Inclusion guidance

Canllaw cynhwysiant

Canllaw cynhwysiant

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i roi sylw i'n blaenoriaeth cynhwysiant yn eich prosiect. Mae ar gyfer pawb sy'n gwneud cais am grant, waeth beth yw maint y sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli, pa fath o sefydliad ydyw neu faint o arian rydych chi'n gofyn amdano

Cyflwyniad

Rydyn ni'n credu'r canlynol:

  • mae gan bawb yn y DU fudd mewn treftadaeth
  • dylai pawb gael cyfle i elwa ar gyllid y Loteri Genedlaethol, waeth faint yw eu hoed neu beth yw eu dosbarth, anabledd, ethnigrwydd, ffydd, rhywedd, incwm neu rywioldeb
  • bydd treftadaeth sy'n fwy cynhwysol yn fwy cynaliadwy
  • dylem ni, fel cyllidwr, ddangos arweinyddiaeth i gyflawni lefelau uwch o gynhwysiant mewn treftadaeth, sy'n allweddol i gymdeithas fwy cyfartal sy'n ffynnu

Rhaid i bob prosiect yr ydym yn ei ariannu gyflawni ein canlyniad, 'bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth'. Dyma ein canlyniad cynhwysiant. Mae'n orfodol oherwydd rydym eisiau i bob un o'n grantiau gyfrannu at gymdeithas lle mae gan bawb y cyfle i gymryd rhan mewn treftadaeth a chael budd ohoni. Fel arfer, bydd yr hyn rydych chi'n ei wneud i gyflawni ein canlyniad cynhwysiant yn dibynnu ar faint o grant rydych chi'n gofyn amdano; diben y canllaw hwn yw tanio rhai syniadau.

Byddwch yn cyflawni'r effaith fwyaf drwy ymwreiddio dull cynhwysol drwy gydol eich prosiect. Mae'n bosibl y bydd mynd ati mewn modd cynhwysol yn eich helpu chi i feddwl am sut rydych chi'n cyflawni eich canlyniadau eraill hefyd, fel:

  • Bydd pobl wedi datblygu sgiliau
  • Bydd pobl wedi dysgu am dreftadaeth
  • Bydd pobl yn cael mwy o les
  • Bydd y sefydliad a ariennir yn fwy cydnerth.

Beth yw cynhwysiant?

Mae cynhwysiant yn ymwneud â chymryd camau i sicrhau bod cymdeithas gyfoes y DU yn cael ei chynrychioli'n well yn eich prosiect treftadaeth. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pawb rydych chi'n gweithio ag ef yn cael ymdeimlad o groeso ac o berthyn.

Gwyddom fod y DU yn gymdeithas anghyfartal. Ceir mynediad anghyfartal ym maes treftadaeth hefyd, fel y gwelir, er enghraifft, yn arolwg Cymryd Rhan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a Monitro'r Ymgysylltiad â'r Amgylchedd (MENE).

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb (ac Adran 75 yng Ngogledd Iwerddon) yn gofyn i ni a chyrff cyhoeddus eraill ddatblygu cyfle cyfartal i bobl â 'nodweddion gwarchodedig'. Mae hyn yn cynnwys: oedran (gan gynnwys pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed a phobl hŷn), anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

Gall pobl â'r nodweddion hyn wynebu rhwystrau i gael eu cynnwys mewn treftadaeth, a chânt eu tangynrychioli'n gyffredinol fel ymwelwyr, cyfranogwyr, gwirfoddolwyr ac yn y gweithlu.

Gall pobl ar incymau isel hefyd wynebu rhwystrau wrth gymryd rhan mewn treftadaeth. Mae pobl ddi-waith, er enghraifft, yn debygol o brofi tlodi, rhwydweithiau cymdeithasol a chymunedol llai o faint, ac maen nhw'n fwy tebygol o fod ag afiechyd hirdymor neu anabledd.

Gan fod cynhwysiant yn ganolog i'n cyllido, rydym eisiau i'ch prosiect gyflawni'r canlynol:

  • gwaredu neu leihau anfanteision a ddioddefir gan bobl yn eu profiad â threftadaeth o ganlyniad i'w nodweddion gwarchodedig neu incwm
  • helpu i ddiwallu anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig penodol pan fo'r rhain yn wahanol i anghenion pobl eraill
  • annog pobl â nodweddion gwarchodedig penodol a/neu ar incymau isel i gymryd rhan mewn treftadaeth, yn enwedig pan fo nifer isel anghyfartal ohonynt yn cymryd rhan.

Mynd ati mewn modd cynhwysol

Gall cynhwysiant fod yn rhan o bopeth rydych chi'n ei wneud, ac felly ddylai fod, waeth beth yw maint eich prosiect.

Bydd eich dull o fynd ati i gyflawni ein canlyniad cyllido i gael 'ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth' yn dibynnu ar amgylchiadau, maint, lleoliad ac uchelgais penodol eich sefydliad, ac nid oes 'un dull i bawb'. Mae cynhwysiant yn broses - a bob amser yn rhywbeth sy’n mynd rhagddo o hyd mewn unrhyw sefydliad.

Dechreuwch drwy fod yn fyfyrgar: Pwy nad ydych yn siarad â hwy? Pwy nad ydych chi’n eu cyrraedd drwy eich gwaith ar hyn o bryd? Drwy asesu cyd-destun eich sefydliad neu gymuned, a nodi'r bobl a'r cymunedau sydd ar goll o'ch cynulleidfaoedd, eich gweithlu neu'ch rheolwyr, byddwch yn dechrau ar broses gynhwysiant weithredol. Os ydych yn gwneud cais am grant o £250,000 neu fwy, byddwn yn gofyn i chi gyflawni gwaith datblygu cynulleidfa ffurfiol yn ystod eich cam datblygu a'i nodi yng Nghynllun Gweithgaredd eich cam cyflenwi.

Pobl fel ased

Pobl fydd yr ased mawr o fewn eich prosiect ar bob adeg. Bydd deall demograffeg eich ardal leol neu ranbarthol a bod yn ymwybodol o'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cyrchu treftadaeth yn yr un modd, yn eich helpu i gynllunio pa wahaniaeth y gallech chi ei wneud gyda'ch grant Loteri. Mae'n bwysig sylweddoli bod gan bob un ohonom nifer o hunaniaethau, sy'n seiliedig ar y berthynas rhwng pethau fel ein rhywedd, oedran a chyflogaeth. Mae cael ymwybyddiaeth o groestoriadau ein hunaniaethau (er enghraifft, plentyn anabl, person ifanc ag anhwylder meddwl, menyw lesbïaidd hŷn, dyn di-waith hŷn) yn bwysig i'ch helpu chi i feddwl am bwy rydych chi'n ei gyrraedd eisoes a beth allech chi ei wneud nesaf.

Graddfa'r gweithgaredd

Gallwch ymwreiddio cynhwysiant yn eich prosiect mewn llawer o ffyrdd. Ar raddfa fechan er enghraifft, gallech benderfynu recriwtio a chadw ystod fwy amrywiol o wirfoddolwyr i gynrychioli eich cymuned leol, neu sicrhau bod eich gwefan a'ch deunydd cyhoeddusrwydd yn ystyried yr arferion dylunio cynhwysol gorau. Gan feddwl am groestoriadau, gallai eich gwasanaeth fod yn boblogaidd iawn gyda phlant a theuluoedd eisoes, ond nid yn amrywiol o ran dosbarth; yma, gallech benderfynu cynnal prosiect sy’n canolbwyntio ar ehangu eich cynnig i ysgolion a theuluoedd llai cefnog.

Mewn prosiect cyfalaf mawr, gallech fanteisio ar y cyfle i addasu eich safle i'w gwneud yn llawer mwy hygyrch, a chynnwys gweithgareddau a fydd yn annog pobl newydd i ddod i brofi'r dreftadaeth am y tro cyntaf.

Os gwelir prinder amrywiaeth yng ngweithlu eich sefydliad/sector, gallech benderfynu cynnwys menter hyfforddi camau cadarnhaol yn eich prosiect (gan helpu i gyflawni ein canlyniad sgiliau). A oes cyfleoedd i fwy o bobl anabl neu gyfranogwyr o gymunedau lleiafrifoedd ethnig chwarae rhan fwy gweithredol fel arweinwyr yn eich prosiect? Sut gall eich rheolwyr adlewyrchu'r ystod ehangach o bobl rydych eisiau eu cynnwys fel gwirfoddolwyr neu staff yn well (fel bod eich sefydliad yn fwy cydnerth)?

Os daw eich ymwelwyr presennol o ardaloedd cod post cefnog neu ddosbarthiadau economaidd-gymdeithasol uwch yn bennaf, efallai yr hoffech ystyried cynnwys diwrnodau di-docyn i ddenu amrywiaeth ehangach o bobl, neu drefnu gweithgareddau dysgu anffurfiol (gan helpu i gyflawni ein canlyniad dysgu).A allech chi weithio mewn partneriaeth â grŵp ieuenctid neu gartref gofal lleol am y tro cyntaf? Neu gyflwyno gweithgareddau cyfnewid rhyng-genhedlaeth i feithrin cysylltiadau rhwng pobl?

Cynllunio ar gyfer cynhwysiant

Yr wybodaeth y bydd ei hangen arnoch

Er mwyn gwneud cais i ni, bydd angen i chi ddeall pwy sy'n ymgysylltu â'ch sefydliad ar hyn o bryd a pha newid rydych eisiau ei weld o ganlyniad i'ch prosiect. Byddwn yn gofyn cwestiynau ynghylch demograffeg eich sefydliad, gan gynnwys staff, gwirfoddolwyr a rheolwyr. Byddwn hefyd yn gofyn cwestiynau ynghylch eich cynulleidfaoedd presennol a'r cymunedau rydych yn gweithio â nhw (boed y rheini'n rhai lleol, rhanbarthol neu'n genedlaethol). Hwn fydd eich llinell sylfaen, a bydd yn cael ei defnyddio i fesur newidiadau yn amrywiaeth y bobl sy'n cymryd rhan. Byddwn yn gofyn i chi osod targedau ar gyfer y gwahaniaeth rydych eisiau ei weld o ganlyniad i'ch prosiect a ariennir, a byddwn yn monitro eich prosiect yn erbyn y targedau hyn ac yn gofyn i chi werthuso eich gwaith yn eu herbyn.

Mae'n ddefnyddiol i ddeall demograffeg yr ardal rydych yn gweithio ynddi. Mae data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn darparu gwybodaeth genedlaethol a lleol am ethnigrwydd a hunaniaeth ddiwylliannol mewn gwahanol rannau o'r DU. Gallwch wedyn gymharu eich demograffeg â'r gymuned ehangach, a deall y bylchau. Mae llawer o ymchwil ar gael i lywio eich ffordd o feddwl os ydych yn gwneud cais am grant dros £250,000 neu eisiau cynyddu eich uchelgais (gweler yr adran adnoddau).

Bydd angen i chi hefyd ddeall y rhwystrau mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio ymgysylltu mwy, a pha newidiadau y gellid eu gwneud i helpu pobl i deimlo bod mwy o groeso iddynt. Dylid gwneud hyn drwy ymgynghori â grwpiau a dangynrychiolir, gan gynnwys ymwelwyr neu wirfoddolwyr posibl er enghraifft, a'r sefydliadau sy'n gweithio gyda nhw. Mae'r cam casglu gwybodaeth hwn yn hanfodol. Bydd yn eich helpu i ddeall yr hyn rydych chi'n ei wneud yn dda a pha alluoedd fydd eu hangen arnoch i allu gwneud mwy.

Penderfynu ar ffocws eich prosiect

Mae'n siŵr bod llawer i'w wneud er mwyn i'ch safle, gwasanaeth neu brosiect fod yn gynhwysol iawn, ac mae'n debyg y bydd gennych lawer o syniadau ynghylch eich camau nesaf. Fodd bynnag, nid yw cyflawni popeth gydag un prosiect yn debygol o fod yn bosibl, felly mae'n bwysig bod ffocws i’ch cynlluniau.

Meddyliwch am yr hyn sy'n sbarduno eich angen i fod yn fwy cynhwysol. Dechreuwch gyda'ch cyfranogwyr ac ymwelwyr presennol a'ch cynulleidfaoedd newydd posibl, yn ogystal â'r cyfleoedd a gyflwynir gan eich prosiect ehangach. Nodwch eich cynulleidfaoedd targed, a'r camau gweithredu posibl, drwy ymgynghoriad. Trafodwch a gwnewch benderfyniadau ynghylch cyfleusterau a gwasanaethau sylfaenol er mwyn helpu i bennu eich ffocws.

Cynnal eich effaith a chanlyniadau

Cynlluniwch y gwaith o werthuso eich gwaith cynhwysiant o'r cychwyn cyntaf, gan gynnwys meddwl am sut allech gynnal eich effaith. Ystyriwch sut gall y prosiect hwn helpu i gyflawni eich uchelgeisiau mwy hirdymor ar gyfer cynhwysiant. Pa newidiadau fydd wedi'u gwneud? A fyddwch yn gallu dangos fod gennych gysylltiadau cryfach â'r gymuned, modelau rheoli newydd, sgiliau ac arbenigedd staff ehangach, neu gyfleusterau parhaol newydd a werthfawrogir gan y bobl rydych wedi eu cyrraedd gyda'ch prosiect? Sut byddwch yn sicrhau eich bod yn cael safbwyntiau a phrofiadau'r bobl sy'n ymhél â'ch prosiect ac yn ymateb iddynt yn ystod eich prosiect a thu hwnt?

Deall rhwystrau

Serch y ddeddfwriaeth, mae grwpiau â nodweddion gwarchodedig yn parhau i gael eu tangynrychioli ym mhob agwedd ar dreftadaeth. Gallwch wneud gwahaniaeth drwy ddeall y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu a chynllunio'n weithredol i'w herio. Siaradwch â'r bobl rydych eisiau eu cynnwys ar bob cam o'ch prosiect: pa rwystrau ymarferol neu economaidd neu rwystrau eraill sy'n atal ymgysylltu ar hyn o bryd a sut gellid cael gwared â'r rhain?

Wrth feddwl am gynnwys pobl anabl, dylech ddeall a defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd. Mae hwn yn cydnabod fod cymdeithas yn gosod rhwystrau yn ffordd pobl anabl y gellir eu gwaredu drwy gymryd camau cymdeithasol a dyrannu adnoddau. Mae'r model, a ddatblygwyd gan bobl anabl, yn amlygu'r ffaith fod cymdeithas yn anghyfartal ac nad pobl anabl unigol sy'n gyfrifol am newid, ond pob un ohonom.

Mae cyfoeth o gyngor ar gael, a llawer ohono'n cael ei arwain gan bobl anabl. Er enghraifft, gweler gwaith Scope, Mencap a Mind i gael mwy o wybodaeth am y rhwystrau a brofir gan bobl ag anableddau corfforol a dysgu a rôl iechyd meddwl ym mywydau pob un ohonom. Ymgynghorwch â grwpiau lleol (e.e. sefydliadau Awtistiaeth neu grwpiau iechyd meddwl) i gael mewnbwn 'arbenigwr drwy brofiad' yn eich prosiect. Ystyriwch sut allai sgiliau ac arbenigedd pobl anabl lywio eich sefydliad, er enghraifft, drwy rolau â thâl neu gysylltiad â'r gwaith rheoli.

Os ydych yn rhedeg safle neu adeilad cyhoeddus treftadaeth, un ffordd o asesu'r rhwystrau ffisegol yw drwy gynnal archwiliad mynediad. Mae ymgynghorwyr mynediad cofrestredig ar gael a fydd yn gallu eich helpu.

Os na ellir cael gwared ar rwystr yn gyfan gwbl, dylech wneud 'addasiad rhesymol'. Er enghraifft, gosodwch lifft neu fynediad â ramp lle mae grisiau'n atal defnyddwyr cadair olwyn neu bobl â chymhorthion symudedd eraill rhag cael mynediad i'ch safle ar hyn o bryd. Siaradwch â phobl am yr amrediad a'r math o seddau rydych yn eu darparu, yn yr awyr agored a dan do, fel y gall teuluoedd neu ffrindiau, gan gynnwys aelod hŷn sydd angen braich neu gynhaliwr i'r cefn, eistedd gyda'i gilydd i fwynhau eu hymweliad.

Yn aml, gall gwella'r mynediad i'ch safle ar gyfer un grŵp â nodweddion gwarchodedig helpu pawb, er enghraifft, pobl hŷn neu deuluoedd â phlant ifanc.

Gellir rhoi sylw i rwystrau synhwyraidd drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau cyfathrebu. Er enghraifft, gallech gomisiynu paneli neu arddangosfeydd dehongli cyffyrddadwy i'w defnyddio dan do ac yn yr awyr agored, darparu areithiau neu ddigwyddiadau gydag Iaith Arwyddion Prydain mewn cydweithrediad â sefydliad lleol i bobl fyddar (bydd gwneud yn siŵr eich bod yn hysbysebu'r rhain yn eang yn helpu i sicrhau mwy o gyfranogiad) neu ddarparu arweinlyfrau print bras neu sain ar gyfer arddangosfeydd neu lwybrau cerdded. 

Pan fydd prinder mynediad deallusol, gall cyfranogwyr elwa ar wahanol ddulliau dehongli, arwyddion neu adnoddau dysgu. Er enghraifft, gallai cynhyrchu adnoddau dysgu aml-synhwyraidd ar y cyd â thiwtor cwrs Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) a myfyrwyr wella'r cyfleoedd dysgu i ystod ehangach o bobl.

Gall rhwystrau economaidd effeithio ar bobl mewn gwaith sydd ar gyflogau isel, pobl ddi-waith a rhai pobl sydd wedi ymddeol. Gall tâl mynediad fod yn ddrud, ond gallech, er enghraifft, gynnig gostyngiadau i bobl leol ar adegau/diwrnodau penodol. Ystyriwch gostau eraill hefyd, fel teithiau deongliadol neu luniaeth, ac a allech, er enghraifft, ddarparu taflenni y gellir eu lawrlwytho am ddim ar gyfer teithiau hunan-dywysedig neu ardal bicnic. Gall prinder trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy a rheolaidd mewn ardaloedd gwledig hefyd fod yn rhwystr i gyfranogiad gan ystod ehangach o bobl.

Croesawu pobl

Mae cynhwysiant yn ymwneud â mwy na chael gwared ar rwystrau fel y gall pobl gymryd rhan. Mae hefyd yn ymwneud â chreu amgylchedd croesawgar, lle caiff pobl ymdeimlad o berthyn. Dylai hwn ddechrau cyn i ymwelwyr gyrraedd eich safle neu gymryd rhan mewn gweithgaredd.

Rhaid i'ch cyhoeddusrwydd apelio i'r cymunedau rydych eisiau eu denu. Mae angen iddo ysbrydoli pobl a rhoi tawelwch meddwl iddynt. Dangoswch sut allai eich cynnig fod yn berthnasol, a lle rydych wedi cymryd camau i leihau rhwystrau, fel bod ymwelwyr posibl yn ymwybodol o hyn. Gwnewch yn siŵr bod eich gwefan yn cyfleu darlun cyfeillgar o'ch sefydliad. Cofiwch gynnwys gwybodaeth am fynediad i'r anabl ac unrhyw addasiadau eraill. Er enghraifft, rhowch wybod i bobl fod gennych ardal bicnic. Bydd hysbysebu teithiau neu ddigwyddiadau penodol hefyd yn helpu i gynyddu presenoldeb. Sicrhewch fod y cyhoeddusrwydd mewn mannau neu gyfryngau a ddefnyddir gan y bobl rydych yn ceisio eu cyrraedd.

Ystyriwch sut gallwch wneud i bobl deimlo bod croeso iddynt yn eich digwyddiadau neu ar eich safle. Gwnewch yn siŵr bod y staff neu'r gwirfoddolwyr sydd mewn cyswllt â'r cyhoedd wedi'u hyfforddi a bod unrhyw bryderon gan unrhyw un (er enghraifft, ymddygiad anghyffredin a ddangosir gan ymwelwyr a allai fod o ganlyniad i awtistiaeth, anabledd dwys neu ddementia) yn gallu cael eu trafod â staff priodol. Mae eich prosiect yn gyfle gwych i ddod o hyd i ddatrysiadau i wneud i bawb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae Rethinking Heritage, a guide to making your site more dementia friendly yn dangos sut mae sefydliadau treftadaeth yn croesawu pobl sy'n byw â dementia.

Mae cael y cyfleusterau cywir yn dangos i bobl fod eich safle'n croesawu pawb. Rydych chi'n dangos eich bod yn disgwyl gweld amrywiaeth eang o bobl ag anghenion gwahanol, ac mae'r bobl hyn yn fwy tebygol o gael profiad da pan fyddant yn mynychu.

Ystyriwch eich darpariaeth sylfaenol, a allai gynnwys dolenni sain, sesiynau dehongli gan ddefnyddio disgrifiadau sain neu drin gwrthrychau er mwyn cynnwys ymwelwyr dall neu rannol ddall. Gall gwybodaeth mewn ieithoedd cymunedol, neu siaradwyr mewnol, hefyd gynnwys ystod ehangach o bobl mewn treftadaeth. Gall gwella'r cyfleusterau toiled hefyd gyfrannu at gynhwysiant. Gall darparu lleoedd newid a thoiledau niwtral o ran y rhywiau wneud gwahaniaeth i bwy sy'n ymweld â'r lle a sut maen nhw'n teimlo. Gall hyrwyddo cyfleusterau o'r fath ddenu ystod ehangach o ymwelwyr, sy'n dod â ffrindiau a theulu gyda nhw'n aml, a bydd hyn, yn ei dro, yn cynyddu'r gwerthiant mewn tocynnau, lluniaeth a'r siop anrhegion.

A ydych chi'n adlewyrchu'r bobl rydych yn ceisio eu cyrraedd? Mae cynrychiolaeth yn bwysig. Gall gweld staff a gwirfoddolwyr sy'n cynrychioli amrywiaeth o bobl helpu ystod ehangach o ymwelwyr i deimlo bod croeso iddynt a rhoi iddynt ymdeimlad o berthyn i'ch sefydliad neu safle. Er enghraifft, gall eglurwyr ifanc greu amgylchedd llai traddodiadol, a dangos bod treftadaeth yn berthnasol i bobl ifanc. Gall cael amrywiaeth o staff, gwirfoddolwyr a rheolwyr gyflwyno syniadau a phrofiadau newydd, gan wneud sefydliadau'n fwy agored i newid ac, yn aml, yn fwy perthnasol i'w cymunedau.

Dylai dehongliadau ac arddangosfeydd fod yn gynrychioliadol hefyd. Gall hyn wneud treftadaeth yn fwy perthnasol, ysgogi cyfranogiad ac annog empathi rhwng cymunedau. Ystyriwch yr amrediad llawn o straeon sy'n gysylltiedig â'ch treftadaeth, casgliad, safle neu adeilad a sut allech adlewyrchu profiadau pobl o ran dosbarth, rhywedd neu rywioldeb er enghraifft. Mae cefnogi cymunedau i adrodd straeon yn datblygu ymdeimlad cryf o berchenogaeth, ac yn darparu cynnwys newydd diddorol.

Nodi partneriaid posibl

Wedi i chi nodi eich cynulleidfaoedd targed a'r hyn y gall fod ei angen arnynt i gymryd rhan, ystyriwch bartneriaid posibl i'ch helpu chi i gynllunio (ac o bosibl cyflenwi) y gweithgareddau neu newidiadau y gallech eu cynnwys yn eich prosiect. Mae hwn yn gyfle gwych i adeiladu eich gwybodaeth am y cyfoeth o sefydliadau sydd ag arbenigedd mewn ymgysylltu, cyfranogi a phartneriaeth gynhwysol. Gweler yr adran adnoddau am ragor o wybodaeth a syniadau.

Mapiwch y cysylltiadau, y rhwydweithiau a'r partneriaethau sydd eisoes yn bodoli yn eich ardal a allai gynnig cymorth neu gyngor. Gall cael help a gwybodaeth gan sefydliadau lleol neu genedlaethol sy'n gweithio y tu allan i'r sector treftadaeth fod yn ddefnyddiol, fel sefydliad ieuenctid neu anabledd, neu rwydwaith ffydd, hil, rhywioldeb neu gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Er enghraifft, os ydych eisiau cyrraedd pobl sy'n ddi-waith ar hyn o bryd, a ydych chi mewn cysylltiad â'ch Canolfan Byd Gwaith leol neu sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ddi-waith, fel grwpiau tai ac iechyd lleol, er enghraifft, neu grwpiau dan arweiniad pobl anabl?

Wrth ystyried partneriaeth newydd, trafodwch nod eich grŵp neu sefydliad a gwnewch yn siŵr eich bod wedi deall prif feysydd gwaith partneriaid posibl. Nodwch le y rhennir amcanion, er enghraifft, i gynyddu sgiliau, hyfforddiant, arweinyddiaeth neu gyfleoedd i wirfoddoli, neu i herio ynysu ac unigrwydd cymdeithasol. Beth yw'r gwasgbwyntiau a'r galluoedd yn eich sefydliadau a sut gall gweithio gyda'ch gilydd gyflawni canlyniadau cadarnhaol i bawb?

Gallai cyfleoedd fodoli hefyd i weithio gyda sefydliadau sy'n ceisio mynd i'r afael â'r un rhwystrau ymarferol i ymgysylltu, fel prinder trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig. Gallai grwpiau eraill fod yn edrych am ddarpariaeth well neu wahanol hefyd, drwy Gynghorau Plwyf neu sefydliadau cymunedol (Sgowtiaid, Geidiaid, Deialu a Theithio), felly rhannwch eich profiadau. Gallai sgyrsiau o'r fath eich arwain at gynnwys sefydliadau ffydd, ieuenctid neu ofalwyr yn eich cynlluniau treftadaeth, cyd-grynhoi sgiliau datblygu cymuned, a gwella cyfleoedd teithio er mwyn cael mwy o amrywiaeth o bobl yn gysylltiedig â'ch sefydliad.

Diogelu a diogelwch ehangach

Diogelu

Bydd disgwyl i chi, fel y derbynnydd grant, fodloni eich rhwymedigaethau cyfreithiol. Os ydych yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu bobl sy'n agored i niwed, gan gynnwys pobl hŷn sy'n defnyddio gwasanaethau gofal, pobl ag anableddau dysgu, pobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl neu dai â chymorth, neu bobl sy'n byw â dementia, bydd angen i chi gael polisïau ac arferion diogelu ar waith. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn yr adran adnoddau.

Cofiwch fod llawer o sectorau a sefydliadau y tu allan i faes treftadaeth, gan gynnwys sectorau ieuenctid, addysg ac iechyd, yn defnyddio gweithdrefnau diogelu fel arfer safonol ar hyn o bryd. Dechreuwch sgyrsiau am ddiogelu gyda phobl brofiadol fel rhan o'ch ymdrech i gynyddu eich gwybodaeth am gynhwysiant ac ehangu mynediad i dreftadaeth. Peidiwch â gofyn na disgwyl i wirfoddolwyr ar eich prosiect fod yn gyfrifol am gefnogi cyfranogwyr sy'n agored i niwed heb ddarparu hyfforddiant, goruchwyliaeth a chymorth ar eu cyfer. Eglurwch i wirfoddolwyr pwy yn y sefydliad sydd â chyfrifoldeb dros ddiogelu. Os na allwch wneud hyn, peidiwch â chynnwys y grwpiau hyn fel rhan o'ch prosiect.

Teimlo'n ddiogel

Gwyddom y gall treftadaeth chwarae rhan mewn cysylltu cymunedau, ennyn ymddiriedaeth, cynyddu gwybodaeth a chryfhau rhwydweithiau cymdeithasol. Eto i gyd, mae'r cynnydd mewn troseddau casineb yn y DU tuag at bobl â nodweddion gwarchodedig, fel pobl ag anabledd dysgu, cymunedau Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol a mwy a grwpiau lleiafrifoedd ethnig a ffydd, wedi gwneud i rai pobl, wrth reswm, deimlo'n anniogel ac yn ddigroeso mewn mannau cyhoeddus. Ystyriwch faterion diogelwch yn eich sefydliad fel rhan o'ch cynlluniau cynhwysiant a hyfforddiant staff.

Cyllidebu ar gyfer cynhwysiant

Bydd angen i chi gyllidebu'n briodol er mwyn sicrhau bod eich gwaith cynhwysol yn realistig a bod modd ei gyflenwi. Mae tair egwyddor syml i'w dilyn a rhestr wirio o gostau posibl i'w hystyried.

Disgwylir i chi ystyried a chadw at egwyddorion sylfaenol isafswm cyflog a thrin pawb yn deg. Sicrhewch eich bod yn talu'r Cyflog Byw Cenedlaethol fel isafswm i'r holl staff sy'n rhan o'ch prosiect. Peidiwch â disgwyl y bydd pobl anabl, pobl iau, cynrychiolwyr o'r gymuned neu bobl eraill yr ydych yn gwerthfawrogi eu gwybodaeth arbenigol ac yn manteisio arni eisiau rhoi o'u hamser am ddim. Oes ffyrdd y gallwch dalu neu ddarparu gwerthfawrogiad (e.e. talebau, tocynnau mynediad i deulu) ar gyfer yr amser a'r arbenigedd a rannwyd?

Wrth ehangu'r amrywiaeth o bobl rydych chi'n eu cynnwys, gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried 'costau cudd'. Er enghraifft, gallai gynnwys pobl ag anabledd dysgu fel cyfranogwyr a chyfranwyr llawn yn eich prosiect gynnwys talu am gostau gweithiwr cymorth, adnoddau dysgu ychwanegol neu lawer mwy o amser. Trafodwch y costau hyn yn gynnar â phartneriaid a chyllidebwch yn unol â hynny.

Ystyriwch gostau cefnogi eraill hefyd. Canfyddwch a oes digon o drafnidiaeth gyhoeddus yn bodoli neu a fydd angen i chi ddarparu minibws neu drafnidiaeth a rennir?

Cynlluniwch ar gyfer darparu lluniaeth o safon uchel mewn unrhyw ddigwyddiad rydych chi'n ei drefnu. Bydd pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi pan fyddwch yn darparu lluniaeth da a phriodol. Meddyliwch am ddewisiadau diwylliannol a deietegol. Gwiriwch beth mae pobl yn ei fwyta ac yfed ymlaen llaw a cheisiwch beidio â gwneud rhagdybiaethau.

Yn dibynnu ar faint a graddfa eich prosiect, efallai y bydd angen i chi ystyried rhai o'r costau hyn, os nad pob un ohonynt, o ran eich gwaith cynhwysiant, er mwyn helpu i gael gwared ar rwystrau a gwneud addasiadau rhesymol:

  • Ymchwil a gwaith monitro ar gynulleidfaoedd – gosod llinell sylfaen a chasglu a dadansoddi data
  • Ymgynghori â grwpiau cymunedol rydych eisiau eu cyrraedd a/neu gael mynediad at archwiliadau
  • Ymgysylltu â'r gymuned neu ddigwyddiadau dysgu
  • Allbynnau digidol fel apiau, llwybrau neu gemau ar-lein 
  • Gwaith ymchwil ar gynnwys/straeon newydd neu gyllidebau ar gyfer mathau newydd o gasglu/gwaith hanes ar lafar ac ati
  • Costau recriwtio ar gyfer ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr
  • Addasiadau rhesymol ar gyfer safleoedd – mynediad ffisegol, dehongli neu addasiadau synhwyraidd, fel defnyddio Iaith Arwyddion neu ddehongli cyffyrddadwy ar gyfer pobl â nam ar eu clyw neu nam ar eu golwg.   
  • Costau eraill yn sgil cynnwys pobl, e.e. treuliau gwirfoddolwyr, costau cludiant, costau gofal plant, dillad diogelu neu gyfarpar iechyd a diogelwch i hyfforddeion, adnoddau a chymorth priodol (e.e.iaith arwyddo Makaton, gofal personol) er mwyn sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu'n cael eu cynnwys yn weithredol ac yn rheolaidd
  • Costau cyfieithu. Yng Nghymru, bydd angen i chi fodloni gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg. Efallai bydd yn briodol i chi ddefnyddio Gaeleg, Cernyweg neu iaith gymunedol arall ochr yn ochr â Saesneg yn eich prosiect, yn dibynnu ar y cyd-destun ar gyfer eich gwaith.
  • Cyhoeddusrwydd, gwefan
  • Hyfforddiant staff.

Trwy ymgynghori, rhagweld a chynllunio ar gyfer costau, byddwch yn gallu gwneud eich prosiect yn fwy cynhwysol.

Adnoddau a thystiolaeth

Deddf Cydraddoldeb (Cymru, Lloegr, yr Alban) a nodweddion gwarchodedig.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae Adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon a'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn berthnasol.

Mae'r arolwg Taking Part yn Lloegr yn darparu gwybodaeth am ystod o gyfranogiad ac ymgysylltiad, gan gynnwys treftadaeth.

Mae'r arolwg Monitor of Engagement with the Natural Environment (MENE) yn darparu data ar dueddiadau ar gyfer sut mae pobl yn defnyddio'r amgylchedd naturiol yn Lloegr. 

Mae'r Equality Trust yn cofnodi effeithiau anghydraddoldeb ar ein cymdeithas.

Mae Llywodraeth y DU wedi creu gwefan i gefnogi ei Harchwiliad Anghyfartaledd Hiliol, gan nodi ffeithiau a ffigurau sy'n ymwneud ag ethnigrwydd.

Mae Runnymede Trust yn cyhoeddi gwaith ymchwil ar hil, ethnigrwydd a chydraddoldeb, gan gynnwys y rhyng-gysylltiadau rhwng rhywedd, ethnigrwydd a thlodi.

Mae gan y Fawcett Society, y prif sefydliad cydraddoldeb i fenywod, nifer o grwpiau lleol ledled y DU.

Mae gwaith ymchwil gan y Glasgow Women's Library, wedi cynhyrchu adroddiad ar anghydraddoldeb er mwyn llywio gwaith y sector amgueddfeydd; mae'n egluro rhyngadranoli ac mae ganddo berthnasedd ehangach.

Mae'r Shaw Trust yn un o lawer o elusennau yn y DU sy'n gweithio ar ran pobl anabl. Maen nhw'n gweithio mewn partneriaeth yn aml ac yn cynnig gwasanaethau cynghori ar hygyrchedd

Mae Stonewall, sefydliad cydraddoldeb y DU ar gyfer pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol a mwy yn arwain gwaith ymchwil ar oblygiadau gwahaniaethu yn erbyn y bobl hyn, er enghraifft, ar gyfer pobl yn y gweithle.

Mae'r Sutton Trust yn gweithio ar symudedd cymdeithasol y DU. Mae wedi gwneud gwaith ymchwil ar rôl interniaethau di-dâl fel rhwystr i ddatblygu gyrfa.

Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi cyngor ar gyfathrebu hygyrch ac mae amrywiaeth o elusennau yn darparu adnoddau hefyd, er enghraifft, VocalEyes, RNIB, Action on hearing Loss.

Mae Historic England yn cynhyrchu canllawiau ar fynediad hawdd i adeiladau hanesyddol a thirweddau.

Mae'r GIG yn cyhoeddi cyngor ar ddiogelu ar gyfer pobl sy'n agored i niwed. Mae'r NSPCC yn cyfeirio pobl at bolisi amddiffyn plant ym mhedair cenedl y DU.

Atodiad Maint
Download as PDF145.75 KB 145.75 KB
InclusionGuidance_WELSH.pdf188.7 KB 188.7 KB