Wirfoddolwyr – canllaw arfer da

Wirfoddolwyr – canllaw arfer da

Mae canran fawr iawn o’r prosiectau rydym yn eu hariannu yn cynnwys gwirfoddolwyr – rydym eisiau sicrhau eu bod yn cael profiad cadarnhaol pan fyddant yn gweithio gyda’ch prosiect treftadaeth.

Drwy ddarllen y canllaw hwn, byddwch yn dysgu am y mathau o weithgareddau y gall gwirfoddolwyr eu gwneud a sut i gynllunio a datblygu cyfleoedd gwirfoddoli.  Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ysgogi pobl i gymryd rhan a recriwtio, rheoli gwirfoddolwyr, eu cefnogi, eu hyfforddi a’u costio a ffynonellau gwybodaeth bellach.

Ynglŷn â gwirfoddoli

Gwirfoddoli yw pan fydd rhywun yn treulio amser, yn ddi-dâl, yn gwneud rhywbeth er budd cymdeithas, yr amgylchedd neu rywun nad ydynt yn berthynas agos iddynt.  Mae’n rhaid i bob unigolyn wneud y penderfyniad i wirfoddoli eu hunain.

Term arall a ddefnyddir i ddisgrifio gweithgaredd gwirfoddol yw gweithredu cymdeithasol.  Mae’n cael ei ddiffinio fel pobl yn dod at ei gilydd i helpu i wella eu bywydau a datrys problemau yn eu cymunedau.  Mae’n ddielw, nid yw'n orfodol ac mae wedi'i gynllunio i ysgogi newid cymdeithasol. Mae’n cynnwys gweithgareddau fel codi arian, perchnogaeth dros asedau cymunedol a chynnal grwpiau neu sefydliadau â chenhadaeth gymdeithasol.

Mae cyfreithiau cyflogaeth yn gwahaniaethu’n glir rhwng gwirfoddolwyr a gweithwyr cyflogedig neu gyflogeion (gan gynnwys prentisiaid). Mae gan NCVO ganllaw am weithio gyda gwirfoddolwyr ac mae Llywodraeth y DU yn darparu gwybodaeth am statws cyflogaethgwirfoddoli (gan gynnwys hawliau a threuliau) a hawliau cyflogaeth i interniaid.

Ystyriaethau

Gall fod ystod eang o resymau dros ddefnyddio gwirfoddolwyr, gan gynnwys y ffaith eu bod yn rhoi o’u hamser am ddim a’u bod yn werth gwych am arian.  Ond nid ydynt yn heb eu costau ac ni ddylid eu defnyddio mewn prosiectau dim ond er mwyn arbed arian.  Mae angen cydbwyso lefel y gweithgaredd gwirfoddol yn erbyn y gost o’i reoli.  Gallai fod yn fwy effeithiol cyflogi aelod o staff newydd yn hytrach na recriwtio, hyfforddi a rheoli nifer o wirfoddolwyr.

Dylech ystyried y tasgau sydd gennych mewn golwg sydd yn briodol ar gyfer rolau gwirfoddoli ac ystyried opsiynau eraill. Rydym yn eich annog i ymgorffori lleoliadau hyfforddiant am dâl neu gyfleoedd eraill yn eich prosiect os yw hyn yn debygol o gyflwyno pobl newydd i’r sector na allant fforddio gwirfoddoli.

Ffactorau a allai wneud i chi benderfynu creu swydd gyflogedig:

  • diwrnodau gwaith rheolaidd, disgwyliedig
  • ymrwymiad i gyfrannu dros gyfnod hir, penodedig
  • nifer fawr o oriau yr wythnos (ee: dros 0.4 cyfwerth ag amser llawn)
  • addewid i ddarparu contract neu waith pellach am dâl
  • dyletswyddau a oedd yn cael eu cyflawni gan staff cyflogedig yn flaenorol

Dylech gadw’r canlynol mewn cof:

  • Nid ydym yn cefnogi interniaethau di-dâl. Os yw eich prosiect yn cynnwys cyfleoedd profiad gwaith di-dâl, ni ddylent bara am fwy na phythefnos a dylid talu treuliau.
  • Dylech sicrhau bob amser nad yw eich gwirfoddolwyr ar eu colled yn ariannol
  • Os ydych yn cynnwys pobl â phrofiad bywyd, e.e., drwy brofiad o anabledd neu nodwedd warchodedig eraill, dylai’r bobl hyn gael eu talu am eu harbenigedd.  Gallai eich egwyddorion gwirfoddoli fod yn wahanol os yw eich sefydliad yn cael ei arwain gan bobl â phrofiad bywyd.

Pa fath o weithgareddau y gall gwirfoddolwyr eu gwneud?

Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rolau pwysig mewn llawer o’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu ac maent yn cyfrannu at bob math o weithgareddau.  Gall gwirfoddolwyr:

  • ymwneud â rhedeg neu reoli prosiect, er enghraifft, gwneud penderfyniadau fel ymddiriedolwr, aelod o grŵp cyfeillion neu dîm rheoli prosiect, neu ffurfio ymddiriedolaeth a gwneud cais i ni er mwyn achub a rhoi pwrpas cynaliadwy i ased treftadaeth
  • cyfrannu arbenigedd penodol neu gysylltiadau, er enghraifft gweithwyr proffesiynol yn cynnig sgiliau codi arian, dysgu neu sgiliau TG, neu bobl yn ymuno â phanel ieuenctid neu gymunedol i helpu i ddenu ymwelwyr newydd
  • cyflawni unrhyw ran o’ch prosiect, er enghraifft gweithgareddau allgymorth neu weithgareddau teulu, teithiau tywys, cofnodi rhywogaethau neu hanes llafar, ymchwilio a rhannu hanes lleol, gwarchod safleoedd a chynefinoedd hanesyddol neu gatalogio neu arddangos casgliadau 
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau mewn safle treftadaeth o bell wedi’i gefnogi gan dechnoleg.  Gallai eich prosiect greu cyfleoedd i unigolion neu grwpiau, gan gynnwys teuluoedd, busnesau neu rwydweithiau cymunedol.

Cynllunio eich gweithgaredd gwirfoddol

Os yw gwirfoddolwyr yn rhan o’ch prosiect, bydd angen polisi gwirfoddoli arnoch chi.  Dylai hwn gynnwys nodau clir a chynhwysol i hyrwyddo gwirfoddol.  Dylai gael ei gymeradwyo gan bennaeth eich sefydliad a’ch llywodraethwyr neu ymddiriedolwyr.  Gwnewch yn siŵr bod eich staff yn ymwybodol o’r polisi a’i fod yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru’n rheolaidd.

Dylech gynnal asesiad o’r angen am eich prosiect. Pam mae angen gwirfoddolwyr arnoch chi? Pa fath o rolau neu dasgau a gyflawnir ganddynt?  Pwy sy'n gwirfoddoli gyda chi ar hyn o bryd a phwy sydd ddim? Pa grwpiau o bobl fyddwch chi'n eu recriwtio fel rhan o'r prosiect hwn? Sut y bydd hyn yn cynyddu amrywiaeth y gwirfoddolwyr yn eich sefydliad?

Bydd gwaith cynllunio manwl yn gwella ansawdd eich prosiect a’ch cyfleoedd gwirfoddoli.  Gofynnwn i chi fod yn glir ynghylch y rolau gwirfoddoli a’r cyllidebau cysylltiedig yng nghynllun eich prosiect ar gyfer grantiau rhwng £10,000 a £250,000 neu gynllun gweithgarwch ar gyfer grantiau o rhwng £250,000 a £10 miliwn. Dylai hyn gynnwys: y mathau o bobl y byddwch yn eu recriwtio, yr hyfforddiant y byddant yn ei dderbyn, y tasgau y byddant yn eu cwblhau a’r canlyniadau yr ydych yn anelu at eu cyflawni.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried casglu data a gwerthuso’r prosiect o’r cychwyn cyntaf.  Disgwyliwn i chi gasglu data ar nifer y gwirfoddolwyr sy’n gysylltiedig â’ch prosiect, pwy ydyn nhw, a’r nifer o oriau y maen nhw’n eu cyfrannu i’ch prosiect.  Disgwyliwn i chi gynnwys barn unrhyw wirfoddolwyr am eu profiad yn adroddiadau gwerthuso eich prosiect.

Ar ôl i chi nodi beth y gallai gwirfoddolwyr ei wneud fel rhan o’ch prosiect, a pha bobl yr hoffech eu cynnwys, mae pum maes allweddol i’w hystyried:

  • datblygu’r cyfleoedd cywir ar gyfer darpar wirfoddolwyr
  • recriwtio pobl newydd
  • rheoli gwirfoddolwyr a darparu cymorth iddynt
  • hyfforddi gwirfoddolwyr i gynyddu eu sgiliau a’uy gwybodaeth
  • cyfrifo cost eich gweithgaredd gwirfoddoli er mwyn cynhyrchu cyllideb realistig

Datblygu cyfleoedd

Ar ôl i chi greu cynllun ar gyfer pwy y gallech eu cynnwys a beth y gallent ei wneud, bydd angen i chi ddatblygu cyfleoedd hygyrch a deniadol ar gyfer y gwirfoddolwyr hyn.

Siaradwch â’r grwpiau a’r sefydliadau yr ydych eisiau gweithio gyda nhw yn ogystal â’r gwirfoddolwyr presennol.  Ymchwiliwch i pam y gallai pobl fod eisiau gwirfoddoli, pa fath o gyfleoedd fyddai’n gweddu iddyn nhw a beth allai eu hatal rhag cymryd rhan.

Ysgogi pobl i gymryd rhan

Meddyliwch beth sy’n ysgogi pobl i wirfoddoli a theilwra eich cyfleoedd yn unol â hynny.  Er enghraifft, efallai y bydd pobl eisiau datblygu sgiliau a phrofiad trosglwyddadwy i’w hychwanegu at eu CV, rhoi cynnig ar bethau newydd a chwrdd â phobl newydd, rhannu eu sgiliau, cadw’n weithgar ar gyfer eu llesiant, eu hyder a’u hiechyd neu roi rhywbeth yn ôl i sefydliad sydd wedi’u hysbrydoli.

Mae’r ymrwymiad y gall gwirfoddolwyr ei gynnig yn amrywio’n fawr.  Mae rhai gwirfoddolwyr yn hapus i ymuno â sefydliad am gyfnod amhenodol a chyfrannu mewn ffordd hyblyg, ond byddai’n well gan eraill wirfoddoli ar brosiectau penodol sydd â dechrau a diwedd iddynt.  Mae rhai gwirfoddolwyr eisiau gweithio yn yr awyr agored ac maen nhw’n hoffi gwaith corfforol, gallai fod yn well gan eraill gwblhau tasgau o’u cartref.

Gallai gwirfoddoli byr neu ficro-wirfoddoli annog y rhai na allant ymrwymo cymaint, gan gynnwys myfyrwyr, rhieni a gweithwyr proffesiynol.  Gallai rolau hyblyg ddatrys problemau gyda lleoliad ac amseriad.  Gallai hyn gynnwys tasgau digidol neu dasgau eraill, y gellir eu cwblhau ar-lein, drwy sesiynau galw heibio neu drwy bartneriaethau gyda sefydliadau mewn lleoliadau eraill.

Gallai cyfleoedd achlysurol i wirfoddoli fel teulu fod o ddiddordeb i rai pobl.  Gallai cyfleoedd mwy dwys fod yn ddeniadol i’r rhai sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau a phrofiad.  Mae’n bosibl y bydd yn well gan bobl sydd eisiau datblygu rhwydweithiau cymdeithasol weithgaredd rheolaidd ar safle, gan weithio ochr yn ochr ag eraill.

Dileu rhwystrau i wirfoddoli

Gallai pobl gael eu hatal neu eu rhwystro rhag gwirfoddoli am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys:

  • rhwystrau ffisegol, diwylliannol neu ariannol
  • nid ydynt yn deall gwerth a diben gwirfoddoli
  • nid ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu
  • diffyg amser neu drafnidiaeth
  • diffyg hyder
  • nid ydynt yn ymwybodol o gyfleoedd gwirfoddoli

Meddyliwch am rwystrau ariannol i wirfoddoli ac yna greu cyfleoedd nad ydynt yn arwain at gostau i wirfoddolwyr neu lle y gellir ad-dalu treuliau.  Gellir mynd i’r afael â materion yn ymwneud â hyder drwy hyfforddiant yn ogystal â chynlluniau ‘cyfeillio’ rhwng gwirfoddolwyr mwy a llai profiadol neu fentora gan aelodau o staff.  Pan fydd pobl yn amharod i wirfoddoli ym maes treftadaeth am resymau diwylliannol, gallech ddilyn arweiniad rhai sefydliadau sydd wedi ymgysylltu â hyrwyddwyr cymunedol i helpu i chwalu rhwystrau.

Os ydych yn ddarparwr gwasanaeth, disgwyliwn i chi gyflawni eich rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel rhan o’ch busnes o ddydd i ddydd.  Gallwn ystyried costau addasiadau rhesymol er mwyn i bobl anabl allu gwirfoddoli (er enghraifft darparu cymhorthion ategol a gwasanaethau) fel rhan o brosiect ehangach.

Recriwtio

Efallai y gallech annog gwahanol bobl i wirfoddoli drwy ddelio â recriwtio mewn ffordd wahanol.

Hysbysebwch gyfleoedd gwirfoddoli gyda disgrifiadau clir o’r rolau sy’n amlinellu dyletswyddau, cyfleoedd datblygu strwythuredig a’r cymorth a roddir i wirfoddolwyr.  Dylech gynnwys gwybodaeth a allai gymell pobl neu fynd i’r afael â phryderon posibl.  Er enghraifft, gallech bwysleisio cyfleoedd hyfforddiant ac esbonio y bydd treuliau’n cael eu talu.

Dylech greu deunyddiau cyhoeddusrwydd cynhwysol sy’n apelio at y bobl yr hoffech eu recriwtio, er enghraifft pobl ifanc. Gwnewch yn siŵr bod y deunyddiau yn y fformat cywir, yr iaith gywir a’r lleoedd cywir (gan gynnwys sianelau digidol) er mwyn cyrraedd eich cynulleidfa darged.

Meddyliwch sut y gallech annog ystod fwy amrywiol o wirfoddolwyr, er enghraifft drwy:

  • ddatblygu partneriaethau newydd gyda sefydliadau cymunedol
  • mynychu digwyddiad lleol gyda stondin sy’n cynnig cyfle i holi cwestiynau a chofrestru
  • cynnig sesiynau rhagflas sy’n rhoi cyfle i bobl roi cynnig ar wirfoddoli cyn gwneud ymrwymiad

Ceir amrywiaeth o leoedd ar-lein sy’n hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli.  Mae’r rhain yn cynnwys:

Ystyriwch ddewisiadau amgen i geisiadau a chyfweliadau ffurfiol. Gall ffurflenni cais hir fod yn rhwystr i ddarpar wirfoddolwyr felly cadwch unrhyw ffurflenni yn syml. Gallech gynnal digwyddiadau dethol cyfranogol, cyfeillgar, gan gynnwys y cyfle i gwrdd â staff a gwirfoddolwyr eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp.  Gallai sgwrs anffurfiol roi cyfle hefyd i ymgeiswyr ddweud wrthych pam eu bod eisiau gwirfoddoli, beth maen nhw eisiau ei wneud a faint o amser y gallant ei gynnig.

Rheoli a chymorth

Mae angen strwythurau a systemau ar sefydliadau i reoli a chefnogi gwirfoddolwyr.  Dylid penodi rhywun yn eich sefydliad i fod yn gyfrifol am wirfoddolwyr.  Gallai hyn fod yn rheolwr gwirfoddolwyr dynodedig neu gallai fod yn rhan o ddyletswyddau ehangach rhywun.  Gallent fod yn weithiwr cyflogedig neu’n wirfoddolwr, ond bydd angen y profiad a’r gefnogaeth gywir arnynt i gyflawni’r rôl hon.  Dylid cynnwys eu cyfrifoldebau yn y disgrifiad o’u rôl neu swydd.  Os ydych yn recriwtio rheolwr gwirfoddoli cyflogedig newydd fel rhan o gais eich prosiect, bydd angen i chi ddarparu swydd-ddisgrifiad.

Mae yna ystod o faterion y dylech eu hystyried:

Yswiriant

Mae’n rhaid i wirfoddolwyr o bob oed gael eu hyswirio o dan yswiriant atebolrwydd neu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus y cyflogwr. Yn dibynnu ar y math o waith, mae’n bosibl y bydd angen yswiriant indemniad proffesiynol ar eich sefydliad hefyd. Dylai polisïau gyfeirio’n benodol at wirfoddolwyr oherwydd efallai na fyddant yn cael eu hyswirio’n awtomatig.

Polisïau sefydliadol

Dylech gyfeirio at wirfoddolwyr ym mhob polisi a dogfen sefydliadol berthnasol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r polisi iechyd a diogelwch (er enghraifft, gweithdrefnau ar gyfer gweithio ar eu pen eu hunain, gyrru yn y gwaith, etc), polisi diogelu, polisi rheoleiddio diogelu data, asesiadau risg sefydliadol sy’n cael eu diweddaru a chytundebau lefel gwasanaeth sy’n gysylltiedig â gwasanaethau cwsmeriaid.

Diogelu

Mae gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) am ddim i wirfoddolwyr ond byddant ond yn briodol fel arfer ar gyfer y rhai sy’n cymryd cyfrifoldeb unigol, rheolaidd dros blant neu oedolion agored i niwed.  Gall proses wirio’r DBS gymryd amser felly cynlluniwch ymlaen llaw.  Mae gan brosiectau sy’n cymryd cyfrifoldeb uniongyrchol dros bobl ifanc neu wirfoddolwyr agored i niwed gyfrifoldeb am ddiogelu, penodi person dynodedig â chyfrifoldeb diogelu a sicrhau bod gwirfoddolwyr yn gwybod gyda phwy y dylent siarad os oes ganddynt unrhyw bryderon.

Sefydlu

Dylech ddarparu hyfforddiant sefydlu priodol i wirfoddolwyr, gyda mewnbwn gan uwch aelodau o staff yn ddelfrydol.  Gall canllaw i wirfoddolwyr ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol i staff a gwirfoddolwyr ar bolisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, gan gynnwys iechyd a diogelwch er enghraifft.  Bydd angen gwybodaeth am dreuliau ar wirfoddolwyr, gan gynnwys pa eitemau y gallent eu hawlio, unrhyw gyfyngiadau neu symiau penodedig (er enghraifft milltiroedd) a sut y dylid gwneud hawliadau.  Efallai y bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’r rheolau budd-daliadau ar wirfoddoli a strwythuro taliadau treuliau i sicrhau nad yw hawliadau’n cael eu cyfaddawdu.

Rolau a nodau strwythuredig

Efallai y byddwch eisiau llunio cytundebau gwirfoddoli ar gyfer gwirfoddolwyr. Mae’r rhain yn nodi rolau a chyfrifoldebau i’r ddwy ochr.  Gall fod yn ddefnyddiol pennu nodau mesuradwy gyda gwirfoddolwyr ac adolygu tasgau a pherfformiad gwirfoddolwyr yn rheolaidd.  Dylai fod cyfleoedd strwythuredig i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a/neu brofiad proffesiynol gwirfoddolwyr unigol.

Adborth gan wirfoddolwyr

Dylech ddarparu ffyrdd i wirfoddolwyr rannu eu meddyliau, eu syniadau a’u profiadau, nid yn unig gyda’u goruchwyliwr ond gyda chydweithwyr eraill a’r sefydliad yn ehangach.  Mae gan rai sefydliadau fforwm i wirfoddolwyr er mwyn iddynt allu bwydo eu safbwyntiau i strwythurau ehangach.  Mae’n syniad da cynnal cyfweliadau gadael/gwerthusiad gyda gwirfoddolwyr er mwyn helpu i wella eich gwaith gyda gwirfoddolwyr yn y dyfodol.

Gwobrwyo a chydnabod

Cofiwch wobrwyo gwirfoddolwyr a chydnabod y cyfraniad y maent wedi’i wneud.  Gallai hyn gynnwys digwyddiadau arbennig, ymweliadau, geirdaon ac yn y blaen.  Mae rhai sefydliadau’n defnyddio cynlluniau ‘bancio amser’ i alluogi gwirfoddolwyr i gael eu gwobrwyo, a allai gynnwys ymweliadau â safleoedd treftadaeth a gostyngiadau mewn siopau a lleoliadau lleol.  Mae’r cerdyn Young Scot yn un enghraifft.

Dylech ystyried gweithio tuag at y safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr a gydnabyddir yn genedlaethol, er mwyn i’ch gwirfoddolwyr, yn ogystal â rhanddeiliaid allanol, gael yr hyder yng ngallu eich sefydliad i ddarparu rheolaeth dda.

Hyfforddi gwirfoddolwyr a rheolwyr gwirfoddolwyr

Mae’r hyfforddiant a gynigiwch i wirfoddolwyr yn dibynnu ar y mathau o dasgau y byddant yn eu gwneud, nifer y gwirfoddolwyr y mae angen eu hyfforddi a’r adnoddau sydd ar gael gennych.  Mae tair prif ffordd o ddarparu hyfforddiant a dylech ymgorffori’r costau priodol yn eich cyllideb.

Hyfforddiant yn y swydd

pan fydd aelod o staff neu wirfoddolwr arall yn dangos i wirfoddolwyr newydd sut i wneud y dasg a’u goruchwylio wrth iddynt wneud hynny.  Mae hyn yn hyfforddiant cost isel a dyma’r opsiwn mwyaf priodol pan fydd gennych nifer fach o wirfoddolwyr neu os ydych yn hyfforddi ar sail un i un.

Rhaglenni hyfforddiant mewnol

pan fydd angen gwybodaeth fanwl am faterion neu dasgau.  Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd angen hyfforddiant manwl ar bennu ffiniau a diogelwch ar gyfer gweithio gyda phobl agored i niwed.  Bydd angen adnoddau arnoch i ddatblygu cwrs yn ogystal â phobl sy’n gyfathrebwyr hyderus ac sy’n ymwybodol o’r cyfreithiau a’r arfer gorau diweddaraf.  Mae’n fwyaf priodol ar gyfer gwirfoddolwyr newydd mewn grwpiau ac mae’n ddefnyddiol cyfeirio at enghreifftiau penodol sy’n berthnasol i’ch prosiect.

Hyfforddiant allanol

pan fydd gwirfoddolwyr yn mynychu cwrs cyhoeddus agored neu rydych yn defnyddio hyfforddwr i gynnal cwrs ar gyfer eich sefydliad.  Er y gall hyn fod yn ddrud weithiau, gall helpu gwirfoddolwyr i ddysgu sgiliau arbenigol. Bydd angen i chi ymchwilio i gyrsiau priodol.  Efallai y gall eich canolfan wirfoddoli leol neu goleg addysg bellach eich helpu, neu sefydliadau treftadaeth, er enghraifft eich Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt leol neu rwydwaith cymorth sector gwirfoddol eich awdurdod lleol.  Efallai y gallech rannu’r costau o ddarparu hyfforddiant gyda sefydliadau eraill yn eich ardal neu ganfod pecynnau dysgu neu weminarau dysgu addas ar-lein.

Efallai y bydd gan rai gwirfoddolwyr ddiddordeb mewn cael cydnabyddiaeth ffurfiol o’u hyfforddiant mewn sgiliau penodol drwy ddysgu achrededig neu gwblhau cymwysterau galwedigaethol.  Bydd angen i chi weithio gyda darparwr hyfforddiant cydnabyddedig i gyflawni cymwysterau llawn neu unedau unigol.  Gall hyn gynyddu’r tebygolrwydd o sicrhau gwaith cyflogedig o brofiad gwirfoddol.

Gall cyfraniad gwirfoddolwyr gael cydnabyddiaeth hefyd drwy raglenni fel Gwobr John Muir a’r Volunteering Skills Award yn yr Alban.

Mae cynlluniau penodol ar gael hefyd, sy’n annog pobl ifanc i wirfoddoli, er enghraifft y Gwobrau Cyflawniad Pobl Ifanc yng Nghymru, a’r Saltire Award yn yr Alban.

Gallwn helpu i ariannu unrhyw hyfforddiant sydd ei angen ar eich cydlynydd gwirfoddolwyr.  Mae gwobrau achrededig ar gyfer hyfforddi rheolwyr gwirfoddolwyr ar gael drwy nifer o sefydliadau.

Costio eich gweithgaredd gwirfoddoli

Nid yw gwirfoddolwyr heb gost.  Gwnewch yn siŵr eu bod yn cael profiad da fel rhan o’ch prosiect drwy ddatblygu cyllideb realistig, gan gynnwys:

  • Recriwtio: bydd angen deunyddiau cyhoeddusrwydd, hysbysebion a/neu ddigwyddiadau arnoch sydd wedi’u dylunio i gyrraedd ac annog y bobl rydych eisiau eu targedu.
  • Hyfforddiant: bydd angen hyfforddiant sefydlu llawn ar wirfoddolwyr i’ch sefydliad yn ogystal ag unrhyw hyfforddiant sy’n gysylltiedig â thasgau unigol.
  • Y cyfle i hawlio treuliau: er enghraifft costau teithio rhesymol yn ôl ac ymlaen i’r lleoliad gwirfoddoli ac unrhyw deithio angenrheidiol fel rhan o’r dasg y maent yn gysylltiedig â hi. Mae rhai sefydliadau yn ad-dalu costau prydau bwyd sylfaenol i wirfoddolwyr. Efallai y bydd angen i rai gwirfoddolwyr hawlio treuliau gofal plant a threuliau eraill.
  • Gofod a chyfarpar: yn dibynnu ar y rôl, gallai fod angen desg a’r defnydd o ffôn a chyfrifiadur.  Efallai y bydd angen dillad, offer neu gyfarpar arbenigol arnynt.  Yn dibynnu ar y rôl, am resymau iechyd a diogelwch, mae’n bosibl y byddwch yn gyfrifol am ddarparu cyfarpar diogelu personol i wirfoddolwyr, er enghraifft gogls, menig neu esgidiau.  Mae’n bosibl y bydd angen addasiadau i'r gweithle ar gyfer gwirfoddolwyr anabl, er enghraifft meddalwedd gyfrifiadurol.
  • Rheoli: bydd angen i chi ddyrannu amser ac adnoddau staff yn briodol.  Gallai hyn gynnwys hyfforddi staff i reoli gwirfoddolwyr, cynnal adolygiadau o wirfoddolwyr, cadw llawer o gofnodion a chynnal cyfweliadau gadael.
  • Cydnabod gwirfoddolwyr: efallai y byddwch yn dymuno cydnabod cyfraniad eich gwirfoddolwyr a chreu cyfleoedd iddynt deimlo mwy o gysylltiad â’ch sefydliad.
  • Gwerthuso profiad gwirfoddolwyr: efallai y bydd angen i chi gyllidebu i werthuswr annibynnol gofnodi profiad eich gwirfoddolwyr ac unrhyw effeithiau cysylltiedig.
  • Efallai y bydd angen i chi ystyried hefyd unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag yswiriant, diogelu a datblygu polisïau a gweithdrefnau os nad yw’r rhain eisoes ar waith.

Mae datblygu cyllideb realistig yn bwysig iawn. Gall profiad gwirfoddoli fynd o chwith os na fydd gan sefydliadau’r adnoddau i gefnogi a hyfforddi gwirfoddolwyr yn briodol.

Defnyddio amser gwirfoddolwyr fel cymorth mewn nwyddau  gallwch ddefnyddio'r oriau y mae gwirfoddolwyr yn eu rhoi i chi i gyfrif yn erbyn eich arian cyfatebol. Bydd angen i chi gadw cofnod o'r gweithgaredd y mae eich gwirfoddolwyr yn ei wneud wrth i'ch prosiect fynd yn ei flaen. Ceir rhagor o fanylion yn ein canllawiau ymgeisio am Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mwy o wybodaeth ac adnoddau

Mae pedwar sefydliad datblygu gwirfoddolwyr yn y DU sy’n gweithio’n strategol ar draws y sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat.  Gallant eich helpu i ddatblygu polisïau gwirfoddoli, dod o hyd i gyrsiau hyfforddiant a’ch cysylltu â gwirfoddolwyr a chanolfannau gwirfoddoli yn eich ardal.

Mae llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig hefyd yn darparu canllawiau a pholisïau:

Mae yna lawer o ffynonellau gwybodaeth a chanllawiau defnyddiol eraill ar gael ar-lein, gan gynnwys: