Treftadaeth 2033 – ein strategaeth 10 mlynedd

Treftadaeth 2033 – ein strategaeth 10 mlynedd

Golygfa o'r Baddon Fawr yng Nghaerfaddon, Gwlad yr Haf, sy'n dangos y dŵr wedi'i amgylchynu gan bensaernïaeth Rufeinig. Llun © 2017 aroundworld/Shutterstock.
Baddonau Rhufeinig, Caerfaddon © 2017 aroundworld/Shutterstock
Fel y cyllidwr mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU, ein gweledigaeth yw i dreftadaeth gael ei gwerthfawrogi, ei gofalu a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol.

Dros y deng mlynedd nesaf byddwn yn cymryd golwg mwy hirdymor, gan fuddsoddi mewn treftadaeth ar gyfer y dyfodol yn ogystal ag ar gyfer y presennol. Byddwn ni'n buddsoddi mewn lleoedd, nid prosiectau unigol yn unig, er mwyn sicrhau buddion ar gyfer pobl, lleoedd a'n hamgylchedd naturiol.

Byddwn ni'n cryfhau partneriaethau gyda llywodraethau, awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol ac yn creu partneriaethau newydd gyda'r rhai sy'n rhannu ein gweledigaeth.

Mae'r uchelgeisiau hyn wedi'u nodi mewn fframwaith buddsoddi wedi'i symleiddio ac yn ffurfio sylfaen ein gweledigaeth a rennir i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth ac i'w chynnal ar gyfer pawb.

Cynllun cyflwyno 2023–2026

Yn y cyntaf o’n cynlluniau cyflwyno tair blynedd, bu ni ddisgrifio sut rydyn ni’n bwriadu buddsoddi dros £1biliwn rhwng 2023 a 2026, newidiadau i’n Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a’n blaenoriaethau buddsoddi.

Ein hegwyddorion buddsoddi

Pedair egwyddor fuddsoddi newydd yn cyfeirio'r holl benderfyniadau y byddwn yn eu gwneud drwy rhaglenni ariannu agored, ein buddsoddiadau strategol neu wrth ymgymryd â gwaith ar y cyd a phartneriaethau newydd.

  • Achub treftadaeth: gwarchod a gwerthfawrogi treftadaeth, nawr ac yn y dyfodol.
  • Diogelu'r amgylchedd: cefnogi adferiad natur a chynaladwyedd amgylcheddol.
  • Cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad: cefnogi gwell cynhwysiad, amrywiaeth, mynediad a chyfranogiad mewn treftadaeth. 
  • Cynaladwyedd sefydliadol: cryfhau treftadaeth er mwyn iddi addasu a bod yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau. 

Byddwn yn gofyn i brosiectau a ariannwn gymryd y pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth yn eu ceisiadau.