Gofynion cydnabyddiaeth grant Cysylltiadau Tirwedd
Sut i enwi eich prosiect
Yn eich cais, gofynnir i chi roi ‘#LC’ ar ddechrau teitl eich prosiect.
Rhaid i enw'ch prosiect gynnwys y testun Cysylltiadau Tirwedd. Y dull o enwi a ffafrir gennym yw:
Cysylltiadau Tirwedd [enw'r ardal]
Cydnabod eich grant
Dylai prosiectau sy'n derbyn ariannu Cysylltiadau Tirwedd ddilyn yr arweiniad yn ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth.
Fel y prif ariannwr mae arnom angen safle annibynnol ar gyfer y stamp cydnabyddiaeth ar yr holl ddeunyddiau a gweithgareddau hyrwyddo sy'n gysylltiedig â'r prosiect. Dylai unrhyw bartneriaid eraill fod mewn safle eilaidd.
Lawrlwytho stamp cydnabyddiaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Dylid gosod y stamp cydnabyddiaeth fel yr amlinellir yn y pecyn cymorth.
Rhaid darparu cydnabyddiaeth ddwyieithog ar gyfer unrhyw brosiectau yng Nghymru.
Sut i siarad am eich grant Cysylltiadau Tirwedd
Mae gennym arweiniad ar sut i siarad am eich grant yn y pecyn cymorth cydnabyddiaeth. Gweler y testun safonol ychwanegol ar sut i siarad am eich prosiect Cysylltiadau Tirwedd isod hefyd.
Ynghylch Cysylltiadau Tirwedd
Dylid defnyddio'r testun hwn i ddisgrifio'ch prosiect ar wefannau ac mewn nodiadau i olygyddion.
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn buddsoddi £150miliwn dros 10 mlynedd i gefnogi prosiectau ar raddfa fawr i adfywio tirweddau, cefnogi adferiad byd natur a gwella’r cysylltiadau rhwng pobl a bywyd gwyllt ar draws y DU.
Postiadau cyfryngau cymdeithasol
Yn ychwanegol at yr arweiniad yn ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth gofynnir i chi ddefnyddio'r hashnod #CysylltiadauTirwedd hefyd
Etifeddiaeth
Defnyddiwch y datganiad hwn ar ôl i'r prosiect ddod i ben.
Gwnaed [enw'r prosiect] yn bosibl diolch i fuddsoddiad cychwynnol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Roedd yn rhan o fenter fuddsoddi gwerth £150miliwn dros 10 mlynedd i gefnogi prosiectau ar raddfa fawr i adfywio tirweddau, cefnogi adferiad byd natur a gwella cysylltedd i bobl a bywyd gwyllt.
Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, gyrrwch e-bost i brand@heritagefund.org.uk neu pressoffice@heritagefund.org.uk.