Ni yw cyllidwr grant pwrpasol mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU. Ers 1994, rydym wedi dyfarnu mwy na £8biliwn i fwy na 44,000 o brosiectau ledled y DU.
Gyda'n gilydd gallwn ddangos y rôl hollbwysig y gall treftadaeth ei chwarae i helpu pobl, cymunedau a lleoedd drwy'r argyfwng yma.
Ein rhaglenni
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Grantiau o £3,000 i £10,000 a £10,000 i £100,000
Cyllid prosiect cydnerthedd a chynhwysiant i gefnogi sefydliadau sy'n gweithio gyda threftadaeth i addasu ac ymateb i'r amgylchedd sy'n newid y maent bellach yn gweithredu ynddo.
Mae’n agored i brosiectau sy’n:
- Cefnogi sefydliadau sy'n gweithio gyda threftadaeth i addasu ac adfer yn yr argyfwng coronafeirws parhaus (COVID-19).
neu
- Yn canolbwyntio ar gynhwysiant, dan arweiniad a/neu’n ymgysylltu â grwpiau amrywiol sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli mewn treftadaeth.
Benthyciadau Adfer a Gwydnwch Treftadaeth
Benthyciadau o £50,000 i £250,000
Mae Benthyciadau Adfer a Gwydnwch Treftadaeth wedi'u cynllunio i helpu i ariannu gweithgareddau a chostau a fydd yn datblygu ac yn ailgychwyn potensial eich sefydliad i gynhyrchu incwm.
Mae'r cyllid yma’n addas iawn i sefydliadau sydd eisoes wedi bod yn gweithio ar wydnwch, ac sydd ar hyn o bryd yn gweithredu gyda model incwm cymysg o gyllid menter a grant, sydd angen cymorth i dalu costau gweithredu neu addasu eu model gweithredu o ganlyniad i argyfwng COVID-19.
- cyfradd llog sefydlog o 0%
- dim ffioedd am drefniant nac ad-daliad cynnar
- gwyliau ad-dalu dewisol o 12 mis
- cyfnod ad-dalu hyd at 5 mlynedd
Funding for organisations, businesses and private owners in England
Grants of £10,000 to £3m
Culture Recovery Fund for Heritage, second round
Supporting organisations struggling under the pressures of coronavirus (COVID-19) to make the transition towards full reopening. We are distributing this fund with Historic England on behalf of the Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS).
- for organisations and businesses that own, work with or manage heritage in England
- £36m fund
- grants of £10,000 to £3m
- supporting you to build up your operations and begin a programme of heritage activity in April-June 2021
- open for applications 7-26 January 2021
- repayable finance also available with a lower limit of £1m and no upper limit
Cyllid i sefydliadau yng Nghymru
Grantiau o £5,000 i £250,000
Cronfa Adferiad Gwyrdd Cymru
Cynllun grant refeniw i sefydliadau amgylcheddol feithrin sgiliau, datblygu syniadau a gwella'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Rydym yn dosbarthu'r gronfa yma mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
- Cronfa o £920,000
- grantiau o £5,000 i £100,000
- Datganiadau o Ddiddordeb ar agor rhwng 16 Tachwedd a 6 Rhagfyr 2020
- ceisiadau ar agor rhwng 23 Tachwedd 2020 a 10 Ionawr 2021
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Cynllun grant cyfalaf i alluogi cymunedau yng Nghymru i gaffael, adfer a gwella natur. Rydym yn dosbarthu'r gronfa yma mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
- Cronfa o £2.3m
- grantiau o £10,000 i £50,000
- mae ceisiadau ar agor hyd nes y rhoddir rhybudd pellach neu hyd nes y dyrennir yr holl arian grant
Coetiroedd Cymunedol
Cynllun grant cyfalaf ar gyfer prosiectau i adfer, creu, cysylltu a rheoli coetiroedd cymunedol yng Nghymru. Rydym yn dosbarthu'r gronfa yma mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
- Cronfa o £2.1m
- grantiau o £10,000 i £250,000
- ar agor ar gyfer ceisiadau tan 21 Hydref 2021
- rhaid cyflawni prosiectau erbyn mis Mawrth 2022
Cyllid Cefnogaeth Fusnes Cymru
Mae cyllid ar gael i sefydliadau neu bartneriaethau gefnogi'r rhai sy'n gweithio gyda threftadaeth yng Nghymru i feithrin eu sgiliau mewn arweinyddiaeth a rheolaeth sefydliadol.
- Cronfa o £250,000
- ymholiadau prosiect ar agor tan hanner dydd 24 Tachwedd 2020
- bydd gan y rhai a wahoddir i gyflwyno cais llawn tan 13 Ionawr 2021 i wneud hynny
Rhaglenni sydd ar gau ar hyn o bryd
Mae'r rhaglenni hyn ar gau ar gyfer ceisiadau ar hyn o bryd.
- Cronfa Adfer Treftadaeth Gogledd Iwerddon
- Grantiau Trysorau’r Filltir Sgwâr
- Cronfa Her Adferiad Gwyrdd
- Cronfa Adfer Diwylliant Treftadaeth
- Cronfa Argyfwng Treftadaeth
- Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (Chwefror 2019 - Mawrth 2020)
- Grantiau Treftadaeth Gorwelion
- Cyllid Cymorth Busnes
- Cyllid Datblygu Menter
Eisoes wedi cael grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol?
- Rwyf newydd glywed am ganlyniad fy nghais - beth ddylwn i ei wneud nesaf?
- Rwy'n awyddus i hyrwyddo fy mhrosiect, sut allwch chi fy helpu?
- Ble alla i ddod o hyd i'ch logo?
- Darllenwch ein canllawiau arfer da
- Gwnewch y gorau o'n cyllid gyda'n cyngor ymarferol a'n hawgrymiadau da ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth