Cwestiynau ymgeisio: £250,000 i £10miliwn

Cwestiynau ymgeisio: £250,000 i £10miliwn

Cwestiynau ein ffurflen gais Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £250,000 i £10m.

Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 27 Mawrth 2024. Gweld pob diweddariad.

Cyn y gallwch wneud cais am grant dros £250,000, rhaid i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb i ddweud wrthym am eich syniad. Os ydych yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i wneud cais. Ar ôl i chi gael eich gwahodd i wneud cais, bydd gennych 12 mis i gyflwyno cais.

Defnyddiwch y dudalen hon:  

  • i weld pa gwestiynau sy'n ymddangos yn y cais ar gyfer y camau datblygu a chyflwyno
  • am arweiniad ar y ffordd orau o ateb cwestiynau'r cais  

Mae terfyn geiriau i bob cwestiwn; fodd bynnag, nid oes angen i chi gyrraedd hwn. Dim ond yr wybodaeth y gofynnwn amdani sy'n berthnasol i'ch prosiect y mae angen i chi ei chynnwys.

Cwestiynau ymgeisio'r cam datblygu

Ynghylch y prosiect

Enw eich sefydliad.

[Ni ellir newid hyn]

Rhif cyfeirnod y prosiect.

Mae prosiectau sy'n pasio'r Mynegiad o Ddiddordeb yn llwyddiannus ac yn cael eu gwahodd i wneud cais yn derbyn rhif cyfeirnod prosiect.

[Ni ellir newid hyn]

Teitl y prosiect.

Rhowch deitl neu enw i ni allu cyfeirio at eich prosiect.

Bydd hwn yn cael ei weld gan y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, ac os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw bostiadau cyhoeddus a wneir am eich prosiect a'i gyhoeddi ar ein gwefan. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis teitl rydych chi'n hapus i amrywiaeth eang o bobl ei weld.

[Maes testun - 225 nod]

Ai dyma gais cyntaf eich sefydliad i'r Gronfa Treftadaeth?

[Dewiswch ydy neu nac ydy]

Os ydy: Dywedwch wrthym beth yw rhif cyfeirnod eich cais diweddaraf.

[Maes testun - 225 nod]

Dywedwch wrthym beth yw teitl prosiect eich cais diweddaraf.

[Maes testun - 225 nod]

Disgrifiwch yr hyn yr hoffai eich sefydliad ei gyflawni drwy eich prosiect.  

Byddwn yn defnyddio eich ateb i hysbysu pobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect.

Rydym yn cyhoeddi manylion ceisiadau a dyfarniadau grant ar ein gwefan ac mewn cronfeydd data cyhoeddus. Mae hyn yn gweddu i'n hymrwymiad i dryloywder ac egwyddorion data agored. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i darparu wrth ateb y cwestiwn hwn i ddisgrifio'ch prosiect.

Dywedwch wrthym beth rydych yn gobeithio ei gyflawni a'r hyn yr ydych yn gobeithio fydd etifeddiaeth eich prosiect.

[Maes testun – 150 gair]

Dywedwch wrthym beth fyddwch yn ei wneud yn ystod eich prosiect.

Rhowch drosolwg manwl o'r hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod eich prosiect.  

Er enghraifft, disgrifiwch unrhyw:

  • weithgareddau y byddwch yn eu gwneud
  • digwyddiadau y byddwch yn eu cynnal  
  • eitemau neu adnoddau y byddwch yn eu creu
  • eitemau neu adeiladau treftadaeth y byddwch yn eu hadfer
  • tirweddau y byddwch yn eu gwella

Mae hyn yn ein helpu i ddeall beth yw diben eich prosiect. 
[Maes testun - 5,000 nod]

Ble fydd eich prosiect yn digwydd?

  • Stryd y prosiect [Maes testun - 225 nod]
  • Dinas y prosiect [Maes testun - 225 nod]
  • Sir y prosiect [Maes testun - 225 nod]
  • Cod post y prosiect [Maes testun - 100 nod]

Ar gyfer prosiectau tirwedd, rhowch gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans ar gyfer eich tirwedd.  

[Rhowch y cyfeirnod]

Esboniwch ba anghenion a chyfleoedd y bydd eich prosiect yn mynd i'r afael â nhw.

Dywedwch wrthym am unrhyw broblemau a chyfleoedd sy'n bodoli o ran:

  • sut y rheolir eich treftadaeth ar hyn o bryd a'i chyflwr
  • pobl yn ymgysylltu â'r dreftadaeth ar hyn o bryd

Dywedwch wrthym sut y bydd eich prosiect yn mynd i'r afael â'r ddwy broblem a chyfle uchod, a sut mae'ch prosiect yn gweddu i unrhyw strategaethau lleol neu fentrau ehangach. Dywedwch wrthym am unrhyw arfarniadau dichonoldeb ac opsiynau a wnaed a pham mai eich prosiect chi yw'r ffordd orau a mwyaf ymarferol ymlaen. Os bydd eich prosiect yn gwella ardal o dirwedd neu dreflun, dywedwch wrthym am gyflwr presennol yr ardal.

[Maes testun - 5,000 nod]

Pam mae angen i'ch prosiect ddigwydd nawr?

Dywedwch wrthym:

  • a yw'r risg i'ch treftadaeth yn un enbydus
  • am unrhyw ariannu partneriaeth sydd ar gael i chi nawr na fydd ar gael yn y dyfodol
  • beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn derbyn grant gennym ni

[Maes testun - 5,000 nod]

Pwy arall ydych chi wedi cysylltu â nhw ynghylch ariannu eich prosiect?

Ar y lefel grant hon mae'n rhaid i chi gyfrannu at gostau eich prosiect, gan ddibynnu ar faint o grant yr ydych yn gwneud cais amdano.

Dywedwch wrthym am unrhyw ariannu:  

  • rydych wedi'i sicrhau i helpu tuag at gost eich prosiect
  • rydych yn bwriadu gwneud cais amdano i gefnogi'r prosiect hwn
  • y byddwch yn ei godi drwy godi arian neu gyfraniadau torfol

Os ydych yn darparu'r lleiafswm sydd ei angen, neu os na allwch ddarparu unrhyw arian partneriaeth, esboniwch pam.

Dywedwch wrthym a ydych wedi codi unrhyw gyfraniadau nad ydynt yn arian parod i'ch helpu i gyflwyno eich prosiect.

[Maes testun - 5,000 nod]

Dywedwch wrthym ba gyngor rydych wedi'i dderbyn wrth gynllunio eich prosiect a chan bwy.

Os ydych wedi siarad ag unrhyw un yng Nghronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am eich prosiect, dywedwch wrthym am y cyngor a gawsoch a sut rydych wedi defnyddio'r cyngor hwnnw i ddatblygu eich prosiect.

Dywedwch wrthym a ydych wedi derbyn unrhyw gyngor arbenigol am eich prosiect gan unrhyw un arall. Gallai hyn fod yn arbenigwyr ar y dreftadaeth y mae eich prosiect yn canolbwyntio arni neu sefydliadau eraill a fydd yn eich cefnogi i gyflwyno eich prosiect.  

Gallai hyn gynnwys:  

  • unrhyw ymgynghoriad rydych wedi'i wneud gyda'ch cymuned leol a'r rhai a fydd yn ymwneud â'ch prosiect
  • unrhyw gyngor ar gynnig y prosiect, megis gan bensaer neu gadwraethwr  
  • unrhyw gyngor cyn-ymgeisio ar faterion cynllunio a/neu ganiatâd adeilad rhestredig, er enghraifft gan eich awdurdod lleol neu archeolegydd  
  • cyngor ar sut i ymdrin â lles y cyfranogwyr yn eich prosiect, er enghraifft gan elusen neu grŵp lleol a all ddarparu cymorth sy’n berthnasol i’w profiad o lygad y ffynnon

[Maes testun - 5,000 nod]

A fydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno gan bartneriaeth?  

Dywedwch wrthym pwy yw eich partneriaid, natur eich partneriaethau a sut y byddwch yn gweithio ar y cyd.

Hoffem weld eich cytundeb partneriaeth os ydych yn gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni eich prosiect. Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r holl bartneriaid a dylai pob parti ei llofnodi. Dylai'r cytundeb hwn adlewyrchu anghenion eich prosiect ac mae'n bosibl y bydd angen i chi geisio cyngor annibynnol.

Does dim angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth oni bai bod unrhyw sefydliadau eraill yn cyflwyno rhan sylweddol o'ch prosiect.

Ticiwch os bydd.

[Blwch ticio]

Pwy yw eich partneriaid? Rhowch enw cyswllt o bob sefydliad.  

[Maes testun - 5,000 nod]

A fydd unrhyw ran o'ch prosiect yn digwydd yng Nghymru?

  • Na fydd, nid yw unrhyw ran o'n prosiect yn digwydd yng Nghymru [Blwch ticio]
  • Bydd, mae ein prosiect cyfan neu ran ohono'n digwydd yng Nghymru [Blwch ticio]

Os bydd: Dywedwch wrthym sut y caiff y Gymraeg ei defnyddio yn eich prosiect.  

Os bydd eich prosiect yn digwydd yng Nghymru, mae'n rhaid i chi ystyried y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith.  

Dywedwch wrthym sut y byddwch yn defnyddio'r Gymraeg yn eich prosiect, a chofiwch sicrhau bod yr wybodaeth hon wedi'i chynnwys yng nghyllideb a chynllun eich prosiect. Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn yr adran costau prosiect.  

[Maes testun - 500 gair]

Ynghylch y dreftadaeth

Dywedwch wrthym am y dreftadaeth yn eich prosiect a pham mae'n bwysig i'ch sefydliad a'ch cymuned.

Rhowch ddisgrifiad o'r dreftadaeth fel y mae heddiw. Os yw'n ymwneud â gwahanol fathau o dreftadaeth, disgrifiwch bob un o'r rhain.

Rhowch wybodaeth ffeithiol am y dreftadaeth. Er enghraifft:

  • Os yw eich prosiect yn ymwneud â threftadaeth nad yw'n ffisegol (fel atgofion neu draddodiadau diwylliannol), dywedwch wrthym am y pwnc a'r cyfnod amser, os yn berthnasol.
  • Os yw eich prosiect yn ymwneud â threftadaeth ffisegol (fel adeilad, llong, gwrthrych, casgliad hanesyddol neu warchodfa natur), rhowch wybodaeth ffeithiol i ni amdani, megis ei maint, ei oedran, y nodweddion sydd wedi goroesi, ei chyflwr a pham y mae’n bwysig i’ch ardal leol.

Dywedwch wrthym:  

  • a oes unrhyw gydnabyddiaeth swyddogol o’r dreftadaeth hon, er enghraifft, efallai ei fod yn adeilad rhestredig (os ydy, dywedwch beth yw ei radd) neu’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • yr hyn sy'n bwysig am y dreftadaeth, er enghraifft efallai ei fod yn ffynhonnell o ddiddordeb artistig, pensaernïol neu wyddonol
  • i bwy mae'r dreftadaeth yn bwysig, fel arbenigwyr a/neu'r gymuned leol
  • pam mae'r dreftadaeth yn nodedig neu'n unigryw
  • sut mae'r dreftadaeth yn cysylltu â threftadaeth arall, er enghraifft yn yr ardal leol neu'n genedlaethol

[Maes testun - 5,000 nod]

A ystyrir bod y dreftadaeth mewn perygl?

Ticiwch os ydy.

[Blwch ticio]

Esboniwch pam a sut rydych chi'n ystyried bod y dreftadaeth mewn perygl.

Esboniwch pam fod y dreftadaeth o dan fygythiad, a pha gamau sydd wedi'u cymryd (os o gwbl) i isafu'r risg.  

Er enghraifft, efallai ei fod mewn perygl o gael ei cholli trwy ddifrod ffisegol neu esgeulustod, neu ddiffygion ariannol. Yn achos hanesion llafar a chymunedol, gallai fod mewn perygl o gael ei cholli wrth i bobl farw. Gall mynediad y cyhoedd i'r dreftadaeth hefyd fod mewn perygl o gael ei golli.

Os yw eich prosiect yn ymwneud ag adeilad neu heneb, dywedwch wrthym a yw ar Gofrestr Mewn Perygl, er enghraifft Cofrestr Heritage at Risk Historic England.

Os yw eich prosiect yn ymwneud â nifer o adeiladau mewn ardal gadwraeth, dywedwch wrthym a yw'r ardal gadwraeth ar Gofrestr Mewn Perygl.

Os yw eich prosiect yn ymwneud â threftadaeth naturiol, dywedwch wrthym a yw'r dirwedd, daeareg, cynefin neu rywogaeth mewn perygl ac ym mha ffordd (er enghraifft, wedi'i nodi fel blaenoriaeth mewn Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth).

Dywedwch wrthym:

  • beth yw cyflwr presennol y dreftadaeth
  • sut mae'n cael ei reoli ar hyn o bryd a chan bwy
  • sut mae pobl yn ymgysylltu â'r dreftadaeth ar hyn o bryd

[Maes testun - 5,000 nod]

A yw arolwg cyflwr wedi'i gynnal ar gyfer yr ased treftadaeth yn ystod y pum mlynedd diwethaf?

Ticiwch os ydy.

Os yw eich prosiect yn ymwneud â chadwraeth treftadaeth, mae'n rhaid i chi ddarparu arolwg cyflwr neu ddogfen briodol arall megis cynllun cadwraeth drafft neu amlinellol). Dylai'r ddogfen hon ddweud wrthym beth yw cyflwr presennol y dreftadaeth a'r gwaith sydd angen ei wneud i ddychwelyd y dreftadaeth i gyflwr da.

Er enghraifft, os ydych chi'n bwriadu gwneud gwaith cadwraeth ar man addoli lleol, bydd angen i chi wybod beth yw'r cyflwr presennol a pha waith atgyweirio sydd angen ei wneud. Dylai'r arolwg neu'r adroddiad hefyd nodi blaenoriaeth gymharol y gwaith arfaethedig, er mwyn i chi wybod pa waith sydd fwyaf hanfodol, y mae angen ymdrin ag ef fwyaf ar fyrder.

Mae mathau eraill o arolwg a allai gael eu gwneud, gan gynnwys arolwg perfformiad adeiladau ac effeithlonrwydd ynni, neu arolwg safle sy'n asesu gwasanaethau a'r defnydd o'r safle. Ar gyfer archif  mae'n bosibl hefyd y bydd angen arolwg cyflwr neu archwiliad, sydd fel arfer yn cael ei wneud gan archifydd.    

Os ydych wedi cael unrhyw fath o arolwg cyflwr, gallwch ei uwchlwytho'n nes ymlaen yn y cais.  

[Blwch ticio]

A fyddwch yn ymgymryd ag unrhyw waith cyfalaf fel rhan o'ch prosiect?  

Ticiwch os byddwch.

[Blwch ticio]

Os byddwch: rhowch fanylion.

Diffinnir gwaith cyfalaf fel gwaith sy'n creu neu'n gwella ased. Gall hwn gynnwys gwaith ffisegol ar dirweddau, byd natur ac adeiladau, atgyweirio, cadwraeth, adeiladu o'r newydd, digideiddio, neu waith i sefydlogi cyflwr gwrthrychau.

Enghreifftiau o waith cyfalaf:

  • cadwraeth rhostir
  • atgyweiriadau i adeilad hanesyddol
  • digideiddio archif o ffotograffau

Dywedwch wrthym a fydd unrhyw waith cyfalaf yn rhan o'ch prosiect, hyd yn oed os yw'n rhan fach o'ch prosiect cyffredinol. Rhowch ddadansoddiad cychwynnol i ni o'r gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud.

[Maes testun - 5,000 nod]

Os ydych yn ymgymryd ag unrhyw waith cyfalaf (gan gynnwys atgyweirio neu adnewyddu) ar dir, adeiladau neu eitemau treftadaeth, dywedwch wrthym bwy sy'n berchen arno.

  • eich sefydliad
  • partner yn y prosiect
  • nid y naill na’r llall
  • Dd/B

Rhowch fanylion perchennog eich gwaith cyfalaf.  

Os bydd gwaith cyfalaf yn rhan o'ch prosiect, bydd angen i chi ddweud wrthym pwy sy'n berchen ar y dreftadaeth. Os oes gennych nhw, mae angen i ni weld unrhyw ddogfennau perchnogaeth. Gallwch uwchlwytho'r rhain yn nes ymlaen yn y cais.  

Os mai eich sefydliad chi sy'n berchen ar y dreftadaeth, dywedwch wrthym:

  • a oes gan eich sefydliad rydd-ddaliad ar yr adeilad neu dir, neu a yw'n berchen yn gyfan gwbl ar yr eitemau treftadaeth
  • a oes gan eich sefydliad les ar yr adeilad neu dir a faint o flynyddoedd sy'n weddill ar y les
  • a oes gan eich sefydliad, neu a yw'n bwriadu cymryd, morgais neu fenthyciadau eraill sydd wedi'u sicrhau ar yr adeilad neu dir, neu eitem treftadaeth. Os felly, rhowch fanylion y benthyciwr a maint y morgais neu fenthyciad i ni.  

Os yw sefydliad partner yn berchen ar y dreftadaeth, dywedwch wrthym:

enw'r sefydliad partner

  • a oes gan y partner yn y prosiect rydd-ddaliad ar yr adeilad neu dir, neu'n a yw'n berchen yn gyfan gwbl ar yr eitemau treftadaeth
  • a oes gan y partner yn y prosiect les ar yr adeilad neu dir a faint o flynyddoedd sy'n weddill ar y les
  • a oes gan y partner yn y prosiect, neu a yw'n bwriadu cymryd, morgais neu fenthyciadau eraill sydd wedi'u sicrhau ar yr adeilad neu dir, neu eitem treftadaeth
  • os felly, rhowch fanylion y benthyciwr a maint y morgais neu fenthyciad i ni

Os nad ydych yn bodloni ein gofynion o ran perchnogaeth ar hyn o bryd, rhowch ddyddiad i ni pan fyddwch yn disgwyl y bydd modd gwneud hyn. Os oes gennych unrhyw ddogfennau perchnogaeth, gallwch eu huwchlwytho yn nes ymlaen yn y cais.  

[Maes testun - 5,000 nod]

A oes unrhyw amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r ased treftadaeth a allai effeithio ar eich prosiect?  

[Blwch ticio]

Rhowch fanylion.  

Dywedwch wrthym os yw’r gofrestr teitl neu ddogfennau perchnogaeth eraill yn cynnwys unrhyw waharddiadau neu gyfyngiad ar ei defnydd neu berchnogaeth, neu a oes angen unrhyw ganiatadau ar gyfer unrhyw drafodion. Os oes, bydd angen i chi roi'r manylion llawn a thystiolaeth bod y rhain wedi'u bodloni.

Gallai hyn gynnwys:

  • Cyfamod Cyfyngol sy’n cyfyngu ar y math o ddefnydd ar gyfer y tir neu’r eiddo
  • cyfyngiad sy’n rhoi hawl i barti arall gael ei hysbysu am unrhyw drafodion neu nodi amodau y byddai angen eu datrys cyn gwerthu’r eiddo
  • [Maes testun - 5,000 nod]
  • A yw eich prosiect yn ymwneud â chaffael adeilad, tir neu eitemau treftadaeth?

Dewiswch un o:

  • ydy
  • nac ydy
  • Dd/B

Rheoli eich prosiect

A yw eich sefydliad wedi ymgymryd â phrosiect ar y raddfa hon yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf? 

[Ticiwch os ydy]

Os ydy: rhowch fanylion.

[Maes testun - 5,000 nod]

Dywedwch wrthym pam mai hwn yw'r prosiect mwyaf priodol i'ch sefydliad ymgymryd ag ef ar hyn o bryd.

Pa strategaethau eraill sydd wedi cael eu hystyried? Beth fyddwch yn ei wneud os na fydd y prosiect yn mynd yn ei flaen?

[Maes testun - 5,000 nod]

A oes angen i'ch sefydliad ymgymryd ag unrhyw weithgarwch adeiladu capasiti er mwyn cyflwyno eich prosiect yn well?

Er enghraifft, a oes angen i chi adolygu eich system gyllid neu AD, datblygu eich cynllun busnes neu adeiladu capasiti codi arian? Oes angen i chi ddod o hyd i unrhyw sgiliau neu arbenigedd ychwanegol?

Dywedwch wrthym a fyddwch yn gwneud newidiadau i lywodraethiant eich sefydliad er mwyn i chi gyflwyno eich prosiect yn fwy effeithiol. Gallwch gynnwys costau cymorth proffesiynol ar gyfer adolygiad llywodraethu yn eich costau prosiect.

[Maes testun - 5,000 nod]

Dywedwch wrthym am unrhyw swyddi neu brentisiaethau y byddwch yn eu creu i gyflwyno eich prosiect.

Rhowch amcangyfrif o unrhyw swyddi a/neu brentisiaethau a fydd yn cael eu creu ac yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflwyno eich prosiect. Dywedwch wrthym beth fydd eu prif rolau ac a ydynt yn swyddi amser llawn neu'n rhan-amser.

Os ydych yn symud aelod staff presennol i swydd sydd wedi'i chreu gan y prosiect hwn, neu'n ymestyn oriau aelod staff presennol, dywedwch wrthym beth yw ei gymwysterau ar gyfer y rôl a grëir gan y prosiect.

Disgrifiwch sut y byddwch chi'n dewis y staff.

Bydd angen i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer pob rôl a grëir ar gyfer cam datblygu eich prosiect fel dogfen ategol i'ch cais.

[Maes testun - 5,000 nod]

Pa waith fyddwch chi'n ei wneud yn ystod cam datblygu eich prosiect?

Dywedwch wrthym am y tasgau allweddol y mae angen i chi eu cwblhau yn ystod eich cam datblygu. Dywedwch wrthym sut y byddwch yn cynhyrchu'r holl ddogfennau ategol sy'n ofynnol ar gyfer eich cais cam cyflwyno.

[Maes testun - 5,000 nod]

Pwy yw'r prif bobl sy'n gyfrifol am y gwaith yn ystod cam datblygu eich prosiect?

Rhowch wybodaeth fanwl am y tîm a fydd yn gweithio ar eich cam datblygu, gan gynnwys y person a fydd â chyfrifoldeb cyffredinol.

Esboniwch pwy sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau a chymeradwyo newidiadau i'ch prosiect. Disgrifiwch y strwythur adrodd a pha mor aml y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal.

Disgrifiwch sut y byddwch yn dewis y gwasanaethau a'r nwyddau sydd eu hangen yn ystod eich cam datblygu.

Bydd angen hefyd i chi anfon briffiau atom ar gyfer unrhyw ymgynghorwyr yn eich cam datblygu. Gallwch uwchlwytho'r rhain yn nes ymlaen yn y cais.  

[Maes testun - 5,000 nod]

Pwy yw'r prif bobl sy'n gyfrifol am y gwaith yn ystod cam cyflwyno eich prosiect?

Rhowch wybodaeth fanwl am y tîm a fydd yn gweithio ar eich cam cyflwyno, gan gynnwys y person a fydd â chyfrifoldeb cyffredinol.

Dywedwch wrthym a fydd angen cymorth ychwanegol arnoch gan ymgynghorwyr neu staff newydd.

Esboniwch pwy sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau a chymeradwyo newidiadau i'ch prosiect. Disgrifiwch y strwythur adrodd a pha mor aml y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal.

Disgrifiwch sut y byddwch yn dewis y gwasanaethau a'r nwyddau sydd eu hangen yn ystod eich cam cyflwyno.

Bydd angen hefyd i chi anfon y canlynol atom:

  • strwythur rheoli'r prosiect
  • briffiau ar gyfer unrhyw ymgynghorwyr

Os ydych yn anfon cynllun busnes prosiect atom, dywedwch wrthym ble i ddod o hyd i'r wybodaeth uchod yn y cynllun. Gallwch uwchlwytho unrhyw un o'r dogfennau ategol hyn yn nes ymlaen yn y cais.  

[Maes testun - 5,000 nod]

Pa waith fyddwch chi'n ei wneud yn ystod cam cyflwyno eich prosiect?

Rhowch wybodaeth amlinellol am yr hyn y bydd eich prosiect yn ei wneud yn ystod eich cam cyflwyno.

[Maes testun - 5,000 nod]

Sut ydych chi'n bwriadu trefnu'r llif arian parod ar gyfer cam cyflwyno eich prosiect?

Gwneir taliadau grant mewn ôl-daliadau. Felly, mae angen i chi sicrhau y gallwch ddarparu llif arian parod yn llwyddiannus ar gyfer gwariant eich prosiect er mwyn osgoi trafferthion ariannol. Yr eithriad i hwn yw grant datblygu o lai na £250,000.

Bydd angen i chi ddarparu esboniad o'r llif arian parod gyda'ch cais cam cyflwyno.

Dywedwch wrthym am unrhyw gronfeydd ariannol, incwm gan eich sefydliad neu ffynonellau ariannu eraill y byddwch yn eu cyrchu ar gyfer llif arian parod cam cyflwyno eich prosiect.

[Maes testun - 5,000 nod]

Dyddiad dechrau cyflwyno

Gall hwn fod yn amcangyfrif.

[Dewiswch ddyddiad]

Dyddiad dod i ben cyflwyno

Gall hwn fod yn amcangyfrif.

[Dewiswch ddyddiad]

A oes unrhyw derfynau amser penodol neu gerrig milltir allweddol a fydd yn cyfyngu ar amserlen eich prosiect?

Dywedwch wrthym am unrhyw ddyddiadau na ellir eu newid a fydd yn effeithio ar eich prosiect ac sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth.

Er enghraifft:

  • dyddiadau pan ddaw cynigion ariannu partneriaeth i ben neu ddyddiadau olaf ar gyfer gwario cronfeydd wedi'u sicrhau
  • pen-blwyddi y mae eich prosiect wedi'i ddylunio i'w dathlu
  • digwyddiadau allanol sy'n allweddol i lwyddiant eich prosiect

[Maes testun - 5,000 nod]

Ein hegwyddorion buddsoddi  

Bydd ein pedair egwyddor fuddsoddi'n cyfeirio ein holl benderfyniadau gwneud grantiau o dan ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033

Ein hegwyddorion buddsoddi yw:

  • achub treftadaeth
  • diogelu'r amgylchedd
  • cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad
  • cynaladwyedd sefydliadol

Mae'n rhaid i chi gymryd pob un o'r pedair egwyddor i ystyriaeth yn eich prosiect. Gallwch ganolbwyntio'n fwy ar rai egwyddorion buddsoddi nag eraill.  

Er enghraifft:  

  • os yw eich prosiect yn canolbwyntio ar adfer tirweddau naturiol, efallai y byddwch am bwysleisio achub treftadaeth a diogelu'r amgylchedd yn eich cais
  • os yw eich prosiect yn canolbwyntio ar gofnodi a rhannu hanesion llafar a datblygu sgiliau, efallai y byddwch yn canolbwyntio mwy ar gynhwysiad, mynediad a chyfranogiad a chynaladwyedd sefydliadol

Eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar gryfder y ffocws a'r pwyslais ar bob egwyddor, a dangos hynny.

Esboniwch sut fydd eich prosiect yn achub treftadaeth.  

[Maes testun - 5,000 nod]

Esboniwch sut fydd eich prosiect yn diogelu'r amgylchedd.  

[Maes testun - 5,000 nod]

Esboniwch sut fydd eich prosiect yn cynyddu cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad.

[Maes testun - 5,000 nod]

Esboniwch sut fydd eich prosiect yn gwella'ch cynaladwyedd sefydliadol.

[Maes testun - 5,000 nod]

Ar ôl i'r prosiect ddod i ben

Sut fyddwch chi'n cynnal buddion eich prosiect ac yn talu unrhyw gostau cysylltiedig?

Dywedwch wrthym sut y byddwch yn rheoli buddion eich prosiect ar ôl i'r ariannu ddod i ben.

Er enghraifft:

  • beth fydd yn digwydd i’r pethau yr ydych yn eu cynhyrchu fel rhan o’r prosiect, er enghraifft a fydd y rhain yn cael eu rhoi i archif leol neu’n cael eu harddangos o hyd gan eich sefydliad
  • sut y byddwch yn rheoli’r dreftadaeth yn y dyfodol, er enghraifft a fyddwch yn parhau i gyflogi staff i helpu cynnal a chadw safle yr ydych wedi’i adfer
  • sut y byddwch yn ymdrin ag unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw'r dreftadaeth pan ddaw'r prosiect i ben, er enghraifft costau cyfleustodau ar gyfer adeilad sydd newydd ei agor  

[Maes testun - 5,000 nod]

Sut fyddwch chi'n gwerthuso llwyddiant eich prosiect ac yn rhannu'r dysgu?

Rhaid i chi werthuso eich prosiect a darparu adroddiad gwerthuso ysgrifenedig ar ôl i chi orffen eich prosiect.  

Bydd angen i chi greu cynllun gwerthuso ar ddechrau eich prosiect. Braslun yw hwn o sut y byddwch yn cywain data i fesur, dadansoddi a deall yr hyn rydych chi'n ei wneud ac yn y pen draw i ddarparu tystiolaeth o'r canlyniadau y mae eich prosiect wedi'u cyflawni.  

Dywedwch wrthym pwy fydd yn gwneud eich gwerthusiad. Gallai hyn fod yn staff yn eich sefydliad neu'n berson neu sefydliad y bydd angen i chi ei gyflogi. Dylech ddarparu brîff ar gyfer y gwaith hwn fel dogfen ategol.  

Byddem yn disgwyl gweld costau ar gyfer eich gwerthusiad wedi'u cynnwys yn eich costau prosiect.

[Maes testun - 5,000 nod]

Costau ac incwm y prosiect

Dywedwch wrthym am gostau ac incwm eich prosiect.

Mae hyn yn cynnwys eich cam datblygu a'ch cam cyflwyno posibl.

Dylech gynnwys yr holl gostau ac incwm sy'n gysylltiedig â'ch prosiect.

Mae yna wahanol benawdau ar gyfer pob math o gost y gallwch ddewis ohonynt, ac ar gyfer pob math o incwm y gallech ei dderbyn i gefnogi eich prosiect.

Dewiswch y math o incwm sy'n gweddu orau i bob ffynhonnell incwm y byddwch yn ei derbyn.

Mae rhagor o wybodaeth am gostau ac incwm prosiect y cam cyflwyno ar gael yng nghwestiynau ymgeisio'r cam cyflwyno isod.

Dangosir crynodeb i chi o gyfanswm costau ac incwm eich prosiect.

Costau cam datblygu'r prosiect:

Gweithgarwch adeiladu capasiti
  • Mae hyn yn cynnwys unrhyw beth y gall fod angen i chi ei wneud i gynyddu capasiti eich sefydliad i gyflwyno'r prosiect. Gallai hyn gynnwys adolygiad o'ch adnoddau dynol neu gyllid, recriwtio sgiliau neu arbenigedd ychwanegol, neu wneud newidiadau i lywodraethiant eich sefydliad.  
Gwaith/arolygon agor i fyny
  • Gall hyn gynnwys unrhyw arolygon neu adroddiadau cychwynnol y gallai fod angen iddynt gael eu gwneud ar safle, adeilad, tirwedd neu adnodd. 
Ffioedd proffesiynol
  • Dylech gynnwys costau ar gyfer unrhyw wasanaethau y bydd angen i chi dalu amdanynt yn ystod eich prosiect. Er enghraifft, syrfëwr adeiladu, pensaer tirweddau neu gadwraethwr.  
  • Dylai ffioedd gydweddu â chanllawiau proffesiynol a bod yn seiliedig ar ddyfynbrisiau gan y gweithiwr proffesiynol neu gorff proffesiynol yr ydych yn ei dalu.
Recriwtio
  • Gall hyn gynnwys cost hysbysebu ac unrhyw dreuliau teithio ar gyfer cyfweliadau. Rydym yn disgwyl i'ch sefydliad lynu wrth arfer adnoddau dynol da a dilyn yr holl gyfreithiau perthnasol.
Adennill costau llawn
  • Mae adennill costau llawn yn fath o gost a ddefnyddir i dalu costau anuniongyrchol prosiect. Mae costau anuniongyrchol yn cynnwys gorbenion, neu gostau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â’r prosiect y mae eich sefydliad yn ei gyflwyno, ond sy’n hanfodol i redeg eich sefydliad.
  • Os ydych yn sefydliad yn y sector gwirfoddol, gallwn dalu cyfran o orbenion eich sefydliad, y mae'n rhaid iddynt fod yn briodol i'r amser neu adnoddau a ddefnyddir ar gyfer eich prosiect. Wrth sector gwirfoddol rydym yn golygu sefydliadau sy'n annibynnol ar lywodraeth y mae gan eu llywodraethu, eu hariannu a'u hadnoddau ffocws gwirfoddol. Er enghraifft, gallai sefydliad yn y sector gwirfoddol:
    • fod â Bwrdd Ymddiriedolwyr
    • cael ei ariannu gan grantiau a rhoddion
    • dibynnu ar wirfoddolwyr i gyflawni ei nodau
Costau eraill (cam datblygu)
  • Dylech gynnwys costau cam datblygu nad ydynt yn ffitio i unrhyw un o'r penawdau cost eraill. Cofiwch roi disgrifiad clir o beth yw'r costau hyn.
  • Efallai y byddwch yn cynnwys costau yma ar gyfer unrhyw waith cwmpasu neu gynllunio y byddwch yn ei wneud i ymdrin â'r egwyddorion buddsoddi yn ystod eich prosiect.  
  • Os yw eich prosiect yn digwydd yng Nghymru, cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys costau digonol ar gyfer cyfieithu i’r Gymraeg.
  • Efallai y byddwch am gynnwys costau ar gyfer addasiadau rhesymol yma hefyd.
Amser gwirfoddolwyr
  • Dyma'r amser y mae gwirfoddolwyr yn ei roi i gefnogi'r gwaith o gyflwyno eich prosiect. Gallai hyn gynnwys gwaith gweinyddol, clirio safle neu weithio fel stiward mewn digwyddiad.
  • Ni ddylech gynnwys costau am amser pobl a fydd yn cymryd rhan yn eich gweithgareddau (er enghraifft, pobl sy'n mynychu gweithdy neu'n mynd ar daith dywysedig).  
  • Rydym yn defnyddio cyfradd safonol o £20 yr awr i gyfrifo amser gwirfoddolwyr.  
  • Mae'n rhaid cynnwys amser gwirfoddolwyr yn adrannau costau ac incwm eich ffurflen gais. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod gwerth y cyfraniad hwn.
Cyfraniadau nad ydynt yn arian parod
  • Dyma unrhyw beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect nad oes rhaid i chi dalu amdano (er enghraifft, hurio ystafelloedd neu offer). Gallwn ond derbyn cyfraniadau nad ydynt yn arian parod os ydynt yn gostau prosiect uniongyrchol y byddent fel arall yn rhan o gyllideb eich prosiect.
  • Mae'n rhaid cynnwys cyfraniadau nad ydynt yn arian parod yn adrannau costau ac incwm eich ffurflen gais. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod gwerth y cyfraniad hwn.
Staff newydd
  • Dylech gynnwys costau ar gyfer staff a fydd yn gweithio ar eich prosiect. Cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys unrhyw argostau perthnasol hefyd.
  • Gallai hyn gynnwys costau contractau cyfnod penodol newydd, secondiadau, prentisiaethau a chost staff llawrydd i helpu cyflwyno eich prosiect. Peidiwch â chynnwys costau talu hyfforddeion yma.
  • Mewn rhai amgylchiadau gall fod yn briodol cynnwys costau ar gyfer absenoldeb mamolaeth a/neu daliadau diswyddo. Rydym yn disgwyl i'ch sefydliad lynu wrth arfer adnoddau dynol da a dilyn yr holl gyfreithiau perthnasol, gan gynnwys talu o leiaf y Cyflog Byw Cenedlaethol i holl aelodau staff y prosiect.
Swm wrth gefn
  • Mae'r pennawd cost hwn yn orfodol. Mae swm wrth gefn yn cael ei ddefnyddio i dalu am gostau annisgwyl sy'n angenrheidiol er mwyn cyflwyno eich prosiect.      
  • Byddem yn disgwyl i swm yr arian wrth gefn sydd wedi'i gynnwys helpu wrth reoli'r heriau neu'r risgiau a nodwyd gennych. Dylai hefyd adlewyrchu graddfa eich prosiect.  
  • Cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys eich swm wrth gefn gofynnol yma yn unig ac nid o fewn penawdau cost eraill y cais.

Incwm cam datblygu'r prosiect:  

awdurdod lleol

  • sector cyhoeddus arall
  • llywodraeth ganolog
  • rhodd breifat – unigolyn
  • rhodd breifat – ymddiriedolaethau/elusennau/gwaddolion
  • rhoddion preifat – corfforaethol
  • masnachol/busnes
  • eich cronfeydd wrth gefn eich hun
  • arian arall a godir
  • benthyciad/cyllid
  • cyfraniadau nad ydynt yn arian parod
  • amser gwirfoddolwyr

Dogfennau ategol sydd eu hangen yn ystod y cam datblygu

Cyn i ni asesu eich cais, mae angen i ni weld eich dogfennau ategol.

Mae rhai dogfennau ategol yn orfodol - mae'r rhain yn ddogfennau y mae'n rhaid i bob prosiect eu darparu ar gyfer eu cais cam datblygu. Dim ond os ydynt yn berthnasol i'ch prosiect y mae dogfennau ategol eraill yn orfodol: er enghraifft, os ydych yn comisiynu unrhyw waith, bydd angen i ni weld briffiau ar gyfer y gwaith hwnnw.  

Dewiswch enw ffeil clir a disgrifiadol ar gyfer pob dogfen ategol fel y gallwn nodi pob un yn hawdd.

Y mathau o ffeiliau a gefnogir: .jpg, .doc, .docx, .pdf, .xls, .xlsx, .ppt, .pptx, .zip, .kml

[Uwchlwytho ffeiliau]

Rhestr o ddogfennau ategol ar gyfer y cam datblygu:

Amserlen ar gyfer y cam datblygu

Dylai hon fod yn amserlen fanwl ar gyfer cam datblygu eich prosiect. Dogfen orfodol yw hon ar gyfer cam datblygu pob prosiect.

Risgiau ar gyfer y cam datblygu

Dogfen a elwir yn gofrestr risgiau yw hon sy'n dweud wrthym beth yw'r risgiau i gam datblygu eich prosiect a sut y byddant yn cael eu rheoli. Dogfen orfodol yw hon ar gyfer cam datblygu pob prosiect.

Amserlen ar gyfer y cam cyflwyno

Dylai hon fod yn amserlen gryno ar gyfer cam cyflwyno eich prosiect. Dogfen orfodol yw hon ar gyfer cam datblygu pob prosiect.

Risgiau ar gyfer y cam cyflwyno

Dogfen a elwir yn gofrestr risgiau yw hon sy'n dweud wrthym beth yw'r risgiau i gam cyflwyno eich prosiect a sut y byddant yn cael eu rheoli. Dogfen orfodol yw hon ar gyfer cam datblygu pob prosiect.

Dogfen prif risgiau ar gyfer y cyfnod ar ôl cwblhau'r prosiect

Dogfen yw hon sy'n dweud wrthym beth yw'r prif risgiau sy'n wynebu'r prosiect ar ôl iddo gael ei gwblhau a sut y byddant yn cael eu rheoli. Dogfen orfodol yw hon ar gyfer cam datblygu pob prosiect.

Cyfrifon

Rhaid i chi ddarparu eich cyfrifon diweddaraf sydd wedi'u harchwilio neu eu dilysu gan gyfrifydd ar gyfer y tair blynedd diwethaf. Hoffem weld eich cyfrifon rheoli ar gyfer y tair blynedd diwethaf hefyd. Mae angen i gyfrifon:  

  • fod yn enw cyfreithiol eich sefydliad
  • cynnwys y dyddiad  
  • cael eu llofnodi mewn llawysgrifen; nid yw hyn yn cynnwys llofnodion digidol
  • cynnwys teitl y sawl sy'n eu llofnodi. Rhaid i'r person hwn fod yn gyfarwyddwr, ymddiriedolwr, cyfrifydd, neu berson uwch arall yn eich sefydliad. 

Os yw cyfrifon eich sefydliad yn hŷn na 18 mis, rhaid hefyd i chi ddarparu tri mis o'ch cyfriflenni banc diweddaraf. Dylai hyn fod y tri mis cyn y dyddiad yr ydych yn cyflwyno eich cais.

Os sefydlwyd eich sefydliad lai na 14 mis yn ôl ac nid oes gennych set o gyfrifon wedi'u harchwilio, rhaid i chi ddarparu eich tair cyfriflen banc ddiwethaf, neu lythyr gan eich banc yn cadarnhau bod eich sefydliad wedi agor cyfrif.  

Nid oes angen i ni weld eich cyfrifon os ydych yn sefydliad cyhoeddus, er enghraifft awdurdod lleol neu brifysgol.  

Dogfen orfodol yw hon ar gyfer cam datblygu pob prosiect oni bai bod eich sefydliad wedi'i eithrio rhag darparu nhw.  

Dadansoddiad manwl o gostau

Rhaid i chi ddarparu taenlen yn manylu ar y costau y gwnaethoch eu hamlinellu wrth gwblhau adran costau prosiect eich cais.

Mae arnom angen taenlen fanwl o wariant ac incwm y prosiect, gan gyfeirio at y penawdau cyllideb a ddefnyddiwyd yn eich cais, gan eitemeiddio pob agwedd.

Dogfen orfodol yw hon ar gyfer cam datblygu pob prosiect.

Cytundebau partneriaeth

Os ydych yn bwriadu gweithio gyda phartner i gyflawni eich prosiect, bydd angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth. Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r ddau bartner a dylai pob parti ei lofnodi. Dylai'r ddogfen hon adlewyrchu anghenion eich prosiect ac mae'n bosibl y bydd angen i chi ofyn am gyngor annibynnol ar y ffordd orau o lunio cytundeb.  

Mae partner yn sefydliad arall neu gorff trydydd parti sy’n rhan annatod o gyflwyno eich prosiect, er enghraifft perchennog eitem, adeilad, tir neu gasgliad sy’n rhan o’ch prosiect. Nid yw partneriaid yn isgontractwyr. Bydd ganddynt rôl weithredol yn y prosiect a byddant yn cymryd rhan yn y prosiect. Byddant yn helpu i adrodd ar gynnydd, yn mynychu cyfarfodydd partneriaeth rheolaidd ac yn cefnogi gwerthusiad y prosiect.

Disgrifiadau swydd

Os ydych yn bwriadu recriwtio staff neu brentisiaid newydd i helpu cyflwyno eich prosiect, mae angen i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer pob swydd newydd. Dylai pob disgrifiad swydd gynnwys y cyflog a'r oriau gwaith arfaethedig.

Briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir

Mae briffiau'n disgrifio unrhyw waith rydych chi'n bwriadu ei gomisiynu yn ystod cam datblygu eich prosiect. Os ydych chi'n comisiynu gwaith, er enghraifft, gan artist neu bensaer, dylech uwchlwytho brîff.  

Dylai'r brîff ddisgrifio'r gwaith, faint o amser y bydd yn ei gymryd, a faint y bydd yn ei gostio.  

Ar gyfer ffioedd dros £10,000 dylech ddod o hyd i dri thendr neu ddyfynbris cystadleuol. Ar gyfer ffioedd dros £50,000 byddwn yn disgwyl i chi ddarparu prawf o'r broses dendro gystadleuol.

Delweddau

Dylech ddarparu hyd at chwe delwedd sy'n helpu i roi darlun o'ch prosiect. Er enghraifft, delwedd o fap o'r ardal yn dangos y lleoliadau sy'n berthnasol i'ch prosiect, os yw'n digwydd ar draws mwy nag un lle neu ar draws ardal eang.  

Gwnewch yn siŵr bod gennych bob caniatâd sydd ei angen i rannu'r delweddau hyn gyda ni, gan y byddwn o bosibl yn defnyddio'r rhain i hysbysu pobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect. Os bydd eich prosiect yn llwyddiannus, mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio unrhyw ddelweddau i hyrwyddo eich prosiect.

Tystiolaeth o gefnogaeth

Dylech ddarparu hyd at chwe darn o dystiolaeth o gefnogaeth gan sefydliadau neu unigolion eraill sydd wedi ymrwymo i helpu cyflwyno eich prosiect neu sy'n allweddol i lwyddiant eich prosiect. Gallai hyn gynnwys:  

caniatâd gan dirfeddianwyr i gael mynediad i safleoedd

cadarnhad gan amgueddfa leol y bydd yn lletya eich arddangosfa

cadarnhad gan grŵp cymunedol lleol y bydd eu haelodau yn cymryd rhan yn eich gweithgareddau arfaethedig

cynigion o gymorth gan sefydliadau ariannu eraill

prisiadau annibynnol ar gyfer tir, adeiladau neu eitemau treftadaeth rydych yn bwriadu eu prynu

Nid oes angen i ni weld datganiadau cyffredinol o gefnogaeth i'ch prosiect.  

Cyfrifiadau adennill costau llawn sydd wedi'u cynnwys yn eich costau cam datblygu

Os ydych wedi cynnwys adennill costau llawn fel pennawd cost yn eich costau prosiect, rhaid i chi ddarparu dogfen sy'n dangos sut rydych wedi cyfrifo hyn. Dylai costau fod yn gymesur â'r amser neu'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer eich prosiect. Gallwn hefyd dalu cyfran o gost aelod staff presennol, ar yr amod nad yw'n gweithio'n gyfan gwbl ar y prosiect a ariennir mewn swydd newydd.

Ni allwn dderbyn ceisiadau sy’n cynnwys adennill costau llawn gan sefydliadau sector cyhoeddus (er enghraifft, amgueddfeydd a ariennir gan lywodraeth, awdurdodau lleol neu brifysgolion).

Cynllun busnes

Rhaid i chi gyflwyno cynllun busnes cyfredol eich sefydliad. Nid yw cynllun busnes yr un peth â chynllun prosiect. Mae'n canolbwyntio ar y sefydliad cyffredinol ac nid ar weithgareddau prosiect penodol.

Os nad oes gennych gynllun busnes, uwchlwythwch y ddogfen rydych yn ei defnyddio i reoli eich treftadaeth. Os ydych yn sefydliad sy'n rheoli nifer o safleoedd neu, er enghraifft, yn awdurdod lleol, uwchlwythwch y dogfennau cynllunio sydd fwyaf perthnasol i'r dreftadaeth. Dogfen orfodol yw hon ar gyfer cam datblygu pob prosiect.

Arolwg cyflwr

Os yw eich prosiect yn ymwneud â chadwraeth treftadaeth, rhaid i chi ddarparu arolwg cyflwr neu ddogfen briodol arall i ddweud wrthym beth yw cyflwr presennol y dreftadaeth a'r gwaith sydd ei angen i ddychwelyd y dreftadaeth i gyflwr da.  

Dylai'r arolwg neu'r adroddiad hefyd nodi blaenoriaeth gymharol y gwaith arfaethedig, er mwyn i chi wybod pa waith sydd fwyaf hanfodol, y mae angen ymdrin ag ef fwyaf ar fyrder. Mae mathau eraill o arolwg a allai ddigwydd, megis arolwg perfformiad ac effeithlonrwydd ynni adeilad.

Dogfennau perchnogaeth

Os ydych yn cynllunio unrhyw waith cyfalaf, neu'n bwriadu prynu tir, adeiladau, neu gasgliadau, darparwch gopïau o unrhyw ddogfennau perchnogaeth perthnasol. Er enghraifft, dogfennau perchnogaeth y Gofrestrfa Tir, neu brydles neu benawdau telerau.

Dogfennau ategol Menter Treftadaeth

Os ydych yn gwneud cais Menter Treftadaeth, dylech uwchlwytho'r canlynol hefyd:

  • arfarniad dichonoldeb sy'n darparu asesiad rhesymol o'r diffyg cadwraeth
  • manyleb ddylunio ar gyfer unrhyw waith cyfalaf sydd i'w wneud yn ystod y cam datblygu
  • Dwy neu dair o'r dogfennau mwyaf diweddar a pherthnasol sy'n disgrifio'r weledigaeth a'r strategaeth ar gyfer yr ardal, os yn berthnasol. Er enghraifft, dogfennau o'r fframwaith datblygu lleol, cynllun gweithredu ardal, cynllun meistr, strategaeth adfywio neu strategaeth twristiaeth.

Datganiad  

Cadarnhau'r datganiad  

Rydym yn cynnal ymchwil defnyddwyr ansoddol i'n helpu datblygu ein cynhyrchion a'n gwasanaethau. Gallai hyn amrywio o arolwg 20 munud i gyfweliad 2 awr.  

Ticiwch y blwch hwn os hoffech gymryd rhan yn ein hymchwil, neu i gael mwy o wybodaeth. [Blwch ticio]  

Rwyf wedi darllen y datganiad ac yn cytuno iddo. [Blwch ticio]  

a) Diogelu Data  

Rydym yn ymrwymedig i fod mor agored a thryloyw â phosibl. Mae hyn yn cynnwys bod yn glir ynglŷn â sut rydym yn asesu ac yn gwneud penderfyniadau ar ein grantiau a sut y byddwn yn defnyddio eich ffurflen gais a'r dogfennau eraill rydych yn eu rhoi i ni. Rydym yn dilyn yr holl gyfreithiau a rheoliadau diogelu data sy'n berthnasol ac mewn grym o bryd i'w gilydd (y 'ddeddfwriaeth Diogelu Data'). Fel y diffinnir gan y ddeddfwriaeth Diogelu Data mae Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (sy'n gweinyddu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) yn rheolydd data. Mae ein Polisi Preifatrwydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol gan gynnwys gwybodaeth gyswllt ein Swyddog Diogelu Data. Gellir dod o hyd iddo ar wefan Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.  

Fel rhan o'r broses ymgeisio byddwn yn casglu eich enw a'ch swydd yn y sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli yn ogystal ag unrhyw wybodaeth bersonol ychwanegol rydych yn ei darparu amdanoch chi eich hun neu am bobl eraill sy'n ymwneud â'ch prosiect. Efallai y byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth hon gydag un o'r ymgynghorwyr ar ein Cofrestr Gwasanaethau Cefnogi os byddant yn cael eu penodi i roi cefnogaeth i chi ar eich prosiect. Nid ydym yn trosglwyddo eich data i unrhyw drydydd partïon sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r UE.  

Efallai y byddwn yn defnyddio'ch ffurflen gais a dogfennau eraill a roddwch i ni i:  

  • Benderfynu a fyddwn ni'n rhoi grant i chi.  
  • Darparu copïau i unigolion neu sefydliadau eraill sy'n helpu ni i asesu, monitro a gwerthuso grantiau.  
  • Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda ni sydd â diddordeb dilys mewn ceisiadau a grantiau'r Loteri Genedlaethol neu raglenni ariannu penodol.  
  • Cadw mewn cronfa ddata a defnyddio at ddibenion ystadegol.  
  • Os byddwn ni'n cynnig grant i chi, byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth amdanoch chi sy'n ymwneud â'r gweithgaredd rydym wedi'i ariannu, gan gynnwys swm y grant a'r gweithgaredd yr oedd i dalu amdano. Efallai y bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn ein datganiadau i'r wasg, yn ein cyhoeddiadau printiedig ac ar-lein, ac yng nghyhoeddiadau neu ar wefannau adrannau llywodraeth perthnasol ac unrhyw sefydliadau partner sydd wedi ariannu'r gweithgaredd gyda ni.  
  • Os byddwn yn cynnig grant i chi, byddwch yn cefnogi ein gwaith o ddangos gwerth treftadaeth drwy gyfrannu (pan ofynnir i chi) at weithgareddau cyhoeddusrwydd yn ystod y cyfnod y byddwn yn darparu ariannu ar ei gyfer a chymryd rhan mewn gweithgareddau i rannu dysgu, y byddwn o bosibl yn cysylltu grantïon eraill â chi i wneud hynny.  

b) Rhyddid Gwybodaeth  

Fel sefydliad cyhoeddus rydym yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 sy’n rhoi hawl mynediad i’r cyhoedd i’r wybodaeth a ddaliwn, oni bai bod unrhyw eithriadau'n berthnasol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth gofnodedig a ddarparwyd i ni gan ein hymgeiswyr a grantïon.  

Pan fyddwch yn cwblhau'r Datganiad ar ddiwedd y ffurflen gais, rydych yn cadarnhau nad oes gennych chi unrhyw wrthwynebiad i ni ryddhau'r ffurflen gais ac unrhyw wybodaeth arall a ddarparwch i ni i unrhyw un sy'n gofyn am weld nhw ar ôl i'ch cais gwblhau'r broses asesu. Os oes unrhyw wybodaeth nad ydych eisiau iddi fod ar gael yn gyhoeddus, gofynnir i chi esbonio eich rhesymau isod:  

[Blwch testun]  

Os byddwn yn derbyn cais am wybodaeth byddwn bob amser yn ymgynghori â chi'n gyntaf ac yn cymryd eich sylwadau i ystyriaeth, a byddwn yn cymhwyso’r eithriadau yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Fodd bynnag, ni sy'n penderfynu a fyddwn yn rhyddhau eich gwybodaeth neu'n ei dal yn ôl ac ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod yr ydych yn ei ddioddef o ganlyniad i ni gyflawni'r cyfrifoldebau hyn.  

Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi o bryd i'w gilydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am waith Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.  

[Ticiwch y blwch os hoffech chi gael eich hysbysu am ein gwaith]  

  • Cadarnhaf fod y sefydliad sydd wedi'i enwi ar y cais hwn wedi rhoi'r awdurdod i mi gwblhau'r cais hwn ar ei ran.  
  • Cadarnhaf fod y gweithgaredd yn y cais yn dod o dan ddibenion a phwerau cyfreithiol y sefydliad.  
  • Cadarnhaf fod gan y sefydliad y pŵer, os dyfernir grant iddo, i dderbyn y grant ac i'w dalu'n ôl.  
  • Cadarnhaf fod yr wybodaeth yn y cais hwn yn wir ac yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth.  

Cwestiynau ymgeisio'r cam cyflwyno

Ynghylch y prosiect

Teitl y prosiect.

Dywedwch wrthym deitl y prosiect.

Ai hwn yw'r cais cyntaf i ni gan eich sefydliad?

[Dewiswch ydy neu nac ydy]

Os nac ydy:

  • Dywedwch wrthym beth yw rhif cyfeirnod eich cais diweddaraf. [Maes testun - 225 nod]
  • Dywedwch wrthym beth yw teitl prosiect eich cais diweddaraf. [Maes testun - 225 nod]

Disgrifiwch yr hyn yr hoffai eich sefydliad ei gyflawni drwy eich prosiect. 

Byddwn yn defnyddio eich ateb i hysbysu pobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect.  

Rydym yn cyhoeddi manylion ceisiadau a dyfarniadau grant ar ein gwefan ac mewn cronfeydd data cyhoeddus. Mae hyn yn gweddu i'n hymrwymiad i dryloywder ac egwyddorion data agored. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i darparu wrth ateb y cwestiwn hwn i ddisgrifio'ch prosiect.

Dywedwch wrthym beth rydych yn gobeithio ei gyflawni a'r hyn yr ydych yn gobeithio fydd etifeddiaeth eich prosiect. 

[Maes testun – 150 gair]

Dywedwch wrthym beth fyddwch yn ei wneud yn ystod eich prosiect.

Rhowch drosolwg manwl o'r hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod eich prosiect.  

Er enghraifft, disgrifiwch unrhyw:

  • weithgareddau y byddwch yn eu gwneud
  • digwyddiadau y byddwch yn eu cynnal  
  • eitemau neu adnoddau y byddwch yn eu creu
  • eitemau neu adeiladau treftadaeth y byddwch yn eu hadfer
  • tirweddau y byddwch yn eu gwella

Mae hyn yn ein helpu i ddeall beth yw diben eich prosiect. 

[Maes testun - 5,000 nod]

Ble fydd eich prosiect yn digwydd?

  • Stryd y prosiect [Maes testun - 225 nod]
  • Dinas y prosiect [Maes testun - 225 nod]
  • Sir y prosiect [Maes testun - 225 nod]
  • Cod post y prosiect [Maes testun – 100 nod]

Ar gyfer prosiectau tirwedd, rhowch gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans ar gyfer eich tirwedd.

[Maes testun - 5,000 nod]

Os bydd eich prosiect yn digwydd ar draws lleoliadau gwahanol, defnyddiwch y cod post lle bydd y rhan fwyaf o'r prosiect yn digwydd.

Esboniwch ba anghenion a chyfleoedd y bydd eich prosiect yn mynd i'r afael â nhw.

[Maes testun - 5,000 nod]

Pam mae angen i'ch prosiect ddigwydd nawr?

[Maes testun - 5,000 nod]

Pwy arall ydych chi wedi cysylltu â nhw ynghylch ariannu eich prosiect?

Ar y lefel grant hon mae'n rhaid i chi gyfrannu at gostau eich prosiect, gan ddibynnu ar faint o grant yr ydych yn gwneud cais amdano.

Dywedwch wrthym am unrhyw ariannu:  

  • rydych wedi'i sicrhau i helpu tuag at gost eich prosiect
  • rydych yn bwriadu gwneud cais amdano i gefnogi'r prosiect hwn
  • y byddwch yn ei godi drwy godi arian neu gyfraniadau torfol

Os ydych yn darparu'r lleiafswm sydd ei angen, neu os na allwch ddarparu unrhyw arian partneriaeth, esboniwch pam.

Dywedwch wrthym a ydych wedi codi unrhyw gyfraniadau nad ydynt yn arian parod i'ch helpu i gyflwyno eich prosiect.

[Maes testun - 5,000 nod]

Dywedwch wrthym ba gyngor rydych wedi'i derbyn wrth gynllunio eich prosiect a chan bwy.

Os ydych wedi siarad ag unrhyw un yng Nghronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am eich prosiect, dywedwch wrthym am y cyngor a gawsoch a sut rydych wedi defnyddio'r cyngor hwnnw i ddatblygu eich prosiect.

Dywedwch wrthym a ydych wedi derbyn unrhyw gyngor arbenigol am eich prosiect gan unrhyw un arall. Gallai hyn fod yn arbenigwyr ar y dreftadaeth y mae eich prosiect yn canolbwyntio arni neu sefydliadau eraill a fydd yn eich cefnogi i gyflwyno eich prosiect.  

Gallai hyn gynnwys:  

  • unrhyw ymgynghoriad rydych wedi'i wneud gyda'ch cymuned leol a'r rhai a fydd yn ymwneud â'ch prosiect
  • unrhyw gyngor ar gynnig y prosiect, megis gan bensaer neu gadwraethwr  
  • unrhyw gyngor cyn-ymgeisio ar faterion cynllunio a/neu ganiatâd adeilad rhestredig, er enghraifft gan eich awdurdod lleol neu archeolegydd  
  • cyngor ar sut i ymdrin â lles y cyfranogwyr yn eich prosiect, er enghraifft gan elusen neu grŵp lleol a all ddarparu cymorth sy’n berthnasol i’w profiad o lygad y ffynnon

[Maes testun - 5,000 nod]

A fydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno gan bartneriaeth?

[Dewiswch bydd neu na fydd]

Os bydd: Pwy yw eich partneriaid?  

Rhowch enw cyswllt o bob sefydliad.

Dywedwch wrthym pwy yw eich partneriaid, natur eich partneriaethau a sut y byddwch yn gweithio ar y cyd.

Hoffem weld eich cytundeb partneriaeth os ydych yn gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni eich prosiect. Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r holl bartneriaid a dylai pob parti ei llofnodi. Dylai'r cytundeb hwn adlewyrchu anghenion eich prosiect ac mae'n bosibl y bydd angen i chi geisio cyngor annibynnol.

Does dim angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth oni bai bod unrhyw sefydliadau eraill yn cyflwyno rhan sylweddol o'ch prosiect.

[Maes testun - 5,000 nod]

A fydd unrhyw ran o'ch prosiect yn digwydd yng Nghymru?

  • Na fydd, nid yw unrhyw ran o'n prosiect yn digwydd yng Nghymru [Blwch ticio]
  • Bydd, mae ein prosiect cyfan neu ran ohono'n digwydd yng Nghymru [Blwch ticio]

Os bydd: Dywedwch wrthym sut y caiff y Gymraeg ei defnyddio yn eich prosiect.  

Os bydd eich prosiect yn digwydd yng Nghymru, mae'n rhaid i chi ystyried y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith.  

Dywedwch wrthym sut y byddwch yn defnyddio'r Gymraeg yn eich prosiect, a chofiwch sicrhau bod yr wybodaeth hon wedi'i chynnwys yng nghyllideb a chynllun eich prosiect. Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn yr adran costau prosiect.  

[Maes testun - 500 gair]

Ynghylch y dreftadaeth

Dywedwch wrthym am y dreftadaeth yn eich prosiect a pham mae'n bwysig i'ch sefydliad a'ch cymuned.

Rhowch ddisgrifiad o'r dreftadaeth fel y mae heddiw. Os yw'n ymwneud â gwahanol fathau o dreftadaeth, disgrifiwch bob un o'r rhain.

Rhowch wybodaeth ffeithiol am y dreftadaeth. Er enghraifft:

  • Os yw eich prosiect yn ymwneud â threftadaeth nad yw'n ffisegol (fel atgofion neu draddodiadau diwylliannol), dywedwch wrthym am y pwnc a'r cyfnod amser, os yn berthnasol.
  • Os yw eich prosiect yn ymwneud â threftadaeth ffisegol (fel adeilad, llong, gwrthrych, casgliad hanesyddol neu warchodfa natur), rhowch wybodaeth ffeithiol i ni amdani, megis ei maint, ei oedran, y nodweddion sydd wedi goroesi, ei chyflwr a pham y mae’n bwysig i’ch ardal leol.

Dywedwch wrthym:  

  • a oes unrhyw gydnabyddiaeth swyddogol o’r dreftadaeth hon, er enghraifft, efallai ei fod yn adeilad rhestredig (os ydy, dywedwch beth yw ei radd) neu’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • yr hyn sy'n bwysig am y dreftadaeth, er enghraifft efallai ei fod yn ffynhonnell o ddiddordeb artistig, pensaernïol neu wyddonol
  • i bwy mae'r dreftadaeth yn bwysig, fel arbenigwyr a/neu'r gymuned leol
  • pam mae'r dreftadaeth yn nodedig neu'n unigryw
  • sut mae'r dreftadaeth yn cysylltu â threftadaeth arall, er enghraifft yn yr ardal leol neu'n genedlaethol

[Maes testun - 5,000 nod]

A ystyrir bod y dreftadaeth mewn perygl?

[Dewiswch ydy neu nac ydy]

Os ydy: Esboniwch pam a sut rydych chi'n ystyried bod y dreftadaeth mewn perygl.

Esboniwch pam fod y dreftadaeth o dan fygythiad, a pha gamau sydd wedi'u cymryd (os o gwbl) i isafu'r risg.  

Er enghraifft, efallai ei fod mewn perygl o gael ei cholli trwy ddifrod ffisegol neu esgeulustod, neu ddiffygion ariannol. Yn achos hanesion llafar a chymunedol, gallai fod mewn perygl o gael ei cholli wrth i bobl farw. Gall mynediad y cyhoedd i'r dreftadaeth hefyd fod mewn perygl o gael ei golli.

Os yw eich prosiect yn ymwneud ag adeilad neu heneb, dywedwch wrthym a yw ar Gofrestr Adeiladau neu Henebion Mewn Perygl: er enghraifft, Cofrestr Heritage at Risk Historic England.

Os yw eich prosiect yn ymwneud â nifer o adeiladau mewn ardal gadwraeth, dywedwch wrthym a yw'r ardal gadwraeth ar Gofrestr Mewn Perygl.

Os yw eich prosiect yn ymwneud â threftadaeth naturiol, dywedwch wrthym a yw'r dirwedd, daeareg, cynefin neu rywogaeth mewn perygl ac ym mha ffordd (er enghraifft, wedi'i nodi fel blaenoriaeth mewn Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth).

Dywedwch wrthym:

  • beth yw cyflwr presennol y dreftadaeth
  • sut mae'n cael ei reoli ar hyn o bryd a chan bwy
  • sut mae pobl yn ymgysylltu â'r dreftadaeth ar hyn o bryd

[Maes testun - 5,000 nod]

A fyddwch yn ymgymryd ag unrhyw waith cyfalaf fel rhan o'ch prosiect?

[Dewiswch byddwn neu na fyddwn]

Os byddwn: Rhowch fanylion.

Diffinnir gwaith cyfalaf fel gwaith sy'n creu neu'n gwella ased. Gall hwn gynnwys gwaith ffisegol ar dirweddau, byd natur ac adeiladau, atgyweirio, cadwraeth, adeiladu o'r newydd, digideiddio, neu waith i sefydlogi cyflwr gwrthrychau.

Enghreifftiau o waith cyfalaf:

  • cadwraeth rhostir
  • atgyweiriadau i adeilad hanesyddol
  • digideiddio archif o ffotograffau

Dywedwch wrthym a fydd unrhyw waith cyfalaf yn rhan o'ch prosiect, hyd yn oed os yw'n rhan fach o'ch prosiect cyffredinol. Rhowch ddadansoddiad cychwynnol i ni o'r gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud.

[Maes testun - 5,000 nod]

Os ydych yn ymgymryd ag unrhyw waith cyfalaf (gan gynnwys atgyweirio neu adnewyddu) ar dir, adeiladau neu eitemau treftadaeth, dywedwch wrthym bwy sy'n berchen arno.

  • eich sefydliad
  • partner yn y prosiect
  • nid y naill na’r llall
  • Dd/B

Rhowch fanylion perchennog eich gwaith cyfalaf.  

Os bydd gwaith cyfalaf yn rhan o'ch prosiect, bydd angen i chi ddweud wrthym pwy sy'n berchen ar y dreftadaeth. Os oes gennych nhw, mae angen i ni weld unrhyw ddogfennau perchnogaeth. Gallwch uwchlwytho'r rhain yn nes ymlaen yn y cais.  

Os mai eich sefydliad chi sy'n berchen ar y dreftadaeth, dywedwch wrthym:

  • a oes gan eich sefydliad rydd-ddaliad ar yr adeilad neu dir, neu a yw'n berchen yn gyfan gwbl ar yr eitemau treftadaeth
  • a oes gan eich sefydliad les ar yr adeilad neu dir a faint o flynyddoedd sy'n weddill ar y les
  • A oes gan eich sefydliad, neu a yw'n bwriadu cymryd, morgais neu fenthyciadau eraill sydd wedi'u sicrhau ar yr adeilad neu dir, neu eitem treftadaeth. Os felly, rhowch fanylion y benthyciwr a maint y morgais neu fenthyciad i ni. Os oes gennych un, uwchlwythwch ddogfen o berchnogaeth.

Os yw sefydliad partner yn berchen ar y dreftadaeth, dywedwch wrthym:

  • enw'r sefydliad partner
  • a oes gan y partner yn y prosiect rydd-ddaliad ar yr adeilad neu dir, neu a yw'n berchen yn gyfan gwbl ar yr eitemau treftadaeth
  • a oes gan y partner yn y prosiect les ar yr adeilad neu dir a faint o flynyddoedd sy'n weddill ar y les
  • a oes gan y partner yn y prosiect, neu a yw'n bwriadu cymryd, morgais neu fenthyciadau eraill sydd wedi'u sicrhau ar yr adeilad neu dir, neu eitem treftadaeth
  • os felly, rhowch fanylion y benthyciwr a maint y morgais neu fenthyciad i ni

Os nad ydych yn bodloni ein gofynion o ran perchnogaeth ar hyn o bryd, rhowch ddyddiad i ni pan fyddwch yn disgwyl y bydd modd gwneud hyn.

[Maes testun - 5,000 nod]

Oes unrhyw amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r ased treftadaeth a allai effeithio ar eich prosiect?  

[Blwch ticio]

Rhowch fanylion.

Dywedwch wrthym os yw’r gofrestr teitl neu ddogfennau perchnogaeth eraill yn cynnwys unrhyw waharddiadau neu gyfyngiad ar ei defnydd neu berchnogaeth, neu a oes angen unrhyw ganiatadau ar gyfer unrhyw drafodion. Os oes, bydd angen i chi roi'r manylion llawn a thystiolaeth bod y rhain wedi'u bodloni.

Gallai hyn gynnwys:

Cyfamod Cyfyngol sy’n cyfyngu ar y math o ddefnydd ar gyfer y tir neu’r eiddo

cyfyngiad sy’n rhoi hawl i barti arall gael ei hysbysu am unrhyw drafodion neu nodi amodau y byddai angen eu datrys cyn gwerthu’r eiddo

[Maes testun - 5,000 nod]

A yw eich prosiect yn ymwneud â chaffael adeilad, tir neu eitemau o dreftadaeth?

Dewiswch un o:

  • ydy
  • nac ydy

Rheoli eich prosiect

A yw eich sefydliad wedi ymgymryd â phrosiect ar y raddfa hon yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf? 

Rhowch fanylion.

[Maes testun - 5,000 nod]

Dywedwch wrthym pam mai hwn yw'r prosiect mwyaf priodol i'ch sefydliad ymgymryd ag ef ar hyn o bryd.

Pa strategaethau eraill sydd wedi cael eu hystyried? Beth fyddwch yn ei wneud os na fydd y prosiect yn mynd yn ei flaen?

[Maes testun - 5,000 nod]  

A oes angen i'ch sefydliad ymgymryd ag unrhyw weithgarwch adeiladu capasiti er mwyn cyflwyno eich prosiect yn well?

Er enghraifft, oes angen i chi adolygu eich system gyllid neu adnoddau dynol, datblygu eich cynllun busnes neu adeiladu capasiti codi arian? Oes angen i chi ddod o hyd i unrhyw sgiliau neu arbenigedd ychwanegol?

Dywedwch wrthym a fyddwch yn gwneud newidiadau i lywodraethiant eich sefydliad er mwyn i chi gyflwyno eich prosiect yn fwy effeithiol. Gallwch gynnwys costau cymorth proffesiynol ar gyfer adolygiad llywodraethu.

Pa waith ydych chi wedi ymgymryd ag ef i gryfhau capasiti eich sefydliad i gyflwyno'r prosiect hwn yn ystod y cam datblygu?

[Maes testun - 5,000 nod]

Dywedwch wrthym am unrhyw swyddi neu brentisiaethau y byddwch yn eu creu i gyflwyno eich prosiect.

Dywedwch wrthym am unrhyw swyddi a/neu brentisiaethau a fydd yn cael eu creu ac yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflwyno eich prosiect. Dywedwch wrthym beth fydd eu prif rolau ac a ydynt yn swyddi amser llawn neu'n rhan-amser.

Os ydych yn symud aelod staff presennol i swydd sydd wedi'i chreu gan y prosiect hwn, neu'n ymestyn oriau aelod staff presennol, dywedwch wrthym beth yw ei gymwysterau ar gyfer y rôl a grëir gan y prosiect. Dywedwch wrthym sut y byddwch yn rheoli'r gwaith maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, neu a yw hyn yn dod i ben.

Bydd angen i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer pob rôl a grëir ar gyfer cam cyflwyno eich prosiect fel dogfen ategol i'ch cais.

[Maes testun - 5,000 nod]

Pwy yw'r prif bobl sy'n gyfrifol am y gwaith yn ystod cam cyflwyno eich prosiect?

Rhowch wybodaeth fanwl am y tîm a fydd yn gweithio ar eich cam cyflwyno, gan gynnwys y person a fydd â chyfrifoldeb cyffredinol.

Dywedwch wrthym a fydd angen cymorth ychwanegol arnoch gan ymgynghorwyr neu staff newydd.

Esboniwch pwy sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau a chymeradwyo newidiadau i'ch prosiect. Disgrifiwch y strwythur adrodd a pha mor aml y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal.

Disgrifiwch sut y byddwch yn dewis y gwasanaethau a'r nwyddau sydd eu hangen yn ystod eich cam cyflwyno.

Bydd angen hefyd i chi anfon y canlynol atom:

  • strwythur rheoli'r prosiect
  • briffiau ar gyfer unrhyw ymgynghorwyr

Os ydych yn anfon cynllun busnes prosiect atom, dywedwch wrthym ble i ddod o hyd i'r wybodaeth uchod yn y cynllun.

[Maes testun - 5,000 nod]

Pa waith fyddwch chi'n ei wneud yn ystod cam cyflwyno eich prosiect?

Rhowch wybodaeth amlinellol am yr hyn y bydd eich prosiect yn ei wneud yn ystod eich cam cyflwyno.

[Maes testun - 5,000 nod]

Sut ydych chi'n bwriadu trefnu'r llif arian parod ar gyfer cam cyflwyno eich prosiect?

Gwneir taliadau grant mewn ôl-daliadau. Felly, mae angen i chi sicrhau y gallwch ddarparu llif arian parod yn llwyddiannus ar gyfer gwariant eich prosiect er mwyn osgoi trafferthion ariannol. Yr eithriad i hwn yw grant datblygu o lai na £250,000.

Bydd angen i chi ddarparu esboniad o'r llif arian parod gyda'ch cais cam cyflwyno.

Dywedwch wrthym am unrhyw gronfeydd ariannol, incwm gan eich sefydliad neu ffynonellau ariannu eraill y byddwch yn eu cyrchu ar gyfer llif arian parod cam cyflwyno eich prosiect.

[Maes testun - 5,000 nod]

Dyddiad dechrau cyflwyno

[Dewiswch ddyddiad]

Ni fydd modd i chi ddechrau ar gam cyflwyno eich prosiect hyd nes y bydd eich cais yn llwyddiannus.

Dyddiad dod i ben cyflwyno

[Dewiswch ddyddiad]

A oes unrhyw derfynau amser penodol neu gerrig milltir allweddol a fydd yn cyfyngu ar amserlen eich prosiect?

Dywedwch wrthym am unrhyw ddyddiadau na ellir eu newid a fydd yn effeithio ar eich prosiect ac sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth.

Er enghraifft:

  • Dyddiadau pan ddaw cynigion cyllid partneriaeth i ben neu ddyddiadau olaf ar gyfer gwario cronfeydd wedi'u sicrhau
  • pen-blwyddi y mae eich prosiect wedi'i ddylunio i'w dathlu
  • digwyddiadau allanol sy'n allweddol i lwyddiant eich prosiect

[Maes testun - 5,000 nod]

Ein hegwyddorion buddsoddi  

Bydd ein pedair egwyddor fuddsoddi'n cyfeirio ein holl benderfyniadau gwneud grantiau o dan ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033

Ein hegwyddorion buddsoddi yw:

  • achub treftadaeth
  • diogelu'r amgylchedd
  • cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad
  • cynaladwyedd sefydliadol

Mae'n rhaid i chi gymryd pob un o'r pedair egwyddor i ystyriaeth yn eich prosiect. Gallwch ganolbwyntio'n fwy ar rai egwyddorion buddsoddi nag eraill.  

Er enghraifft:  

  • os yw eich prosiect yn canolbwyntio ar adfer tirweddau naturiol, efallai y byddwch am bwysleisio achub treftadaeth a diogelu'r amgylchedd yn eich cais
  • os yw eich prosiect yn canolbwyntio ar gofnodi a rhannu hanesion llafar a datblygu sgiliau, efallai y byddwch yn canolbwyntio mwy ar gynhwysiad, mynediad a chyfranogiad a chynaladwyedd sefydliadol

Eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar gryfder y ffocws a'r pwyslais ar bob egwyddor, a dangos hynny.  

Esboniwch sut fydd eich prosiect yn achub treftadaeth.  

[Maes testun - 5,000 nod]

Esboniwch sut fydd eich prosiect yn diogelu'r amgylchedd.  

[Maes testun - 5,000 nod]

Esboniwch sut fydd eich prosiect yn cynyddu cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad.

[Maes testun - 5,000 nod]

Esboniwch sut fydd eich prosiect yn gwella'ch cynaladwyedd sefydliadol.  

[Maes testun - 5,000 nod]

Ar ôl i'r prosiect ddod i ben

Sut fyddwch chi'n cynnal buddion eich prosiect ac yn talu unrhyw gostau cysylltiedig?

Dywedwch wrthym sut y byddwch yn rheoli buddion eich prosiect ar ôl i'r ariannu ddod i ben.

Er enghraifft:

  • beth fydd yn digwydd i’r pethau yr ydych yn eu cynhyrchu fel rhan o’r prosiect, er enghraifft a fydd y rhain yn cael eu rhoi i archif leol neu’n cael eu harddangos o hyd gan eich sefydliad
  • sut y byddwch yn rheoli’r dreftadaeth yn y dyfodol, er enghraifft a fyddwch yn parhau i gyflogi staff i helpu cynnal a chadw safle yr ydych wedi’i adfer
  • sut y byddwch yn ymdrin ag unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw'r dreftadaeth pan ddaw'r prosiect i ben, er enghraifft costau cyfleustodau ar gyfer adeilad sydd newydd ei agor

[Maes testun - 5,000 nod]

Sut fyddwch yn gwerthuso llwyddiant eich prosiect ac yn rhannu'r dysgu?

Rhaid i chi werthuso eich prosiect a darparu adroddiad gwerthuso ysgrifenedig ar ôl i chi orffen eich prosiect.  

Bydd angen i chi greu cynllun gwerthuso ar ddechrau eich prosiect. Braslun yw hwn o sut y byddwch yn cywain data i fesur, dadansoddi a deall yr hyn rydych chi'n ei wneud ac yn y pen draw i ddarparu tystiolaeth o'r canlyniadau y mae eich prosiect wedi'u cyflawni.  

Dywedwch wrthym pwy fydd yn gwneud eich gwerthusiad. Gallai hyn fod yn staff yn eich sefydliad neu'n unigolyn neu sefydliad y bydd angen i chi ei gyflogi. Dylech ddarparu brîff ar gyfer y gwaith hwn fel dogfen ategol.  

Byddem yn disgwyl gweld costau ar gyfer eich gwerthusiad wedi'u cynnwys yn eich costau prosiect.

[Maes testun - 5,000 nod]

Costau ac incwm y prosiect

Dywedwch wrthym am gostau ac incwm eich prosiect.

Dylech gynnwys yr holl gostau ac incwm sy'n gysylltiedig â'ch prosiect.  

Mae yna wahanol benawdau ar gyfer pob math o gost y gallwch ddewis ohonynt, ac ar gyfer pob math o incwm y gallech ei dderbyn i gefnogi eich prosiect.  

Mae costau'r cam cyflwyno wedi'u rhannu'n dri chategori: cyfalaf, gweithgareddau ac arall.

Dewiswch y math o incwm sy'n gweddu orau i bob ffynhonnell incwm y byddwch yn ei derbyn.

Costau'r cam cyflwyno:

Costau cyfalaf:

Cost prynu eitemau treftadaeth
  • Mae costau cymwys yn cynnwys y pris prynu ei hun, prisiadau, ffioedd asiant a phremiwm prynwr ar gyfer pryniannau mewn arwerthiant.
  • Ni allwch gynnwys ffioedd y gwerthwr.  
  • Os ydych yn berchennog preifat ased treftadaeth ffisegol neu'n sefydliad masnachol allwch chi ddim gynnwys costau yma.
Gwaith cychwynnol  
  • Mae hwn yn cynnwys sgaffaldiau, unrhyw waith paratoi neu archeoleg cyn-adeiladu.
Gwaith atgyweirio a chadwraeth
  • Mae hyn yn cynnwys costau gwaith atgyweirio, adfer neu warchod eitem, adeilad neu safle treftadaeth.
Gwaith adeiladu o'r newydd
  • Mae hyn ond yn gysylltiedig â gwaith adeiladu o'r newydd (er enghraifft, estyniad i adeilad neu waith i osod arddangosfa). Os ydych yn sefydliad masnachol allwch chi ddim gynnwys costau yma.  
Gwaith cyfalaf arall
  • Dylech gynnwys unrhyw gostau eraill ar gyfer gwaith cyfalaf yma.
Allbynnau digidol
  • Costau ar gyfer creu unrhyw waith digidol a bodloni ein gofynion digidol.
Offer a deunyddiau (cyfalaf)
  • Gallai hyn gynnwys gwisgoedd hanesyddol, hetiau caled i roi mynediad i safle, deunyddiau celf neu daflenni a chyhoeddiadau.  
Costau eraill (cyfalaf)
  • Defnyddiwch 'arall' am unrhyw gostau nad ydynt yn ffitio o fewn y penawdau cost penodol. Rhowch ddisgrifiad clir o'r costau hyn.  
Ffioedd proffesiynol (cyfalaf)
  • Mae hyn yn cynnwys unrhyw berson a benodir am gyfnod penodol i helpu gyda chynllunio a chyflwyno gwaith cyfalaf yn eich prosiect. Gallai hyn gynnwys rheolwr prosiect, penseiri neu syrfëwr meintiau.

Costau gweithgareddau:  

Staff newydd
  • Dylech gynnwys costau ar gyfer staff a fydd yn gweithio ar eich prosiect. Cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys unrhyw argostau perthnasol hefyd. 
  • Gallai hyn gynnwys costau contractau cyfnod penodol newydd, secondiadau, prentisiaethau a chost staff llawrydd i helpu cyflwyno eich prosiect. Peidiwch â chynnwys costau talu hyfforddeion yma.
  • Mewn rhai amgylchiadau gall fod yn briodol cynnwys costau ar gyfer absenoldeb mamolaeth a/neu daliadau diswyddo. Rydym yn disgwyl i'ch sefydliad lynu wrth arfer adnoddau dynol da a dilyn yr holl gyfreithiau perthnasol, gan gynnwys talu o leiaf y Cyflog Byw Cenedlaethol i holl aelodau staff y prosiect.
Hyfforddiant ar gyfer staff
  • Mae hyn yn cynnwys cost yr holl hyfforddwyr ac adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno gweithgareddau i helpu staff i feithrin sgiliau newydd neu wella'u sgiliau.  
Lleoliadau hyfforddiant â thâl
  • Mae hyn yn cynnwys cost yr holl leoliadau gwaith ac adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno gweithgareddau i helpu staff i feithrin sgiliau newydd neu wella'u sgiliau.  
Hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr
  • Mae hyn yn cynnwys cost yr holl hyfforddwyr ac adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno gweithgareddau i helpu gwirfoddolwyr i feithrin sgiliau newydd neu wella'u sgiliau.  
Teithio a threuliau ar gyfer staff
  • Gallai hyn gynnwys costau teithio i safle neu leoliad. Dylai costau teithio mewn car fod yn seiliedig ar 45c y filltir.  
Teithio a threuliau ar gyfer gwirfoddolwyr
  • Gall hyn gynnwys bwyd, teithio ac unrhyw dreuliau eraill. Dylai costau teithio mewn car fod yn seiliedig ar 45c y filltir.  
  • Mae hyn hefyd yn cynnwys prynu a hurio'r holl gerbydau, offer a deunyddiau sy'n gysylltiedig â'r gweithgareddau y mae eich gwirfoddolwyr yn eu cyflwyno yn ystod eich prosiect.  
Costau digwyddiadau
  • Mae hyn yn cynnwys unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chynnal digwyddiadau, gan gynnwys llogi ystafell, lluniaeth ac offer.
Offer a deunyddiau (gweithgareddau)
  • Gallai enghreifftiau gynnwys gwisgoedd hanesyddol, hetiau caled i roi mynediad i safle, deunyddiau celf neu daflenni a chyhoeddiadau. Peidiwch â chynnwys deunyddiau sy'n ymwneud â hyfforddiant neu wirfoddolwyr yma.  
Costau eraill (gweithgareddau)
  • Dylid cynnwys unrhyw gostau eraill fel bwyd ar gyfer digwyddiadau, gweithgareddau dysgu neu hurio safleoedd. Rhowch ddisgrifiad clir.
Ffioedd proffesiynol (gweithgareddau)
  • Mae hyn yn cynnwys unrhyw berson a benodir am ffi sefydlog i helpu gyda chynllunio a chyflwyno gweithgareddau eich prosiect. Gallai hyn gynnwys ymgynghorwyr neu artistiaid a storïwyr.

Costau eraill:

Recriwtio
  • Gall hyn gynnwys cost hysbysebu ac unrhyw dreuliau teithio ar gyfer cyfweliadau.
  • Rydym yn disgwyl i'ch sefydliad lynu wrth arfer adnoddau dynol da a dilyn yr holl gyfreithiau perthnasol.
Cyhoeddusrwydd a hyrwyddo
  • Gallwn ariannu deunyddiau hyrwyddo sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch prosiect.  
  • Os byddwn yn rhoi grant i chi, mae'n rhaid i chi roi cyhoeddusrwydd i hwn a'i gydnabod er mwyn i gynifer o bobl â phosibl wybod am fuddion arian y Loteri Genedlaethol ym maes treftadaeth.
Gwerthuso
  • Mae'r pennawd cost hwn yn orfodol gan fod yn rhaid gwerthuso pob prosiect.  
  • Dylid cynnwys costau gwerthuso eich prosiect o'r cychwyn cyntaf. Efallai y byddwch am gyflogi unigolyn neu sefydliad i'ch cefnogi gyda hyn.  
  • Rydym yn argymell bod y costau'n gymesur â graddfa eich prosiect.
Arall
  • Dylech gynnwys unrhyw gostau eraill yma. Rhowch ddisgrifiad clir o bob cost.
Adennill costau llawn
  • Mae adennill costau llawn yn fath o gost a ddefnyddir i dalu costau anuniongyrchol prosiect. Mae costau anuniongyrchol yn cynnwys gorbenion, neu gostau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â’r prosiect y mae eich sefydliad yn ei gyflwyno, ond sy’n hanfodol i redeg eich sefydliad.
  • Os ydych yn sefydliad yn y sector gwirfoddol, gallwn dalu cyfran o orbenion eich sefydliad, y mae'n rhaid iddynt fod yn briodol i'r amser neu adnoddau a ddefnyddir ar gyfer eich prosiect. Wrth sector gwirfoddol rydym yn golygu sefydliadau sy'n annibynnol ar lywodraeth y mae gan eu llywodraethu, eu hariannu a'u hadnoddau ffocws gwirfoddol. Er enghraifft, gallai sefydliad yn y sector gwirfoddol:
    • fod â Bwrdd Ymddiriedolwyr
    • cael ei ariannu gan grantiau a rhoddion
    • dibynnu ar wirfoddolwyr i gyflawni ei nodau
  • Dylech gynnwys unrhyw gostau ar gyfer adennill costau llawn yma.
Grantiau cymunedol
  • Gallwch gynnwys costau ar gyfer unrhyw daliadau i berchnogion trydydd parti, gan gynnwys perchnogion preifat, ar gyfer gweithgareddau a gwaith cyfalaf sy'n cyfrannu at gyflawni nodau cyffredinol eich prosiect.  
Swm wrth gefn
  • Mae'r pennawd cost hwn yn orfodol. Mae swm wrth gefn yn cael ei ddefnyddio i dalu am gostau annisgwyl sy'n angenrheidiol er mwyn cyflwyno eich prosiect.  
  • Byddem yn disgwyl i swm yr arian wrth gefn sydd wedi'i gynnwys helpu wrth reoli'r heriau neu'r risgiau a nodwyd gennych. Dylai hefyd adlewyrchu graddfa eich prosiect.  
  • Cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys eich swm wrth gefn gofynnol yma yn unig ac nid o fewn penawdau cost eraill y cais.
Chwyddiant
  • Dylech gynnwys unrhyw gostau priodol a fydd yn darparu'n ddigonol am chwyddiant a ragfynegir. Dylech gyllidebu'n briodol ar gyfer chwyddiant yn seiliedig ar amserlen y prosiect, ynghyd â ffactorau eraill megis deunyddiau a ddefnyddir, gofynion o ran llafur a lleoliad.
Cynnydd mewn costau rheoli a chynnal a chadw (uchafswm o bum mlynedd)
  • Mae hyn yn cynnwys unrhyw gostau uwch a all godi o ganlyniad i waith cyfalaf sydd wedi digwydd yn ystod eich prosiect.
  • Mae'n rhaid cynnwys cynnydd mewn costau rheoli a chynnal a chadw yn adrannau costau ac incwm eich ffurflen gais. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod gwerth y cyfraniad hwn.
Cyfraniadau nad ydynt yn arian parod
  • Dyma unrhyw beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect nad oes rhaid i chi dalu amdano (er enghraifft, hurio ystafelloedd neu offer). Gallwn ond derbyn cyfraniadau nad ydynt yn arian parod os ydynt yn gostau prosiect uniongyrchol y byddent fel arall yn rhan o gyllideb eich prosiect.
  • Mae'n rhaid cynnwys cyfraniadau nad ydynt yn arian parod yn adrannau costau ac incwm eich ffurflen gais. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod gwerth y cyfraniad hwn.
Amser gwirfoddolwyr
  • Dyma'r amser y mae gwirfoddolwyr yn ei roi i gefnogi'r gwaith o gyflwyno eich prosiect. Gallai hyn gynnwys gwaith gweinyddol, clirio safle neu weithio fel stiward mewn digwyddiad.
  • Ni ddylech gynnwys costau am amser pobl a fydd yn cymryd rhan yn eich gweithgareddau (er enghraifft, pobl sy'n mynychu gweithdy neu'n mynd ar daith dywysedig).  
  • Rydym yn defnyddio cyfradd safonol o £20 yr awr i gyfrifo amser gwirfoddolwyr.
  • Mae'n rhaid cynnwys amser gwirfoddolwyr yn adrannau costau ac incwm eich ffurflen gais. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod gwerth y cyfraniad hwn.

Incwm y cam cyflwyno:

  • awdurdod lleol
  • sector cyhoeddus arall
  • llywodraeth ganolog
  • rhodd breifat – unigolyn
  • rhodd breifat – ymddiriedolaethau/elusennau/gwaddolion
  • rhoddion preifat – corfforaethol
  • masnachol/busnes
  • eich cronfeydd wrth gefn eich hun
  • arian arall a godir
  • benthyciad/cyllid
  • cynnydd mewn costau rheoli a chynnal a chadw (uchafswm o bum mlynedd)
  • cyfraniadau nad ydynt yn arian parod
  • amser gwirfoddolwyr

Dogfennau ategol sydd eu hangen ar gyfer y cam cyflwyno

Cyn i ni asesu eich cais, mae angen i ni weld eich dogfennau ategol.

Mae rhai dogfennau ategol yn orfodol - mae'r rhain yn ddogfennau y mae'n rhaid i bob prosiect eu darparu ar gyfer eu cais cam cyflwyno. Dim ond os ydynt yn berthnasol i'ch prosiect y mae dogfennau ategol eraill yn orfodol: er enghraifft, os ydych yn comisiynu unrhyw waith, bydd angen i ni weld briffiau ar gyfer y gwaith hwnnw.

Dewiswch enw ffeil clir a disgrifiadol ar gyfer pob dogfen ategol fel y gallwn nodi pob un yn hawdd.

Y mathau o ffeiliau a gefnogir: .jpg, .doc, .docx, .pdf, .xls, .xlsx, .ppt, .pptx, .zip, .kml

[Uwchlwytho ffeiliau]

Rhestr o ddogfennau ategol ar gyfer y cam cyflwyno

Cynllun gweithgareddau neu gynllun gweithredu ardal

Rhaid i chi ddarparu cynllun gweithgareddau neu gynllun gweithredu ardal fel y bo'n berthnasol. Os ydych yn gweithio ar brosiect ardal, rhaid i chi gynhyrchu cynllun gweithredu ardal. Os yw eich prosiect yn ymwneud â gweithgareddau a phobl, rhaid i chi gynhyrchu cynllun gweithgareddau.

Cynllun amserlen neu gynllun gweithredu ardal

Dyma amserlen gryno ar gyfer cam cyflwyno eich prosiect.  

Llif arian parod

Dylai hwn fod yn fanwl ar gyfer y flwyddyn gyntaf ac yn fraslun ar gyfer y blynyddoedd wedyn.

Rhagolygon incwm a gwariant  

Dylai hyn gynnwys rhagolwg o gyfrif incwm a gwariant, rhagolwg llif arian parod yn dangos y llif arian parod misol disgwyliedig a datganiadau o'r rhagdybiaethau sy'n sail i'r rhagolygon.  

Dylai'r rhain gynnwys y pum mlynedd ar ôl cwblhau'r prosiect.  

Strwythur rheoli'r prosiect

Amlinellwch strwythur rheoli eich prosiect er mwyn i ni wybod pwy fydd yn gwneud penderfyniadau a sut y byddwch yn rheoli newid yn ystod eich prosiect.

Dadansoddiad manwl o gostau

Taenlen orfodol sy'n rhoi manylder y dadansoddiad o gostau yn adran Costau Prosiect y cais, gan gynnwys colofnau ychwanegol sy'n cymharu costau adeg dyfarnu eich grant datblygu, yr adolygiad o'ch cam datblygu a chyflwyno eich cais cam cyflwyno.  

Risgiau ar gyfer y cam cyflwyno

Amlinellwch y risgiau i gam cyflwyno eich prosiect a sut y byddant yn cael eu rheoli.

Dogfen prif risgiau ar gyfer y cyfnod ar ôl cwblhau'r prosiect

Amlinellwch y prif risgiau sy'n wynebu'r prosiect ar ôl iddo gael ei gwblhau a sut y byddant yn cael eu rheoli.

Cyfrifiadau adennill costau llawn

Os ydych wedi cynnwys adennill costau llawn fel pennawd cost yn eich costau prosiect, rhaid i chi ddarparu dogfen sy'n dangos sut rydych wedi cyfrifo hyn. Dylai costau fod yn gymesur â'r amser neu'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer eich prosiect. Gallwn hefyd dalu cyfran o gost aelod staff presennol, ar yr amod nad yw'n gweithio'n gyfan gwbl ar y prosiect a ariennir mewn swydd newydd.

Briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir  

Mae briffiau'n disgrifio unrhyw waith rydych chi'n bwriadu ei gomisiynu yn ystod cam cyflwyno eich prosiect. Os ydych chi'n comisiynu gwaith, er enghraifft, gan artist neu bensaer, dylech uwchlwytho brîff. Dylai'r brîff ddisgrifio'r gwaith, faint o amser y bydd yn ei gymryd, a faint y bydd yn ei gostio. Templed o frîff ar gyfer gwaith a gomisiynir. Ar gyfer ffioedd dros £10,000 dylech ddod o hyd i dri thendr neu ddyfynbris cystadleuol. Ar gyfer ffioedd dros £50,000 byddwn yn disgwyl i chi ddarparu prawf o'r broses dendro gystadleuol.

Disgrifiadau swydd

Os ydych yn bwriadu recriwtio staff neu brentisiaid newydd i helpu cyflwyno eich prosiect, mae angen i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer pob swydd newydd. Dylai pob disgrifiad swydd gynnwys y cyflog a'r oriau gwaith arfaethedig.

Cynllun busnes

Hoffem weld cynllun busnes wedi'i adnewyddu ar gyfer eich sefydliad sy'n ymgorffori'r prosiect yr ydych chi'n gwneud cais i ymgymryd ag ef. Os ydych yn sefydliad sy'n rheoli nifer o safleoedd neu rydych, er enghraifft, yn awdurdod lleol, gofynnir i chi ddiwygio'r dogfennau cynllunio sydd fwyaf perthnasol i'r dreftadaeth rydych yn gwneud cais i'w ariannu i gynnwys gweithgareddau'r prosiect.  

Delweddau

Darparwch hyd at chwe delwedd sy'n helpu rhoi darlun o'ch prosiect. Er enghraifft, delwedd o fap o'r ardal yn dangos y lleoliadau sy'n berthnasol i'ch prosiect, os yw'n digwydd ar draws mwy nag un lle neu ar draws ardal eang. Gwnewch yn siŵr bod gennych bob caniatâd sydd ei angen i rannu'r delweddau hyn gyda ni, gan y byddwn o bosibl yn defnyddio'r rhain i hysbysu pobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect.

Cynllun rheoli a chynnal a chadw (os yn berthnasol)

Os yw eich prosiect yn cynnwys gwaith cyfalaf, creu deunydd newydd, neu brynu adeilad hanesyddol, adeiledd, treftadaeth trafnidiaeth, neu dir, byddwn yn gofyn i chi baratoi cynllun rheoli a chynnal a chadw fel rhan o'ch cais cam cyflwyno.  

Mae'r cynllun rheoli a chynnal a chadw yn dweud wrthym sut y byddwch yn gofalu am eich treftadaeth unwaith y bydd y prosiect wedi'i gwblhau, gan gynnwys sut rydych yn disgwyl cynnal buddion eich prosiect yn y dyfodol. Byddwn yn disgwyl i chi sicrhau bod y gwaith rydym wedi'i ariannu'n cael ei gadw mewn cyflwr da.

Manyleb ddylunio (os yn berthnasol)

Gall fod yn berthnasol cynnwys manyleb ddylunio sy'n esbonio'r ffordd y mae eich prosiect yn bwriadu arddangos neu rannu treftadaeth.  

Cynllun dehongli (os yn berthnasol)

Dehongli yw'r ffordd yr ydym yn cyfathrebu storïau a syniadau am dreftadaeth i wahanol gynulleidfaoedd. Mae'n golygu troi gwybodaeth yn rhywbeth hygyrch, perthnasol a deniadol.

Dylech gynnwys cyfeiriad penodol at y ffyrdd y bydd eich prosiect yn dyfnhau dealltwriaeth pobl o dreftadaeth, archwilio a gwneud synnwyr o safleoedd a thirweddau hanesyddol, gwrthrychau, traddodiadau neu ddigwyddiadau.

Cynllun cadwraeth wedi'i ddatblygu'n llawn (os yn berthnasol)

Os yw eich prosiect yn cynnwys gwaith cyfalaf, creu deunydd newydd, neu brynu adeilad hanesyddol, adeiledd, treftadaeth trafnidiaeth neu dir, dylech gyflwyno cynllun cadwraeth sy'n manylu ar y ddealltwriaeth o'ch treftadaeth a'r cyfleoedd i rannu eich treftadaeth ag eraill, fel y gwnaethoch ei nodi yn eich cam datblygu. Gallwch ymdrin ag unrhyw risgiau a bygythiadau yr ydych wedi'u nodi.

Cytundebau partneriaeth

Os ydych yn bwriadu gweithio gyda phartner i gyflawni eich prosiect, bydd angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth. Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r ddau bartner a dylai pob parti ei lofnodi. Dylai'r ddogfen hon adlewyrchu anghenion eich prosiect ac mae'n bosibl y bydd angen i chi ofyn am gyngor annibynnol ar y ffordd orau o lunio cytundeb. Mae partner yn sefydliad arall neu gorff trydydd parti sy’n rhan annatod o gyflwyno eich prosiect, er enghraifft perchennog eitem, adeilad, tir neu gasgliad sy’n rhan o’ch prosiect. Nid yw partneriaid yn isgontractwyr. Bydd ganddynt rôl weithredol yn y prosiect a byddant yn cymryd rhan yn y prosiect. Byddant yn helpu i adrodd ar gynnydd, yn mynychu cyfarfodydd partneriaeth rheolaidd ac yn cefnogi gwerthusiad y prosiect.

Dogfennau perchnogaeth

Os ydych yn cynllunio unrhyw waith cyfalaf, neu'n bwriadu prynu tir, adeiladau, neu gasgliadau, darparwch gopïau o unrhyw ddogfennau perchnogaeth perthnasol. Er enghraifft, dogfennau perchnogaeth y Gofrestrfa Tir, neu brydles neu benawdau telerau.

Dogfennau ategol Menter Treftadaeth
  • arfarniad datblygu
  • datganiad gweithgareddau

Datganiad  

Cadarnhau'r datganiad  

Rydym yn cynnal ymchwil defnyddwyr ansoddol i'n helpu datblygu ein cynhyrchion a'n gwasanaethau. Gallai hyn amrywio o arolwg 20 munud i gyfweliad 2 awr.  

Ticiwch y blwch hwn os hoffech gymryd rhan yn ein hymchwil, neu i gael mwy o wybodaeth. [Blwch ticio]  

Rwyf wedi darllen y datganiad ac yn cytuno iddo. [Blwch ticio]  

a) Diogelu Data  

Rydym yn ymrwymedig i fod mor agored a thryloyw â phosibl. Mae hyn yn cynnwys bod yn glir ynglŷn â sut rydym yn asesu ac yn gwneud penderfyniadau ar ein grantiau a sut y byddwn yn defnyddio eich ffurflen gais a'r dogfennau eraill rydych yn eu rhoi i ni. Rydym yn dilyn yr holl gyfreithiau a rheoliadau diogelu data sy'n berthnasol ac mewn grym o bryd i'w gilydd (y 'ddeddfwriaeth Diogelu Data'). Fel y diffinnir gan y ddeddfwriaeth Diogelu Data mae Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (sy'n gweinyddu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) yn rheolydd data. Mae ein Polisi Preifatrwydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol gan gynnwys gwybodaeth gyswllt ein Swyddog Diogelu Data. Gellir dod o hyd iddo ar wefan Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.  

Fel rhan o'r broses ymgeisio byddwn yn casglu eich enw a'ch swydd yn y sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli yn ogystal ag unrhyw wybodaeth bersonol ychwanegol rydych yn ei darparu amdanoch chi eich hun neu am bobl eraill sy'n ymwneud â'ch prosiect. Efallai y byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth hon gydag un o'r ymgynghorwyr ar ein Cofrestr Gwasanaethau Cefnogi os byddant yn cael eu penodi i roi cefnogaeth i chi ar eich prosiect. Nid ydym yn trosglwyddo eich data i unrhyw drydydd partïon sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r UE.  

Efallai y byddwn yn defnyddio'ch ffurflen gais a dogfennau eraill a roddwch i ni i:  

  • Benderfynu a fyddwn ni'n rhoi grant i chi.  
  • Darparu copïau i unigolion neu sefydliadau eraill sy'n helpu ni i asesu, monitro a gwerthuso grantiau.  
  • Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda ni sydd â diddordeb dilys mewn ceisiadau a grantiau'r Loteri Genedlaethol neu raglenni ariannu penodol.  
  • Cadw mewn cronfa ddata a defnyddio at ddibenion ystadegol.  
  • Os byddwn ni'n cynnig grant i chi, byddwn ni'n cyhoeddi gwybodaeth amdanoch chi sy'n ymwneud â'r gweithgaredd rydym wedi'i ariannu, gan gynnwys swm y grant a'r gweithgaredd yr oedd i dalu amdano. Efallai y bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn ein datganiadau i'r wasg, yn ein cyhoeddiadau printiedig ac ar-lein, ac yng nghyhoeddiadau neu ar wefannau adrannau llywodraeth perthnasol ac unrhyw sefydliadau partner sydd wedi ariannu'r gweithgaredd gyda ni.  
  • Os byddwn yn cynnig grant i chi, byddwch yn cefnogi ein gwaith o ddangos gwerth treftadaeth drwy gyfrannu (pan ofynnir i chi) at weithgareddau cyhoeddusrwydd yn ystod y cyfnod y byddwn yn darparu ariannu ar ei gyfer a chymryd rhan mewn gweithgareddau i rannu dysgu, y byddwn o bosibl yn cysylltu grantïon eraill â chi i wneud hynny.  

b) Rhyddid Gwybodaeth  

Fel sefydliad cyhoeddus rydym yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 sy’n rhoi hawl mynediad i’r cyhoedd i’r wybodaeth a ddaliwn, oni bai bod unrhyw eithriadau'n berthnasol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth gofnodedig a ddarparwyd i ni gan ein hymgeiswyr a grantïon.  

Pan fyddwch yn cwblhau'r Datganiad ar ddiwedd y ffurflen gais, rydych yn cadarnhau nad oes gennych chi unrhyw wrthwynebiad i ni ryddhau'r ffurflen gais ac unrhyw wybodaeth arall a ddarparwch i ni i unrhyw un sy'n gofyn am weld nhw ar ôl i'ch cais gwblhau'r broses asesu. Os oes unrhyw wybodaeth nad ydych eisiau iddi fod ar gael yn gyhoeddus, gofynnir i chi esbonio eich rhesymau isod:  

[Blwch testun]  

Os byddwn yn derbyn cais am wybodaeth byddwn bob amser yn ymgynghori â chi'n gyntaf ac yn cymryd eich sylwadau i ystyriaeth, a byddwn yn cymhwyso’r eithriadau yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Fodd bynnag, ni sy'n penderfynu a fyddwn yn rhyddhau eich gwybodaeth neu'n ei dal yn ôl ac ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod yr ydych yn ei ddioddef o ganlyniad i ni gyflawni'r cyfrifoldebau hyn.  

Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi o bryd i'w gilydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am waith Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.  

[Ticiwch y blwch os hoffech chi gael eich hysbysu am ein gwaith]  

  • Cadarnhaf fod y sefydliad sydd wedi'i enwi ar y cais hwn wedi rhoi'r awdurdod i mi gwblhau'r cais hwn ar ei ran.  
  • Cadarnhaf fod y gweithgaredd yn y cais yn dod o dan ddibenion a phwerau cyfreithiol y sefydliad.  
  • Cadarnhaf fod gan y sefydliad y pŵer, os dyfernir grant iddo, i dderbyn y grant ac i'w dalu'n ôl.  
  • Cadarnhaf fod yr wybodaeth yn y cais hwn yn wir ac yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth.  

Diweddariadau i'r arweiniad

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.