Deall eich treftadaeth

Deall eich treftadaeth

Trwy archwilio gwahanol agweddau ar dreftadaeth eich prosiect, byddwch yn deall yn well ei pwysigrwydd i le, pobl a chymunedau, gan eich helpu i baratoi eich cais am ariannu gennym.

Trwy ddeall yn llawn y dreftadaeth y mae eich prosiect yn ymwneud â hi byddwch yn gallu:

  • gwybod pam fod pobl yn gwerthfawrogi eich treftadaeth fel y gallwch wneud penderfyniadau sensitif a phriodol ynghylch sut i ofalu amdano yn y dyfodol
  • nodi'r potensial ar gyfer atebion creadigol a chynaliadwy i wella cyflwr y dreftadaeth
  • ymgysylltu'n well â'ch staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr
  • datgelu gwybodaeth, mewnwelediadau neu safbwyntiau newydd ar eich treftadaeth

Y ffordd orau i ddeall eich treftadaeth

Er mwyn deall eich treftadaeth, gallech ystyried y tri chwestiwn canlynol.

Beth yw ffocws treftadaeth eich prosiect?

Dechreuwch trwy ddisgrifio'r dreftadaeth.

Os yw eich prosiect yn ymwneud â threftadaeth ddiwylliannol anniriaethol (fel atgofion neu draddodiadau diwylliannol a llafar) dylech ddisgrifio'r wybodaeth am y pwnc a'r cyfnod amser y mae'n ei gwmpasu. Amlygwch os yw'r dreftadaeth mewn perygl o gael ei cholli mewn unrhyw ffordd. Mae gennym rywfaint o wybodaeth am dreftadaeth anniriaethol a allai fod yn ddefnyddiol i chi.  

Os yw eich prosiect yn ymwneud â threftadaeth ffisegol (fel adeilad, llong, gwrthrych neu gasgliad hanesyddol, neu warchodfa natur), nodwch wybodaeth ffeithiol amdani, megis ei maint, ei oedran, y nodweddion sydd wedi goroesi, ei chyflwr a pham y mae’n bwysig i’ch ardal leol.

Pam fod y dreftadaeth o bwys?

Ar ôl sefydlu'r ffeithiau dylech nawr feddwl pam yr ystyrir bod eich treftadaeth yn bwysig neu'n arwyddocaol.

Mae yna lawer o resymau pam fod pobl yn gwerthfawrogi treftadaeth ac eisiau ei gwarchod neu drosglwyddo traddodiadau i genedlaethau'r dyfodol. Ceisiwch farn gan amrywiaeth mor helaeth â phosibl o bobl.

Mae’r rhestr ganlynol o gwestiynau'n cynnig rhai ffyrdd o feddwl am yr hyn sy’n gwneud eich treftadaeth yn arbennig i bobl ond nid yw’n hollgynhwysol:

  • Pam fod y dreftadaeth yn bwysig i hanes? A yw'n gysylltiedig â phobl a digwyddiadau pwysig?
  • Sut mae'r dreftadaeth yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o'r gorffennol? Beth mae'n ei ddweud wrthym am bobl a chymdeithas?
  • Beth yw rhinweddau artistig neu esthetig y dreftadaeth?
  • Os oes ganddi leoliad ffisegol, sut mae'n cyfrannu at neu'n ategu'r amgylchedd ehangach? A yw'n dirnod?  
  • A yw'r dreftadaeth o bwysigrwydd technegol – a yw'n dweud wrthym am arloesi? Ai dyma'r cyntaf o'i bath?
  • A yw'r dreftadaeth yn bwysig i wyddoniaeth, er enghraifft oherwydd ei bywyd gwyllt, daeareg, bioamrywiaeth neu ecoleg?
  • A yw'r deunyddiau y mae wedi'i gwneud ohonynt yn bwysig? A yw'n dangos sgil crefft arbennig yn dda?  
  • Sut mae'n cymharu â threftadaeth arall o'i bath? A yw'n enghraifft brin neu unigryw neu'r gorau o'i bath?
  • A yw'r dreftadaeth wedi cael sylw mewn ffilmiau, paentiadau neu mewn llenyddiaeth?
  • A yw'r dreftadaeth yn bwysig am resymau coffaol neu ysbrydol?
  • Os yw'n draddodiad, arferiad, sgil neu wybodaeth, a yw'n cael ei arfer heddiw? Sut mae wedi cael ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth?
  • A yw gwerth y dreftadaeth wedi newid dros amser? A oedd yn bwysig am resymau gwahanol yn y gorffennol?
  • A yw'r dreftadaeth yn helpu creu ymdeimlad o berthyn, neu efallai'n meithrin ymdeimlad o falchder yn yr ardal?

Weithiau mae treftadaeth yn cael ei chofrestru, ei dynodi neu ei gwarchod mewn rhyw ffordd oherwydd bod iddi arwyddocâd arbennig a bod angen ei diogelu rhag newidiadau niweidiol. Darganfyddwch a yw eich treftadaeth wedi'i chofnodi yn unrhyw le, er enghraifft efallai ei bod wedi'i chofrestru fel rhywogaeth warchodedig, adeilad rhestredig, tirwedd ddynodedig neu draddodiad a gydnabyddir gan UNESCO.  

Yn aml bydd y cofnod dynodi'n rhoi manylion am yr hyn y mae arbenigwyr yn ei gredu sy'n bwysig.

I bwy mae'r dreftadaeth o bwys?

Mae'n dda casglu sylwadau a barn ar werth y dreftadaeth o ystod o ffynonellau. Efallai y bydd angen i chi gomisiynu mewnbwn gan arbenigwyr yn y maes perthnasol ond dylech hefyd sicrhau eich bod wedi siarad â sampl cynrychioliadol o'r bobl sy'n rhyngweithio â'ch treftadaeth. Mae’n bosibl y byddan nhw hefyd yn gallu ysgrifennu llythyr o gefnogaeth pan fyddwch yn gwneud cais, gan ddangos i ni fod diddordeb gwirioneddol yn eich prosiect.

Gall y grwpiau hyn gynnwys:

  • y gymuned sy'n byw neu'n gweithio gerllaw, os oes gan eich treftadaeth leoliad ffisegol
  • unrhyw grwpiau sydd â diddordeb yn eich treftadaeth, megis grwpiau ffrindiau neu grwpiau diddordeb lleol
  • pobl sy'n defnyddio'r safle/gwrthrych treftadaeth nawr, neu sy'n ei ymarfer neu ei berfformio os yw'n sgil neu'n draddodiad  
  • arbenigwyr cydnabyddedig yn y maes perthnasol
  • sefydliadau cadwraeth natur statudol (SNCOs) ac adrannau cadwraeth awdurdodau lleol
  • gwirfoddolwyr sy'n helpu gofalu am y dreftadaeth

Cofiwch ystyried grwpiau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol hefyd nad ydynt efallai'n rhyngweithio â'ch treftadaeth ar hyn o bryd, ond a allai wneud yn y dyfodol os caiff unrhyw rwystrau posibl eu dileu. Gweler ein canllaw i redeg prosiectau treftadaeth cynhwysol.

Unwaith y byddwch wedi nodi pwy y byddwch yn siarad â nhw, gallwch ystyried sut i fynd ati i wneud hyn. Bydd y dulliau’n dibynnu ar eich prosiect, gyda phwy rydych am siarad a’r adnoddau sydd ar gael i chi, ond gallent gynnwys gweithgareddau fel arolygon, grwpiau ffocws neu ymgysylltu ar-lein neu drwy gyfryngau cymdeithasol.

Rhannu eich dealltwriaeth

Ar ôl casglu gwybodaeth am eich treftadaeth a pham ei bod yn bwysig, y cam nesaf yw cofnodi eich canfyddiadau fel y gallwch eu rhannu â phobl eraill a'u defnyddio i helpu gyda'ch cais am ariannu.

Rydym yn darparu llawer o ganllawiau arfer da i  helpu i ddatblygu eich syniad yn brosiect treftadaeth gwych.

Mae’n siŵr y bydd rhywbeth sy'n berthnasol i’ch sefydliad neu syniad ar gyfer prosiect, gyda chyngor arfer gorau mewn meysydd fel: gwerthuso, hanes llafar, gweithio gyda gwirfoddolwyr, digidol, cynllunio cadwraeth a llawer mwy.

Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith ar adeilad eglwys, efallai y bydd angen i chi baratoi dogfennau fel datganiadau o arwyddocâd ac unrhyw anghenion atgyweirio hefyd. Mae gan Eglwys Loegr arweiniad ar ysgrifennu datganiadau o arwyddocâd ac anghenion