Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (rownd 6)
Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 6 Mai 2025.
Ai hon yw'r rhaglen iawn i chi?
- Ydych chi’n dirfeddiannwr a/neu â rheolaeth lwyr dros dir yng Nghymru?
- Ydych chi'n edrych i wella, rheoli neu ehangu coetiroedd?
- A all eich prosiect hyrwyddo cyfranogiad cymunedol? Er enghraifft, trwy gynllunio a darparu llwybrau troed, llwybrau natur, neu gyfleoedd gwirfoddoli?
- A oes angen grant rhwng £10,000 a £250,000 arnoch?
Os gwnaethoch chi ateb yn gadarnhaol i'r cwestiynau hyn, yna mae'r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) yn addas i chi.
Cynnwys yr Arweiniad
- Trosolwg
- Yr hyn y mae TWIG yn ei ariannu
- Pwy all ymgeisio?
- Pa gostau allwch chi ymgeisio amdanynt?
- Terfynau amser ymgeisio a dyddiadau allweddol
- Camau i'w cymryd cyn i chi wneud cais
- Sut y byddwn yn asesu'ch cais
- Sut i wneud cais
- Dogfennau ategol
- Beth sy'n digwydd ar ôl eich prosiect
- Gofynion cyfreithiol a pholisi
- Rheoli eich data
- Cysylltu â ni
- Diweddariadau i'r arweiniad
1. Trosolwg
Mae'r angen i gynorthwyo adferiad byd natur yn fater brys. Ni fu gofalu am fyd natur a helpu pobl i ddeall ei bwysigrwydd erioed mor berthnasol.
Mae’r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) yn rhaglen i dirfeddianwyr greu coetiroedd i gymunedau lleol eu defnyddio a’u mwynhau, fel rhan o'r fenter Coedwig Genedlaethol i Gymru.
Beth yw'r Goedwig Genedlaethol i Gymru?
Menter a arweinir gan Lywodraeth Cymru yw'r Goedwig Genedlaethol i Gymru. Bydd yn creu rhwydwaith o goetiroedd a choedwigoedd ar draws Cymru, o dan reolaeth ansawdd uchel.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn ymestyn ar hyd a lled Cymru, fel y gall pawb gael mynediad iddi ble bynnag y maent yn byw. Mae'n cynnwys ardaloedd trefol a gwledig ac yn darparu ystod o fanteision i’r amgylchedd, yr economi a chymdeithas:
- gan chwarae rhan bwysig wrth warchod natur a mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth
- cynyddu cynhyrchiant pren a dyfir yn lleol – galluogi’r diwydiant coedwigaeth lleol i ffynnu, creu swyddi a lleihau’r ddibyniaeth ar bren wedi’i fewnforio
- cefnogi iechyd a lles cymunedau – enghraifft fyw o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Pethau y mae angen i chi eu gwybod
- Yn gyntaf mae'n rhaid cyflwyno Ymholiad Prosiect. Efallai y cewch eich gwahodd wedyn i wneud cais llawn.
- Derbynnir un cais TWIG yn unig gan bob sefydliad yn y rownd hon.
- Rhaid peidio â dechrau ar eich prosiect cyn i ni wneud penderfyniad.
- Rydym yn darparu llawer o arweiniad arfer da. Gallwch ddarllen yr arweiniad sy'n berthnasol i chi i'ch helpu i ddatblygu a rheoli eich prosiect.
Gweminar
Byddwn yn cynnal gweminar ar gyfer Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (rownd chwech) ddydd Iau 15 Mai 10am–11:30am.
2. Yr hyn y mae TWIG yn ei ariannu
Mae TWIG ar gyfer tirfeddianwyr a/neu'r rhai sydd â rheolaeth lwyr dros dir. Bydd eich grant yn cael ei ddefnyddio i wella ac ehangu coetiroedd presennol a rhaid iddo fod â’r potensial i ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol i Gymru (mae mwy o wybodaeth am hyn o dan Sut rydym yn asesu eich cais).
Rhaid i’r coetiroedd hyn:
- wedi'u rheoli'n dda
- bod yn hygyrch
- rhoi cyfle i gymunedau lleol gymryd rhan
Mae’r cynllun yn cynnig:
- grantiau rhwng £10,000 a £250,000
- ariannu hyd at 100%
- hyd at ddwy flynedd i gyflwyno’r prosiect
- ariannu cyfalaf a refeniw
- gall prosiectau mawr, uchelgeisiol a chymhleth ddefnyddio ariannu gan TWIG gyda grantiau eraill Llywodraeth Cymru, yn ogystal â ffynonellau eraill o gyllid cyhoeddus a phreifat ategol
- un cais TWIG yn unig gan bob sefydliad yn y rownd hon
- cymorth gan swyddogion cyswllt Coedwig Genedlaethol i Gymru ynghylch y rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru a sut i ddangos y canlyniadau
Mae TWIG yn ariannu prosiectau sy’n:
- adfer ac yn gwella coetiroedd yn unol â deilliannau Coedwig Genedlaethol i Gymru
- Cyflwyno coetiroedd hygyrch i bawb eu mwynhau
- Diwallu anghenion pobl leol fel gofod cyhoeddus, gan gyfrannu at wasanaethau ecosystem yn yr ardal leol. Er enghraifft, ymdrin â cholli bioamrywiaeth a chreu swyddi lleol.
- Dangos manteision lluosog gan rychwantu llesiant amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol
- Cefnogi lliniaru newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo
- Cefnogi twristiaeth a'r economi
- Cefnogi neu gyflwyno sgiliau a hyfforddiant
- Ystyriwch arweiniad Safon Coedwigaeth y DU a Map Cyfleoedd Coetir 2025 i nodi ardaloedd sensitifrwydd isel ar gyfer plannu coed rhwng 0.1 a 2 hectar
Mae gennym ddiddordeb penodol mewn prosiectau:
- sy'n ceisio gwneud coetiroedd anhygyrch yn fwy cynhwysol a hygyrch i bobl
- a fydd yn galluogi rhwydweithiau natur cysylltiedig ar hyd a lled Cymru
- sy'n cynnwys ardaloedd bach o blannu coed risg isel
Bydd plannu newydd o hyd at 2 hectar yn cael ei gefnogi o dan y rhaglen TWIG. Os ydych yn plannu coed, gellir cynnwys un taliad ar gyfer tair blynedd o gynnal a chadw yn eich cais am grant. I hawlio'r arian hwn, bydd gofyn i chi gyflwyno Cynllun Rheoli Coetir manwl ar gyfer y safle ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau (mae mwy o wybodaeth o dan Beth sy'n digwydd ar ôl eich prosiect).
Gallai plannu newydd gynnwys:
- ehangu coetir presennol
- plannu coed trefol
- coridor o wrychoedd neu goedwigoedd i gysylltu dau goetir presennol
- prosiectau plannu cymhleth, uchelgeisiol sy’n ymestyn dros ddwy flynedd (ar y cyd â grantiau eraill – darllenwch fwy am Grantiau Creu Coetiroedd Llywodraeth Cymru yma)
Darllenwch fwy am blannu newydd ac ehangu coetiroedd o dan Camau i'w cymryd cyn i chi wneud cais.
Gallai gwelliannau i goetiroedd presennol gynnwys:
- mabwysiadu coetir gan y gymuned leol
- creu neu wella cyfranogiad cymunedol mewn coetir, a mynediad ato
- teneuo
- gosod llwybrau troed
- cynnal a chadw cyfleusterau mynediad dirywiedig mewn coetiroedd cymunedol a ddefnyddir yn helaeth
- clirio i wneud ardal yn hygyrch
Mae angen Cynlluniau Rheoli Coetir ar gyfer pob prosiect. Os nad yw’r rhain eisoes yn eu lle, gall y grant dalu costau paratoi cynllun rheoli hirdymor manwl (mae mwy o wybodaeth am hyn o dan Camau i'w cymryd cyn i chi wneud cais).
Iaith Gymraeg a chydnabyddiaeth
Rhaid i chi gynnwys y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith. Dywedwch wrthym sut y byddwch chi'n hyrwyddo ac yn cefnogi'r Gymraeg ac yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru.
Gwnewch yn siŵr bod cyfieithu wedi'u cynnwys yn eich cynllun prosiect a chyllideb eich prosiect o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau prosiect y cais.
Am ragor o wybodaeth gweler ein Harweiniad prosiect dwyieithog yng Nghymru.
Ariennir y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) ar y cyd gan Raglen Coedwig Genedlaethol i Gymru Llywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd angen i chi gydnabod eich grant fel y nodir yn ein harweiniad ar sut i gydnabod eich grant gan Lywodraeth Cymru.
3. Pwy all ymgeisio?
Mae'r cynllun yn agored i unrhyw dirfeddianwyr/rheolwyr gan gynnwys sefydliadau nid-er-elw a pherchnogion preifat. Mae hyn ar yr amod bod gennych y caniatadau a'r trwyddedau cywir yn eu lle i ymgymryd â gweithgarwch.
4. Pa gostau allwch chi wneud cais amdanynt?
Mae'r gronfa hon yn bennaf ar gyfer gwaith cyfalaf. Gellir neilltuo uchafswm o 25% o bob grant ar gyfer gwariant refeniw. Ar ben hynny, gellir defnyddio hyd at 10% o'r elfen gyfalaf ar gyfer cynllunio'r prosiect a chostau gweithredu prosiect uniongyrchol eraill.
Mae'n bwysig i chi nodi pa rai o gostau eich prosiect sy'n gyfalaf a pha rai sy'n refeniw. Gall ceisiadau gynnwys unrhyw un o'r canlynol:
Costau cyfalaf
Gwariant cyfalaf yw arian sy'n cael ei wario ar fuddsoddi a phethau a fydd yn creu twf yn y dyfodol. Rhoddir enghreifftiau o gostau cyfalaf derbyniol isod. Sylwer nad rhestr derfynol mo hon ac y bydd pob eitem o wariant yn cael ei hystyried ar sail yr achos unigol:
- prynu coed, llwyni a phlanhigion eraill i greu, ehangu neu wella ardaloedd o goetir
- paratoi safle, pethau fel arolygon, gosod ffensys, clirio sbwriel a dileu rhywogaethau anfrodorol ymledol
- adeiladu llwybrau a gatiau hygyrch gydag ymrwymiad i’w cadw ar agor i’r cyhoedd a’u cynnal am o leiaf 20 mlynedd, os nad am gyfnod amhenodol
- creu llwybrau natur/addysgiadol
- creu gofodau ar gyfer hamdden a chwarae
- creu gofodau i gynnal a gweld byd natur
- cost llafur sy'n gysylltiedig â gwella a/neu greu'r ardal o goetir
- arwyddion a dehongli
- meinciau/seddi
- toiledau compostio (dylai ymgeiswyr sy'n gwneud cais am doiledau compostio gysylltu â CNC am ragor o gyngor gan fod angen trwyddedau yn aml)
- raciau beiciau
- offer/cyfarpar ar raddfa fach i'w defnyddio gan aelodau o'r gymuned leol
- gwaith a arweinir gan gontractwyr sy'n gofyn am offer mwy neu sgiliau arbenigol
- storfa ddiogel ar gyfer offer, cyfarpar ac eitemau eraill i gynorthwyo cyfranogiad cymunedol yn y coetir
- rheoli clefyd gwywiad yr onnen, lle mae gwaith yn hanfodol ar gyfer diogelwch y cyhoedd. Dim ond rhan fach o brosiect mwy y dylai hwn fod ac os nad yw'n ofyniad cyfreithiol ar berchennog y tir i ymgymryd ag ef.
- cyflwyno'r prosiect (er enghraifft, cynllunio prosiect, caffael deunyddiau, rheolaeth ariannol y prosiect) nad yw’n fwy na 10% o’r elfen gyfalaf
- darpariaeth Gymraeg, megis costau cyfieithu
- costau hyrwyddo’r coetir i’r gymuned ehangach, megis argraffu taflenni
- llwybrau (dim ond os oes tystiolaeth glir bod angen mynediad ar y cyhoedd)
- ffyrdd (dim ond os oes tystiolaeth glir bod angen mynediad ar y cyhoedd)
- maes parcio (dim ond os oes tystiolaeth glir bod angen mynediad ar y cyhoedd)
Ar gyfer llwybrau, ffyrdd a meysydd parcio, bydd angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth eu bod wedi ystyried opsiynau eraill ar gyfer mynediad cyhoeddus i'r coetir yn gyntaf, megis cerdded, beicio a chludiant cyhoeddus. Rhaid i chi eu diystyru gan roi rhesymau priodol. Bydd cael tystiolaeth ategol gan gymunedau/grwpiau lleol o'u hangen am y gwaith hwn yn helpu gyda'ch cais.
Costau refeniw
Gellir dosbarthu hyd at 25% o werth eich grant fel arian refeniw. Gall arian refeniw helpu gyda chost gyffredinol rhedeg y prosiect. Mae hyn yn cynnwys costau sy'n ymwneud â phobl a chymunedau yn cyflwyno'r prosiect.
Gellir defnyddio arian refeniw ar gyfer:
- Gwasanaethau cyngor/ymgynghoriaeth arbenigol. Er enghraifft, ar gyfer paratoi Cynllun Rheoli Coedwig hirdymor dros 15-20 mlynedd.
- Digwyddiadau i hyrwyddo'r cynllun coetir i'r gymuned ehangach, a dathlu cyflawniadau'r gymuned
- Oriau ychwanegol ar gyfer cydlynydd gwirfoddolwyr presennol i recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr i gymryd rhan yn y gwaith o gyflwyno'r coetir
- Arfer da a threuliau gwirfoddoli (yn unol ag Arweiniad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru)
- Gweithgarwch hyrwyddo'r prosiect
- Adennill costau llawn (ar gyfer sefydliadau yn y sector gwirfoddol yn unig)
Costau anghymwys
Mae'r eitemau canlynol yn enghreifftiau o gostau nad ydynt yn gymwys ar gyfer TWIG. Noder nad rhestr derfynol mo hon ac y bydd pob eitem o wariant yn cael ei hystyried ar sail yr achos unigol:
- prynu tir
- cost lesio tir
- prynu adeiladau
- prosiectau sy'n ymwneud â dileu/rheoli gwywiad yr onnen yn unig
- ailstocio coed ar safle lle mae coed wedi cael eu cwympo
- gwaith yr ydych yn gyfreithiol gyfrifol am ymgymryd ag ef
- unrhyw waith ffisegol a wneir ar y safle cyn i'r prosiect awdurdodedig ddechrau
- prynu cerbydau
- eich costau llafur ac offer eich hun (ac eithrio trwy Adennill Costau Llawn)
- prynu peiriannau ac offer ar raddfa ganolig/fawr. Fodd bynnag, gellir contractio i mewn unrhyw waith sydd angen offer canolig/mwy a/neu sgiliau arbenigol (h.y. ddim at ddefnydd gwirfoddolwyr lleol) a'i ariannu drwy'r cynllun hwn.
- cyfarpar swyddfa a dodrefn gyffredinol
Rhaid i chi lawrlwytho a chwblhau ein templed costau a chyflwyno hwn gyda'ch cais.
5. Terfynau amser ymgeisio a dyddiadau allweddol
Mae'r Ymholiad Prosiect yn gam gorfodol cyn symud ymlaen at gais TWIG (rownd 6) llawn.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch i benderfynu p'un a fyddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn ai beidio. Nid yw gwahoddiad i wneud cais yn gwarantu grant gennym yn y dyfodol, ond mae'n nodi ein bod yn gweld potensial yn eich cynigion cychwynnol.
- Terfyn amser yr Ymholiad Prosiect: 12 hanner dydd ar 27 Mai 2025
- Terfyn amser ymgeisio: 12 hanner dydd ar 19 Awst 2025
- Bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud: tua diwedd mis Hydref 2025
- Dyddiad cwblhau eich prosiect: 31 Rhagfyr 2027
6. Camau i'w cymryd cyn i chi wneud cais
Dylai pob ymgeisydd gysylltu â Swyddog Cyswllt Coetir eu rhanbarth am gyngor oherwydd bod prosiectau'n cael eu hariannu drwy rhaglen y Goedwig Genedlaethol ac felly mae'n rhaid iddynt fodloni deilliannau'r Goedwig Genedlaethol i Gymru. Rhaid i chi hefyd ddod o hyd i'r caniatadau angenrheidiol gan yr awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), neu gyrff eraill – fel Cadw – cyn cyflwyno cais.
Os nad oes gennych eich holl ganiatadau yn eu lle, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi gwneud cais am y caniatadau perthnasol.
Dim ond ar ôl i bob caniatâd gael ei roi y caiff ariannu ei ryddhau, a gellir diddymu grantiau os na dderbynnir y rhain o fewn chwe mis ar ôl ddyfarnu'r grant.
Ehangu Coetiroedd
Rydym yn eich annog i blannu coed risg isel, ar raddfa fach o hyd at 2 hectar fel rhan o’ch prosiect. Dylech ystyried arweiniad Safon Coedwigaeth y DU a Map Cyfleoedd Coetir 2025 i nodi ardaloedd sensitifrwydd isel y gallech eu cynnwys yn eich cais TWIG ar gyfer plannu coed rhwng 0.1 a 2 hectar.
Noder bod y map hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Grant Creu Coetir Grantiau Bach Llywodraeth Cymru, nid oes angen i chi wneud cais ar wahân i'r Grant Creu Coetiroedd Grantiau Bach i ariannu rhwng 0.1 a 2 hectar o blannu, oherwydd y gallwch gynnwys hyn yn eich cais TWIG.
Bydd angen i bob prosiect sy'n ymwneud â chreu coetir o fwy na dau hectar, neu lai na 2 hectar ond ddim mewn ardal sensitifrwydd isel, wneud cais i Gynllun Cynllunio Creu Coetir Llywodraeth Cymru cyn gwneud cais am arian grant TWIG.
Mae’r cynllun yn cynnig grantiau rhwng £1,000 a £5,000 i ddatblygu cynlluniau i greu coetir newydd, y gellir eu defnyddio i wneud cais am hyd at bum mlynedd o ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Cynlluniau Rheoli Coetir
Bydd angen Cynllun Rheoli Coetir (CRhC) ar bob prosiect cyn cwblhau'r prosiect, sy’n sicrhau bod:
- coetiroedd yn cael eu rheoli'n unol ag egwyddorion Safon Coedwigaeth y DU
- coetiroedd yn dangos bod meini prawf hanfodol y Goedwig Genedlaethol yn cael eu cyflawni, sef 'coetiroedd cydnerth o ansawdd da, sydd wedi'u dylunio a'u rheoli'n dda’
Os oes gennych Gynllun Rheoli Coetir yn barod, dylech gyflwyno hwn fel rhan o'ch cais.
Os nad oes gennych Gynllun Rheoli Coetir yn barod, dylech gynnwys y costau i ddatblygu un yn eich cais. Bydd angen i chi anfon hwn atom cyn i'r prosiect ddod i ben.
Asesiadau o'r effaith amgylcheddol
Cyn i chi wneud cais, rhaid i chi ystyried a oes angen asesiad o effaith amgylcheddol (AEA) ar gyfer eich cynigion. Dangoswch eich bod wedi gwirio'r meini prawf perthnasol ac nad yw'r cynigion yn dod o fewn y mathau penodedig hynny sy'n ofynnol ar gyfer AEA. Os oes angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, dywedwch wrthym beth yw’r canlyniad neu rhowch dystiolaeth eich bod o leiaf wedi gwneud cais am un.
Os nad oes angen asesiadau o'r effaith amgylcheddol ar gyfer eich prosiect, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o hyn.
7. Sut y byddwn yn asesu'ch cais
Pan fyddwn yn asesu'ch cais byddwn yn ystod i ba raddau y mae eich prosiect yn bodloni deilliannau'r Goedwig Genedlaethol, fel yr amlinellir isod. Rhaid i chi fodloni'r 3 deilliant hanfodol fel lleiafswm.
Deilliannau'r Goedwig Genedlaethol
1. Coetiroedd cydnerth o ansawdd da, sydd wedi’u dylunio a’u rheoli’n dda (hanfodol)
Mae Safon Coedwigaeth y DU (UKFS) yn diffinio'r dull o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy. Mae eu harweiniad yn berthnasol i bob coetir.
Ewch i wefan CNC am ragor o wybodaeth a chyngor ar reoli a gwella coetiroedd:
2. Coetiroedd sy'n hygyrch i bobl (hanfodol)
Rhaid i'ch prosiect wella ansawdd coetiroedd presennol. Bydd angen cynlluniau rheoli hirdymor arnoch i wneud y coetiroedd yn fwy croesawgar, hygyrch a deniadol i ddarpar ymwelwyr. Gellir defnyddio'r ariannu i greu llwybrau troed hygyrch ac arwyddion.
3. Cyfranogiad cymunedol mewn coetiroedd (hanfodol)
Rhaid bod gan eich prosiect fewnbwn sylweddol gan bobl leol a rhaid i chi ddweud wrthym sut rydych yn bwriadu gwneud hyn.
Bydd cyfranogiad cymunedol yn helpu annog pobl i ddefnyddio coetiroedd drwy ddarparu llwybrau troed, llwybrau natur ac ati. Gallai cyfranogiad cymunedol hefyd gynnwys:
- gweithgareddau i gynnwys pobl yn y gwaith o adfer a chreu coetiroedd
- cyfleoedd economaidd ar gyfer menter leol
- arloesi a datblygu
- gweithgareddau addysgol
- rheoli'r coetiroedd trwy sefydlu grwpiau gwirfoddol, grwpiau ysgol neu fentrau newydd
- sgiliau a hyfforddiant
4. Coetiroedd cysylltiedig (hynod ddymunol)
Mae cysylltedd mewn safleoedd Coedwig Genedlaethol i Gymru yn golygu gwella ardaloedd coetir presennol a chreu rhai newydd, ac ar yr un pryd ystyried sut y maent yn cysylltu â safleoedd coetir eraill a sut y gallai hyn fod o fudd i gydnerthedd ecosystemau.
Mae’r deilliant hwn yn ymwneud yn bennaf â chysylltu coetiroedd er mwyn cefnogi natur ond gallai hefyd gynnwys gwaith i gysylltu coetiroedd â phobl, er enghraifft:
- cysylltiadau emosiynol â choetiroedd trwy helpu pobl i gymryd diddordeb gwirioneddol yn eu hamgylchedd naturiol
- cysylltiadau ffisegol rhwng coetiroedd, neu â ble mae pobl yn byw, ar lwybrau troed, llwybrau beicio neu gludiant cyhoeddus
5. Coetiroedd a choed deinamig, amlbwrpas (hynod ddymunol)
Dylai coetiroedd fod yn safleoedd amlbwrpas, sydd o fudd i bobl, byd natur a’r amgylchedd ehangach.
Fel rhan o'ch cais, mae'n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth bod y safle'n cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd amrywiol, neu fod gwaith yn cael ei wneud tuag at hyn. Gallech gynnwys rhywfaint neu'r cyfan o’r canlynol:
- hamdden
- twristiaeth
- cyfleoedd addysgol/dysgu
- mentrau lleol bach a chanolig eu maint
- cynaeafu pren masnachol ar raddfa fawr, gan gyflenwi mwy o bren a dyfwyd yn y wlad hon
- cefnogi bioamrywiaeth
Cydnabyddwn na fydd pob safle yn briodol ar gyfer gwahanol ddefnyddiau, ac efallai y byddant yn canolbwyntio yn hytrach ar wneud rhai o’r pethau hyn yn dda iawn.
6. Coetiroedd sy'n dangos dysgu, ymchwil ac arloesi (hynod ddymunol)
Dylai coetiroedd y Goedwig Genedlaethol ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda choetiroedd amlbwrpas. Gallai hyn gynnwys:
- dysgu ac adeiladu ar waith eraill
- profi dulliau gweithio newydd
- rhannu arloesedd, ymchwil a dysgu ag eraill
Gall y dystiolaeth a ddarperir ar gyfer y deilliant hwn fod yn eang. Gall enghreifftiau gynnwys arddangos ffyrdd newydd a gwahanol o:
- ddarparu coetiroedd amlbwrpas
- cynnwys cymunedau lleol wrth ddatblygu a rheoli'r coetiroedd
- gweithredu i gefnogi bioamrywiaeth
- darparu gwasanaethau ecosystem amgylcheddol, megis ansawdd aer a dŵr, amddiffyn rhag llifogydd a sychder
- sicrhau cydnerthedd i newid hinsawdd yn y dyfodol
- darparu cyfleoedd addysgol, megis ysgolion coedwig
Darllen mwy am y Goedwig Genedlaethol i Gymru.
Ewch i'n tudalen Cwestiynau Ymgeisio: TWIG (rownd 6) am fanylion llawn a gallwch lawrlwytho a chwblhau'r templedi angenrheidiol yma fel rhan o'ch cais.
Meini prawf cydbwyso
Os byddwn yn derbyn mwy o geisiadau o ansawdd da nag y gallwn eu hariannu, byddwn yn blaenoriaethu prosiectau a fydd yn:
- cynrychioli lledaeniad daearyddol ar draws Cymru ac ar draws yr holl rowndiau ariannu TWIG blaenorol
- darparu cymysgedd cytbwys o sefydliadau arweiniol
Ystyried risg
Wrth asesu'ch cais, byddwn yn gwneud dyfarniad pwyllog ar y risgiau posibl i’ch prosiect a’ch risgiau sefydliadol presennol – ac yn edrych i weld a ydych wedi nodi’r rhain a dweud wrthym sut y byddwch yn lliniaru yn eu herbyn.
Bydd pob prosiect yn wynebu bygythiadau a chyfleoedd y bydd angen i chi eu nodi a'u rheoli. Rydym am i chi fod yn realistig ynghylch y risgiau y gallai eich prosiect a'ch sefydliad eu hwynebu fel eich bod mewn sefyllfa dda i reoli a chyflwyno'r prosiect yn llwyddiannus.
Dylech hefyd ystyried chwyddiant a chostau wrth gefn yn ofalus yn eich cais.
Mae chwyddiant ar gyfer prosiectau adeiladu'n debygol o barhau'n uchel hyd y gellir rhagweld. Dylech ddarparu ar gyfer chwyddiant yn seiliedig ar amserlen y prosiect, ynghyd â ffactorau eraill fel y deunyddiau a ddefnyddir, gofynion o ran llafur a lleoliad.
Gallwch gyrchu dadansoddiadau a rhagamcaniadau ar gyfer costau chwyddiant o ffynonellau megis Building Cost Information Service ac ymgynghoriaethau gan gynnwys Gardiner & Theobold Market Intelligence, Turner & Townsend a Rider Levett Bucknall.
Y mathau o risgiau a phroblemau y dylech eu hystyried yw:
- ariannol: er enghraifft, gostyngiad yn y cyfraniad o ffynhonnell ariannu arall
- sefydliadol: er enghraifft, prinder pobl â'r sgiliau sydd eu hangen arnoch neu staff sy'n gorfod gweithio ar brosiectau eraill
- economaidd: er enghraifft, cynnydd annisgwyl yng nghost deunyddiau
- technegol: er enghraifft, darganfod lleithder annisgwyl ac eang
- cymdeithasol: er enghraifft, ymatebion negyddol i ymgynghori neu ddiffyg diddordeb gan eich cynulleidfa darged
- rheoli: er enghraifft, newid arwyddocaol yn nhîm y prosiect
- cyfreithiol: er enghraifft, rheoli cymhorthdal, neu newidiadau yn y gyfraith sy'n golygu nad yw'r prosiect yn ymarferol
- amgylcheddol: er enghraifft, anawsterau wrth ddod o hyd i ffynonellau pren o goedwigoedd a reolir yn dda
8. Sut i wneud cais
Rhaid i chi gyflwyno Ymholiad Prosiect ar gyfer eich prosiect TWIG. Cyfeiriwch at ein nodiadau cymorth Ymholiad Prosiect am ragor o wybodaeth ar sut i gwblhau eich ffurflen.
12 hanner dydd ar 27 Mai 2025 yw'r terfyn amser ar gyfer Ymholiadau Prosiect. I gyflwyno eich Ymholiad Prosiect, ewch i'n porth ymgeisio a chofrestrwch gyfrif (neu fewngofnodwch os ydych wedi gwneud cais o'r blaen)
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch i benderfynu p'un a fyddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn ai beidio. Nid yw gwahoddiad i wneud cais yn gwarantu grant gennym yn y dyfodol, ond mae'n nodi ein bod yn gweld potensial yn eich cynigion cychwynnol.
Os bydd eich Ymholiad Prosiect yn llwyddiannus rhaid i chi gyflwyno eich cais llawn erbyn 12 hanner dydd ar 19 Awst 2025. Gallwch ddefnyddio'r rhestr wirio hon i sicrhau eich bod yn barod i wneud cais:
- Rwyf wedi darllen yr arweiniad ymgeisio TWIG a'r nodiadau cymorth ymgeisio TWIG
- Rwyf wedi ddarllen y telerau ac amodau ar gyfer y rhaglen hon
- Rwyf wedi llunio cyllideb ar gyfer y prosiect a gwirio fy nghostiadau
- Rwyf wedi paratoi'r holl ddogfennau ategol gorfodol gan gynnwys cynllun prosiect, cofrestr risgiau a chyfrifon fy sefydliad
- Gallaf fodloni’r gofyniad perchnogaeth ar gyfer unrhyw dir yr wyf yn gweithio arno
- Mae gennyf unrhyw ganiatadau sydd eu hangen arnaf, er enghraifft trwydded ystlumod neu ganiatâd cynllunio
- Rwyf wedi cynllunio sut i werthuso fy mhrosiect
- Rwyf wedi cynllunio sut i gydnabod fy ngrant
Rydych nawr yn barod i symud ymlaen i wneud cais trwy ein gwasanaeth ar-lein. Noder nad oes Ffurflen Gais benodol ar gyfer TWIG. Bydd angen i chi ddilyn nodiadau cymorth ein Cwestiynau ymgeisio: TWIG (rownd 6) wrth gwblhau eich ffurflen gais.
Dilynwch y camau isod:
- ewch i'n porth ymgeisio a mewngofnodwch i'ch cyfrif
- o'r gwymplen, dewiswch £10,000 i £250,000
9. Dogfennau ategol
Bydd angen i chi ddarparu'r dogfennau ategol perthnasol a restrir isod fel rhan o'r broses ymgeisio. Ewch i'n tudalen Cwestiynau Ymgeisio: TWIG (rownd 6) am fanylion llawn. Gallwch lawrlwytho'r templedi angenrheidiol yma fel rhan o'ch cais.
Rhaid i chi ddarparu'r dogfennau gorfodol a ganlyn:
- dogfen lywodraethu (oni bai eich bod wedi’ch eithrio)
- gwybodaeth cyfrifon
- cynllun prosiect, gan gynnwys rhestr wirio caniatadau, cofrestr risgiau a rhestr wirio mesur llwyddiant
- templed costau
- dogfennau perchnogaeth tir (Cofrestrfa Tir, neu les neu Benawdau Telerau)
- map o'r safle
- tystiolaeth o ymgeisio am ganiatadau
Yn ychwanegol at y dogfennau gorfodol, gallwch gynnwys y dogfennau canlynol lle bo’n berthnasol hefyd:
- Cynllun Rheoli Coetir (gorfodol os yw eisoes yn bodoli)
- cytundeb partneriaeth (gorfodol os ydych yn gweithio mewn partneriaeth)
- disgrifiadau swydd (gorfodol os ydych yn creu swyddi neu brentisiaethau newydd fel rhan o’ch prosiect)
- briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir (os yn berthnasol)
- cyfrifiadau Adennill Costau Llawn (os yn berthnasol)
- tystiolaeth o gefnogaeth, megis llythyrau, e-byst neu fideos cefnogol (dewisol)
- delweddau o'r wefan (dewisol)
10. Beth sy'n digwydd ar ôl eich prosiect?
Cynlluniau cynnal a chadw parhaus
Os ydych yn plannu coed, gellir cynnwys un taliad ar gyfer hyd at 3 blynedd o gynnal a chadw ar ôl cwblhau'r prosiect yn eich cais am grant. Mae taliadau cynnal a chadw ar gyfradd sefydlog fel a ganlyn:
Blwyddyn 1: £400 yr hectar o blannu newydd
Blwyddyn 2: £300 yr hectar
Blwyddyn 3: £250 yr hectar
I hawlio'r arian hwn, mae'n ofynnol i chi gyflwyno Cynllun Rheoli Coetir manwl ar gyfer y safle ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau am o leiaf 5 mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect. Bydd angen llythyr arnoch hefyd sy'n cadarnhau bod y Taliadau Cynnal a Chadw wedi’u gosod o’r neilltu ar gyfer y cyfnod tair blynedd dilynol, sut y caiff yr arian hwn ei wario, ac yn cadarnhau’r swm a glustnodir ar gyfer y gwaith hwn.
Gallwch ddarllen mwy am Daliadau Cynnal a Chadw yn ein Harweiniad derbyn eich grant: TWIG £10,000 - £250,000 arweiniad.
Statws Coedwig Genedlaethol
Os ydych yn llwyddo i gael arian TWIG, rhaid i chi wneud cais am Statws Coedwig Genedlaethol erbyn diwedd y Grant.
11. Gofynion cyfreithiol a pholisi
Perchnogaeth
Rydym yn disgwyl i chi fod yn berchennog ar unrhyw dir yr ydych yn gwario’r grant arno neu fod gennych brydles sy’n bodloni ein gofynion ac yn darparu tystiolaeth o berchnogaeth, gan gynnwys copi swyddfa diweddar gan y Gofrestrfa Tir yn dangos mai chi sy’n berchen ar y tir (neu ar gyfer tir nad yw'n gofrestredig, y gweithredoedd perthnasol). Dylid atodi'r rhain i'ch cais.
Rhaid i chi fod yn berchennog ar y rhydd-ddaliad neu feddu ar les gydag o leiaf bum mlynedd yn weddill arni ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect.
Dyddiad Cwblhau'r Prosiect yw'r dyddiad pan fyddwn yn eich hysbysu y rhoddwyd cofnod wedi'i gwblhau i'r Prosiect.
Rhaid i bob les fodloni'r gofynion canlynol:
- nid ydym yn derbyn lesau sydd â chymalau torri (mae’r rhain yn rhoi’r hawl i un neu fwy o bartïon y les ddod â’r les i ben o dan rai amgylchiadau)
- nid ydym yn derbyn lesau sydd â fforffediad ar gymalau ansolfedd (mae’r rhain yn rhoi’r hawl i’r landlord ddod â'r les i ben os bydd y tenant yn mynd yn fethdalwr)
- rhaid i chi fedru gwerthu, is-osod neu forgeisio'r cyfan neu ran o’ch les, ond os byddwn yn dyfarnu grant i chi, rhaid i chi gael caniatâd gennym yn gyntaf i wneud unrhyw un o’r rhain
Os mai'r tir y mae eich prosiect yn gysylltiedig ag ef yn eiddo i drydydd parti neu drydydd partïon lluosog, byddwn fel arfer yn disgwyl i'r perchennog ddod yn grantï ar y cyd. Mewn rhai sefyllfaoedd, yn hytrach na gwneud y perchennog yn grantï ar y cyd, efallai y byddwn yn gofyn iddynt lofnodi llythyr ychwanegol yn cytuno i gydymffurfio ag unrhyw delerau ac amodau sy’n ymwneud â’u heiddo.
Yn yr achos hwn, dylid rhoi cytundeb cyfreithiol ar waith hefyd rhwng pob perchennog tir a'r grantï. Nid oes ffurf ragnodedig ar gytundeb, ond mae gennym ofynion penodol y dylid eu cynnwys mewn unrhyw gytundeb perchennog trydydd parti.
Fel lleiafswm, dylai’r cytundebau gynnwys y canlynol:
- cadarnhad ynghylch sut mae’r tir wedi'i ddal (rhydd-ddaliad neu ar brydles)
- disgrifiad o'r eiddo (gan gynnwys cynlluniau)
- cyfamodau ar ran y perchennog i gynnal a chadw’r eiddo a darparu mynediad cyhoeddus yn unol â thelerau’r grant (fel y bo’n berthnasol)
- darpariaeth y dylai unrhyw warediad ymlaen fod yn ddarostyngedig i'r cytundeb trydydd parti
- cadarnhad y bydd y cytundeb yn para o ddechrau’r gwaith ar dir y trydydd parti tan bum mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect
Bydd angen cwblhau'r cytundebau a'u rhoi ar waith cyn rhyddhau unrhyw arian grant ar gyfer gwaith ar unrhyw dir sy'n eiddo i drydydd parti.
Gwaith digidol
Mae gennym ofynion penodol ar gyfer gwaith digidol a gynhyrchir fel rhan o unrhyw brosiect.
Mae hyn yn ymdrin ag unrhyw beth yn eich prosiect rydych yn ei greu mewn fformat digidol sydd wedi'u dylunio i roi mynediad i dreftadaeth a/neu helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth a dysgu amdani.
Er enghraifft, gallai hyn gynnwys ffotograffau, testun, meddalwedd, cynnwys gwe ac apiau, cronfeydd data, modelau 3D, recordiadau sain a fideo. Nid yw eitemau a grëir wrth reoli'r prosiect, er enghraifft e-byst rhwng aelodau tîm a chofnodion cyfarfodydd, wedi'u cynnwys yn y gofyniad.
Gofynnwn i chi rannu eich allbynnau digidol o dan drwydded agored. Ein trwydded agored ddiofyn yw CC-BY 4.0. Mae hyn yn helpu dileu rhwystrau i ddefnyddio ac ailddefnyddio gwaith a ariennir, gan alluogi gwell ymgysylltiad â threftadaeth y DU. Mae hefyd yn helpu sicrhau bod eraill yn rhoi credyd priodol i'ch gwaith.
Mae ein rheoliadau ynghylch gwaith digidol yn amrywio gan ddibynnu ar faint y grant.
Gallwch ddarllen arweiniad pellach ar gynhyrchu deunyddiau digidol fel rhan o brosiect.
Caffael
Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau caffael. Fel trosolwg, dylai prosiectau ag unrhyw nwyddau, gwaith neu wasanaethau unigol sy’n werth mwy na £10,000 (ac eithrio TAW), geisio o leiaf dri thendr/dyfynbris cystadleuol. Ar gyfer yr holl nwyddau, gwaith a gwasanaethau sy'n werth mwy na £50,000 (ac eithrio TAW), rhaid i chi ddarparu prawf o weithdrefnau tendro cystadleuol.
Dylai eich prawf fod yn adroddiad ar y tendrau yr ydych wedi'u derbyn, ynghyd â'ch penderfyniad ar ba un i'w dderbyn. Rhaid i chi roi rhesymau llawn os na fyddwch yn dewis y tendr isaf. Gan ddibynnu ar natur eich sefydliad a’ch prosiect, mae'n bosibl y bydd gofyn i chi gydymffurfio â Deddfwriaeth Caffael y DU.
Os yw partner yn y prosiect yn darparu nwyddau neu wasanaethau y telir amdanynt drwy'r grant, mae angen i chi ddweud wrthym pam y cawsant eu dewis a pham nad yw proses dendro agored yn briodol. Byddwn yn ystyried ai dyma’r ffordd orau o gyflawni eich prosiect ac yn disgwyl i chi ddangos gwerth am arian a bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol.
Os ydych yn ansicr ynghylch eich rhwymedigaethau, rydym yn eich cynghori i geisio cyngor proffesiynol neu gyfreithiol. Os ydych eisoes wedi caffael nwyddau, gwaith neu wasanaethau gwerth mwy na £10,000 (ac eithrio TAW) ar gyfer eich prosiect, bydd angen i chi ddweud wrthym sut y gwnaethoch chi hynny. Ni allwn dalu eich grant os nad ydych wedi dilyn y drefn gywir.
Recriwtio staff
Rhaid hefyd i chi hysbysebu'n agored yr holl swyddi staff ar gyfer y prosiect, gyda'r eithriadau a ganlyn:
- Mae gennych aelod staff â chymwysterau addas ar eich cyflogres yr ydych yn ei symud i swydd ar y prosiect.
- Rydych yn ymestyn oriau aelod staff â chymwysterau addas ar eich cyflogres fel y gall weithio ar y prosiect. Yn yr achos hwn byddwn yn ariannu cost yr oriau ychwanegol sy'n cael eu treulio ar y prosiect a bydd angen i chi ddweud wrthym beth yw eu rôl.
Yn yr achosion hyn, mae angen o hyd i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer y swydd sy'n esbonio'r gwaith y bydd yr aelod staff a benodir yn ei wneud yng nghyd-destun eich prosiect.
Rydym wedi'n hymrwymo i sicrhau bod y sector treftadaeth yn gynhwysol ac yn gynaliadwy. Fel lleiafswm mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r gyfradd Cyflog Byw ar gyfer holl staff y prosiect. Gofynnir i chi ddangos tystiolaeth o gyllidebu ar gyfer y cyfraddau Cyflog Byw fel lleiafswm yn eich costau staff a'ch cyllidebau.
Rhaid i weithdrefnau recriwtio ymgynghorwyr a chontractwyr fod yn deg ac yn agored a glynu wrth y ddeddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol.
Rheoli cymhorthdal
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n bwysig cofio bod ein grant yn dod o arian cyhoeddus a'i fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022. Gofynnwn i chi ymgyfarwyddo â'r gofynion allweddol.
Ceir cymhorthdal pan fydd awdurdod cyhoeddus yn darparu cymorth ariannol o arian cyhoeddus sy’n rhoi mantais economaidd i’r derbynnydd, lle na ellid dod o hyd i gymorth cyfatebol ar delerau'r farchnad. Bydd y rhan fwyaf o’n grantiau naill ai heb fod yn gymhorthdal neu’n gymhorthdal cyfreithlon sy’n bodloni gofynion Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022.
Fel corff cyhoeddus, ein cyfrifoldeb ni yw penderfynu’n derfynol a yw eich grant yn gymhorthdal a/neu gymhwyso eithriadau perthnasol fel y bo angen ac mae ein hasesiad rheoli cymhorthdal yn rhan bwysig o’r broses ymgeisio. Wrth baratoi eich cais dylech ystyried a yw unrhyw eithriad rheoli cymhorthdal penodol yn ofynnol ar gyfer eich prosiect. Byddwn yn disgwyl i'ch grant gydymffurfio ag egwyddorion y gyfundrefn rheoli cymhorthdal gan gynnwys y Ddeddf a'r Arweiniad Statudol a gyhoeddwyd. Os ydych yn ansicr a fydd eich prosiect yn bodloni'r gofynion perthnasol dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.
Rydym yn cadw'r hawl i bennu gofynion pellach a cheisio gwybodaeth bellach yn hyn o beth a byddwn yn disgwyl i chi ddarparu unrhyw gymorth y gallwn fod ei angen yn rhesymol i gwblhau asesiad rheoli cymhorthdal.
Gwywiad yr onnen ac ail-stocio
Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau am brosiectau i ddileu neu reoli gwywiad yr onnen yn unig.
Gellir ystyried prosiectau sydd ag elfen fach o wywiad yr onnen – fel rhan o brosiect ehangach i adfer a gwella byd natur. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth sy'n dangos budd i fioamrywiaeth a chreu ecosystemau cydnerth.
Nid yw ailstocio coed ar safle sydd wedi'i gwympo'n gymwys i dderbyn arian TWIG. Mae ailstocio'n ofyniad cyfreithiol mewn trwyddedau cwympo coed ac ni ellir ei ariannu drwy'r cynllun hwn. Fodd bynnag, gallai TWIG ariannu rhannau eraill y prosiect, fel llwybrau troed, arwyddion a seddi.
12. Rheoli eich data
Y Gronfa Treftadaeth a Llywodraeth Cymru fydd y cyd-reolwyr data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperwch mewn perthynas â’ch cais am grant neu gais am arian grant. Byddwn yn ei brosesu'n unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio ynom i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio hunaniaeth.
Bydd eich data personol a data sy'n gysylltiedig â'r grant yn cael eu rhannu â rheolydd data arall, Llywodraeth Cymru, ac unrhyw gontractwr a benodir gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad allanol o’r Rhaglen Coedwig Genedlaethol I adolygu effaith, perfformiad a chostau'r cynllun. Byddwch yn cael eich hysbysu pan fydd gwerthusiad allanol yn cael ei gynnal a byddwch yn cael cyfle i optio allan.
I ddysgu mwy am sut y caiff eich data ei brosesu o dan y rhaglen grant hon, gweler ein polisi preifatrwydd.
13. Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn am TWIG, cysylltwch â natur@heritagefund.org.uk.
Rydym yn deall efallai y bydd penderfyniad yn peri siom i chi.
Nid oes hawl i apelio gyda TWIG. Ni allwn ond adolygu ein penderfyniad os byddwch yn gwneud cwyn ffurfiol am sut yr ydym wedi ymdrin â'ch cais. Mae gennym broses gwynion dau gam ar gyfer y rhaglen hon.
Ni fyddwn ond yn gallu ystyried ac ymchwilio i’r gŵyn os gallwch ddangos y canlynol:
- ni fu i ni ddilyn y gweithdrefnau cyhoeddedig ar gyfer asesu eich cais
- rydym wedi camddeall rhan sylweddol o'ch cais
- ni fu i ni gymryd gwybodaeth berthnasol i ystyriaeth
Rhaid gwneud cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y penderfyniad ar eich cais. Rhaid i chi anfon eich cwyn at: enquire@heritagefund.org.uk.
Anelwn at gydnabod eich cwyn o fewn tri diwrnod gwaith.
Bydd eich cwyn yn cael ei hadolygu yn y lle cyntaf gan un o'n Cyfarwyddwyr Ardal a Gwlad, sy’n annibynnol ar y paneli argymell a phenderfynu ar gyfer y gronfa hon.
Anelwn at gyfathrebu penderfyniad o fewn 15 diwrnod gwaith o'r adeg y gwnaethoch gyflwyno'ch cwyn.
I gael cymorth, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 020 7591 6044 neu gyrrwch e-bost enquire@heritagefund.org.uk.
14. Diweddariadau i'r arweiniad
Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.