Defnyddio deallusrwydd artiffisial yn eich cais am ariannu
Ein safbwynt ar AI
Gallwch ddefnyddio offer AI i helpu cwblhau eich Ymholiad Prosiect, Mynegiad o Ddiddordeb a’ch cais. Byddwn ni ddim yn gwrthod cais oherwydd i AI gael ei ddefnyddio.
Rydym yn deall y gall AI eich cynorthwyo i ddatblygu ceisiadau am ariannu, yn enwedig os nad oes gennych lawer o brofiad o wneud cais am grantiau neu os oes gennych anghenion hygyrchedd. Mae llawer o sefydliadau'n gweld bod defnyddio AI yn eu helpu i ysgrifennu ceisiadau'n gyflymach a gyda llai o ymdrech.
Ein hargymhellion ar gyfer defnyddio AI
Defnyddiwch AI yn ofalus
Gall AI fod yn fan cychwyn defnyddiol ond nid yw'n gallu adrodd stori unigryw y prosiect treftadaeth rydych am i ni ei ariannu ac efallai y bydd yn cynnwys cynlluniau nad ydynt yn ymarferol nac yn addas i'ch gofynion. Mae'r cynigion yn eich cais yn llywio ein proses gwneud penderfyniadau ac maent yn rhan o'ch contract gyda ni. Gallai cynnig gweithgaredd na allwch ei gyflwyno olygu eich bod yn torri'ch contract.
Gall ceisiadau a gynhyrchir gan AI gynnwys gwybodaeth anghywir hefyd. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau nad yw eich cais yn gamarweiniol nac yn anghywir.
Dywedwch wrthym yn glir am y dreftadaeth yr hoffech i ni ei chefnogi
Yn aml, mae offer AI yn cynhyrchu cynnwys generig neu'n defnyddio brieiriau nad ydynt yn cyfleu pam fod y dreftadaeth rydych chi eisiau i ni ei chefnogi yn bwysig i chi a'r bobl a allai gael mynediad ati. Rhaid i'ch cais ddweud wrthym yn glir:
- pa dreftadaeth y bydd eich prosiect yn canolbwyntio arni (gweler ein harweiniad ar yr hyn yr ydym yn ei ariannu)
- pam fod y dreftadaeth yn bwysig (gweler ein tudalen deall eich treftadaeth)
- pam fod eich prosiect yn bwysig drwy gynnwys unrhyw adborth ymgynghori neu ymchwil rydych wedi'i wneud i gefnogi eich cynlluniau
Byddwch yn benodol a darparwch y dystiolaeth yr ydym yn gofyn amdani yn ein harweiniad ymgeisio
Mae ceisiadau sy'n darparu gwybodaeth glir a manwl yn ei gwneud hi'n haws i'n haseswyr ddeall eich cynigion. Os ydych chi'n defnyddio teclyn AI i ysgrifennu eich cais, gwiriwch fod y fersiwn derfynol yn dweud wrthym yn glir beth rydych eisiau ei wneud, pam, pryd, ble a phwy fydd yn rhan o hyn. Rhaid i chi hefyd ddisgrifio'r gwahaniaeth y bydd ein hariannu'n ei wneud i'r dreftadaeth a sut mae eich prosiect yn cymryd ein hegwyddorion buddsoddi i ystyriaeth.
Cynlluniwch a chostiwch eich cyllideb yn ofalus
Mae cyllideb eich prosiect yn rhan bwysig o'ch cais a'n proses asesu. Rydym yn cynghori peidio â defnyddio AI i gynhyrchu eich cyllideb, ond os byddwch yn gwneud hynny, gwiriwch y fersiwn derfynol yn ofalus i sicrhau:
- ei fod yn cyd-fynd â'ch gweithgareddau prosiect ac yn cefnogi eich nodau
- bod yr holl gostau'n gymwys
Risgiau wrth ddefnyddio AI
Mae'n bosibl nad yw eich data yn breifat
Gall offer AI, yn enwedig y rhai am ddim, storio'r data rydych yn ei fwydo i mewn. Gallai hyn gyfaddawdu cyfrinachedd. Cyn i chi fwydo unrhyw ddata i mewn i offer AI, gwiriwch bolisïau eich sefydliad a deddfwriaeth berthnasol megis Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) y DU mewn perthynas â data personol.
Rydym yn cynghori i beidio â rhoi unrhyw wybodaeth sy'n sensitif yn fasnachol neu'n bersonol i mewn i offer AI.
Mae gan AI effaith amgylcheddol
Mae offer AI yn defnyddio maint mawr o ynni a dŵr croyw i bweru'r canolfannau data. Awgryma amcangyfrifon fod ChatGPT yn defnyddio rhwng 50 a 90 gwaith yn fwy o ynni fesul ymholiad na chwiliad ar-lein arferol.
Defnyddiwch AI dim ond pryd y bydd yn amlwg yn eich helpu i wneud cais neu'n gwella ansawdd eich cais yn sylweddol.
Diweddariadau a chydnabyddiaeth
Mae'r datganiad hwn yn esbonio ein hymagwedd bresennol at y defnydd o offer AI gan ymgeiswyr. Efallai y byddwn yn diweddaru ein safbwynt a byddwn yn cadw'r dudalen hon yn gyfredol.
Hoffem gydnabod arweiniad AI Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer ceisiadau ariannu, sydd wedi llywio datblygiad y polisi hwn.