Amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai

Amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai

Museums, libraries and archives
Mae amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau yn adrodd storïau ein treftadaeth ddiwylliannol.

Drwy gadwraeth, arddangosfeydd ac ymgysylltu â chymunedau, gallant ddod â chasgliadau, lleoedd a syniadau yn fyw. Maen nhw'n ein helpu i ddeall diwylliant, gwyddoniaeth a hanes, ac yn rhoi ymdeimlad o le, hunaniaeth a chymuned i ni.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 1994 rydym wedi dyfarnu £2.5 biliwn i 6,000 o brosiectau seiliedig ar amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a chasgliadau ar draws y DU. Mae storïau o brosiectau rydyn ni wedi'u hariannu i'w gweld isod.

Beth rydym yn ei gefnogi?

Rydyn ni'n rhoi grantiau o £10,000 i £10 miliwn ar gyfer prosiectau treftadaeth a arweinir gan neu sy'n cynnwys amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau.

Mae ein hariannu'n cefnogi sefydliadau mawr a bach, gan gynnwys:

  • amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau cenedlaethol, awdurdod lleol ac annibynnol
  • llyfrgelloedd hanesyddol
  • archifau cymunedol a chasgliadau hanes llafar
  • sefydliadau sydd â chasgliadau treftadaeth

Syniadau prosiect

Gallai ein hariannu helpu pobl i:

  • greu mannau arddangos a dysgu newydd cyffrous
  • denu cynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol
  • caffael eitemau newydd a datblygu casgliadau
  • gwella cydnerthedd sefydliadol

Am fwy o ysbrydoliaeth, gweler y storïau isod neu porwch y prosiectau rydyn ni wedi'u hariannu.

Hands on embroidery
Lindy Anderson

Projects

Touching stitches: embroidery access for the blind

This innovative project explored ways to enable blind and partially sighted people to access the Edinburgh College of Art’s historic textile collection, which spans over three centuries.