Eich ardal chi
Mae gennym swyddfeydd ledled y DU, ac rydym wedi cefnogi prosiectau o Ynysoedd Erch yn yr Alban ac arfordir Mourne yng Ngogledd Iwerddon i Sir Benfro yng Nghymru a chlogwyni gwyn Dover yn Lloegr.
Sut yr ydym yn cefnogi ardaloedd a dangynrychiolir yn ein cyllid
Mae rhanddeiliaid yn gefnogol iawn i ni fynd i'r afael â thangynrychiolaeth wrth ariannu ardaloedd daearyddol, gan ganolbwyntio ar ddwy agwedd:
- meysydd sydd wedi cael y lleiaf o arian yn y gorffennol
- ardaloedd sy'n profi amddifadedd
Gan ddefnyddio mesurau o'n gwariant y pen a mynegeion safonol amddifadedd, rydym wedi nodi 13 o ardaloedd awdurdodau lleol sy'n bodloni'r ddau faen prawf.
Bydd ein timau lleol yn gweithio'n strategol gyda rhanddeiliaid, o fewn treftadaeth a thu hwnt, i nodi'r ffordd orau o gefnogi sefydliadau i ddiwallu anghenion lleol. Bydd hyn yn cynnwys, os yw'n briodol, sôn am geisiadau am brosiectau treftadaeth â blaenoriaeth, a chynnig micro-grantiau fel y treialwyd yn llwyddiannus yn Barrow-in-Furness yn 2017.
Yr 13 ardal yw:
- Castell-nedd Port Talbot (Cymru)
- Rhondda Cynon Taf (Cymru)
- Brent (Llundain Fwyaf)
- Corby (Swydd Northampton)
- Enfield (Llundain Fwyaf)
- Knowsley (Glannau Mersi)
- Inverclyde (Yr Alban)
- Luton (Swydd Bedford)
- Newham (Llundain Fwyaf)
- Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln
- Gogledd Swydd Lanarkshire (Yr Alban)
- Tendring (Essex)
- Walsall (Gorllewin Canolbarth Lloegr)