
National Lottery Grants for Heritage – £250,000 to £5million
Bydd y gwaith ailddatblygu'n dod â chwa o awyr iach i weithdai Fictoraidd rhestredig Gradd I hen Chwarel Dinorwig, sydd wedi arddangos diwydiant llechi Cymru ers 1972. Yn ogystal â gwarchod cymeriad diwydiannol y safle, bydd y prosiect yn creu mannau dysgu newydd, yn gwella hygyrchedd ac yn datblygu arddangosfeydd deniadol sy'n adrodd hanes sut y gwnaeth llechi o Ogledd Cymru 'roi to ar y byd'.
Bydd yr iaith Gymraeg – a siaredir gan holl staff yr amgueddfa – yn parhau i fod yn rhan ganolog o’r profiad, gan ddathlu sut y gwnaeth y diwydiant llechi helpu’r agwedd hanfodol hon ar ddiwylliant Cymru i ffynnu. Bydd cymunedau lleol yn siapio'r profiad ymwelwyr, gan sicrhau bod adrodd storïau awthentig yn cysylltu pobl â'u treftadaeth.

Y tu hwnt i warchod adeiladau, mae'r prosiect yn creu cyfleoedd trwy gyflogaeth, lleoliadau gwaith i fyfyrwyr, a hyfforddiant mewn sgiliau treftadaeth traddodiadol. Bydd y mannau arddangos pwrpasol hefyd yn caniatáu i Amgueddfa Cymru ddod â chasgliad cenedlaethol Cymru i Ogledd Cymru am y tro cyntaf.
Meddai'r Arglwydd Dafydd Wigley, Cadeirydd Partneriaeth Llechi Cymru: "Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn helpu i ddatblygu'r safle hwn fel porth i'n hanes a'n diwylliant, gan ennyn diddordeb ac ysbrydoli'r genhedlaeth bresennol a'r rhai yn y dyfodol."
Dysgwch fwy am Amgueddfa Lechi Cymru neu archwiliwch brosiectau eraill rydym wedi'u cefnogi ar draws Cymru.