Addasiadau rhesymol

Addasiadau rhesymol

Sut rydym yn sicrhau bod ein cyllid yn agored ac yn hygyrch i bawb.

Rydym am i ystod mor eang â phosibl o bobl gael mynediad at ein cyllid. Fodd bynnag, gwyddom y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar rai pobl i gwblhau ein proses ymgeisio. Gallai hyn fod oherwydd bod gennych anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu os ydych yn dod o gymuned sydd heb ei gwasanaethu.

Yr hyn y gallwn ei wneud

Rydym wedi nodi cynllun i ddiwallu anghenion mynediad pobl. Isod ceir enghreifftiau o'r gwahanol fathau o gymorth y gallwn eu darparu.

Cefnogaeth ddigidol

Gall cyfathrebu a phrosesau digidol fod yn anodd eu llywio i rai pobl. Gallwn gynnig y cymorth canlynol:

  • trefnu mwy o alwadau ffôn neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb
  • darparu fersiynau print bras o ganllawiau
  • cymorth i uwchlwytho eich cais yn ddigidol

Gofynion lleoliad

Ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb, gallwn gwrdd â chi mewn lleoliad sy'n lleol i chi, megis canolfannau cymunedol, safleoedd ieuenctid neu ganolfannau ffydd. Rydym yn deall y bydd lleoliad dibynadwy a hygyrch yn haws ac yn fwy cyfarwydd i chi.

Ieithoedd

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, gallwn drefnu i drafod eich cais yn eich dewis iaith. Er enghraifft, dehongli ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Gallwn hefyd helpu gyda chyfieithu rhai o'n deunyddiau, drwy weithio gyda chyfieithwyr cymunedol lleol neu ganolfannau adnoddau sy'n bodoli eisoes.

Cymraeg

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ddarparu deunyddiau yn Gymraeg. Mae ein holl ddeunyddiau ar gael ar ffurf ddwyieithog. Cliciwch y ddolen Gymraeg ar ochr dde uchaf tudalen gwefan i'w gweld yn Gymraeg. Os nad yw'r dudalen wedi'i chyfieithu, cysylltwch â ni i ofyn am y wybodaeth yn Gymraeg: cymorthcymraeg@heritagefund.org.uk

Talu am addasiadau rhesymol

Gallwn dalu costau unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn ystod y broses ymgeisio. Gallai hyn gynnwys dehongli BSL, deunyddiau wedi'u cyfieithu neu hygyrchedd digidol, er enghraifft.

Yn eich cais, dylech gyllidebu ar gyfer addasiadau rhesymol wrth gyflawni eich prosiect, megis:

  • Cyflog Byw Cenedlaethol
  • costau gweithio mewn partneriaeth
  • costau gweithiwr cymorth
  • addasiadau rhesymol gofynnol eraill

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyllidebu i'w cynnwys yn ein canllawiau arfer da.

Sut i wneud cais am addasiadau rhesymol

Os oes angen help arnoch i wneud cais neu gael mynediad i'n gwasanaethau, cysylltwch â ni i drafod y math o gymorth y gallwn ei ddarparu.

Os oes gennych nam ar eich clyw neu'ch lleferydd gallwch gysylltu â ni drwy Relay UK gan ddefnyddio eich ffôn testun neu ap Relay UK. Deialwch 18001 ac yna 020 7591 6044.

Edrych ymlaen

Rydym yn bwriadu archwilio ein ffurflenni a'n prosesau presennol ymhellach. Mae hyn er mwyn deall y rhwystrau presennol i gael gafael ar ein cyllid.Rydym yn gwahodd ein holl ymgeiswyr a'r rhai sydd eisoes wedi derbyn grant i gymryd rhan yn ein hymchwil. Cofrestrwch i ymuno â'n panel ymchwil.