Cydnabod a dathlu eich grant

Cydnabod a dathlu eich grant

See all updates
Rydym yn falch o gefnogi miloedd o brosiectau treftadaeth ar draws y DU sy'n defnyddio ariannu a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da.
Atodiad Maint
6.44 MB
Our acknowledgement stamp in the centre of a wall of plants

Beth yw cydnabyddiaeth?

Os dyfernir grant i chi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rhaid i chi gydnabod ein cefnogaeth yn gyhoeddus.

Mae cydnabod eich grant yn ffordd o ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a chydnabod yr ariannu a wnaeth eich prosiect yn bosibl. Mae hefyd yn helpu i ddangos effaith ariannu'r Loteri Genedlaethol, fel y gallwn barhau i gefnogi prosiectau fel eich un chi yn y dyfodol.

Ydych chi wedi derbyn grant gan un o'n mentrau strategol neu raglenni cymorth grant? Darganfyddwch sut i gydnabod menter strategol ac ariannu nad yw'n dod o'r Loteri Genedlaethol.

Lawrlwytho ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth

Mae ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth yn cynnwys popeth y bydd ei angen arnoch i gynllunio'ch cydnabyddiaeth.

Ein stamp a logos cydnabyddiaeth

Rhaid i chi ddefnyddio ein stamp cydnabyddiaeth yn amlwg ar bob agwedd o'ch prosiect.

Rhaid defnyddio'r stamp ynghyd â'r neges 'Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol’ yn glir lle gall pobl eu gweld.  

Lawrlwytho ein stampiau cydnabyddiaeth.

Sut i ddefnyddio ein henw 

Defnyddiwch Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn llawn mewn teitlau, penawdau ac wrth ein crybwyll am y tro cyntaf mewn areithiau neu gyfweliadau. 

Os oes angen i chi ein crybwyll ni eto, gallwch ddefnyddio Cronfa Treftadaeth neu y Gronfa Treftadaeth. Wrth ysgrifennu ein henw fel hyn, defnyddiwch 'y' bach.  

Peidiwch â defnyddio talfyriadau fel CTYLG.

Ble i gydnabod eich grant

Dylech gydnabod eich grant yn unrhyw le y bydd y cyhoedd yn gweld neu'n clywed am eich prosiect.

Mae pob prosiect yn wahanol felly ni fydd popeth yn y pecyn cymorth yn berthnasol i chi. Mae'r lleoliadau rydym fel arfer yn disgwyl i chi gydnabod eich grant yn cynnwys:

  • Gwefannau, blogiau a fideos
  • Cyfryngau cymdeithasol
  • Datganiadau i'r wasg a chyfweliadau â'r cyfryngau
  • Digwyddiadau lansio, agor a cherrig milltir
  • Arwyddion ar adeiladau, adeileddau a mannau allanol
  • Arddangosfeydd
  • Deunyddiau recriwtio staff
  • Baneri, fflagiau a deunyddiau hyrwyddo printiedig  

Dylai'r amlygrwydd a roddwch i gydnabod eich grant adlewyrchu faint o ariannu rydych chi wedi'i dderbyn. Er enghraifft, bydd angen lefel uwch o gydnabyddiaeth ar gyfer prosiect mawr sy’n derbyn £1m nag un llai sy’n derbyn £10,000.  

Gweler ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth  am arweiniad llawn ar sut i gydnabod eich grant.

Mynnwch ysbrydoliaeth

Templedi a deunyddiau 

Gallwch lawrlwytho templedi a deunyddiau isod. Gweler y 

pecyn cymorth cydnabyddiaeth am arweiniad llawn ar sut i ddefnyddio'r rhain. 

Templedi datganiad i'r wasg 

Baneri a fflagiau parod i'w hargraffu 

Asedau cyfryngau cymdeithasol 

Cydnabod menter strategol neu ariannu cymorth grant 

Mae gan ein mentrau strategol a'n rhaglenni cymorth grant eu gofynion cydnabyddiaeth eu hunain.  

Dewiswch y rhaglen berthnasol isod i ddod o hyd i'r arweiniad a'r logos cydnabyddiaeth sydd eu hangen arnoch. 

Mentrau strategol

Trefi a Dinasoedd Natur

Treftadleoedd

Cysylltiadau Tirwedd

Cymorth grant

Rhaglenni partneriaeth Llywodraeth Cymru

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiynau am gydnabyddiaeth, gyrrwch e-bost i brand@heritagefund.org.uk.

Diweddariadau i'r arweiniad

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosib trwy'r dudalen we hon.