Sut mae gwirfoddolwyr yn pweru rheilffordd hanesyddol

Sut mae gwirfoddolwyr yn pweru rheilffordd hanesyddol

Grŵp o bobl mewn siwtiau gwelededd uchel yn sefyll o amgylch bwrdd wedi'i drawsnewid o hen wagen reilffordd
Taith y tu ôl i lenni Boston Lodge ar ei newydd wedd. Credyd: Chris Parry.
Mae Boston Lodge yn dangos y gall buddsoddi mewn pobl a sgiliau ysbrydoli ymwelwyr, rhoi hwb i wirfoddoli a thrawsnewid treftadaeth.

Wrth wraidd Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru yn nhirwedd lechi hanesyddol gogledd Cymru, Boston Lodge yw'r gwaith peirianneg rheilffordd hynaf sydd wedi gweithredu'n barhaus yn y byd.

Yma, mae trenau ager wedi cael eu hatgyweirio ers bron 200 mlynedd. Ond drwy rymuso pobl bydd rheilffyrdd yn cadw'r dreftadaeth hon yn fyw am 200 mlynedd arall.

Mae'r prosiect Dehongliad Rheilffordd a Boston Lodge a gwblhawyd yn ddiweddar, y gwnaethom ddyfarnu £3.9 miliwn iddo, wedi denu bron i 600 o wirfoddolwyr. Roedd mwy na 100 ohonyn nhw'n newydd i'r rheilffordd. Dyma Paul Lewin, Cyfarwyddwr a Rheolwr Cyffredinol Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, yn esbonio sut y gwnaethon nhw hynny.

Treftadaeth a bwerir gan bobl

“Yn syml iawn, mae pobl yn gwrando ar bobl,” meddai Paul. “Gyda phethau fel paneli dehongli, mae'n rhaid i chi weithio'n galed iawn i ddod â'r hanes yn fyw ac ennyn diddordeb ymwelwyr. Mewn byd prysur lle mae pobl wedi'u peledu â gwybodaeth drwy'r amser, mae cysylltu â nhw'n bwysicach nag unrhyw beth arall.”

Gyda hyn mewn golwg, cynigiodd y prosiect hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr ar sut i guradu ac adrodd storïau'r rheilffordd. 

Grŵp mawr o bobl yn codi dwylo ac yn sefyll gydag arwyddion sy'n dweud diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol
Tîm Boston Lodge. Credyd: Chris Parry.

Troi ymwelwyr yn wirfoddolwyr

Mae canolbwyntio ar gysylltiadau dynol hefyd wedi helpu Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru i gynnal diddordeb pobl drwy gydol y daith o ymwelydd i wirfoddolwr.

“Mae'n hawdd colli pobl ar hyd y ffordd,” meddai Paul, “felly roedd angen cynllun i weld y perthnasoedd hynny drwodd.

“Nawr, os bydd rhywun yn mynd am daith ar un o’n trenau, o’r eiliad y byddan nhw’n cyrraedd y platfform byddan nhw’n cwrdd ag un o’n gwesteiwyr sy'n gwybod am y rheilffordd a sut i siarad amdani.

“Os ydyn nhw eisiau gwybod mwy, gallan nhw fynd ar daith Boston Lodge lle byddan nhw’n dysgu gan wirfoddolwyr eraill. Yna, os ar y diwedd maen nhw'n meddwl 'ie, 'dw i eisiau dod yn aelod neu'n wirfoddolwr' mae gennym ni dimau a all wneud hynny.”

Adeiladu sgiliau

Mae Paul yn credu bod rhoi’r ffocws yn ôl ar wirfoddoli yn ymwneud â “deall beth sy’n ysgogi gwirfoddolwyr”: y cyfle i adeiladu hyder a datblygu sgiliau.

Fel gwaith peirianneg weithredol, mae Boston Lodge yn darparu cyfleoedd unigryw i bobl fwrw ati a chael profiad ymarferol.

Grŵp o bobl mewn gweithdy yn gwylio rhywun yn adfer peiriant ager
Mae'r prosiect wedi cynnal gweithdai ar weldio, turnio, peintio, ysgrifennu arwyddion a rhybedu poeth. Credyd: Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru.

“Mae pobl yn gyffrous i fynd rhywle sy'n cynnig y peth go iawn. Os dewch chi i weithio gyda ni, bydd yn fudr ac yn drewllyd ac yn swnllyd ar adegau, ond mae pobl yn cael eu denu at hynny. Maen nhw eisiau'r peth go iawn.

“Maen nhw'n mwynhau bod yn rhan o rywbeth sy'n digwydd yn weithredol. Os ydych chi'n helpu i atgyweirio locomotif neu gerbyd, mae 'na bwrpas iddo - mae'n mynd i gael ei ddefnyddio.”

O adrodd storïau i beirianneg, mae Paul yn credu bod y prosiect wedi rhoi cyfle i gannoedd o bobl ddysgu sgil newydd.

“Rwy’n credu y bydd pobl yn dysgu sgiliau o weithio gyda’r rheilffordd y byddant gyda nhw am weddill eu hoes.”

Ydych chi'n gweithio gyda gwirfoddolwyr?

Gallwch ddod o hyd i fwy o awgrymiadau ar recriwtio ac ennyn diddordeb gwirfoddolwyr yn ein canllaw arfer da gwirfoddoli.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...