Diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth
Ers 1994 rydym wedi dyfarnu £630m i 1,600 o brosiectau diwydiannol, morol a thrafnidiaeth ledled y DU.
Rydym am helpu mwy o bobl i gadw a diogelu eu treftadaeth ddiwydiannol leol. Gall ein cyllid helpu i drosglwyddo'r sgiliau i genedlaethau iau i ofalu amdanyn nhw.
Beth rydym yn ei gefnogi?
Mae’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu yn cynnwys:
- gwasg argraffu
- peiriannau pwmpio
- melinau gwynt
- llongau hanesyddol
- locomotifau
- tirweddau naturiol a drawsffurfiwyd gan ddiwydiant
Syniadau am brosiect
Gall ein harian helpu pobl i:
- dadorchuddio a chofnodi atgofion pobl o'n gorffennol diwydiannol
- rhoi pwrpas newydd i safle segur
- adfer a chynnal peiriannau gweithredu
- yn datgelu hanes diwydiant yn eich ardal chi
- archwilio rhwydwaith o gamlesi’r genedl
- darparu cyfleusterau i ymwelwyr ac adnoddau dysgu wedi'u staffio
- helpu pobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd a gofalu am eu treftadaeth
Rheilffyrdd 200
Eleni rydyn ni'n nodi 200 mlynedd o'r rheilffordd fodern ac mae dathliadau’n cael eu cynnal ar draws y DU.
Ers 1994, rydyn ni wedi buddsoddi dros £105miliwn a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol mewn mwy na 600 o brosiectau treftadaeth rheilffyrdd ar draws y DU.
Mae ein buddsoddiad yn helpu i ddiogelu a dathlu treftadaeth rheilffyrdd, gan gefnogi gwirfoddoli a datblygu sgiliau a rhoi hwb i economïau lleol.
Mynnwch gip ar rai o'r prosiectau rydyn ni wedi'u hariannu isod.
Sut i gael arian
Newyddion
Mae ein buddsoddiad o £3.7 miliwn yn helpu Rheilffordd Tal-y-llyn i warchod treftadaeth drafnidiaeth drysoredig
Straeon
Holi ac Ateb gyda Grantï: disgrifio gweledigaeth eich prosiect ac addasu er mwyn llwyddo
Projects
Grymuso gwirfoddolwyr yn Rhaeadr Aberdulais
Mae canolfan gymunedol newydd yn rhoi hwb i sgiliau treftadaeth a chyflogadwyedd yng ngwaith tun a rhaeadr hanesyddol Castell-nedd Port Talbot.
Newyddion
Cynigion arbennig a mynediad am ddim i atyniadau treftadaeth y gwanwyn yma
Projects
Dod â stori 200 mlynedd HMS Erebus yn ôl i Sir Benfro
Bydd arteffactau o'r llong archwilio pegynol anffodus yn cael eu harddangos am y tro cyntaf ym man geni'r llong yn Noc Penfro.
Projects
Adeiladu dyfodol Rheilffordd Tal-y-llyn
Mae Tal-y-llyn yn gwarchod treftadaeth ddiwydiannol hoff annwyl ac yn cryfhau mudiad gwirfoddolwyr a arloesodd gadwraeth rheilffyrdd.
Newyddion
80 mlynedd o UNESCO: sut mae ein hariannu'n gwarchod safleoedd treftadaeth sy'n bwysig yn fyd-eang
Newyddion
Cofrestrwch eich prosiect ar gyfer Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2026
Projects
Datgloi’r porth byw i stori llechi Cymru
Trawsnewid Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis gyda grant gwerth £12 miliwn, gan sicrhau ei dyfodol yng nghanol tirwedd lechi Treftadaeth y Byd UNESCO.
Straeon
Sut mae gwirfoddolwyr yn pweru rheilffordd hanesyddol
Newyddion
Sefydliadau treftadaeth i rannu atebion arloesol i heriau gweithlu
Projects
Gwarchod treftadaeth rheilffyrdd ac adeiladu dyfodol Boston Lodge
Mae Prosiect Boston Lodge Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru yn cadw storïau, adeiladau a sgiliau'r rheilffordd dreftadaeth yn fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Newyddion