Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £250,000 i £10miliwn

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £250,000 i £10miliwn

Rydym yn ariannu prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth genedlaethol, rhanbarthol a lleol y DU.

Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 30 Ionawr 2024.

Trosolwg  

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen ariannu ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU.

Defnyddiwch yr arweiniad hwn i wneud cais am grantiau rhwng £250,000 a £10m.  

Rhaid i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb yn gyntaf ac, os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i wneud cais.

Bydd eich cais fel arfer yn mynd trwy ddau gam: cam datblygu o hyd at ddwy flynedd, sy'n eich galluogi i weithio ar eich cynnig prosiect, a cham cyflwyno o bum mlynedd ar y mwyaf. Os nad ydych yn credu bod proses ymgeisio dau gam yn addas ar gyfer eich prosiect, cysylltwch â'ch swyddfa leol i trafod hyn.

Ai hon yw'r rhaglen iawn i chi?

  • A yw eich sefydliad eisiau gofalu am dreftadaeth a'i chynnal yn y DU?
  • A fydd eich prosiect treftadaeth yn para ddim mwy na phum mlynedd (ac eithrio'r cam datblygu)?
  • A oes angen grant rhwng £250,000 a £10m arnoch?
  • A ydych yn sefydliad nid-er-elw neu'n bartneriaeth a arweinir gan sefydliad nid-er-elw?
  • A yw eich prosiect yn cymryd ein pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth?

Os gwnaethoch chi ateb yn gadarnhaol i'r cwestiynau hyn, mae'n bosibl bod Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn addas i chi.

Ein hegwyddorion buddsoddi  

Mae pedair egwyddor fuddsoddi'n llywio ein holl benderfyniadau gwneud grantiau o dan ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033:

  • achub treftadaeth
  • diogelu'r amgylchedd
  • cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad
  • cynaladwyedd sefydliadol

Mae'n rhaid i chi gymryd pob un o'r pedair egwyddor hyn i ystyriaeth yn eich cais. Eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar gryfder y ffocws a'r pwyslais ar bob egwyddor, a dangos hynny.

Bydd yr egwyddorion buddsoddi, a'n mentrau strategol, yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb yn y dyfodol.

Pethau y mae angen i chi eu gwybod

  • Mae'n rhaid peidio â dechrau ar ein prosiect cyn i ni wneud penderfyniad.
  • Yn gyntaf mae'n rhaid i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb i ddweud wrthym am eich syniad, a byddwn yn rhoi gwybod i chi os byddwch yn cael eich gwahodd i wneud cais.
  • Mae'r terfynau amser ar gyfer ceisiadau datblygu a chyflwyno'n digwydd bob chwarter
  • Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais a’r holl ddogfennau ategol cywir, byddwn yn asesu eich cais o fewn 12 wythnos ac, ar ôl ei asesu, fe gaiff ei gyflwyno i’r cyfarfod penderfynu nesaf a drefnir.
  • Ar gyfer grantiau dan £1m, rhaid i chi gyfrannu o leiaf 5% o gostau eich prosiect. Ar gyfer grantiau dros £1m, rhaid i chi gyfrannu o leiaf 10% o gostau eich prosiect.
  • Fel arfer mae taliadau am grantiau datblygu dan £250,000 yn cael eu gwneud mewn tri cham: 50% ymlaen llaw, 30% ymlaen llaw, ac yna 20% mewn ôl-daliadau. Gwneir taliadau ar gyfer grantiau datblygu dros £250,000, a'r holl grantiau cyflwyno, mewn ôl-daliadau.
  • Rydym yn darparu llawer o arweiniad arfer da. Argymhellwn i chi ddarllen yr arweiniad sy'n berthnasol i chi i'ch helpu i ddatblygu a rheoli eich prosiect. 
  • Mae'n bosibl y byddwn yn ystyried ceisiadau dros £10m ar gyfer prosiectau treftadaeth sy'n wirioneddol eithriadol. Os yw hyn yn berthnasol i'ch prosiect chi, dylech gysylltu â'ch swyddfa leol i gael trafodaeth.

Rydym yn ariannu prosiectau sy'n gwerthfawrogi, yn cynnal ac yn gofalu am dreftadaeth i bawb ar draws y DU, nawr ac yn y dyfodol.  

Gall treftadaeth olygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Gall fod yn unrhyw beth o'r gorffennol yr ydych yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

Gallai hyn gynnwys natur a chynefinoedd, adeiladau ac amgylcheddau hanesyddol, neu ddiwylliannau, traddodiadau ac atgofion pobl. Archwiliwch yr ystod eang o fathau o dreftadaeth y gallai eich prosiect eu cynnwys.

Rydym yn ariannu prosiectau sydd:

  • yn canolbwyntio'n glir ar dreftadaeth - gall hyn fod yn dreftadaeth genedlaethol, rhanbarthol neu leol yn y DU
  • yn cymryd y pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth
  • yn cynnwys cynllun clir gyda dechrau, canol a diwedd diffiniedig
  • heb ddechrau eto
  • yn gallu dangos yr angen am fuddsoddiad gan y Loteri Genedlaethol

Mae'n bwysig cynllunio eich prosiect yn ofalus, gan gynnwys costau, amserlenni a derbyn cymorth ar gyfer eich prosiect cyn i chi ddechrau llenwi cais. Bydd yr arweiniad isod yn eich helpu i feddwl am yr hyn y dylech ei gynnwys yn eich prosiect a'r costau y gallwn eu talu.

Gall ein grantiau treftadaeth gefnogi ystod eang o weithgareddau a chostau prosiect uniongyrchol, megis:  

  • treuliau gwirfoddolwyr, swyddi staff newydd a chostau hyfforddi  
  • gwaith cyfalaf, atgyweirio, cynnal a chadw a chadwraeth  
  • ffioedd proffesiynol, costau digwyddiadau a gweithgareddau i gryfhau eich sefydliad
  • caffael treftadaeth a chostau sy'n gysylltiedig â'r hyn sy'n cael ei brynu
  • costau i ymuno â Fit for the Future, rhwydwaith cynaladwyedd amgylcheddol DU gyfan

Ni allwn dalu costau presennol nac unrhyw weithgaredd sydd wedi digwydd cyn i’r grant gael ei ddyfarnu, nac unrhyw beth sy’n hyrwyddo achos neu gredoau sefydliadau gwleidyddol neu ffydd.

Ni fyddwn yn cefnogi prosiectau sy'n cynnwys gosod glaswellt neu blanhigion artiffisial, fodd bynnag caniateir arwynebau diogelwch chwarae arbenigol ac arwynebau chwaraeon proffesiynol.

Mae rhai prosiectau'n anelu at sicrhau twf economaidd drwy fuddsoddi mewn treftadaeth. Rydym yn galw'r rhain yn brosiectau Menter Treftadaeth. £5m yw'r uchafswm y gallwch ymgeisio amdano o dan menter treftadaeth.

Iaith Gymraeg

Os bydd eich prosiect yn digwydd yng Nghymru, mae'n rhaid i chi ystyried y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith. Dywedwch wrthym sut y byddwch chi'n hyrwyddo ac yn cefnogi'r Gymraeg ac yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru.

Gwnewch yn siŵr bod cyfieithu wedi'u cynnwys yn eich cynllun prosiect a chyllideb eich prosiect o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau prosiect y cais.

Am ragor o wybodaeth gweler ein Harweiniad prosiect dwyieithog yng Nghymru.

Hyrwyddo a chydnabod ariannu

Mae cydnabod eich grant gan y Gronfa Treftadaeth yn rhan bwysig o'ch prosiect. Dyma’ch cyfle i ddangos sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi treftadaeth yn y DU, ac i ddiolch yn gyhoeddus i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud eich prosiect yn bosibl.

Bydd cynllunio'n gynnar, a dyrannu cyllideb briodol, yn eich helpu i fodloni ein gofynion a chydnabod eich grant mewn ffyrdd sy'n greadigol ac yn addas ar gyfer eich prosiect.

Rydym yn eich annog i ddatblygu cynigion neu ddigwyddiadau hyrwyddo arloesol ar gyfer chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, er enghraifft, efallai y byddwch yn cofrestru ar gyfer Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol i redeg cynigion arbennig.

Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer cydnabyddiaeth yn y categori costau 'Cyhoeddusrwydd a hyrwyddo' yn adran costau prosiect y cais. Rydym yn argymell i chi seilio'r costau hyn ar ddyfynbrisiau gan ddarpar gyflenwyr.

Os yw eich grant am fwy na £1m tuag at ofod arddangosfa newydd, canolfan ymwelwyr, gardd gymunedol neu gyfleuster cyhoeddus arall, hoffem hefyd drafod y ffordd orau o ymgorffori'r Loteri Genedlaethol yn enw'r gofod neu'r safle.

Defnyddiwch ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth i gynllunio eich gweithgareddau'n gymesur â maint eich grant.

Gwerthuso ac adrodd

Mae gwerthuso o ansawdd da yn eich helpu i ddeall eich effaith ac yn rhoi cyfle i eraill ddysgu o'ch profiad. Yn ei dro, mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i nodi'r gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud drwy ein grantiau.

Rydym yn argymell i chi ymwreiddio gwerthuso yn eich prosiect o’r cychwyn cyntaf. Yn ôl ein tystiolaeth, po fwyaf gofalus y mae prosiectau'n cyllidebu ar gyfer eu gwerthusiad, yr uchaf fydd ansawdd yr adroddiad terfynol.

Bydd angen i chi gynnwys cyllideb ar gyfer gwerthuso ac adrodd yn y categori costau 'Gwerthuso' yn adran costau prosiect eich cais, ar gyfer y camau datblygu a chyflwyno ill dau.

Adennill costau llawn

Os ydych yn sefydliad yn y sector gwirfoddol (er enghraifft, efallai bod gennych fwrdd ymddiriedolwyr ac wedi'ch ariannu gan grantiau a rhoddion), gallwn dalu cyfran o orbenion eich sefydliad ar ffurf adennill costau llawn.

Mae adennill costau llawn yn golygu sicrhau ariannu ar gyfer yr holl gostau sydd ynghlwm wrth redeg prosiect. Mae hyn yn golygu y gallwch ofyn i gostau prosiect uniongyrchol gael eu hariannu yn ogystal â chyfran gymesur o gostau sefydlog eich sefydliad.

Gall hyn gynnwys costau sy’n cefnogi’r prosiect yn rhannol, ond sydd hefyd yn cefnogi prosiectau neu weithgareddau eraill y mae eich sefydliad yn eu darparu, megis cyflogau staff sy’n gweithio ar draws prosiectau ym meysydd gweinyddu, rheoli, AD, neu godi arian, costau swyddfa fel rhent neu gyfleustodau a ffioedd cyfreithiol neu archwilio.

Gall ariannu sy’n talu am rai o’ch costau rhedeg fod yn bwysig i’ch cynaladwyedd, felly rydym yn eich annog i ystyried cynnwys hyn yn eich cyllideb yn y categori costau ‘Adennill costau llawn’ os ydych yn gymwys.  

Mae arweiniad cydnabyddedig ar gyfrifo’r swm adennill costau llawn sy’n berthnasol i’ch prosiect ar gael gan sefydliadau megis Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Eich gallu i reoli costau'r prosiect

Rhaid i chi gyfrannu at gostau eich prosiect ar y lefel grant hon. Gelwir hyn yn ariannu partneriaeth a gall fod yn arian parod, cyfraniadau nad ydynt yn arian parod, amser gwirfoddolwyr neu gyfuniad o'r rhain i gyd.

Rydym yn defnyddio cyfradd safonol o £20 yr awr i gyfrifo amser gwirfoddolwyr.

Os yw eich prosiect yn cynnwys gwaith cyfalaf, gallwch gynnwys y cynnydd mewn costau rheoli a chynnal a chadw'r dreftadaeth yn y dyfodol ar gyfer hyd at bum mlynedd ar ôl cwblhau ymarferol fel ariannu partneriaeth.

Ar gyfer ceisiadau grant rhwng £250,000 ac £1m:

  • Rhaid i chi ddarparu o leiaf 5% o gostau’r cam datblygu ac o leiaf 5% o gostau’r cam cyflwyno fel ariannu partneriaeth.

Ar gyfer ceisiadau grant rhwng £1m a £10m:

  • Rhaid i chi ddarparu o leiaf 10% o gostau’r cam datblygu ac o leiaf 10% o gostau’r cam cyflwyno fel ariannu partneriaeth.

Os yw eich prosiect yn derbyn ariannu gan ddosbarthwyr eraill y Loteri Genedlaethol (er enghraifft, y Gronfa Gymunedol) gall hyn gyfrif fel ariannu partneriaeth, ond ni all gyfrif tuag at eich lleiafswm cyfraniad o 5% neu 10%.

Os ydych yn darparu'r lleiafswm ariannu partneriaeth gofynnol, neu os na allwch ddarparu unrhyw ariannu partneriaeth, bydd angen i chi esbonio pam yn eich cais. Byddwn wedyn yn ystyried eich achos dros swm y grant y gofynnir amdano fel rhan o'n hasesiad. 

O dan y rhaglen hon, rydym yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau nid-er-elw a phartneriaethau a arweinir gan sefydliadau nid-er-elw.

Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o sefydliadau y gallwn eu hariannu:

  • elusennau, ymddiriedolaethau a sefydliadau corfforedig elusennol
  • grwpiau cymunedol a gwirfoddol
  • cynghorau cymuned/plwyf
  • cwmnïau buddiant cymunedol
  • sefydliadau ffydd neu eglwysig
  • awdurdodau lleol
  • sefydliadau sector cyhoeddus eraill

Mae angen i sefydliadau fod â chyfrif banc, dogfen lywodraethu, a dau neu fwy o aelodau nad ydynt yn perthyn i'w gilydd nac yn byw yn yr un cyfeiriad.

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys i wneud cais, cysylltwch â'ch tîm lleol drwy gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb.

Partneriaethau

Rydym yn eich annog i weithio gyda phobl eraill i ddatblygu a chyflawni eich prosiect.  

Mae partner yn sefydliad arall neu gorff trydydd parti sy'n rhan annatod o gyflawni'ch prosiect.  

Nid yw partneriaid yn isgontractwyr. Bydd ganddynt rôl weithredol yn y prosiect a byddant yn cymryd rhan yn y prosiect. Byddant yn helpu i adrodd ar gynnydd, yn mynychu cyfarfodydd partneriaeth rheolaidd ac yn cefnogi gwerthusiad y prosiect.  

Os ydych yn bwriadu gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni cyfran sylweddol o'ch prosiect, mae'n rhaid i chi ffurfioli eich perthynas trwy gytundeb partneriaeth.  

Os ydych yn gwneud cais ar y cyd, bydd angen i chi benderfynu pa sefydliad fydd yr ymgeisydd arweiniol. Bydd yr ymgeisydd arweiniol yn cwblhau'r cais, ac os yw'n llwyddiannus, bydd yn derbyn y grant ac yn darparu diweddariadau prosiect. Fel arfer rydym yn disgwyl mai perchennog y dreftadaeth fydd yr ymgeisydd arweiniol. Os nad perchennog y dreftadaeth yw'r ymgeisydd arweiniol, byddwn fel arfer yn gofyn iddynt ymrwymo i delerau'r grant.

Rhaid i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb yn gyntaf ac, os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i wneud cais. Bydd gennych 12 mis i gyflwyno cais.

Os nad ydym yn eich gwahodd i wneud cais, byddwn yn esbonio ein rheswm. Rhaid i chi aros tri mis cyn cyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb newydd.

Bydd eich cais mewn cystadleuaeth â phrosiectau eraill yn y camau datblygu a chyflwyno. Nid yw dyfarnu grant datblygu'n gwarantu y byddwch yn derbyn dyfarniad grant cyflwyno. 

Cam datblygu

Dylai eich cais fel arfer gynnwys cam datblygu i'ch helpu i weithio ar eich cynnig ar gyfer y prosiect. Dylech gynnwys gwybodaeth fanwl am y cam hwn ac amlinellu cynigion ar gyfer eich cam cyflwyno. Mae'r cam datblygu'n eich galluogi i ddod i well dealltwriaeth o'r costau, yr adnoddau, yr amserlen ac anghenion eich cynulleidfaoedd. Dylech ddefnyddio'r wybodaeth hon i greu cynigion manwl ar gyfer eich cais cam cyflwyno.  

Gallwch gymryd hyd at ddwy flynedd i gwblhau'r cam hwn.

Mae'r cam datblygu'n debygol o gynnwys:

  • ymgynghori â phobl y tu allan i'ch sefydliad
  • adolygiad o'ch llywodraethu, cynllunio busnes ac unrhyw faterion cyfreithiol
  • gwaith dylunio a chynllunio manwl
  • unrhyw arolygon neu ymchwiliadau angenrheidiol

Adolygu eich cam datblygu

Byddwn yn adolygu eich prosiect yn ystod y cam hwn i weld pa gynnydd yr ydych yn ei wneud gyda'ch cais cam cyflwyno.

Ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â gwaith cyfalaf, byddwn yn edrych ar eich cynlluniau pan fyddant yn cyfateb i gam gwaith 2 RIBA.

Prif ddiben yr adolygiad yw cadarnhau bod:

  • y prosiect yn dod yn ei flaen yn dda ac yn dilyn y dibenion cymeradwy
  • diweddariadau costau ac ariannu partneriaeth yn dynodi prosiect hyfyw
  • modd rheoli'r risgiau
  • cynllun cadwraeth drafft ar gyfer prosiectau sy'n ymwneud â gwaith cyfalaf ar dir neu adeiladau

Mae'r adolygiad hefyd yn darparu cyfle i adolygu unrhyw newidiadau sylweddol ac amlygu unrhyw feysydd lle mae angen gwneud gwaith pellach. Os oes pryderon difrifol, efallai y bydd eich prosiect yn methu'r adolygiad a byddwn yn argymell nad ydych yn cyflwyno cais cam cyflwyno.  

Cam cyflwyno

Byddwn yn trafod eich cais cam cyflwyno gyda chi yn ystod eich cam datblygu. Dylech ddarparu gwybodaeth fanwl am eich cynigion cam cyflwyno yn eich cais.  

Os dyfernir grant cyflwyno i chi, bydd gennych hyd at bum mlynedd i gwblhau eich prosiect oni bai ein bod wedi cytuno ar gyfnod prosiect hwy gyda chi.  

Terfynau amser ymgeisio

Mae yna derfynau amser chwarterol ar gyfer ceisiadau cam datblygu a chyflwyno.

Penderfyniadau brys

Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl y byddwn yn ystyried proses ymgeisio llwybr cyflym, os oes angen dirfawr am benderfyniad cyflymach (er enghraifft, os oes gennych gyfle i brynu eitem treftadaeth mewn arwerthiant ond bod angen symud yn gyflym). Os credwch fod hyn yn berthnasol i'ch prosiect, dylech gysylltu â'ch swyddfa leol i drafod hyn.  

Defnyddiwch y rhestr wirio hon i sicrhau eich bod yn barod i wneud cais:

Cam un:

  • Rwyf wedi darllen yr arweiniad ymgeisio a'r cwestiynau ymgeisio
  • Rwyf wedi ddarllen y telerau grant ar gyfer y rhaglen hon
  • Rwyf wedi cyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb

Anelwn at ymateb i'ch Mynegiad o Ddiddordeb o fewn 20 diwrnod gwaith.

Os ydych yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i wneud cais llawn.

Noder: nid yw gwahoddiad i wneud cais yn gwarantu grant gennym ni yn y dyfodol, ond mae'n dangos ein bod yn gweld potensial yn eich cynnig cychwynnol.

Cam dau (os bydd fy Mynegiad o Ddiddordeb yn llwyddiannus, a chaf fy ngwahodd i wneud cais):

  • Rwyf wedi llunio cynllun a chyllideb ar gyfer y prosiect a gwirio fy nghostiadau
  • Rwyf wedi paratoi'r holl ddogfennau ategol gorfodol gan gynnwys cyfrifon fy sefydliad
  • Rwyf wedi ystyried unrhyw ganiatadau neu drwyddedau sydd eu hangen arnaf, er enghraifft trwydded ystlumod neu ganiatâd adeilad rhestredig
  • Rwyf wedi cynllunio sut i werthuso fy mhrosiect
  • Rwyf wedi cynllunio sut i gydnabod fy ngrant, os bydd fy nghais yn llwyddiannus 

Gwneud cais am neu reoli cyllid ar gyfer prosiect treftadaeth.

Bydd angen i chi ddarparu'r dogfennau ategol perthnasol a amlinellir yn yr adran hon fel rhan o'r broses ymgeisio.

Mae angen rhai dogfennau yn ystod cam datblygu eich prosiect, ac mae angen rhai eraill yn ystod y cam cyflwyno. Hefyd, bydd angen i chi ddarparu fersiynau wedi'u diweddaru o rai o'r dogfennau a ddarparwyd gyda'ch cais cam datblygu fel rhan o'ch cais cam cyflwyno.

Ni fydd pob un o'r dogfennau eraill a restrir isod yn berthnasol i'ch prosiect. Bydd yr wybodaeth ychwanegol a'r arweiniad i'r cwestiynau ymgeisio'n eich helpu i benderfynu a ydynt yn berthnasol. Peidiwch â chyflwyno unrhyw ddogfennau ychwanegol, gan na fyddwn yn eu defnyddio wrth wneud ein hasesiad.

Mae angen dogfennau ategol ychwanegol ar gyfer ceisiadau sy'n cyfeirio at brosiectau Menter Treftadaeth.  

Mae'n bosibl y bydd angen dogfennau ategol ychwanegol ar gyfer ceisiadau sy'n ymwneud â chaffaeliadau. Gweler rhagor o wybodaeth yn yr adran Caffael adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth.  

Dogfennau ategol y cam datblygu

Rhaid i chi ddarparu'r dogfennau gorfodol a ganlyn:

  • dogfen lywodraethu (oni bai eich bod wedi’ch eithrio)  
  • gwybodaeth cyfrifon
  • amserlen ar gyfer y camau datblygu a chyflwyno
  • cofrestr risgiau ar gyfer y camau datblygu a chyflwyno
  • dogfen yn amlinellu'r prif risgiau ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau
  • dadansoddiad costau manwl ar gyfer y cam datblygu
  • cynllun busnes cyfredol eich sefydliad

Dogfen lywodraethu (er enghraifft, cyfansoddiad)  

Rhaid i chi ddarparu copi o ddogfen lywodraethu eich sefydliad.  

Rhaid bod gennych o leiaf ddau berson ar eich bwrdd neu bwyllgor rheoli nad ydynt yn perthyn i'w gilydd trwy waed neu briodas, nac yn byw yn yr un cyfeiriad.

Dylai eich dogfen lywodraethu gynnwys y canlynol:

  • enw cyfreithiol a nodau eich sefydliad
  • datganiad sy’n atal eich sefydliad rhag dosbarthu incwm neu eiddo i’w aelodau yn ystod ei oes
  • datganiad sy’n cadarnhau, os caiff eich sefydliad ei ddirwyn i ben neu ei ddiddymu, y bydd asedau’r sefydliad yn cael eu dosbarthu i sefydliad elusennol neu nid-er-elw arall ac nid i aelodau’r sefydliad
  • y dyddiad y cafodd ei fabwysiadu a llofnod eich cadeirydd neu berson awdurdodedig arall

Ni allwn ariannu eich sefydliad os nad yw eich cyfansoddiad yn cynnwys yr uchod. Mae'r Comisiwn Elusennau'n darparu arweiniad ar greu dogfen lywodraethu.

Nid oes angen i ni weld eich dogfen lywodraethu os ydych yn:

  • sefydliad cyhoeddus, er enghraifft, awdurdod lleol neu brifysgol
  • elusen sy'n gofrestredig gyda Chomisiynau Elusennau Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu Reoleiddiwr Elusennau'r Alban  

Cyfrifon

Rhaid i chi ddarparu eich cyfrifon diweddaraf sydd wedi'u harchwilio neu eu dilysu gan gyfrifydd ar gyfer y tair blynedd diwethaf a'ch cyfrifon rheoli ar gyfer y flwyddyn gyfredol.

Os yw cyfrifon eich sefydliad yn hŷn na 18 mis oed, neu os sefydlwyd eich sefydliad lai na 14 mis yn ôl ac nad oes ganddo set o gyfrifon wedi'u harchwilio, rhaid i chi ddarparu eich tair cyfriflen banc ddiwethaf neu lythyr gan eich banc.

Cofrestr risgiau

Rhaid i chi gyflwyno cofrestr risgiau ar gyfer y camau datblygu a chyflwyno.  

Mae cofrestr risgiau'n ddogfen, fel arfer wedi'i llunio fel tabl, sy'n rhestru'r holl risgiau a nodwyd gan sefydliad ac wedi'u blaenoriaethu yn nhrefn pwysigrwydd.

Rydym yn gwybod bod pob prosiect yn wynebu heriau a risgiau. Byddwn am weld pa risgiau yr ydych wedi'u hystyried, yr effaith y byddai'r risg yn ei chael ar eich prosiect a sut y byddech yn cynllunio i reoli pob risg.

Ar gyfer pob risg, amlinellwch:  

  • natur y risg, er enghraifft technegol, marchnad, ariannol, economaidd, rheoli, cyfreithiol  
  • disgrifiad o'r risg  
  • y tebygolrwydd y bydd y risg yn digwydd, gan ddefnyddio gwerth canrannol neu radd isel, canolig neu uchel
  • yr effaith y gallai'r risg ei chael ar gostau, amser a/neu berfformiad y prosiect  
  • yr effaith gyffredinol y gallai’r risg ei chael ar gyflwyno’r prosiect
  • sut y byddech yn mynd i'r afael â’r risg

Dadansoddiad manwl o gostau

Rhaid i chi ddarparu taenlen yn manylu ar y costau y gwnaethoch eu hamlinellu wrth gwblhau eich cais.

Mae arnom angen taenlen fanwl o wariant ac incwm y prosiect, gan gyfeirio at y penawdau cyllideb a ddefnyddiwyd yn eich cais, gan eitemeiddio pob agwedd.  

Er enghraifft, efallai eich bod wedi cynnwys gwaith atgyweirio a chadwraeth yn eich cyllideb gychwynnol, gyda chrynodeb pennawd o 'atgyweiriadau to, £100,000'. Dylech ymhelaethu ar hyn yn eich dadansoddiad manwl o gostau, gan ddarparu taenlen sy'n cynnwys rhestr wedi'i heitemeiddio o'r deunyddiau a'r llafur dan sylw gyda rhes ar wahân ar gyfer pob cost.  

Cynllun busnes

Rhaid i chi gyflwyno cynllun busnes cyfredol eich sefydliad.  

Os nad oes gennych gynllun busnes, gofynnir i chi gyflwyno'r ddogfen rydych yn ei defnyddio i reoli eich treftadaeth. Os ydych yn sefydliad sy'n rheoli nifer o safleoedd neu, er enghraifft, yn awdurdod lleol, gofynnir i chi gyflwyno'r dogfennau cynllunio sydd fwyaf perthnasol i'r dreftadaeth yn eich cais.

Mae cynllun busnes yn nodi agweddau ariannol a threfniadaethol eich busnes. Mae'n dangos:  

  • trosolwg o'ch sefydliad  
  • statws ariannol eich sefydliad  
  • cyd-destun eich sefydliad  
  • sut rydych am ddatblygu eich sefydliad  

Nid yw cynllun busnes yr un peth â chynllun prosiect. Mae'n canolbwyntio ar y sefydliad cyffredinol ac nid ar weithgareddau prosiect penodol, ond fe ddylai gyfleu sut mae eich prosiect arfaethedig yn cydweddu â'ch uchelgeisiau fel sefydliad. Am ragor o wybodaeth gweler ein harweiniad cynllun busnes.

Amserlen y prosiect

Rhaid i chi ddarparu amserlen ar gyfer y camau datblygu a chyflwyno.  

Dylai hyn gynnwys gwybodaeth fanwl am y cam datblygu a gwybodaeth amlinellol am y cam cyflwyno. Dylai hyn hefyd gynnwys cyfeiriadau at y cerrig milltir yr ydych yn disgwyl i'ch prosiect eu cyflawni, gan ddarparu trosolwg cynhwysfawr o sut yr ydych yn disgwyl i'ch prosiect esblygu dros amser.

Disgrifiadau swydd (os yn berthnasol)  

Os ydych yn bwriadu recriwtio staff neu brentisiaid newydd i helpu cyflwyno eich prosiect, mae angen i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer pob swydd newydd. Dylai pob disgrifiad swydd gynnwys y cyflog a'r oriau gwaith arfaethedig.

Briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir (os yn berthnasol)

Mae briffiau'n disgrifio unrhyw waith yr ydych yn bwriadu ei brynu i mewn yn ystod eich prosiect.

Os ydych yn comisiynu gwaith, er enghraifft, gan artist neu bensaer, dylech ddarparu brîff. Dylai'r brîff ddisgrifio'r gwaith, faint o amser y bydd yn ei gymryd, faint y bydd yn ei gostio a'r sgiliau gofynnol.

Gallwch gael mwy o wybodaeth a defnyddio ein templed o frîff.

Cyfrifo adennill costau llawn ar gyfer y cam datblygu (os yn berthnasol)  

Os ydych wedi cynnwys adennill costau llawn fel pennawd cost yng nghostau eich prosiect, rhaid i chi ddarparu dogfen sy'n dangos sut rydych wedi cyfrifo hyn yn seiliedig ar gyfrifon a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Mae arweiniad cydnabyddedig ar gyfrifo’r swm adennill costau llawn sy’n berthnasol i’ch prosiect ar gael gan sefydliadau megis Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Ni allwn dderbyn ceisiadau sy’n cynnwys adennill costau llawn gan sefydliadau sector cyhoeddus (er enghraifft, amgueddfeydd a ariennir gan lywodraeth, awdurdodau lleol neu brifysgolion).

Delweddau o'r prosiect (os yn berthnasol)  

Os yn berthnasol, darparwch hyd at chwe delwedd sy'n helpu i roi darlun o'ch prosiect.

Gwnewch yn siŵr bod gennych bob caniatâd sydd ei angen, megis perchnogaeth ar hawlfraint a ffurflenni caniatâd cyfranogwyr, i rannu'r delweddau hyn gyda ni, gan y byddwn o bosibl yn eu defnyddio i hysbysu pobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect.

Tystiolaeth o gefnogaeth (os yn berthnasol)

Darparwch hyd at chwe darn o dystiolaeth o gefnogaeth, er enghraifft llythyrau, e-byst neu ffurflenni adborth, gan sefydliadau neu unigolion eraill sy'n cefnogi neu'n cymryd rhan yn eich prosiect.  

Mae darparu tystiolaeth o gefnogaeth yn ffordd dda o ddangos i ni eich bod wedi siarad â phobl eraill a bod ganddynt ddiddordeb yn eich prosiect a'u bod wedi'u hymrwymo iddo.

Cytundebau partneriaeth (gorfodol os yn berthnasol)

Os ydych yn bwriadu gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni eich prosiect, bydd angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth. Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r holl bartneriaid a dylai pob parti ei lofnodi. Dylai'r ddogfen hon adlewyrchu anghenion eich prosiect ac mae'n bosibl y bydd angen i chi ofyn am gyngor annibynnol ar y ffordd orau o lunio cytundeb.

Arolwg cyflwr (os yn berthnasol)

Os yw eich prosiect yn ymwneud â chadwraeth treftadaeth, rhaid i chi ddarparu arolwg cyflwr neu ddogfen briodol arall i ddweud wrthym beth yw cyflwr presennol y dreftadaeth a'r gwaith sydd ei angen i ddychwelyd y dreftadaeth i gyflwr da.  

Dylai'r arolwg neu'r adroddiad hefyd nodi blaenoriaeth gymharol y gwaith arfaethedig, er mwyn i chi wybod pa waith sydd fwyaf hanfodol, y mae angen ymdrin ag ef fwyaf ar fyrder.

Mae mathau eraill o arolwg a allai fod yn berthnasol i’w cynnwys fel rhan o arolwg cyflwr, megis arolwg perfformiad ac effeithlonrwydd ynni adeilad.

Dogfennau perchnogaeth (os yn berthnasol)

Os ydych yn cynllunio unrhyw waith cyfalaf, neu'n bwriadu prynu adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth, bydd angen i chi ddarparu copïau o unrhyw ddogfennau sy'n berthnasol i'ch perchnogaeth. Enghreifftiau o'r rhain yw dogfennau perchnogaeth y Gofrestrfa Tir, neu brydles neu benawdau telerau.

Dogfennau ategol y cam cyflwyno

Wrth gwblhau cais cam cyflwyno, rhaid i chi ddarparu fersiynau wedi’u diweddaru o’r dogfennau canlynol i adlewyrchu’r ddealltwriaeth newydd o’r costau, yr adnoddau, yr amserlen ac anghenion eich cynulleidfaoedd yr ydych wedi'i datblygu yn ystod cam datblygu eich prosiect:

  • cynllun busnes
  • dadansoddiad llawn o gostau, gan gynnwys colofnau ychwanegol sy'n cymharu costau adeg dyfarnu eich grant datblygu, yr adolygiad o'ch cam datblygu a chyflwyno'ch cais cam cyflwyno
  • cofrestr risgiau ar gyfer y cam cyflwyno ac ar ôl i'r prosiect ddod i ben
  • amserlen ar gyfer y cam cyflwyno
  • cyfrifiad o adennill costau llawn ar gyfer y cam cyflwyno, os yn berthnasol
  • briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir, os yn berthnasol
  • disgrifiadau swydd ar gyfer y cam cyflwyno, os yn berthnasol
  • delweddau, os yn berthnasol
  • cytundebau partneriaeth, os yn berthnasol
  • dogfennau perchnogaeth, os yn berthnasol

Rhaid i chi ddarparu'r dogfennau a ganlyn fel y bo'n berthnasol.

Cynllun gweithgareddau neu gynllun gweithredu ardal

Rhaid i chi ddarparu cynllun gweithgareddau neu gynllun gweithredu ardal fel y bo'n berthnasol. Os yw eich prosiect yn ymwneud â gweithgareddau a phobl, rhaid i chi gynhyrchu cynllun gweithgareddau. Os ydych yn gweithio ar brosiect ardal, rhaid i chi gynhyrchu cynllun gweithredu ardal.  

Cynllun gweithgareddau

Mae cynllun gweithgareddau'n disgrifio popeth y byddwch yn ei wneud fel rhan o'ch prosiect a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i'r bobl dan sylw. Gall y rhain fod yn gyfranogwyr, ymwelwyr, gwirfoddolwyr neu hyfforddeion ond gallent hefyd gynnwys staff newydd a phresennol a'ch ymddiriedolwyr neu'ch grŵp llywio.

Bydd angen i chi benderfynu pa grwpiau penodol o bobl yr ydych eisiau eu cyrraedd gyda'ch ariannu. Wedyn, nodwch yr holl weithgareddau – yn fanwl ac wedi’u costio’n gywir – y byddwch yn eu gwneud i ddiwallu eu hanghenion a chyflawni ein hegwyddorion buddsoddi o fewn eich prosiect.

Mae eich cynllun gweithgareddau'n benodol i'r prosiect treftadaeth yr ydych yn gofyn i ni ei ariannu. Dydy e ddim yr un peth â'ch cynlluniau ar gyfer gwaith bob dydd neu gynllun datblygu cyffredinol ar gyfer gweithgarwch eich sefydliad.

Mae mwy o wybodaeth yn ein harweiniad cynllun gweithgareddau.

Cynllun gweithredu ardal  

Os yn berthnasol, dylai eich cynllun gweithredu ardal gynnwys:

  • crynodeb sy’n esbonio cymeriad unigryw eich ardal a sut mae wedi esblygu dros amser – gan gynnwys yr holl dir, bioamrywiaeth, adeileddau, adeiladau a nodweddion sy’n gwneud neu a allai wneud cyfraniadau cadarnhaol at naws unigryw gyffredinol yr ardal
  • gwybodaeth am sut mae’r ardal yn cael ei rheoli a’i gwarchod ar hyn o bryd, gan gynnwys asesiad o strategaethau a pholisïau cyfredol yn erbyn meincnodau sector priodol, ac argaeledd sgiliau treftadaeth a'r angen amdanynt
  • dadansoddiad o gyflyrau demograffig, cymdeithasol ac economaidd yr ardal; asesiad o fuddiannau a phryderon gwahanol rhanddeiliaid megis perchnogion treftadaeth, cymunedau lleol, y gymuned fusnes ac ymwelwyr  
  • gweledigaeth gytunedig eich sefydliad ar gyfer yr ardal
  • gwybodaeth a fydd yn eich helpu i ddylunio gweithgareddau y byddwch yn eu rhedeg fel rhan o'ch cynllun i ennyn diddordeb pobl leol yn nhreftadaeth yr ardal
  • eich sail resymegol dros ffiniau eich ardal
  • asesiad o'r polisïau a'r pwerau statudol y mae angen eu rhoi ar waith i warchod cymeriad yr ardal a chynnal buddion eich cynllun yn y tymor hir er budd y dreftadaeth a chymunedau lleol
  • bygythiadau i'r ardal a chyfleoedd i fynd i'r afael â'r rhain megis newid yn yr hinsawdd; yr amgylchedd gwleidyddol a materion polisi ehangach; newidiadau cymdeithasol ac economaidd; ac agweddau lleol a dealltwriaeth o'r dreftadaeth
  • crynodeb o’r math a chategori o waith y gellid ei wneud i warchod a gwella cymeriad tir, bioamrywiaeth, adeileddau, adeiladau, nodweddion a’r ardal yn gyffredinol
  • cynlluniau ar gyfer etifeddiaeth hirdymor arfaethedig eich prosiect a sut y caiff hyn ei sicrhau
  • manylion sut y byddwch yn gwerthuso eich prosiect ardal a pha adnoddau y bydd eu hangen arnoch i gwblhau'r gwerthusiad hwn

Dylai eich cynllun gweithredu ardal gael ei uwchlwytho mewn dogfen megis PDF. Dylech gynnwys crynodeb gweithredol nad yw'n hwy nag un dudalen o A4 a thudalen gynnwys.

Rydym yn darparu manylion pellach ar sut i greu cynllun gweithredu ardal.

Adroddiad llif arian parod

Rhaid i chi ddarparu trosolwg cyflawn o lif arian parod eich sefydliad trwy gydol eich prosiect. Dylai hyn gynnwys adroddiad misol o'ch balans banc, ynghyd ag unrhyw warged neu ddiffyg arian parod misol.  

Os oes gennych is-gwmni masnachu, paratowch lif arian parod cyfunol ar gyfer y rhiant-sefydliad a'r is-gwmni.

Esboniwch y tybiaethau yr ydych yn eu gwneud ynghylch unrhyw incwm y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol o unrhyw ffynonellau ariannu eraill.

Rhagamcaniadau incwm a gwariant am bum mlynedd ar ôl cwblhau'r prosiect

Mae'n rhaid i chi ddarparu asesiad ariannol cyffredinol o'ch sefydliad fel y bo'n berthnasol i'ch prosiect, gan gynrychioli eich gweithrediad o ddydd i ddydd a'ch model ariannol gan gynnwys eich prif ffynonellau ariannu, fel y bwriadwch weithredu am y pum mlynedd ar ôl cwblhau'r prosiect.  

Dylai hyn gynnwys rhagolwg o'ch cyfrif incwm a gwariant, rhagolwg llif arian parod yn dangos y llif arian parod misol disgwyliedig a datganiadau o'r rhagdybiaethau sy'n sail i'r rhagolygon.

Dylech gynnwys manylion y tybiaethau a wneir yn eich cyfrifiadau. Tybiaeth yw unrhyw beth yr ydych yn dibynnu arno i wneud rhagolygon. Er enghraifft, nifer cyfartalog yr ymwelwyr yr ydych yn eu disgwyl yn seiliedig ar y flwyddyn flaenorol, neu unrhyw gostau anhysbys o ran deunyddiau.

Cofiwch sicrhau eich bod hefyd yn cynnwys manylion unrhyw gronfeydd wrth gefn a allai effeithio ar eich adroddiad.

Strwythur rheoli'r prosiect

Rhaid i chi ddarparu dogfen sy'n esbonio strwythur rheoli eich prosiect, gan gyfeirio at brosesau gwneud penderfyniadau a llinellau cyfathrebu ac adrodd. Efallai y bydd yn berthnasol darparu siart sefydliadol/diagram rhwydwaith syml i ddangos strwythurau llywodraethu, rheoli a staffio eich sefydliad fel y bônt yn berthnasol i'r prosiect.

Cynllun rheoli a chynnal a chadw (os yn berthnasol)

Os yw eich prosiect yn cynnwys gwaith cyfalaf, creu deunydd newydd, neu brynu adeilad hanesyddol, adeiledd, treftadaeth trafnidiaeth, neu dir, byddwn yn gofyn i chi baratoi cynllun rheoli a chynnal a chadw fel rhan o'ch cais cam cyflwyno.  

Mae'r cynllun rheoli a chynnal a chadw yn dweud wrthym sut y byddwch yn gofalu am eich treftadaeth unwaith y bydd y prosiect wedi'i gwblhau, gan gynnwys sut rydych yn disgwyl cynnal buddion eich prosiect yn y dyfodol. Byddwn yn disgwyl i chi sicrhau bod y gwaith rydym wedi'i ariannu'n cael ei gadw mewn cyflwr da.  

Byddwn yn disgwyl i'ch sefydliad fabwysiadu eich cynllun rheoli a chynnal a chadw, i'w integreiddio i'ch polisïau rheoli a gofal presennol, a darparu adnoddau ariannol i roi'r cynllun hwnnw ar waith am gyfnod eich contract grant.

Dylai eich cynllun rheoli a chynnal a chadw nodi sut y bydd canlyniadau eich prosiect yn cael eu cynnal, pwy fydd yn ei wneud, pa sgiliau y bydd eu hangen arnynt, pryd y bydd angen gwneud pethau a beth fydd cost y gwaith hwn.  

Dylai eich cynllun gynrychioli gwaith a gwblhawyd yn ystod y cam datblygu gan gyfeirio, er enghraifft, at y ffyrdd yr ydych yn bwriadu cynnal ansawdd nodweddion sydd newydd eu hadfer. Gall hyn gynnwys tarddiad a manyleb y deunyddiau neu’r palet o liwiau a ddefnyddiwyd i beintio nodweddion/dodrefn ymhlith penderfyniadau eraill a wnaed yn ystod eich prosiect hyd yma.

Gweler canllaw cyflawn i greu cynllun rheoli a chynnal a chadw.

Manyleb ddylunio neu gynllun dehongli (os yn berthnasol)

Gall fod yn berthnasol cynnwys manyleb ddylunio neu gynllun dehongli sy'n esbonio'r ffordd y mae eich prosiect yn bwriadu arddangos neu rannu treftadaeth.  

Dehongli yw'r ffordd yr ydym yn cyfathrebu storïau a syniadau am dreftadaeth i wahanol gynulleidfaoedd. Mae'n golygu troi gwybodaeth yn rhywbeth hygyrch, perthnasol a deniadol.

Dylech gynnwys cyfeiriad penodol at y ffyrdd y bydd eich prosiect yn dyfnhau dealltwriaeth pobl o dreftadaeth, archwilio a gwneud synnwyr o safleoedd a thirweddau hanesyddol, gwrthrychau, traddodiadau neu ddigwyddiadau.

Gallwch gynnwys eich cynlluniau ar gyfer y profiad ehangach a fydd yn helpu ymwelwyr i ymgysylltu â threftadaeth. Gall hyn gynnwys cynlluniau pensaernïol a dyluniadau ar gyfer gwrthrychau diriaethol neu adeiladau, gwaith adnewyddu neu arddangosfa.  

Gall dehongli fod ar sawl ffurf wahanol, o lwybrau, disgrifiadau sain a ffilmiau i weithdai, gwaith rhyngweithiol ac arddangosiadau ar-lein.

Darllenwch ein canllaw i greu cynllun dehongli.

Cynllun cadwraeth wedi'i ddatblygu (os yn berthnasol)

Os yw eich prosiect yn cynnwys gwaith cyfalaf, creu deunydd newydd, neu brynu adeilad hanesyddol, adeiledd, treftadaeth trafnidiaeth neu dir, dylech gyflwyno cynllun cadwraeth sy'n manylu ar y ddealltwriaeth o'ch treftadaeth a'r cyfleoedd i rannu eich treftadaeth ag eraill, fel y gwnaethoch ei nodi yn eich cam datblygu. Gallwch ymdrin ag unrhyw risgiau a bygythiadau yr ydych wedi'u nodi.

Darllenwch ein canllaw i greu cynllun cadwraeth

Dewiswch yn ofalus pryd i wneud eich cais. Peidiwch â rhuthro i gyflwyno cais cyn eich bod yn barod, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi meddwl am y ffordd orau o bennu hyd a lled eich gweithgarwch a sut y byddwch yn ei reoli.

Rydym yn derbyn nifer uwch o geisiadau nag y gallwn eu hariannu ac mae angen blaenoriaethu lle y gall ein buddsoddiad wneud gwahaniaeth sylweddol.  

Dylech ateb yr holl gwestiynau ar y ffurflen gais.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais ar-lein, byddwn yn gwirio bod popeth yn ei le a byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad. Ni fydd modd i ni ddechrau asesu'ch cais hyd nes y bydd gennym yr wybodaeth berthnasol a'r dogfennau ategol.

Os yw eich cais am ddyfarniad grant datblygu, mae'n annhebygol y byddwch yn clywed gennym eto hyd nes i ni roi gwybod i chi am y penderfyniad.

Fel sefydliad sy’n dosbarthu arian cyhoeddus, rydym yn cynnal rhai gwiriadau ar yr wybodaeth a roddwch i ni pan fyddwch yn gwneud cais (er enghraifft, efallai y byddwn yn gwirio’ch hanes gyda ni neu’n cynnal gwiriadau hunaniaeth neu dwyll).

Pan fyddwn yn asesu eich cais, byddwn yn ystyried amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys:

  • a yw eich prosiect yn berthnasol i dreftadaeth yn y DU
  • yr anghenion a'r cyfleoedd y bydd eich prosiect yn mynd i'r afael â nhw
  • i ba raddau y bydd eich prosiect yn cymryd pob un o'r pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth
  • sut y bydd effaith eich prosiect yn cael ei chynnal

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn ystyried materion fel sicrhau lledaeniad daearyddol o’n hariannu.  

Os nad yw eich cais yn amlwg yn ymwneud â threftadaeth y DU neu os nad yw'n cymryd pob un o'r pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth, mae'n bosibl y caiff ei wrthod yn gynharach yn ystod y broses asesu a byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Ystyried risg

Wrth asesu'ch cais, byddwn yn gwneud dyfarniad pwyllog ar y risgiau posibl i’ch prosiect a’ch risgiau sefydliadol presennol – ac yn edrych i weld a ydych wedi nodi’r rhain a dweud wrthym sut y byddwch yn lliniaru yn eu herbyn.  

Bydd pob prosiect yn wynebu bygythiadau a chyfleoedd y bydd angen i chi eu nodi a'u rheoli. Rydym am i chi fod yn realistig ynghylch y risgiau y gallai eich prosiect a'ch sefydliad eu hwynebu fel eich bod mewn sefyllfa dda i reoli a chyflwyno'r prosiect yn llwyddiannus.

Dylech hefyd ystyried chwyddiant a chostau wrth gefn yn ofalus yn eich cais.

Mae chwyddiant ar gyfer prosiectau adeiladu'n debygol o barhau'n uchel hyd y gellir rhagweld. Dylech ddarparu ar gyfer chwyddiant yn seiliedig ar amserlen y prosiect, ynghyd â ffactorau eraill fel y deunyddiau a ddefnyddir, gofynion o ran llafur a lleoliad.

Gallwch gyrchu dadansoddiadau a rhagamcaniadau ar gyfer costau chwyddiant o ffynonellau megis Building Cost Information Service ac ymgynghoriaethau gan gynnwys Gardiner & Theobold Market Intelligence, Turner & Townsend a Rider Levett Bucknall.  

Y mathau o risgiau a phroblemau y dylech eu hystyried yw:

  • ariannol: er enghraifft, gostyngiad yn y cyfraniad o ffynhonnell ariannu arall
  • sefydliadol: er enghraifft, prinder pobl â'r sgiliau sydd eu hangen arnoch neu staff sy'n gorfod gweithio ar brosiectau eraill
  • economaidd: er enghraifft, cynnydd annisgwyl yng nghost deunyddiau
  • technegol: er enghraifft, darganfod lleithder annisgwyl ac eang
  • cymdeithasol: er enghraifft, ymatebion negyddol i ymgynghori neu ddiffyg diddordeb gan eich cynulleidfa darged
  • rheoli: er enghraifft, newid arwyddocaol yn nhîm y prosiect
  • cyfreithiol: er enghraifft, rheoli cymhorthdal, neu newidiadau yn y gyfraith sy'n golygu nad yw'r prosiect yn ymarferol
  • amgylcheddol: er enghraifft, anawsterau wrth ddod o hyd i ffynonellau pren o goedwigoedd a reolir yn dda

Amser asesu

Unwaith y bydd gennym bopeth sydd ei angen arnom, byddwn yn anelu at asesu eich cais o fewn 12 wythnos ac, ar ôl ei asesu, fe gaiff ei gyflwyno i’r cyfarfod penderfynu nesaf a drefnir. (Noder: ni allwn ddechrau asesu eich cais hyd nes bod yr holl wiriadau gofynnol wedi’u cwblhau a’n bod wedi derbyn yr holl wybodaeth ategol ofynnol.)

Penderfyniadau

Gwneir penderfyniadau ar sail chwarterol gan Bwyllgor eich gwlad neu ardal neu gan ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Os yw eich cais yn llwyddiannus  

Rhaid i chi aros i dderbyn caniatâd gennym cyn dechrau ar eich prosiect. Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen ar-lein a rhoi’r canlynol i ni:

manylion eich cyfrif banc (gorfodol)

  • prawf o berchnogaeth/gofynion prydles (ar gyfer pob prosiect cyfalaf, os bu unrhyw newidiadau ers cyflwyno'r cais)
  • manylion caniatadau statudol a/neu drwyddedau sydd eu hangen ac a gafwyd (os yn berthnasol)
  • cadarnhad o ariannu partneriaeth (os yn berthnasol)
  • rhagamcaniad llif arian parod y prosiect  
  • strwythur rheoli'r prosiect a dulliau o ddewis ymgynghorwyr, contractwyr a chyflenwyr  
  • amserlen neu raglen waith y prosiect  

Bydd angen cyfrif banc ar eich sefydliad. Rhaid i'r enw ar y cyfrif banc hwn gyfateb yn union i enw'r sefydliad sy'n gwneud y cais.

Bydd angen i chi ymrwymo i'n telerau grant. Mae hyd y telerau grant yn dibynnu ar y math o brosiect:

  • gweithgareddau: dyddiad dod i ben y prosiect
  • cyfalaf: ugain mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect
  • digidol: ugain mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect
  • caffaeliad: Os yw eich prosiect yn cynnwys prynu eitem o dreftadaeth, tir neu adeilad, bydd telerau’r grant yn para am gyfnod amhenodol. Os, yn y dyfodol, y byddwch am waredu'r hyn yr ydych wedi'i brynu, rhaid i chi ofyn am ein caniatâd a gallwn hawlio rhan neu'r cyfan o'n grant yn ôl.

Dyddiad Cwblhau'r Prosiect yw'r dyddiad pan fyddwn yn eich hysbysu y rhoddwyd cofnod wedi'i gwblhau i'r Prosiect.  

Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfod dechrau arni. Yn y cyfarfod hwn mae'n bosibl y cewch eich cyflwyno i ymgynghorydd o'n Cofrestr Gwasanaethau Cefnogi (RoSS), a fydd yn eich cefnogi i ddatblygu neu gyflwyno agweddau ar eich prosiect neu'n helpu i adolygu risgiau.

Sut rydym yn talu eich grant

Ar gyfer grantiau datblygu hyd at £250,000, byddwn yn talu eich grant mewn tri rhandaliad:

  1. byddwn yn rhoi 50% o'r grant i chi ymlaen llaw
  2. unwaith y byddwch wedi gwario hanner cyntaf cyfanswm costau cymwys eich prosiect, byddwn yn rhoi’r 30% nesaf i chi
  3. byddwn yn talu'r 20% terfynol o'ch grant pan fyddwch wedi gorffen eich prosiect ac wedi anfon adroddiad cwblhau terfynol, gwerthusiad prosiect a phrawf o gydnabod eich grant atom

Ar gyfer grantiau datblygu dros £250,000 ac ar gyfer pob grant cyflwyno byddwn yn talu'r grant mewn ôl-daliadau. Byddwn hefyd yn cadw'r 10% olaf o’ch grant hyd nes y byddwn yn fodlon bod y prosiect wedi’i gwblhau, bod y grant wedi’i wario’n briodol, a’ch bod wedi anfon eich adroddiad gwerthuso a phrawf o’ch cydnabyddiaeth o’r ariannu atom.

Byddwn yn talu eich grant fel canran o gostau eich prosiect. Rydym yn disgrifio hyn fel canran talu.  

Er enghraifft, os yw cyfanswm costau eich prosiect yn £1m a'ch cyfraniadau arian parod yw £250,000, eich grant fydd £750,000 a'ch canran talu fydd 75%.  

Os yw eich prosiect yn ymwneud â chaffael treftadaeth, byddwn yn talu swm llawn y grant sydd ei angen ar gyfer y pryniant mewn un taliad.

Adrodd  

Rydym yn eiddgar i glywed am sut mae eich prosiect yn dod yn ei flaen a'r cyflawniadau rydych wedi'u gwneud gyda'r ariannu. Fel rhan o'ch adroddiadau ffurfiol ar eich grant, mae'n rhaid i chi roi diweddariadau i ni am y prosiect yn ystod oes eich prosiect. Byddwn yn disgwyl diweddariad prosiect bob tri mis fel arfer, ac o leiaf bob tro y byddwch yn gofyn am daliad.

Os yw eich cais yn aflwyddiannus

Mae’r broses asesu'n gystadleuol ac ni allwn ariannu pob un o’r ceisiadau o ansawdd da a dderbyniwn. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn dweud pam wrthych ac efallai yn awgrymu eich bod yn gwneud cais arall, ond mae'n rhaid i chi siarad â ni am hyn cyn gwneud cais arall. 

Efallai bod gennych gynlluniau i ddefnyddio ein grant i ariannu caffael adeilad, tir neu eitemau treftadaeth.

Gallwn ariannu prosiectau sy'n ymwneud â phrynu tir ac/neu adeiladau sy'n bwysig i'n treftadaeth ac sydd ar werth am bris y farchnad neu'n is na hynny. Mae'n rhaid mai budd o ran rheoli treftadaeth dros y tymor hir a rhoi mynediad i'r cyhoedd yw'r prif resymau dros eich pryniant arfaethedig.

Ni all unigolion preifat neu sefydliadau er-elw ddefnyddio ein hariannu i gaffael adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth.

Mae’n bwysig bod pryniannau’n gweddu i’n strategaeth a’n hegwyddorion buddsoddi fel ariannwr. Os yw eich prosiect yn ymwneud â phrynu tir neu adeiladau, rhaid i chi eu prynu ar rydd-ddaliad neu â les sydd ag o leiaf 99 mlynedd yn weddill arni.

Byddwn yn helpu i brynu adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth dim ond os byddwch yn dangos y canlynol yn eich cais:

  • bydd risgiau i gadwraeth yr adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth wedi'u lleihau os bydd y pryniant yn llwyddiannus
  • mae'r pris yn adlewyrchu cyflwr a gwerth yr ased(au) treftadaeth yn gywir
  • bydd yr ased(au) treftadaeth yn hygyrch i'r cyhoedd ar ôl eu prynu a bydd y pryniant yn golygu y bydd mwy o bobl yn ymwneud â threftadaeth
  • gallwch ddangos bod gennych gynlluniau digonol ar gyfer gofal a chynnal a chadw hirdymor dros gyfnod o 10 mlynedd o leiaf ar ôl cwblhau’r prosiect
  • gallwch ddangos bod yr hyn y dymunwch ei brynu'n arwyddocaol i dreftadaeth yn lleol, yn rhanbarthol neu'n genedlaethol

Dylai eich cais gynnwys y canlynol:

  • Gwybodaeth am hanes ac arwyddocâd yr adeiladau, y tir neu'r eitemau treftadaeth.
  • Datganiad ynghylch pam mai chi yw'r sefydliad cywir i fod yn berchennog arno. Dylai hyn gael ei ategu gan yr hyn a ddywedwch yn eich polisïau, megis eich polisi caffaeliadau, rheoli casgliadau neu gasglu.
  • Tystiolaeth mai chi fydd y perchennog llawn, neu achos da dros berchnogaeth ar y cyd sydd wedi'i chynllunio'n dda.
  • Prawf dogfennol o darddle (tarddiad) yr eitem(au) treftadaeth. Mae enghreifftiau o brawf yn cynnwys dogfennau gwerthu, dogfennau cyfreithiol, dogfennau allforio, datganiad ysgrifenedig gan y perchennog presennol a dogfennau hanes.
  • Tystiolaeth mai’r perchnogion presennol yw’r perchnogion (bod ganddynt deitl cyfreithiol) a bod ganddynt yr hawl i werthu ac i drosglwyddo’r teitl i’r perchennog newydd. Yn achos prynu eiddo neu dir, gall hyn gynnwys tystiolaeth o unrhyw gyfamodau cyfreithiol, hawliau (fel pysgota, saethu, mwynau, draenio), tenantiaethau tymor hir neu fyr, hawliau tramwy neu fynediad, neu unrhyw fuddiannau eraill sydd ynghlwm wrth y tir neu'r adeilad.
  • Prisiad annibynnol ar sail marchnad agored ar gyfer yr ased(au) treftadaeth y dymunwch eu prynu. Dylai hyn gynnwys rhesymeg y prisiwr sy'n cyd-fynd â'r prisiad, nid datganiad o'r gwerth yn unig. Yn achos caffael tir ac eiddo, rydym yn croesawu prisiadau gan y Prisiwr Dosbarth. Nid oes angen i chi gomisiynu prisiad ar gyfer eitemau sy'n destun gohiriad allforio neu'n rhan o'r Broses Prisio Trysor.
  • Tystiolaeth eich bod wedi dilyn arweiniad cyfredol ar hynafiaethau cludadwy, masnachu anghyfreithlon, ac eitemau a chasgliadau a allai fod yn sensitif. Dylech ddarparu datganiad yn amlinellu eich ymchwil i'r cyfreithiau a'r canllawiau perthnasol ar gaffaeliadau moesegol.
  • Disgrifiad o sut y byddwch yn rheoli'r adeiladau, y tir neu'r eitemau treftadaeth a'u cadw'n ddiogel, ar yr adeg y byddwch yn eu prynu ac yn y dyfodol.
  • Adroddiad cadwraethwr yn nodi a oes gan y dreftadaeth unrhyw anghenion cadwraeth ac, os oes, sut y byddwch yn diwallu'r anghenion hynny. Dylai'r adroddiad gynnwys tystiolaeth bod gan eich sefydliad yr amodau amgylcheddol cywir i gartrefu'r pryniant.

Ni fyddwn yn cefnogi pryniannau y credwn sydd uwchlaw gwerth y farchnad. Bydd prisiad annibynnol o’r eitem(au) y dymunwch eu prynu'n cael ei wneud fel rhan o’r broses asesu. Fel arfer byddwn yn barod i gefnogi pryniant ar ffigwr hyd at 10% uwchlaw brig unrhyw amrediad o brisiad a dderbynnir.

Mae’r costau cymwys sy’n gysylltiedig â phryniant yn cynnwys:

  • y pris prynu ei hun
  • ffioedd a ysgwyddir gan eich sefydliad fel prynwr gan gynnwys prisiadau, ffioedd asiant a phremiwm y prynwr ar gyfer pryniannau mewn arwerthiant
  • TAW na ellir ei hadennill

Cofiwch wneud yn siŵr bod y rhain wedi'u hadlewyrchu yn eich tabl costau.

Mae costau anghymwys yn cynnwys:

  • ffioedd y gwerthwr (er enghraifft, ffioedd cyfreithiol ac asiant)

Dylech hefyd gynnwys costau holl weithgareddau eraill eich prosiect ar ôl i chi brynu’r adeiladau, y tir neu’r eitemau treftadaeth.  

Os ydych eisoes yn rheoli'r ased(au) treftadaeth yr ydych am eu prynu, bydd angen i chi ddangos i ni pa fanteision ychwanegol a ddaw yn sgil y pryniant. Bydd angen i chi ddangos bod yr holl opsiynau ar gyfer gwneud cytundeb rheoli priodol gyda'r perchennog presennol wedi'u harchwilio cyn gwneud cais am grant i brynu.

Byddwn yn ariannu prynu gweithiau celf, archifau, gwrthrychau a chasgliadau eraill sy’n bwysig i’r dreftadaeth ac a grëwyd mwy na 10 mlynedd yn ôl. Byddwn hefyd yn ariannu prynu eitemau mwy diweddar o bwysigrwydd treftadaeth, ond dim ond os ydynt yn rhan o gasgliad mwy, sy’n fwy na 10 mlwydd oed.

Ni fyddwn yn rhoi blaenoriaeth i bryniant dim ond oherwydd gohiriad allforio. Mae gohiriad allforio'n rhoi cyfle i sefydliadau godi'r arian gofynnol i brynu eitem neu gasgliad y bwriedir ei allforio. Mae'r gohiriad allforio'n gohirio'r drwydded allforio am gyfnod penodol er mwyn i gynnig gael ei wneud o'r tu mewn i'r DU. Os ydych yn bwriadu gwneud cais i ni dylech gysylltu â'ch swyddfa leol cyn gynted â phosibl, ac o fewn y cyfnod gohirio cyntaf.

Os yw eich prosiect yn cynnwys prynu adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth, bydd telerau’r grant yn parhau am gyfnod amhenodol. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am arwystl ar yr eitem(au), y tir neu'r adeiladau. Os, yn y dyfodol, y byddwch am waredu'r hyn yr ydych wedi'i brynu, rhaid i chi ofyn am ein caniatâd a gallwn hawlio ein grant yn ôl. Os yw'r eitem(au) eisoes ar fenthyg i'ch sefydliad, bydd angen i chi ddangos i ni pa fanteision ychwanegol a ddaw yn sgil eu prynu.

Os bydd un sefydliad a ariennir yn gyhoeddus am gaffael eitem dreftadaeth gan sefydliad tebyg, mae'n annhebygol y bydd digon o fudd cyhoeddus i ni ystyried ariannu'r pryniant. Efallai na fydd hyn yn wir, fodd bynnag, os yw’r caffaeliad yn ymwneud yn uniongyrchol ag achub treftadaeth sydd mewn perygl, a gellir cymeradwyo grant os yw’r gwrthrych, y tir, yr adeilad neu’r casgliad mewn perygl o gael ei golli o’r parth cyhoeddus oherwydd methiant sefydliadol y perchennog presennol.

Os oes angen penderfyniad brys arnoch gennym ni, rhaid i chi gysylltu â'ch swyddfa leol i drafod hyn cyn i chi wneud cais. Gallwch ddefnyddio'ch cais neu'ch Mynegiad o Ddiddordeb i nodi'r rhesymau pam fod angen cais llwybr cyflym arnoch. Dim ond os yw'r terfyn amser yn golygu na allwn asesu eich cais o fewn ein hamserlen arferol y byddwn yn ystyried cynnig penderfyniadau llwybr cyflym ar gyfer prynu eitemau neu gasgliadau treftadaeth.

Bydd ein staff yn trafod goblygiadau ein gweithdrefn llwybr cyflym ar gyfer eich cais gyda chi. Os oes gennych gyfnod amser byr i brynu'r eitem(au), gofynnwn i chi roi manylion i ni ynghylch sut y caiff y gwrthrych hwn ei integreiddio i'ch gweithgareddau dysgu a'ch rhaglenni cyhoeddus presennol. Byddwn yn disgwyl i weithgareddau a rhaglenni fod yn briodol ar gyfer y gwrthrych yr ydych yn ei gaffael. 

Mae cynlluniau grantiau cymunedol a thrydydd parti'n gronfeydd ariannol y gallwch eu defnyddio i ariannu grwpiau neu sefydliadau eraill i gyflwyno prosiectau bach i'ch helpu cyflawni eich nodau treftadaeth trosgynnol. Gallant eich helpu i wella ymgysylltu ac ehangu effaith eich prosiect.

Gellir defnyddio grantiau cymunedol i ariannu gweithgareddau neu waith cyfalaf ar asedau treftadaeth. Gellir eu dyfarnu i grwpiau cymunedol nid-er-elw neu berchnogion preifat treftadaeth i ymgymryd â gwaith cyfalaf er mwyn gwarchod y dreftadaeth honno. Ni ellir rhoi grantiau cymunedol i gaffael tir, adeiladau neu eitemau treftadaeth.

Os mai chi yw'r ymgeisydd arweiniol, chi fydd yn rheoli'r broses grantiau cymunedol a'r gronfa ariannu. Chi fydd yn gyfrifol am:

  • wahodd ac asesu ceisiadau drwy broses deg, agored a thryloyw
  • sefydlu panel i wneud penderfyniadau i ddyfarnu neu wrthod grantiau
  • adolygu'r cynnydd a wnaed ar y prosiect i sicrhau ei fod yn foddhaol
  • gwneud taliadau grant
  • monitro cydymffurfiaeth â thelerau'r grant cymunedol, datrys unrhyw broblemau ac ad-dalu'r grant os oes angen

Yn eich cais dylech esbonio beth yw nodau eich cynllun grantiau cymunedol, sut mae'n cyfrannu at y prosiect ehangach a sut y caiff ei reoli.  

Argymhellwn na ddylai’r gronfa grantiau cymunedol fod yn fwy na £200,000. Dylid cyfyngu grantiau unigol i £10,000 ar gyfer gweithgareddau a £25,000 ar gyfer gwaith cyfalaf. Os oes angen cronfa grantiau cymunedol fwy ar eich prosiect neu os bydd angen gwneud dyfarniadau mwy ar gyfer cadwraeth adeiladau hanesyddol, bydd angen i chi gyfiawnhau hyn yn eich cais.  

Bydd angen i chi ffurfioli'r dyfarniad grant mewn cytundeb trydydd parti rhyngoch chi a derbynnydd y grant cymunedol sy'n diffinio'r gweithgareddau i'w cyflwyno ac yn nodi telerau'r grant. Mae’n rhaid i dderbynyddion grantiau cymunedol ymrwymo i’n telerau grant safonol, gan gyfeirio’n benodol at y canlynol (lle bo’n berthnasol):

  • Dyddiad Dod i Ben Cyffredinol y Grant
  • Cydnabyddiaeth o Ariannu gan y Loteri Genedlaethol  
  • hawlio'n ôl
  • monitro'r prosiect
  • grant heb ei wario
  • caffael
  • gofynion digidol
  • tir neu adeiladau sy'n eiddo i drydydd parti

Bydd angen i chi adlewyrchu'r meysydd hyn yn eich cytundebau gyda derbynyddion y grantiau cymunedol, gan mai chi fydd yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn deall telerau'r grant ac yn cytuno iddynt.

Rhaid i gytundebau â thirfeddianwyr trydydd parti, gan gynnwys perchnogion preifat, sicrhau bod gwaith cyfalaf yn cael ei reoli a'i gynnal a chadw o ddechrau'r gwaith ar y prosiect tan 10 mlynedd ar ôl cwblhau'r prosiect.

Gallwch gynnwys costau rheoli'r cynllun grant, gan gynnwys costau addasu a sefydlu unrhyw gytundebau trydydd parti a cheisio cyngor cyfreithiol, fel rhan o’r costau, yn eich cais.

Bydd angen i chi ddatblygu proses ymgeisio deg a thryloyw gyda chanllawiau clir. Rhaid i chi gyflwyno'ch cais a'ch proses fonitro i ni i'w cymeradwyo cyn lansio'r cynllun grantiau cymunedol.

Dylai fod gennych feini prawf clir ar gyfer ceisiadau a sicrhau bod y meini prawf hyn ar gael yn gyhoeddus ynghyd â rhestr o'ch dyfarniadau.

Rhaid i chi ymgymryd â diwydrwydd dyladwy cyn dyfarnu grantiau cymunedol. Fel lleiafswm, bydd angen i chi ofyn am y canlynol gan ymgeisydd:

  • dogfen lywodraethu'r sefydliad (oni bai ei fod yn sefydliad sector cyhoeddus neu’n berchennog preifat treftadaeth)
  • prawf o berchnogaeth os yw’r prosiect yn cynnwys gwaith ar dir, adeiladau neu eitemau treftadaeth (er enghraifft, gweithredoedd, lesau neu unrhyw wybodaeth yn ymwneud â morgeisi)
  • copi o gyfrifon diweddar neu gyfriflenni banc y tri mis diwethaf

Rhaid i benderfyniadau i ddyfarnu neu wrthod ceisiadau gael eu gwneud gan banel grantiau. Ni ddylai pob aelod o'r panel ddod o'r un sefydliad, ac ni ddylai gynnwys sefydliadau neu unigolion a fydd o bosibl yn dymuno gwneud cais am grantiau o'r gronfa gymunedol. Gwrthdaro buddiannau yw hwn.

Bydd angen i chi sicrhau bod derbynyddion grantiau cymunedol wedi cydymffurfio â thelerau'ch cynllun grant cymunedol a bod y grant wedi’i ddefnyddio’n briodol. I wneud hyn bydd angen i chi gywain tystiolaeth gan dderbynnydd y grant cymunedol. Dylai lefel y manylder y gofynnwch amdano fod yn gymesur â swm y grant.

Bydd angen i chi ddatrys unrhyw broblemau gyda derbynnydd y grant cymunedol gan gynnwys y trefniadau ar gyfer ad-dalu'r grant neu ei hawlio'n ôl.

Bydd gennych gyfrifoldeb cyffredinol dros adrodd i ni ar gynnydd y grantiau cymunedol a bydd angen i chi gynhyrchu adroddiad gwerthuso ar ddiwedd eich prosiect. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn dyrannu cyllideb ddigonol i ymgymryd â'r gwaith gwerthuso hwn.

Perchnogaeth

Disgwyliwn i chi fod yn berchennog ar unrhyw eiddo (tir, adeiladau, eitemau treftadaeth neu eiddo deallusol) yr ydych yn gwario'r Grant arno neu feddu ar les sy'n bodloni ein gofynion.  

Rhaid i chi fod yn berchennog ar y rhydd-ddaliad neu feddu ar les gydag o leiaf 20 mlynedd yn weddill arni ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect ar gyfer eich cam cyflwyno.

Dyddiad Cwblhau'r Prosiect yw'r dyddiad pan fyddwn yn eich hysbysu y rhoddwyd cofnod wedi'i gwblhau i'r Prosiect.

Rhaid i bob les fodloni'r gofynion canlynol:

  • nid ydym yn derbyn lesau sydd â chymalau torri (mae’r rhain yn rhoi’r hawl i un neu fwy o bartïon y les ddod â’r les i ben o dan rai amgylchiadau)
  • nid ydym yn derbyn lesau sydd â fforffediad ar gymalau ansolfedd (mae’r rhain yn rhoi’r hawl i’r landlord ddod â'r les i ben os bydd y tenant yn mynd yn fethdalwr)
  • mae'n bosibl y bydd modd i chi werthu, is-osod neu forgeisio'r cyfan neu ran o’ch les, ond os byddwn yn dyfarnu grant i chi, rhaid i chi gael caniatâd gennym yn gyntaf i wneud unrhyw un o’r rhain

Os mai tir neu adeilad treftadaeth sy'n eiddo i drydydd parti neu drydydd partïon lluosog yw testun eich prosiect, byddwn fel arfer yn disgwyl i'r perchennog gael ei wneud yn grantï ar y cyd. Mewn rhai sefyllfaoedd, yn hytrach na gwneud y perchennog yn grantï ar y cyd, efallai y byddwn yn gofyn iddynt lofnodi llythyr ychwanegol yn cytuno i gydymffurfio ag unrhyw delerau grant sy’n ymwneud â’u heiddo.  

Yn yr achos hwn, dylid rhoi cytundeb cyfreithiol ar waith hefyd rhwng pob perchennog tir neu adeilad a'r grantï. Nid oes ffurf ragnodedig ar gytundeb, ond mae gennym ofynion penodol y dylid eu cynnwys mewn unrhyw gytundeb perchennog trydydd parti.  

Fel lleiafswm, dylai’r cytundebau gynnwys y canlynol:

  • cadarnhad ynghylch sut mae’r tir wedi'i ddal (rhydd-ddaliad neu ar brydles)
  • disgrifiad o'r eiddo (gan gynnwys cynlluniau)
  • cyfamodau ar ran y perchennog i gynnal a chadw’r eiddo a darparu mynediad cyhoeddus yn unol â thelerau’r grant (fel y bo’n berthnasol)
  • darpariaeth y dylai unrhyw warediad ymlaen fod yn ddarostyngedig i'r cytundeb trydydd parti
  • cadarnhad y bydd y cytundeb yn para o ddechrau’r gwaith ar dir y trydydd parti tan 10 mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect ar gyfer eich cam cyflwyno

Bydd angen cwblhau'r cytundebau a'u rhoi ar waith cyn rhyddhau unrhyw arian grant ar gyfer gwaith ar unrhyw dir neu adeilad sy'n eiddo i drydydd parti.

Cymryd sicrwydd am y grant

Os ydych yn gorff nad yw’n gorff cyhoeddus, mae eich prosiect yn cynnwys gwaith cyfalaf ac mae eich grant dros £250,000, ein polisi yw cymryd arwystl dros yr eiddo a ariennir gan grant.

Os ydych yn gorff cyhoeddus megis awdurdod lleol neu brifysgol rydym yn gofyn am gyfyngiad ar eich teitl gyda'r Gofrestrfa Tir er mwyn sicrhau eich bod yn ceisio caniatâd gennym cyn ymgymryd ag unrhyw drafodion yn y dyfodol sy'n ymwneud â'r eiddo a ariennir gan y grant.

Os yw unrhyw ran o'r uchod yn berthnasol i'ch prosiect, bydd angen i chi anfon manylion cyswllt eich cyfreithiwr atom cyn gynted â phosibl os dyfernir grant cam cyflwyno i chi.

Bydd angen i’ch cyfreithiwr ddarparu copïau swyddogol o’r gofrestr teitl gyfredol gyda chynllun neu’r wybodaeth angenrheidiol i’n galluogi i ddrafftio’r dogfennaeth arwystl. Bydd hyn yn cynnwys ymrwymiad gan eich cyfreithiwr i weithredu ar ein rhan i gyflawni'r holl chwiliadau cyn-gwblhau perthnasol ac i gofrestru’r arwystl yn y Gofrestrfa Tir ac yn Nhŷ’r Cwmnïau (os yn briodol).

Byddwch yn gyfrifol am ffioedd a chostau eich cyfreithiwr, ond gallwch gynnwys cost cyngor cyfreithiol fel rhan o gostau’r prosiect yn eich cais.

Benthyca neu roi benthyg eitemau treftadaeth

Os ydych yn benthyca eitem neu gasgliad fel rhan o’r prosiect, er enghraifft, ar gyfer arddangosfa, a gofynnir i chi gyfrannu at gostau cadwraeth, mae'n bosibl y byddwn yn derbyn y gost hon os yw’n ffurfio rhan fach o’ch prosiect.

Efallai y bydd angen i berchnogion yr eitem neu gasgliad gael eu cynnwys yn eich cytundeb partneriaeth, neu ymrwymo i delerau'r grant os dyfernir grant. Gofynnir i chi gynnwys hyn yn eich Mynegiad o Ddiddordeb os credwch y bydd yn berthnasol i'ch prosiect.

Os ydych yn cynllunio prosiect adeiladu cyfalaf at ddiben storio neu arddangos casgliad nad ydych yn berchen arno, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog y casgliad gytuno i delerau'r grant (ac unrhyw amodau ychwanegol a nodir yng nghontract y grant) os dyfernir grant. Gofynnir i chi gynnwys hyn yn eich Mynegiad o Ddiddordeb os credwch y bydd yn berthnasol i'ch prosiect.

Gwaith cyfalaf

Gallwn ariannu gwaith cyfalaf fel rhan o'ch prosiect. Diffinnir gwaith cyfalaf fel gwaith sy'n creu neu'n gwella ased.  

Er enghraifft, byddai cadwraeth rhostir, atgyweiriadau i gofeb a digideiddio archif ffotograffig i gyd yn cael ei ystyried yn waith cyfalaf. Gall gwaith cloddio archeolegol a mathau eraill o weithgarwch archeolegol gynnwys gwaith cyfalaf.

Os yw prosiectau'n ymwneud ag adeiladwaith, rydym yn annog adfer, gwarchod ac ailddefnyddio, yn hytrach nag adeiladu o'r newydd. Os oes angen gwaith adeiladu o'r newydd (er enghraifft i wneud safleoedd yn gynhwysol, yn hygyrch neu'n ariannol hyfyw), esboniwch pam fel rhan o'ch cais. Dylid cyflwyno pob agwedd ar adeiladu o'r newydd mewn prosiect at y safonau amgylcheddol uchaf.

Dylai eich gwaith cyfalaf arfaethedig adlewyrchu'r Cam Gwaith RIBA priodol ar gyfer y cam o'ch prosiect. Yn y cam datblygu rhaid iddo fod hyd at a chan gynnwys Cam Gwaith 1 RIBA, ar adeg yr adolygiad datblygu rhaid iddo fod hyd at a chan gynnwys Cam Gwaith 2 RIBA ac yn ystod y cam cyflwyno rhaid iddo fod hyd at a chan gynnwys Cam Gwaith 3 RIBA.  

Mae Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain yn darparu mwy o wybodaeth ar Gamau Gwaith RIBA.

Os yw'n berthnasol i'ch prosiect, efallai y byddwn yn gofyn i chi gyflwyno arolwg cyflwr, a thystiolaeth bellach yn dangos bod y gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud yn dilyn arfer da.

Dylech gynnwys costau priodol i dalu am chwyddiant gwaith cyfalaf a ragfynegir a swm wrth gefn priodol i ymdrin â'r risgiau sydd ynghlwm wrth waith cyfalaf mewn prosiect treftadaeth.

Ar gyfer prosiectau tirwedd a natur cyfalaf byddwn yn blaenoriaethu'r rhai sy'n canolbwyntio ar un neu fwy o'r themâu canlynol; cefnogi adferiad byd natur, darparu atebion seiliedig ar fyd natur i newid yn yr hinsawdd a/neu helpu pobl i ailgysylltu â byd natur.  

Prosiectau sy'n ymwneud â thir, cynefinoedd a rhywogaethau

Os yw eich prosiect yn ymwneud â chadwraeth cynefin neu rywogaeth â blaenoriaeth, rhaid i’ch prosiect helpu cyrraedd targedau cynefinoedd a rhywogaethau UKBAP, cyfrannu at reolaeth gynaliadwy hirdymor yr ardal dan sylw a dangos ymagwedd strategol at warchod cynefin neu rywogaeth â blaenoriaeth.

Er y gall fod rhywfaint o fynediad cyhoeddus i’r tir sy’n rhan o’r prosiect, megis llwybrau neu guddfannau, rydym yn cydnabod efallai na fydd mynediad ffisegol bob amser yn briodol nac yn ddymunol am resymau cadwraeth cynefinoedd.  

Lle bo'n briodol, ar ôl eu cwblhau, gofynnir i brosiectau wneud cais am Wobr y Faner Werdd a chyflawni hynny am saith mlynedd yn barhaus.

Er y caniateir arwynebau chwarae diogelwch arbenigol ac arwynebau chwaraeon proffesiynol fel rhan o gynlluniau prosiect, ni fyddwn yn cefnogi prosiectau tirwedd sy'n cynnwys gosod glaswellt neu blanhigion artiffisial, neu ddefnyddio mawn at ddibenion garddwriaethol neu dirwedd.  

Os yn berthnasol, dylai stoc plannu ddod o ffynonellau bioddiogel megis planhigfeydd ag ardystiad 'Plant Healthy'.

Rhaid i unrhyw waith arsylwi rhywogaethau gydymffurfio â’r safonau ar gyfer ansawdd a hygyrchedd data a nodir gan y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (NBN) ar Atlas yr NBN. Rhaid i'r gwaith arsylwi hwn fod ar gael i'r cyhoedd ar drwydded agored ac ar fanylder y recordio, yn amodol ar gyfyngiadau rhywogaethau sensitif. Os nad ydych yn siŵr am ffordd orau o fwrw 'mlaen, cysylltwch â’r NBN yn uniongyrchol i drafod y llwybr cyflenwi data mwyaf priodol.

Mae angen cyflwyno achos amgylcheddol cadarn ar gyfer prosiectau sy'n ymwneud ag ailgyflwyno rhywogaethau i'r DU, a bydd angen i asiantaeth cadwraeth natur y wlad berthnasol gefnogi hyn. Bydd angen i'r prosiect gwrdd â'r canllawiau a sefydlwyd gan Grŵp  Arbenigol Ailgyflwyno IUCN/SSC.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein harweiniad natur a thirweddau.

Yswirio gwaith ac eiddo

Rhaid i chi, a'ch contractwyr, drefnu yswiriant priodol ar gyfer unrhyw eiddo, gwaith, deunyddiau a nwyddau sy'n gysylltiedig â'ch prosiect. Rhaid yswirio pob un o'r rhain am eu gwerth adfer llawn yn erbyn colled neu ddifrod, gan gynnwys chwyddiant a ffioedd proffesiynol.

Os bydd tân, mellt, stormydd neu lifogydd yn effeithio ar eich prosiect i'r graddau na allwch gwblhau'r prosiect fel y manylir yn eich cais, mae'n bosibl y byddwn yn ystyried hawlio ein grant yn ôl.

Gwaith digidol

Mae gennym ofynion penodol ar gyfer gwaith digidol a gynhyrchir fel rhan o unrhyw brosiect.

Mae hyn yn ymdrin ag unrhyw beth yn eich prosiect rydych yn ei greu mewn fformat digidol sydd wedi'u dylunio i roi mynediad i dreftadaeth a/neu helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth a dysgu amdani.

Er enghraifft, gallai hyn gynnwys ffotograffau, testun, meddalwedd, cynnwys gwe ac apiau, cronfeydd data, modelau 3D, recordiadau sain a fideo. Nid yw eitemau a grëir wrth reoli'r prosiect, er enghraifft e-byst rhwng aelodau tîm a chofnodion cyfarfodydd, wedi'u cynnwys yn y gofyniad.

Gofynnwn i chi rannu eich allbynnau digidol o dan drwydded agored. Ein trwydded agored ddiofyn yw CC-BY 4.0. Mae hyn yn helpu dileu rhwystrau i ddefnyddio ac ailddefnyddio gwaith a ariennir, gan alluogi gwell ymgysylltiad â threftadaeth y DU. Mae hefyd yn helpu sicrhau bod eraill yn rhoi credyd priodol i'ch gwaith.

Mae ein rheoliadau ynghylch gwaith digidol yn amrywio gan ddibynnu ar faint y grant. Gallwch ddarllen arweiniad pellach ar gynhyrchu deunyddiau digidol fel rhan o brosiect.

Caffael

Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau caffael. Fel trosolwg, dylai prosiectau ag unrhyw nwyddau, gwaith neu wasanaethau unigol sy’n werth mwy na £9,999 (ac eithrio TAW), geisio o leiaf dri thendr/dyfynbris cystadleuol. Ar gyfer yr holl nwyddau, gwaith a gwasanaethau sy'n werth mwy na £50,000 (ac eithrio TAW), rhaid i chi ddarparu prawf o weithdrefnau tendro cystadleuol.    

Dylai eich prawf fod yn adroddiad ar y tendrau yr ydych wedi'u derbyn, ynghyd â'ch penderfyniad ar ba un i'w dderbyn. Rhaid i chi roi rhesymau llawn os na fyddwch yn dewis y tendr isaf. Gan ddibynnu ar natur eich sefydliad a’ch prosiect, mae'n bosibl y bydd gofyn i chi gydymffurfio â Deddfwriaeth Caffael y DU.      

Os yw partner yn y prosiect yn darparu nwyddau neu wasanaethau y telir amdanynt drwy'r grant, mae angen i chi ddweud wrthym pam y cawsant eu dewis a pham nad yw proses dendro agored yn briodol. Byddwn yn ystyried ai dyma’r ffordd orau o gyflawni eich prosiect ac yn disgwyl i chi ddangos gwerth am arian a bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol.  

Os ydych yn ansicr ynghylch eich rhwymedigaethau, rydym yn eich cynghori i geisio cyngor proffesiynol neu gyfreithiol. Os ydych eisoes wedi caffael nwyddau, gwaith neu wasanaethau gwerth mwy na £9,999 (ac eithrio TAW) ar gyfer eich prosiect, bydd angen i chi ddweud wrthym sut y gwnaethoch chi hynny. Ni allwn dalu eich grant os nad ydych wedi dilyn y drefn gywir.    

Recriwtio staff

Mae'n rhaid hefyd i chi hysbysebu'n agored yr holl swyddi staff ar gyfer y prosiect, gyda'r eithriadau a ganlyn:    

  • Mae gennych aelod staff â chymwysterau addas ar eich cyflogres yr ydych yn ei symud i swydd ar y prosiect.
  • Rydych yn ymestyn oriau aelod staff â chymwysterau addas ar eich cyflogres, fel y gall weithio ar y prosiect. Yn yr achos hwn byddwn yn ariannu cost yr oriau ychwanegol sy'n cael eu treulio ar y prosiect a bydd angen i chi ddweud wrthym beth yw eu rôl.    

Yn yr achosion hyn, mae angen o hyd i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer y swydd sy'n esbonio'r gwaith y bydd yr aelod staff a benodir yn ei wneud yng nghyd-destun eich prosiect.

Rydym wedi'n hymrwymo i sicrhau bod y sector treftadaeth yn gynhwysol ac yn gynaliadwy. Fel lleiafswm mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r gyfradd Cyflog Byw (a Chyflog Byw Llundain lle bo'n berthnasol) ar gyfer holl staff y prosiect. Gofynnir i chi ddangos tystiolaeth o gyllidebu ar gyfer y cyfraddau Cyflog Byw fel lleiafswm yn eich costau staff a'ch cyllidebau.    

Rhaid i weithdrefnau recriwtio ymgynghorwyr a chontractwyr fod yn deg ac yn agored a glynu wrth y ddeddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol.    

Rheoli cymhorthdal

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n bwysig cofio bod ein grant yn dod o arian cyhoeddus a'i fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022. Gofynnwn i chi ymgyfarwyddo â'r gofynion allweddol.

Ceir cymhorthdal pan fydd awdurdod cyhoeddus yn darparu cymorth ariannol o arian cyhoeddus sy’n rhoi mantais economaidd i’r derbynnydd, lle y gellir ystyried bod y derbynnydd hwnnw'n ymwneud â gweithgareddau economaidd. Bydd y rhan fwyaf o’n grantiau naill ai heb fod yn gymhorthdal neu’n gallu symud ymlaen fel cymhorthdal cyfreithlon sy’n bodloni gofynion Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022. 

Fel corff cyhoeddus, ein cyfrifoldeb ni yw penderfynu’n derfynol a yw eich grant yn gymhorthdal a/neu gymhwyso eithriadau perthnasol fel y bo angen ac mae ein hasesiad rheoli cymhorthdal yn rhan bwysig o’r broses ymgeisio.  Wrth baratoi eich cais dylech ystyried a yw unrhyw eithriad rheoli cymhorthdal penodol yn ofynnol ar gyfer eich prosiect. Byddwn yn disgwyl i'ch grant gydymffurfio ag egwyddorion y gyfundrefn rheoli cymhorthdal gan gynnwys y Ddeddf a'r Arweiniad Statudol a gyhoeddwyd. Os ydych yn ansicr a fydd eich prosiect yn bodloni'r gofynion perthnasol dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol. 

Rydym yn cadw'r hawl i bennu gofynion pellach a cheisio gwybodaeth bellach yn hyn o beth a byddwn yn disgwyl i chi ddarparu unrhyw gymorth y gallwn fod ei angen yn rhesymol i gwblhau asesiad rheoli cymhorthdal.

Embargos a sancsiynau llywodraeth y DU

Rhaid i'n grantiau beidio â chael eu defnyddio i ariannu sefydliadau sy’n cefnogi eithafiaeth, gweithgarwch troseddol ac/neu sy’n destun embargos a sancsiynau llywodraeth y DU.

Rhaid i chi ddilyn yr holl ddeddfwriaeth a rheoliadau sy'n berthnasol i'ch prosiect a chyflawni eich diwydrwydd dyladwy eich hun ar unrhyw gronfeydd, contractau neu unigolion sy'n gysylltiedig â lleoedd a allai fod yn ddarostyngedig i embargos a sancsiynau.

Os yw eich prosiect wedi'i effeithio, cysylltwch â'ch Rheolwr Buddsoddi neu eich swyddfa leol. Rydym yn cadw'r hawl i atal taliadau grant os ystyriwn fod arian cyhoeddus mewn perygl. 

Os oes gennych gwestiwn am ein hariannu, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Os oes angen cymorth pellach arnoch gyda'ch cais, gallwch gael gwybod mwy am y mathau o gymorth a chefnogaeth y gallwn eu darparu.

Os hoffech ddod o hyd i wybodaeth am ein proses gwynion, ewch i'n Tudalen Gwasanaeth Cwsmeriaid.

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.