Ein proses ymgeisio

Ein proses ymgeisio

Mae'r canllaw cam wrth gam yma'n amlinellu ein proses ymgeisio am Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, o ddeall yr hyn rydym yn ei gefnogi i wneud cais a derbyn grant. 

O bryd i'w gilydd rydym yn dosbarthu rhaglenni ariannu eraill, gan gynnwys i lywodraethau ar draws y DU. Cyfeiriwch at dudalen arweiniad pob rhaglen er mwyn darganfod beth yw pwrpas y rhain, beth yw eu nodau a sut i ymgeisio.

Pwysig

Nid ydym yn derbyn ceisiadau am grantiau rhwng £3,000 a £10,000 mwyach. Bydd grantiau rhwng £10,000 a £10miliwn yn ailagor ym mis Ionawr gydag arweiniad a ffurflenni Treftadaeth 2033 newydd. Gweld pa ariannu sydd ar gael gennym.

1. Deall beth rydyn ni'n ei ariannu

Rydym yn ariannu prosiectau o bob maint sy'n gofalu am dreftadaeth y DU. Cyn dechrau arni, dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni'n ei ariannu.

2. Datblygu syniad ar gyfer y prosiect

Mae ein rhaglenni Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cynnig arian ar dair lefel:

Darllenwch y dudalen ganllawiau yn ofalus ar gyfer pob ystod i'w deall:

  • yr hyn a gynigiai'r rhaglen
  • os ydych yn gymwys i wneud cais
  • y gwahaniaeth mae angen i'ch prosiect ei wneud

Gallwch hefyd weld prosiectau yr ydym wedi'u hariannu'n flaenorol ar gyfer ysbrydoliaeth. 

3. Cael adborth ar syniad eich prosiect

  • £10,000 i £250,000: gallwch ddefnyddio ein Ffurflen Ymholiadau Prosiect dewisol i gael adborth o fewn 10 diwrnod gwaith.
  • £250,000 i £10m: mae'n rhaid i chi gyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb cyn dechrau cais llawn am gyllid. Dylech gael adborth o fewn 20 diwrnod gwaith.

Sylwer nad ydym yn gallu rhoi adborth ar syniadau prosiect rhwng £3,000 i £10,000.

4. Cyflwyno cais am gyllid

Defnyddiwch ein gwasanaeth Cael cyllid ar gyfer prosiect treftadaeth pan fyddwch chi'n barod i gyflwyno eich cais. Bydd y gwasanaeth yn eich tywys drwy'r gwahanol gamau.

Gwneud cais am fwy na £250,000?

  1. Os ydych am wneud cais am fwy na £250,000, mae'n rhaid i chi gyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb yn gyntaf.
  2. Os yw eich Mynegiant o Ddiddordeb yn llwyddiannus, byddwch wedyn yn cyflwyno cais am gyfnod datblygu. Os bydd eich cais am gyfnod datblygu yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn arian ac yn cael hyd at ddwy flynedd i ddatblygu cynnig prosiect manwl.
  3. Pan fyddwch yn barod, yna byddwch yn cyflwyno eich cais am y cyfnod cyflawni.

Ein terfynau amser ymgeisio

5. Cael penderfyniad ar eich cais

  • Ar ôl ei dderbyn, mae eich cais yn cael ei wirio i sicrhau bod eich sefydliad yn gymwys a bod yr holl ddogfennaeth ofynnol wedi cael ei hatodi.
  • 3,000 i £250,000: Ar ôl cwblhau’r gwiriadau ymgeisio, dylech chi dderbyn penderfyniad o fewn wyth wythnos. Caiff penderfyniadau eu gwneud mewn cyfarfodydd lleol misol.
  • £250,000 i £10m (y cyfnodau datblygu a chyflawni): Byddwn yn cymryd hyd at 12 wythnos i asesu eich cais. Yna bydd yn cael ei gyflwyno yn un o'n cyfarfodydd Pwyllgor chwarterol. Byddwch yn cael penderfyniad cyn gynted â phosib ar ôl cyfarfod. 

Os ydych yn llwyddiannus

Byddwch yn defnyddio ein gwasanaeth Cael cyllid ar gyfer prosiect treftadaeth i dderbyn a rheoli eich grant. Dysgwch fwy am yr hyn sy'n digwydd os byddwch yn derbyn grant yn llwyddiannus.

Os nad ydych yn llwyddiannus

Byddwn yn rhoi adborth ar eich cais cyn gynted â phosib ar ôl y cyfarfod penderfynu. Efallai y byddwch wedyn yn dewis ailymgeisio gyda chais diwygiedig.