Preifatrwydd

Preifatrwydd

Mae preifatrwydd a diogelwch yr wybodaeth bersonol a roddwch yn bwysig iawn i ni.

Mae'r polisi preifatrwydd yma’n esbonio sut a pham rydym yn defnyddio eich data personol. Ni fyddwn yn gwerthu, yn rhentu, yn dosbarthu nac yn datgelu gwybodaeth amdanoch chi fel unigolyn na'ch defnydd personol chi o'r safle heb eich caniatâd, neu oni bai bod y gyfraith yn mynnu neu'n caniatáu hynny.

Pwy ydym ni

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn enw gweithredol ar Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol.

Mae ein gwefan ar gyfer y DU gyfan ac mae'n cymryd gofal i gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol i ddiogelu data fel y Ddeddf Diogelu Data 2018 (DPA 2018) a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE (GDPR). Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn rheolwyr data at y dibenion a ddiffinnir gan DPA 2018 a GDPR.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r polisi preifatrwydd yma neu sut rydym yn defnyddio eich data personol, anfonwch hwy at Fair.Processing@heritagefund.org.uk neu eu postio at y Swyddog Diogelu Data, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, 4th Floor/Llawr 4, Cannon Bridge House, 25 Dowgate Hill, Llundain EC4R 2YA.

Yr hyn sydd ei angen arnom

Bydd y wybodaeth a gasglwn yn dibynnu ar os ydych yn ymuno â'n cymunedau ar-lein neu'n gwneud cais am grant. Yn y naill achos a'r llall, rydym yn casglu'r wybodaeth bersonol ofynnol sydd ei hangen arnom i ddarparu'r gwasanaeth i chi. Bydd hyn yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost ac unrhyw ddewisiadau personol y byddwch yn eu dewis.

Pa mor hir yr ydym yn cadw eich data

Byddwn yn cadw'r data personol a ddefnyddiwn ar gyfer anfon newyddion neu hysbysiadau drwy e-bost atoch hyd nes y byddwch yn rhoi gwybod i ni nad ydych am dderbyn y wybodaeth yma mwyach.

Mae polisi cadw data gwahanol ar gyfer gwybodaeth a ddarperir yn ystod cais am grant. Bydd hyn yn cael ei ddatgelu yn ystod y broses ymgeisio. Bydd yn amrywio yn dibynnu a oedd eich cais yn llwyddiannus ai peidio ac ar natur y dyfarniad.

Rhestrau postio

Os ydych yn tanysgrifio i'n rhestrau postio (e.e. e-fwletinau) am newyddion a gwybodaeth arall, rydym hefyd yn gofyn i chi ateb cwestiynau cyffredinol amrywiol amdanoch eich hun. Bydd gofyn i chi nodi ym mha feysydd y mae gennych ddiddordeb fel y gallwn deilwra'r wybodaeth y byddwn yn ei hanfon atoch er mwyn cynnwys y gwasanaethau a'r rhaglenni y credwn y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt. Gallwch newid y dewisiadau hyn drwy fewngofnodi a diweddaru eich proffil.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'r wybodaeth rydym yn ei chasglu i'ch hysbysu am newidiadau pwysig i'r safle, neu wasanaethau sy'n ymwneud â'n dosbarthiad o wasanaethau, neu wybodaeth a allai fod o ddiddordeb arbennig i chi (lle rydych wedi rhoi caniatâd i ni wneud hyn).

Os ydych ar unrhyw adeg am roi'r gorau i dderbyn gwybodaeth, dewiswch y ddolen 'dad-danysgrifio' ar waelod unrhyw ohebiaeth y byddwch yn ei chael oddi wrthym. Bydd unrhyw ddata personol a dderbyniwch yn cael ei gadw dim ond wrth i chi gydsynio i dderbyn gwybodaeth gennym ni. Os byddwch yn dad-danysgrifio, caiff eich gwybodaeth bersonol ei dileu.

Ceisiadau grant

Os byddwch yn gwneud cais neu rhag-gais am grant, mae'n rhaid i chi fod o leiaf yn ddeunaw oed. Byddwn yn defnyddio ac yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol, ac fel y cynghorir yn ystod y broses ymgeisio.

Efallai y byddwn yn defnyddio eich manylion cyswllt i roi gwybod i chi am ein gwaith, (gan gynnwys drwy e-bost, lle mae cyfeiriad e-bost wedi'i ddarparu), oni bai eich bod wedi nodi y byddai'n well gennych beidio â derbyn gwybodaeth gennym nad yw'n gysylltiedig â'ch cais neu'ch grant.

Arolygon a grwpiau defnyddwyr

Rydym bob amser yn anelu at wella'r gwasanaethau a gynigiwn. O ganlyniad rydym yn canfasio ein cwsmeriaid yn achlysurol gan ddefnyddio arolygon. Mae cymryd rhan mewn arolygon yn wirfoddol, ac nid oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i ymateb i unrhyw arolwg y gallech ei dderbyn oddi wrthym. Os byddwch yn dewis gwneud hynny, byddwn yn trin yr wybodaeth rydych yn ei darparu gyda'r un safon uchel o ofal â'r holl wybodaeth arall am gwsmeriaid.

Cysylltiadau i safleoedd trydydd parti

Noder ein bod yn darparu cysylltiadau â safleoedd eraill, na chânt eu rheoli gan y polisi preifatrwydd yma o bosibl, a dylech edrych ar bolisi preifatrwydd y safleoedd hynny i gael rhagor o wybodaeth.

Patrymau traffig / ystadegau safleoedd

Efallai y byddwn yn monitro patrymau traffig cwsmeriaid, y defnydd o'r safle a gwybodaeth berthnasol am y safle er mwyn gwneud y gorau o'ch defnydd o'r safle ac efallai y byddwn yn rhoi ystadegau cyfanredol i drydydd parti cyfrifol, ond ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth sy'n eich adnabod yn bersonol.

Trosglwyddo i drydydd partïon

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda'n cyflenwyr er mwyn hwyluso arolygon a dadansoddi arolygon.  Rydym yn sicrhau bod ein cyflenwyr yn diogelu eich gwybodaeth bersonol mor ddiogel â ni.

Ar gyfer ymgeiswyr am grant, mae'n bosibl y byddwn yn rhannu eich data personol gydag un o'r ymgynghorwyr ar ein cofrestr o wasanaethau cymorth os cânt eu penodi i'ch cefnogi ar eich prosiect.

Nid ydym yn trosglwyddo eich data i unrhyw drydydd partïon sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r UE.

Eich hawliau

Os oes unrhyw wybodaeth rydych yn ei darparu wrth danysgrifio i'r gwasanaethau ar y safle yn newid, diweddarwch eich proffil drwy fewngofnodi neu fel arall, rhowch wybod i ni.

Os credwch ar unrhyw adeg fod yr wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir, gallwch ofyn am gael gweld y wybodaeth yma a'i chywiro neu ei dileu. Os hoffech godi cwyn ynghylch sut rydym wedi ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data Oliver Dunn (mailto:Oliver.Dunn@heritagefund.org.uk) a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb neu os nad ydych yn credu ein bod yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â'r gyfraith, gallwch gwyno i’r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Diwygiadau i'r polisi preifatrwydd yma

Efallai y byddwn yn addasu'r polisi preifatrwydd yma o bryd i'w gilydd, a bydd amrywiadau o'r fath yn dod yn effeithiol yn syth ar ôl postio i'r safle a thrwy barhau i ddefnyddio'r safle, ystyrir eich bod yn derbyn unrhyw amrywiadau o'r fath.