Stamp a logos cydnabyddiaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
| Atodiad | Maint |
|---|---|
| 5.44 MB | |
| 6.16 MB | |
| 6.02 MB | |
| 5.96 MB | |
| 4.52 MB | |
| 5.93 MB | |
| 5.94 MB |
Cydnabod eich ariannu gyda'n stamp 'Gwnaed yn bosibl gan'
Dylai ein stamp 'Gwnaed yn bosibl gan' gael ei arddangos yn amlwg gan bob prosiect a ariennir gennym, ynghyd â'r neges 'Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol’.
Gall y stamp, sydd ar gael mewn gwyn, gwyrddlas a du, weithio ar draws ystod o fformatau dylunio. Mae fersiynau print (eps) a sgrîn (png) o'r stamp ar gael.
Mae ein stamp hefyd ar gael yn Gymraeg, Gaeleg Yr Alban, Sgoteg Wlster, Gwyddeleg a Chernyweg.
Rhaid i bob prosiect a gyflwynir yng Nghymru ddangos y stampiau Cymraeg a Saesneg dwyieithog.
Sut i ddefnyddio ein stamp neu logo cydnabyddiaeth
Lawrlwythwch ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth am arweiniad llawn ar sut i ddefnyddio ein stamp cydnabyddiaeth.
Mae'r adrannau canlynol ar y dudalen hon yn tynnu sylw at rai pethau allweddol i chi eu hystyried.
Lleiafswm maint
Rhaid peidio â dangos ein stamp yn llai na'r lleiafswm meintiau o 51mm (print) a 198px (sgrîn). Ni ddylai fersiynau dwyieithog fod yn llai na 63mm (print) a 238px (sgrîn).
Rhaid i faint y stamp neu'r logo a ddefnyddir fod yn gymesur â maint y deunydd rydych yn ei gynhyrchu, er mwyn sicrhau ei fod yn glir ac yn hawdd ei ddarllen.
Ar gyfer deunyddiau cydnabyddiaeth mwy - er enghraifft ar ochr adeilad - gwnewch yn siŵr bod y stamp yn ddigon mawr fel bod modd ei ddarllen yn glir o bellter o bum metr.
Defnyddiwch ofod clir o gwmpas y logo sydd o leiaf hanner uchder y bysedd croes.
Lliw
Dim ond mewn du, gwyn neu wyrddlas y gellir atgynhyrchu'r stamp.
Peidiwch â'i ddefnyddio mewn pinc, aur, llwyd neu unrhyw liw arall nad yw'n cael ei nodi yma.
Mae'r stamp du'n addas ar gyfer print un lliw, ysgythriadau neu gerfwedd ar fetelau.
Camddefnyddio'r logo
Rhaid i chi beidio ag ail-lunio neu newid ein stamp/logo. Peidiwch â'i ledu neu ei docio er mwyn ei ffitio mewn gofod bach.
Er enghraifft, os yn defnyddio logo mewn dogfen Word, gofynnir i chi newid ei faint trwy glicio ar y corneli a'u llusgo ac nid ar ochrau blwch y logo.
Nodyn am ffeiliau eps
Mae'n bosibl na fydd ffeiliau EPS a fersiynau gwyn o'r stamp/logo'n weladwy yn eich porwr gwe. Cliciwch gyda'r botwm de a dewiswch 'save target as' i lawrlwytho'r ddelwedd a'i lansio yn eich pecyn golygu delweddau.