Cydnabod a dathlu eich grant

Cydnabod a dathlu eich grant

Rydym yn falch o gefnogi miloedd o brosiectau treftadaeth ledled y DU, gan ddefnyddio cyllid a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da.
Our acknowledgement stamp in the centre of a wall of plants

Sut i gydnabod eich grant

Mae cydnabod eich grant yn rhan bwysig o'ch prosiect.

Dyma'ch cyfle i gydnabod ein cefnogaeth a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am yr ariannu sydd wedi gwneud eich prosiect yn bosibl.

Bydd cydnabod eich grant yn dangos yr effaith y mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ei chael ac yn ein galluogi i barhau i gefnogi prosiectau – fel eich un chi – yn y dyfodol.

Os dyfernir grant i chi, rhaid i chi gydnabod ein cefnogaeth yn gyhoeddus. Dylai pob cydnabyddiaeth fod yn amlwg, gyda lefel yr amlygrwydd yn gymesur â maint y grant.

Lawrlwytho ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth

Mae ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth newydd yn cynnwys popeth y bydd ei angen arnoch i gynllunio eich cydnabyddiaeth.

Os ydych wedi derbyn ariannu gan un o'n rhaglenni nad ydynt yn ymwneud â'r Loteri Genedlaethol, gweler logo'r rhaglen benodol a'r meini prawf cydnabyddiaeth ar ein tudalen Lawrlwytho ein logo.

Mae’r adrannau canlynol ar y dudalen hon yn amlygu rhai meysydd allweddol o gydnabyddiaeth gydag ysbrydoliaeth a thempledi i chi eu defnyddio – gweler y pecyn cymorth am arweiniad llawn.  

Ein stamp a logos cydnabyddiaeth

Rhaid i chi ddefnyddio ein stamp cydnabyddiaeth yn amlwg ar bob agwedd o'ch prosiect.

Rhaid defnyddio'r stamp ynghyd â'r neges 'Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol’ yn glir lle gall pobl eu gweld.  

Lawrlwythwch ein stampiau cydnabyddiaeth.

Bod yn greadigol  

Rydym yn eich annog i fod yn greadigol gyda'ch cydnabyddiaeth a lle bo'n bosibl ei gynnwys yn ffabrig eich adeilad/gofod gan ddefnyddio deunyddiau sy'n llesol i'r amgylchedd. Dyma rai enghreifftiau o gydnabyddiaeth gan brosiectau rydym wedi'u hariannu.

Cydnabyddiaeth ar-lein

Disgwyliwn weld ein hariannu'n cael ei gydnabod ar-lein, gan gynnwys:

  • ar wefannau, trwy osod ein stamp cydnabyddiaeth ar yr hafan gyda dolen i'n gwefan
  • ar wefannau trydydd parti sy'n crybwyll prosiect a ariennir gennym
  • mewn fideos, blogiau a chyflwyniadau

Cyfryngau cymdeithasol

Cofiwch gynnwys ein stamp wrth gynhyrchu asedau cyfryngau cymdeithasol. Gallwch lawrlwytho ein templedi y gellir eu golygu ar Twitter/X, Instagram, LinkedIn, Facebook, YouTube neu TikTok:

Cofiwch dagio a dilyn ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio @HeritageFundCYM a defnyddiwch ein hashnod #CronfaTreftadaeth #LoteriGenedlaethol. Gallwch ddweud bod eich prosiect 'Gwnaed yn bosibl gan Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.’

Dewch o hyd i'ch cyfrif Twitter/X lleol a'i ddilyn.

Cymerwch ran yn ein momentau cyfryngau cymdeithasol

Cymerwch ran yn ein momentau cyfryngau cymdeithasol ar y dyddiadau canlynol trwy gydol y flwyddyn i gydnabod eich grant:

  • diwrnod #TrysorauTreftadaeth ar 11 Ionawr – i amlygu pob math o drysor treftadaeth sydd gennych
  • #TreftadaethArAgor ar 21 Mehefin a thrwy'r haf – rhannwch eich digwyddiadau ac agoriadau yn yr haf
  • diwrnod hunlun bysedd croes #DiolchIChi ym mis Tachwedd – dweud diolch yn fawr iawn i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol
  • ymddangos yn ein prosiect ailrannu Instagram wythnosol trwy ein tagio ar Instagram

Cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus

Mae sylw mewn papurau newydd, ar radio, teledu ac ar-lein yn rhan hanfodol o hyrwyddo eich prosiect a chydnabod eich grant. Nid yn unig y mae'n rhoi gwybod i bobl am eich llwyddiant, mae hefyd yn tynnu eu sylw at sut mae arian chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn cael ei wario.

Dylech gydnabod eich grant mewn unrhyw sylw yn y wasg am gyfnod y contract grant, nid yn unig ar adeg cyhoeddi'r grant neu gwblhau'r prosiect.

Cyn cychwyn sylw yn y wasg, rhaid i chi gysylltu â'ch Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu a'ch Rheolwr Buddsoddi a rhoi gwybod iddynt am unrhyw weithgareddau pellach yn y wasg.

Rhaid i chi roi gwybod i ni hefyd os caiff eich prosiect ei enwebu ar gyfer unrhyw wobrau neu'n eu hennill. Disgwyliwn i chi gydnabod ein cefnogaeth mewn unrhyw areithiau, cyfweliadau neu ddatganiadau i'r wasg yn ymwneud â'r wobr.

Efallai y bydd modd i ni ddarparu cefnogaeth a chymorth ychwanegol gyda’ch cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus, felly cysylltwch â ni ac edrychwch ar ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth am arweiniad llawn.

Lawrlwytho ein templedi datganiadau i'r wasg

Dyma ddetholiad o dempledi datganiadau i'r wasg y gallwch eu defnyddio. Dewiswch yr un sy'n disgrifio orau'r math o grant rydych wedi'i dderbyn.

Cofiwch anfon y templed gorffenedig at eich Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu a'ch Rheolwr Buddsoddi am gymeradwyaeth cyn i chi ei anfon at y cyfryngau.

Mathau eraill o gydnabyddiaeth

Disgwyliwn hefyd weld cydnabyddiaeth amlwg i’r canlynol, lle bo’n berthnasol:

Lansiadau, agoriadau a digwyddiadau carreg filltir

Defnyddiwch ein logo ar gyflwyniadau ac mewn deunyddiau printiedig, a chydnabyddwch eich grant ar lafar mewn unrhyw areithiau, neu pan fyddwch yn esbonio beth mae eich prosiect wedi’i gyflawni.

Arwyddion ar gyfer adeiladau, adeileddau a mannau allanol

Fel arwyddion parhaol, gan gynnwys placiau, mynedfeydd a byrddau gwybodaeth. Os ydych yn creu gofod newydd, er enghraifft oriel, ystafell addysg neu ganolfan ymwelwyr, ystyriwch gydnabyddiaeth wrth enwi’r gofod.

Arddangosfeydd

Dylai ein stamp cydnabyddiaeth fod yn amlwg iawn wrth y fynedfa i’r gofod arddangos, ar fyrddau dehongli ac ar bwynt arddangos yr eitem neu’r arddangosyn.

Recriwtio staff

Dylid cynnwys ein stamp cydnabyddiaeth a’n datganiad mewn disgrifiadau swydd a hysbysebion swyddi.

Baneri, fflagiau a deunyddiau hyrwyddo printiedig

Gallwch lawrlwytho ein ffeiliau sy'n barod i'w hargraffu. Wrth argraffu'r rhain, defnyddiwch ddeunyddiau sy'n llesol i'r amgylchedd neu wedi'u hailgylchu.

Lawrlwythwch ein deunyddiau sy'n barod i’w hargraffu i’w defnyddio ar faneri, fflagiau a deunyddiau hyrwyddo printiedig:

Gweler ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth am arweiniad llawn ar sut i ddefnyddio'r rhain.

Ffotograffiaeth

Fel rhan o'ch adroddiad cynnydd grant, bydd angen i chi gyflwyno delweddau o'ch prosiect.

Rydym hefyd angen delweddau i'w defnyddio ar ein gwefan ac i'w rhoi i'r cyfryngau. Rydym yn chwilio am y delweddau gorau oll i ddangos y newid cadarnhaol a pharhaol y mae eich prosiect wedi’i greu ar gyfer pobl, cymunedau a threftadaeth.  

Yn ddelfrydol hoffem gael delweddau sy'n dangos pobl a threftadaeth gyda'i gilydd. Rhaid i'r delweddau fod o ansawdd uchel, o leiaf 1,000 picsel o led (at ddefnydd digidol) neu 300dpi ar gyfer print. Fel rheol gyffredinol, mae delwedd o 2MB neu uwch fel arfer yn cynnwys manylder digon uchel.

Anfonwch luniau o'ch prosiect at eich Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu a brand@heritagefund.org.uk. Cofiwch gynnwys y caniatadau a'r credydau perthnasol ar gyfer y ddelwedd. Os byddwn yn defnyddio'ch delwedd byddwn yn rhoi credyd i'ch prosiect.

Oes gennych safle neu leoliad?

Os oes gennych le sy'n hygyrch i'r cyhoedd, mae cymryd rhan yn Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yn ffordd wych o gydnabod yr ariannu y mae eich sefydliad wedi’i dderbyn.

Gall unrhyw un sy'n ymweld â lleoliad neu brosiect a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol gyda thocyn Loteri Genedlaethol, Gêm Instant Win neu gerdyn crafu (ffisegol neu ddigidol) fanteisio ar gynnig 'diolch' arbennig. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o fynediad am ddim i daith y tu ôl i'r llenni.

Mae’n ffordd wych o arddangos yr hyn rydych yn ei wneud a chroesawu cynulleidfaoedd newydd. Dywedodd tua 70% o'r ymwelwyr a gymerodd ran yn arolwg 2021 Y Loteri Genedlaethol nad oeddent erioed wedi ymweld â'r lleoliad o'r blaen, neu o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Monitro cydnabyddiaeth a'r broses gymeradwyo

Wrth fonitro ac asesu cynnydd eich prosiect, byddwn yn chwilio am gydnabyddiaeth weledol briodol o'ch grant.

Dylid anfon yr holl ddeunyddiau hyrwyddo a brand sy'n cynnwys ein stamp cydnabyddiaeth neu logo at eich Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu a'ch Rheolwr Buddsoddi i gael eu cymeradwyo cyn iddynt gael eu defnyddio.

Bydd hyn yn helpu sicrhau eich bod wedi bodloni gofynion cydnabyddiaeth eich grant.

Rhowch saith diwrnod i dderbyn cymeradwyaeth gan y Gronfa Treftadaeth.

Cysylltwch â ni

Oes gennych gwestiynau am gydnabyddiaeth? Gyrrwch e-bost i brand@heritagefund.org.uk.

Diweddariadau i'r arweiniad

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.