Dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol – canllaw arfer da

Dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol – canllaw arfer da

Treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yw’r wybodaeth a’r traddodiadau a etifeddir gan genedlaethau blaenorol ac sy’n cael eu trosglwyddo i’n disgynyddion. Mae’n fath pwysig o dreftadaeth sy’n rhan o fywyd bob dydd mewn rhyw ffordd.

Drwy ddarllen y canllaw hwn byddwch yn dysgu beth yw ystyr treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol, pam mae mewn perygl a’r gwahanol ffyrdd y gellir ei hachub.  Bydd hyn yn eich helpu hefyd i adnabod a disgrifio’r dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn eich prosiect a chymryd ysbrydoliaeth o brosiectau blaenorol yr ydym wedi’u hariannu.

Beth yw treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol?

Mae’n cynnwys traddodiadau llafar, celfyddydau perfformio, arferion cymdeithasol, defodau a gwyliau, gwybodaeth am natur a’r bydysawd a chrefftau traddodiadol.  Mae treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol gan UNESCO o dan Gonfensiwn UNESCO 2003 dros Ddiogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol.

Mae gan bawb dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol sy’n bwysig iddyn nhw a’u cymunedau: o wybodaeth ymarferol i greu pethau defnyddiol neu ofalu am ein hamgylchedd, i ddathliadau, cerddoriaeth neu storïau sy’n ystyrlon i’n bywydau.

Gall bod yn gysylltiedig â’r dreftadaeth hon greu llesiant, ymdeimlad o berthyn a’n helpu i ddeall cymunedau eraill.  Gall gysylltu pobl i adeiladu eu hamgylchedd adeiledig a naturiol a bod yn ffactor cryf ar gyfer creu lle ac adfywiad economaidd.

Diffinio treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol

Mae treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn cwmpasu nifer o elfennau o draddodiad neu arfer (a elwir yn ‘feysydd’). Mewn gwirionedd, mae’r parthau’n aml yn gorgyffwrdd.  Er enghraifft, bydd gwyliau fel carnifal yn cynnwys traddodiadau llafar, y celfyddydau perfformio a sgiliau creu gwisgoedd.

Isod ceir gwahanol fathau o wybodaeth a thraddodiadau sydd wedi’u cynnwys mewn treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol, ynghyd â rhai enghreifftiau o brosiectau fel ysbrydoliaeth.

Traddodiadau a mynegiannau llafar, gan gynnwys iaith 

Mae’r math hwn o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn cynnwys diarhebion, chwedlau, mythau, hwiangerddi, caneuon a thafodieithoedd.  Mae rhai enghreifftiau o brosiectau yn cynnwys:

  • Gŵyl Adrodd Straeon Glynnoedd, Antrim, Gogledd Iwerddon: roedd yr ŵyl ddeuddydd hon yn dathlu ac yn hyrwyddo treftadaeth adrodd straeon a cherddoriaeth draddodiadol yng Nglynnoedd Antrim. Cafodd ei digwyddiadau ar-lein eu gweld gan blant, pobl ifanc a phobl o wahanol ddiwylliannau, cenedligrwydd ac ieithoedd, a phobl mewn cartrefi nyrsio a gofal a phobl sy'n byw gyda dementia.  
  • Kemeneth gan Kernow Live CIC (Kemeneth yw cymuned yn y Gernyweg): Fel rhan o brosiect ehangach treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol, bu pobl yn dysgu ac yn rhannu geiriau ac ymadroddion allweddol o’r Gernyweg er mwyn perfformio dramâu dirgelwch Ordinalia ganoloesol yn ystod Gŵyl Kemeneth yn Penryn.

Y celfyddydau perfformio

Mae hyn yn cynnwys traddodiadau cydnabyddedig y theatr, cerddoriaeth a dawns, er enghraifft:

  • Ymddiriedolaeth Datblygu’r Syrcas Gogledd-ddwyrain Lloegr  The Family La Bonche: Who are We?: Bu pobl ifanc yn creu sioe newydd wedi’i dylanwadu gan berfformiadau a gwisgoedd hanesyddol perfformwyr syrcas lleol enwog.
  • Cymdeithas y Calypsonwyr, Pabell Galypso Llundain, y DU: recordio a rhannu treftadaeth Pabell Galypso gyntaf Llundain, traddodiad llafar/canu a ddaeth yma o Trinidad.  Rhannwyd y traddodiad Calypso gyda chenedlaethau iau, sy’n datblygu sgiliau a hyder wrth ymchwilio a pherfformiadau’r gair llafar.

Arferion cymdeithasol, defodau a gwyliau 

Mae hyn hefyd yn cynnwys defodau newid byd, gemau a chwaraeon, traddodiadau coginio a bwyd, seremonïau tymhorol, pysgota ac arferion ffermio.  Ymhlith y prosiectau rydym wedi’u cefnogi mae:

  • PlayWorks - PlayBack: Bu goruchwylwyr amser cinio mewn ysgolion cynradd yn Nottingham yn dysgu gemau traddodiadol yr iard chwarae, fel marblis, hopscotch a throelli top, i annog y disgyblion a’r rhieni i fod yn egnïol a chwarae yn yr awyr agored. 
  • Casting the Net - Cymdeithas Pysgotwyr Clyde ac Amgueddfa Pysgodfeydd yr Alban: bu’r pysgotwyr yn rhannu eu gwybodaeth am bysgota rhwyd gron ochr yn ochr â hanesion pysgota cyfoes i helpu i warchod treftadaeth ddiwylliannol eu cymunedau.

Gwybodaeth ac arferion sy’n gysylltiedig â natur a’r bydysawd

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ecoleg, planhigion ac anifeiliaid, a seryddiaeth, er enghraifft:

  • Remedies Remembered gan Slough Roots: bu menywod hŷn yn rhannu ac yn cofnodi meddyginiaethau iachau traddodiadol o amgylch y byd ac a ddefnyddir yn y DU hyd heddiw.
  • Partneriaeth Tirwedd Dyffrynnoedd Allen yng Ngogledd y Penwynion: Crëwyd arsyllfa a chymdeithas seryddiaeth newydd i annog pobl i ddysgu am a deall yr awyr yn y nos. Cafwyd perfformiadau cerddoriaeth gan fandiau lleol, adrodd storïau (Llosgi Blaidd Allendale) a defod goelcerth a oedd yn helpu pobl i ymgysylltu â’r dirwedd leol.

Sgiliau crefft traddodiadol

Mae hyn yn cynnwys y wybodaeth a’r sgiliau i greu ac adeiladu pethau, er enghraifft cyfarpar ac offer, cychod, offerynnau, gwisgoedd a theganau.  Ymhlith rhai o’r enghreifftiau o’r prosiectau a ariannwyd roedd:

  • Gwarchod a hyrwyddo sgiliau a chrefftau traddodiadol De Lough Neagh, Gogledd Iwerddon: rhaglen hyfforddi a gwirfoddoli ddynodedig sy’n annog pobl leol i fod yn hyrwyddwyr treftadaeth i’r dirwedd, arwain teithiau tywys neu ddatblygu sgiliau traddodiadol megis cerfio cerrig a thoi toeon gwellt.
  • Brodwaith Indiaidd Traddodiadol, Phulkari gan Ganolfan Panjabi Southall a Desi Radio: bu gwirfoddolwyr yn ymchwilio i gelfyddyd brodwaith Indiaidd sy’n prysur ddiflannu ar gyfer rhaglen radio a chynhaliwyd gweithdai ar sut i greu Phulkari.
  • Ignite Yorkshire gan IVE: bu grŵp o grefftwyr yn eu harddegau yn dysgu ystod eang o sgiliau, gan gynnwys crefft y gof, creu rhaffau, naddu pren, adeiladu waliau cerrig sychion a gwydr lliw, gyda sesiynau ymarferol a barhaodd ar-lein yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Ffactorau sy’n bwysig mewn prosiectau treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol 

Er mwyn cael eu cydnabod fel treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol, dylai’r traddodiadau a ddisgrifir uchod ddilyn yr egwyddorion canlynol:

  • Yr enw arall ar dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yw treftadaeth ‘fyw’.  Mae hyn yn golygu ei bod yn cael ei hymarfer yn awr ac yn esblygu’n gyson i fodloni anghenion a diddordebau pobl yn y presennol. Nid yw’n dreftadaeth sydd wedi’i rhewi mewn amser ac sy’n sefydlog.
  • Cedwir treftadaeth ddidwylliannol anniriaethol yn fyw drwy drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth o un person i’r llall.  Mae hyn ar ei fwyaf effeithiol pan fydd y sgiliau a’r wybodaeth yn cael eu rhannu mewn ffordd weithredol neu ymarferol.
  • Trosglwyddir sgiliau a gwybodaeth fel arfer o un genhedlaeth i’r nesaf, ond gellir eu rhannu rhwng cyfoedion er enghraifft neu breswylwyr hirdymor ardal leol.
  • Ni all unrhyw un arall benderfynu ar ran cymuned, grŵp neu unigolyn bod traddodiad, arferiad neu grefft yn bwysig i’w treftadaeth ddiwylliannol.  Mae treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn dechrau gyda’r hyn mae pobl eu hunain yn ei werthfawrogi.  Bydd i’ch cais ddangos bod gan y gymuned ddiddordeb yn y dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol.

Pam mae treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol mewn perygl

Mae rhai mathau o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol mewn perygl o gael eu colli. Gallwch gynnwys gweithgareddau i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn eich cais.

Y bygythiad mwyaf cyffredin i dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yw nad yw’n cael ei hymarfer yn rheolaidd neu nad yw’n cael ei throsglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.  Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd bod llai o ymarferwyr y traddodiad, neu eu bod yn heneiddio ac nad oes llawer o bobl ifanc yn cymryd rhan ynddo a bod diffyg cyfleoedd hyfforddiant.

Y bygythiadau cyffredin i dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yw:

  • cau lleoliadau cerddoriaeth, canolfannau cymunedol a lleoliadau eraill lle y cynhelir gweithgareddau’n ymwneud â threftadaeth ddiwylliannol anniriaethol
  • diffyg hyfforddiant a chyfleoedd i ddysgu
  • nid yw ymarfer sy’n gysylltiedig â threftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn cael ei drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf oherwydd nid yw’n cael ei hystyried yn berthnasol neu o ddiddordeb i’w bywydau
  • materion economaidd neu faterion yn ymwneud â’r farchnad, er enghraifft, mae’n bosibl bod ymarferwyr yn profi anawsterau wrth geisio cael bywoliaeth neu ddod o hyd i ofod fforddiadwy, gallai pobl fod yn amharod i dalu mwy am gynnyrch lleol neu a wnaed â llaw neu nid yw’r amser a’r costau sy’n gysylltiedig â datblygu sgiliau yn ymarferol i ymarferwyr
  • agweddau neu bolisïau negyddol
  • materion amgylcheddol
  • diffyg gwahaniaethau ac amrywiadau lleol neu ranbarthol amlwg
  • cynhyrchion a thechnegau newydd, a allai fod yn rhatach neu’n haws eu masgynhyrchu
  • prinder deunydd neu gost uchel deunyddiau
  • colli cysylltiadau â’r gymuned, er enghraifft dod yn atyniad i dwristiaid yn gyfan gwbl

Mae’r Gymdeithas Crefftau Treftadaeth hefyd yn cyhoeddi’r Rhestr Goch o Grefftau Treftadaeth, sy’n dangos bod crefftau traddodiadol sy’n cael eu harfer yn y DU yn hyfyw neu mewn perygl.  Mae hefyd yn esbonio pam y gallai crefftau fod mewn perygl.

Sut y gall eich prosiect chi helpu i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol

Trosglwyddo (ei basio ymlaen)

Mae trosglwyddo yn golygu pasio’r sgiliau a’r wybodaeth ymlaen er mwyn cadw’r dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn fyw.  Mae’n cynnwys dysgu gweithredol, ymarferol (yn hytrach na darllen adnoddau ysgrifenedig) ac mae’n cynnwys pob math o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol. Er enghraifft, gallai dysgu crefftau traddodiadol gynnwys popeth o waith maen a tho gwellt i greu tecstilau ac offer. Gall cymryd rhan mewn ffordd weithgar hefyd greu’r manteision mwyaf i bobl.  Gall hyn gynnwys popeth o hyfforddiant achrededig a gweithdai ysgol i rannu anffurfiol rhwng unigolion.  Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:

  • Kimjang, Gwneud a Rhannu Kimchi – Cyfnewidfa Ddiwylliannol Brydeinig : mae’r dathliad blwyddyn o hyd hwn o ddiwylliant Korea yn canolbwyntio ar Kimjang, arfer lle mae pobl yn dod ynghyd i wneud a rhannu kimchi (bresych wedi’i eplesu). Roedd y prosiect yn cynnwys gweithdai gwneud kimchi gyda’r gymuned ehangach a chofnodi ac archifo 20 o ryseitiau kimchi ar-lein.
  • Handing over the Heritage Baton – Amgueddfa Awyr Agored Chiltern: derbyniodd bobl fwrsariaethau hyfforddiant i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth treftadaeth wledig o arferion ffermio traddodiadol, gyda’r bwriad i lenwi bylchau sgiliau a pharatoi pobl ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
  • Transforming Textile Traditions – Uist Wool: wedi’u hysbrydoli gan ddyhead y gymuned i atal gwlân rhag mynd yn wastraff ac i ychwanegu gwerth at amaethyddiaeth leol, roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar draddodiadau gweithio gyda gwlân. Fe wnaeth ymrwymiad i gael ffibr o Uist a dim pellach na’r Alban a darparodd sgiliau treftadaeth newydd i bobl leol o Ynysoedd Heledd drwy hyfforddeiaethau â thâl.
  • Prosiect Wagen Teithwyr Cyngor Dinas Salford: Bringing Heritage Alive!: Daeth 20 o deithwyr ifanc a phobl ifanc nad oeddent yn deithwyr at ei gilydd i adeiladu wagen draddodiadol a dysgu am ffordd o fyw ac arferion bywyd ar y ffordd.  Mae’r wagen ac arddangosfa ategol wedi’u rhannu ar draws y gymuned leol, gan gynnwys taith o amgylch ysgolion.
  • Get into Dry Stone Walling – Cymdeithas Waliau Cerrig Sychion: darparodd y prosiect hwn fwrsariaethau hyfforddi ar gyfer lleoliadau achrededig 12 mis, gyda chwe mis pellach o gymorth i gyflogaeth, i ddatblygu sgiliau a chynyddu amrywiaeth yn y sector waliau sychion.

Cofnodi

Gall creu cofnodion, neu wneud cofnodion presennol yn fwy hygyrch, helpu i ddiogelu gwybodaeth a thraddodiadau sy’n diflannu.  Gall hefyd helpu i ddyfnhau dealltwriaeth pobl o’r dreftadaeth, codi ei phroffil, a rhoi’r hyder i eraill adnabod a rhannu eu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol eu hunain.

Gallai cofnodi gynnwys gwneud cofnod o storïau a phrofiadau pobl, dogfennu gwybodaeth a thechnegau neu fapio a chreu rhestrau o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol.  Er enghraifft:  

  • Archif Carnifalau Canolfan y DU ar gyfer Celfyddydau Carnifal: creodd y prosiect hwn archif ar-lein o’r holl weithgarwch sy’n gysylltiedig â charnifalau mewn pedair sir. Gallai pobl lwytho eu ffotograffau eu hunain a deunyddiau eraill i’r archif.
  • Dialect and Heritage: The State of the Nation – Prifysgol Leeds: gan adeiladu ar Archif Leeds o Ddiwylliant Gwerinol, llwyddodd y prosiect hwn i wneud cofnod o’r tafodieithoedd presennol ac ymchwilio i’r ffordd y mae’r defnydd o dafodiaith yn parhau i lawr y cenedlaethau.

Mae llawer o brosiectau yn cynnwys cofnodi a throsglwyddo. Er enghraifft:

  • The Lost Dances: The History and Traditions of Northumbrian Folk Dance – Dance Dynamics:  bu pobl ifanc yn cyfweld pobl hŷn i gasglu storïau am ddawnsiau coll yn eu hardal leol.  Buont yn gweithio gydag artistiaid i greu dawns newydd wedi’i hysbrydoli gan eu hymchwil.
  • Basketary and Beyond – Gŵyl Basgedwaith Ryngwladol yn Dartington:  bu gwirfoddolwyr yn ymchwilio ac yn cofnodi treftadaeth basgedi. Cynhaliwyd cyrsiau mewn sgiliau basgedi yn y cyfnod cyn yr ŵyl, a oedd hefyd yn cynnwys arddangosiadau, arddangosfeydd a gweithdai ymarferol.

Mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth am dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol, darllenwch wybodaeth UNESCO am feysydd gwahanol treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol