar gyfer y gwrthrych yr ydych yn ei gaffael. 

Mae cynlluniau grantiau cymunedol a thrydydd parti'n gronfeydd ariannol y gallwch eu defnyddio i ariannu grwpiau neu sefydliadau eraill i gyflwyno prosiectau bach i'ch helpu cyflawni eich nodau treftadaeth trosgynnol. Gallant eich helpu i wella ymgysylltu ac ehangu effaith eich prosiect.

Gellir defnyddio grantiau cymunedol i ariannu gweithgareddau neu waith cyfalaf ar asedau treftadaeth. Gellir eu dyfarnu i grwpiau cymunedol nid-er-elw neu berchnogion preifat treftadaeth i ymgymryd â gwaith cyfalaf er mwyn gwarchod y dreftadaeth honno. Ni ellir rhoi grantiau cymunedol i gaffael tir, adeiladau neu eitemau treftadaeth.

Os mai chi yw'r ymgeisydd arweiniol, chi fydd yn rheoli'r broses grantiau cymunedol a'r gronfa ariannu. Chi fydd yn gyfrifol am:

  • wahodd ac asesu ceisiadau drwy broses deg, agored a thryloyw
  • sefydlu panel i wneud penderfyniadau i ddyfarnu neu wrthod grantiau
  • adolygu'r cynnydd a wnaed ar y prosiect i sicrhau ei fod yn foddhaol
  • gwneud taliadau grant
  • monitro cydymffurfiaeth â thelerau'r grant cymunedol, datrys unrhyw broblemau ac ad-dalu'r grant os oes angen

Yn eich cais dylech esbonio beth yw nodau eich cynllun grantiau cymunedol, sut mae'n cyfrannu at y prosiect ehangach a sut y caiff ei reoli.  

Argymhellwn na ddylai’r gronfa grantiau cymunedol fod yn fwy na £200,000. Dylid cyfyngu grantiau unigol i £10,000 ar gyfer gweithgareddau a £25,000 ar gyfer gwaith cyfalaf. Os oes angen cronfa grantiau cymunedol fwy ar eich prosiect neu os bydd angen gwneud dyfarniadau mwy ar gyfer cadwraeth adeiladau hanesyddol, bydd angen i chi gyfiawnhau hyn yn eich cais.  

Bydd angen i chi ffurfioli'r dyfarniad grant mewn cytundeb trydydd parti rhyngoch chi a derbynnydd y grant cymunedol sy'n diffinio'r gweithgareddau i'w cyflwyno ac yn nodi telerau'r grant. Mae’n rhaid i dderbynyddion grantiau cymunedol ymrwymo i’n telerau grant safonol, gan gyfeirio’n benodol at y canlynol (lle bo’n berthnasol):

  • Dyddiad Dod i Ben Cyffredinol y Grant
  • Cydnabyddiaeth o Ariannu gan y Loteri Genedlaethol  
  • hawlio'n ôl
  • monitro'r prosiect
  • grant heb ei wario
  • caffael
  • gofynion digidol
  • tir neu adeiladau sy'n eiddo i drydydd parti

Bydd angen i chi adlewyrchu'r meysydd hyn yn eich cytundebau gyda derbynyddion y grantiau cymunedol, gan mai chi fydd yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn deall telerau'r grant ac yn cytuno iddynt.

Rhaid i gytundebau â thirfeddianwyr trydydd parti, gan gynnwys perchnogion preifat, sicrhau bod gwaith cyfalaf yn cael ei reoli a'i gynnal a chadw o ddechrau'r gwaith ar y prosiect tan 10 mlynedd ar ôl cwblhau'r prosiect.

Gallwch gynnwys costau rheoli'r cynllun grant, gan gynnwys costau addasu a sefydlu unrhyw gytundebau trydydd parti a cheisio cyngor cyfreithiol, fel rhan o’r costau, yn eich cais.

Bydd angen i chi ddatblygu proses ymgeisio deg a thryloyw gyda chanllawiau clir. Rhaid i chi gyflwyno eich cais a'ch proses fonitro i ni i'w cymeradwyo cyn lansio'r cynllun grantiau cymunedol.

Dylai fod gennych feini prawf clir ar gyfer ceisiadau a sicrhau bod y meini prawf hyn ar gael yn gyhoeddus ynghyd â rhestr o'ch dyfarniadau.

Rhaid i chi ymgymryd â diwydrwydd dyladwy cyn dyfarnu grantiau cymunedol. Fel lleiafswm, bydd angen i chi ofyn am y canlynol gan ymgeisydd:

  • dogfen lywodraethu'r sefydliad (oni bai ei fod yn sefydliad sector cyhoeddus neu’n berchennog preifat treftadaeth)
  • prawf o berchnogaeth os yw’r prosiect yn cynnwys gwaith ar dir, adeiladau neu eitemau treftadaeth (er enghraifft, gweithredoedd, lesau neu unrhyw wybodaeth yn ymwneud â morgeisi)
  • copi o gyfrifon diweddar neu gyfriflenni banc y tri mis diwethaf

Rhaid i benderfyniadau i ddyfarnu neu wrthod ceisiadau gael eu gwneud gan banel grantiau. Ni ddylai pob aelod o'r panel ddod o'r un sefydliad, ac ni ddylai gynnwys sefydliadau neu unigolion a fydd o bosibl yn dymuno gwneud cais am grantiau o'r gronfa gymunedol. Gwrthdaro buddiannau yw hwn.

Bydd angen i chi sicrhau bod derbynyddion grantiau cymunedol wedi cydymffurfio â thelerau'ch cynllun grant cymunedol a bod y grant wedi’i ddefnyddio’n briodol. I wneud hyn bydd angen i chi gywain tystiolaeth gan dderbynnydd y grant cymunedol. Dylai lefel y manylder y gofynnwch amdano fod yn gymesur â swm y grant.

Bydd angen i chi ddatrys unrhyw broblemau gyda derbynnydd y grant cymunedol gan gynnwys y trefniadau ar gyfer ad-dalu'r grant neu ei hawlio'n ôl.

Bydd gennych gyfrifoldeb cyffredinol dros adrodd i ni ar gynnydd y grantiau cymunedol a bydd angen i chi gynhyrchu adroddiad gwerthuso ar ddiwedd eich prosiect. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn dyrannu cyllideb ddigonol i ymgymryd â'r gwaith gwerthuso hwn. 

Perchnogaeth

Disgwyliwn i chi fod yn berchennog ar unrhyw eiddo (tir, adeiladau, eitemau treftadaeth neu eiddo deallusol) yr ydych yn gwario'r Grant arno neu feddu ar les sy'n bodloni ein gofynion.  

Rhaid i chi fod yn berchennog ar y rhydd-ddaliad neu feddu ar les gydag o leiaf bum mlynedd yn weddill arni ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect.

Dyddiad Cwblhau'r Prosiect yw'r dyddiad pan fyddwn yn eich hysbysu y rhoddwyd cofnod wedi'i gwblhau i'r Prosiect.  

Rhaid i bob les fodloni'r gofynion canlynol:

  • nid ydym yn derbyn lesau sydd â chymalau torri (mae’r rhain yn rhoi’r hawl i un neu fwy o bartïon y les ddod â’r les i ben o dan rai amgylchiadau)
  • nid ydym yn derbyn lesau sydd â fforffediad ar gymalau ansolfedd (mae’r rhain yn rhoi’r hawl i’r landlord ddod â'r les i ben os bydd y tenant yn mynd yn fethdalwr)
  • mae'n bosibl y bydd modd i chi werthu, is-osod neu forgeisio'r cyfan neu ran o’ch les, ond os byddwn yn dyfarnu grant i chi, rhaid i chi gael caniatâd gennym yn gyntaf i wneud unrhyw un o’r rhain

Os mai tir neu adeilad treftadaeth sy'n eiddo i drydydd parti neu drydydd partïon lluosog yw testun eich prosiect, byddwn fel arfer yn disgwyl i'r perchennog gael ei wneud yn grantï ar y cyd. Mewn rhai sefyllfaoedd, yn hytrach na gwneud y perchennog yn grantï ar y cyd, efallai y byddwn yn gofyn iddynt lofnodi llythyr ychwanegol yn cytuno i gydymffurfio ag unrhyw delerau grant sy’n ymwneud â’u heiddo.  

Yn yr achos hwn, dylid rhoi cytundeb cyfreithiol ar waith hefyd rhwng pob perchennog tir neu adeilad a'r grantï. Nid oes ffurf ragnodedig ar gytundeb, ond mae gennym ofynion penodol y dylid eu cynnwys mewn unrhyw gytundeb perchennog trydydd parti.  

Fel lleiafswm, dylai’r cytundebau gynnwys y canlynol:

  • cadarnhad ynghylch sut mae’r tir wedi'i ddal (rhydd-ddaliad neu ar brydles)
  • disgrifiad o'r eiddo (gan gynnwys cynlluniau)
  • cyfamodau ar ran y perchennog i gynnal a chadw’r eiddo a darparu mynediad cyhoeddus yn unol â thelerau’r grant (fel y bo’n berthnasol)
  • darpariaeth y dylai unrhyw warediad ymlaen fod yn ddarostyngedig i'r cytundeb trydydd parti
  • cadarnhad y bydd y cytundeb yn para o ddechrau’r gwaith ar dir y trydydd parti tan bum mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect

Bydd angen cwblhau'r cytundebau a'u rhoi ar waith cyn rhyddhau unrhyw arian grant ar gyfer gwaith ar unrhyw dir neu adeilad sy'n eiddo i drydydd parti.  

Rydym yn derbyn ceisiadau am brosiectau tirwedd a natur sydd ar dir cyhoeddus a phreifat, ar yr amod bod y budd cyhoeddus yn drech nag unrhyw fudd preifat i’r tirfeddiannw(y)r unigol os ydynt yn unigolion preifat neu’n sefydliadau er-elw. Efallai bod gennych gynlluniau i ddefnyddio ein grant i ariannu caffael gwrthrych treftadaeth, tir, eiddo neu gasgliad. Yn yr achos hwn, cyfeiriwch at yr arweiniad i grantiau ar gyfer caffael.

Benthyca neu roi benthyg eitemau treftadaeth

Os ydych yn benthyca eitem neu gasgliad fel rhan o’r prosiect, er enghraifft, ar gyfer arddangosfa, a gofynnir i chi gyfrannu at gostau cadwraeth, mae'n bosibl y byddwn yn derbyn y gost hon os yw’n ffurfio rhan fach o’ch prosiect.

Efallai y bydd angen i berchnogion yr eitem neu gasgliad gael eu cynnwys yn eich cytundeb partneriaeth, neu ymrwymo i delerau'r grant os dyfernir grant. Dylech gynnwys hyn yn eich Ymholiad Prosiect os credwch y bydd yn berthnasol i'ch prosiect.  

Os ydych yn cynllunio prosiect adeiladu cyfalaf at ddiben storio neu arddangos casgliad nad ydych yn berchen arno, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog y casgliad gytuno i delerau'r grant (ac unrhyw amodau ychwanegol a nodwn) os dyfernir grant. Dylech gynnwys hyn yn eich Ymholiad Prosiect, os credwch y bydd yn berthnasol i'ch prosiect.

Gwaith cyfalaf

Gallwn ariannu gwaith cyfalaf fel rhan o'ch prosiect. Diffinnir gwaith cyfalaf fel gwaith sy'n creu neu'n gwella ased.  

Er enghraifft, byddai cadwraeth rhostir, atgyweiriadau i gofeb a digideiddio archif ffotograffig i gyd yn cael ei ystyried yn waith cyfalaf. Gall gwaith cloddio archeolegol a mathau eraill o weithgarwch archeolegol gynnwys gwaith cyfalaf.

Os yw prosiectau'n ymwneud ag adeiladwaith, rydym yn annog adfer, gwarchod ac ailddefnyddio, yn hytrach nag adeiladu o'r newydd. Os oes angen gwaith adeiladu o'r newydd (er enghraifft i wneud safleoedd yn gynhwysol, yn hygyrch neu'n ariannol hyfyw), esboniwch pam fel rhan o'ch cais. Dylid cyflwyno pob agwedd ar adeiladu o'r newydd mewn prosiect at y safonau amgylcheddol uchaf.

Os yw'n berthnasol i'ch prosiect, efallai y byddwn yn gofyn i chi gyflwyno arolwg cyflwr, a thystiolaeth bellach yn dangos bod y gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud yn dilyn arfer da.

Dylech gynnwys costau priodol i dalu am chwyddiant gwaith cyfalaf a ragfynegir a swm wrth gefn priodol i ymdrin â'r risgiau sydd ynghlwm wrth waith cyfalaf mewn prosiect treftadaeth.

Ar gyfer prosiectau tirwedd a natur cyfalaf byddwn yn blaenoriaethu'r rhai sy'n canolbwyntio ar un neu fwy o'r themâu canlynol; cefnogi adferiad byd natur, darparu atebion seiliedig ar fyd natur i newid yn yr hinsawdd a/neu helpu pobl i ailgysylltu â byd natur.

Os ydych yn berchennog preifat ased treftadaeth, rhaid i'ch gwaith cyfalaf arfaethedig gynyddu mynediad y cyhoedd i'r dreftadaeth ac ymgysylltiad y cyhoedd â hi'n sylweddol. Gall fod yn ddefnyddiol dangos brwdfrydedd cyhoeddus trwy ddarparu tystiolaeth berthnasol o gefnogaeth fel rhan o'ch cais. Rhaid i chi roi rheswm cymhellol pam fod eich prosiect angen buddsoddiad gan y Loteri Genedlaethol, ac ni fyddwn yn ariannu gwaith y gellir yn rhesymol ei ystyried yn ddyletswydd statudol ar y perchennog.

Gwaith digidol

Mae gennym ofynion penodol ar gyfer gwaith digidol a gynhyrchir fel rhan o unrhyw brosiect.

Mae hyn yn ymdrin ag unrhyw beth yn eich prosiect rydych yn ei greu mewn fformat digidol sydd wedi'u dylunio i roi mynediad i dreftadaeth a/neu helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth a dysgu amdani.

Er enghraifft, gallai hyn gynnwys ffotograffau, testun, meddalwedd, cynnwys gwe ac apiau, cronfeydd data, modelau 3D, recordiadau sain a fideo. Nid yw eitemau a grëir wrth reoli'r prosiect, er enghraifft e-byst rhwng aelodau tîm a chofnodion cyfarfodydd, wedi'u cynnwys yn y gofyniad.

Gofynnwn i chi rannu eich allbynnau digidol o dan drwydded agored. Ein trwydded agored ddiofyn yw CC-BY 4.0. Mae hyn yn helpu dileu rhwystrau i ddefnyddio ac ailddefnyddio gwaith a ariennir, gan alluogi gwell ymgysylltiad â threftadaeth y DU. Mae hefyd yn helpu sicrhau bod eraill yn rhoi credyd priodol i'ch gwaith.

Mae ein rheoliadau ynghylch gwaith digidol yn amrywio gan ddibynnu ar faint y grant.

Gallwch ddarllen arweiniad pellach ar gynhyrchu deunyddiau digidol fel rhan o brosiect.

Caffael

Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau caffael. Fel trosolwg, dylai prosiectau ag unrhyw nwyddau, gwaith neu wasanaethau unigol sy’n werth mwy na £9,999 (ac eithrio TAW), geisio o leiaf dri thendr/dyfynbris cystadleuol. Ar gyfer yr holl nwyddau, gwaith a gwasanaethau sy'n werth mwy na £50,000 (ac eithrio TAW), rhaid i chi ddarparu prawf o weithdrefnau tendro cystadleuol.    

Dylai eich prawf fod yn adroddiad ar y tendrau yr ydych wedi'u derbyn, ynghyd â'ch penderfyniad ar ba un i'w dderbyn. Rhaid i chi roi rhesymau llawn os na fyddwch yn dewis y tendr isaf. Gan ddibynnu ar natur eich sefydliad a’ch prosiect, mae'n bosibl y bydd gofyn i chi gydymffurfio â Deddfwriaeth Caffael y DU.      

Os yw partner yn y prosiect yn darparu nwyddau neu wasanaethau y telir amdanynt drwy'r grant, mae angen i chi ddweud wrthym pam y cawsant eu dewis a pham nad yw proses dendro agored yn briodol. Byddwn yn ystyried ai dyma’r ffordd orau o gyflawni eich prosiect ac yn disgwyl i chi ddangos gwerth am arian a bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol.  

Os ydych yn ansicr ynghylch eich rhwymedigaethau, rydym yn eich cynghori i geisio cyngor proffesiynol neu gyfreithiol. Os ydych eisoes wedi caffael nwyddau, gwaith neu wasanaethau gwerth mwy na £9,999 (ac eithrio TAW) ar gyfer eich prosiect, bydd angen i chi ddweud wrthym sut y gwnaethoch chi hynny. Ni allwn dalu eich grant os nad ydych wedi dilyn y drefn gywir.    

Recriwtio staff

Mae'n rhaid hefyd i chi hysbysebu'n agored yr holl swyddi staff ar gyfer y prosiect, gyda'r eithriadau a ganlyn:    

  • Mae gennych aelod staff â chymwysterau addas ar eich cyflogres yr ydych yn ei symud i swydd ar y prosiect.
  • Rydych yn ymestyn oriau aelod staff â chymwysterau addas ar eich cyflogres, fel y gall weithio ar y prosiect. Yn yr achos hwn byddwn yn ariannu cost yr oriau ychwanegol sy'n cael eu treulio ar y prosiect a bydd angen i chi ddweud wrthym beth yw eu rôl.    

Yn yr achosion hyn, mae angen o hyd i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer y swydd sy'n esbonio'r gwaith y bydd yr aelod staff a benodir yn ei wneud yng nghyd-destun eich prosiect.

Rydym wedi'n hymrwymo i sicrhau bod y sector treftadaeth yn gynhwysol ac yn gynaliadwy. Fel lleiafswm mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r gyfradd Cyflog Byw (a Chyflog Byw Llundain lle bo'n berthnasol) ar gyfer holl staff y prosiect. Gofynnir i chi ddangos tystiolaeth o gyllidebu ar gyfer y cyfraddau Cyflog Byw fel lleiafswm yn eich costau staff a'ch cyllidebau.    

Rhaid i weithdrefnau recriwtio ymgynghorwyr a chontractwyr fod yn deg ac yn agored a glynu wrth y ddeddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol.    

Rheoli cymhorthdal

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n bwysig cofio bod ein grant yn dod o arian cyhoeddus a'i fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022. Gofynnwn i chi ymgyfarwyddo â'r gofynion allweddol.

Ceir cymhorthdal pan fydd awdurdod cyhoeddus yn darparu cymorth ariannol o arian cyhoeddus sy’n rhoi mantais economaidd i’r derbynnydd, lle y gellir ystyried bod y derbynnydd hwnnw'n ymwneud â gweithgareddau economaidd. Bydd y rhan fwyaf o’n grantiau naill ai heb fod yn gymhorthdal neu’n gallu symud ymlaen fel cymhorthdal cyfreithlon sy’n bodloni gofynion Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022. 

Fel corff cyhoeddus, ein cyfrifoldeb ni yw penderfynu’n derfynol a yw eich grant yn gymhorthdal a/neu gymhwyso eithriadau perthnasol fel y bo angen ac mae ein hasesiad rheoli cymhorthdal yn rhan bwysig o’r broses ymgeisio.  Wrth baratoi eich cais dylech ystyried a yw unrhyw eithriad rheoli cymhorthdal penodol yn ofynnol ar gyfer eich prosiect. Byddwn yn disgwyl i'ch grant gydymffurfio ag egwyddorion y gyfundrefn rheoli cymhorthdal gan gynnwys y Ddeddf a'r Arweiniad Statudol a gyhoeddwyd. Os ydych yn ansicr a fydd eich prosiect yn bodloni'r gofynion perthnasol dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol. 

Rydym yn cadw'r hawl i bennu gofynion pellach a cheisio gwybodaeth bellach yn hyn o beth a byddwn yn disgwyl i chi ddarparu unrhyw gymorth y gallwn fod ei angen yn rhesymol i gwblhau asesiad rheoli cymhorthdal.

Embargos a sancsiynau llywodraeth y DU

Rhaid i'n grantiau beidio â chael eu defnyddio i ariannu sefydliadau sy’n cefnogi eithafiaeth, gweithgarwch troseddol ac/neu sy’n destun embargos a sancsiynau llywodraeth y DU.

Rhaid i chi ddilyn yr holl ddeddfwriaeth a rheoliadau sy'n berthnasol i'ch prosiect a chyflawni eich diwydrwydd dyladwy eich hun ar unrhyw gronfeydd, contractau neu unigolion sy'n gysylltiedig â lleoedd a allai fod yn ddarostyngedig i embargos a sancsiynau.

Os yw eich prosiect wedi'i effeithio, cysylltwch â'ch Rheolwr Buddsoddi neu eich swyddfa leol. Rydym yn cadw'r hawl i atal taliadau grant os ystyriwn fod arian cyhoeddus mewn perygl. 

Os oes gennych gwestiwn am ein hariannu, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Os oes angen cymorth pellach arnoch gyda'ch cais, gallwch gael gwybod mwy am y mathau o gymorth a chefnogaeth y gallwn eu darparu.

Os hoffech ddod o hyd i wybodaeth am ein proses gwynion, ewch i'n Tudalen Gwasanaeth Cwsmeriaid

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.