Amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai
Drwy gadwraeth, arddangosfeydd ac ymgysylltu â chymunedau, gallant ddod â chasgliadau, lleoedd a syniadau yn fyw. Maen nhw'n ein helpu i ddeall diwylliant, gwyddoniaeth a hanes, ac yn rhoi ymdeimlad o le, hunaniaeth a chymuned i ni.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 1994 rydym wedi dyrannu £2.6 biliwn i fwy na 6,100 o brosiectau mewn amgylcheddau amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a chasgliadau ledled y DU. Mae storïau o brosiectau rydyn ni wedi'u hariannu i'w gweld isod.
Beth rydym yn ei gefnogi?
Rydyn ni'n rhoi grantiau o £10,000 i £10 miliwn ar gyfer prosiectau treftadaeth a arweinir gan neu sy'n cynnwys amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau.
Mae ein hariannu'n cefnogi sefydliadau mawr a bach, gan gynnwys:
- amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau cenedlaethol, awdurdod lleol ac annibynnol
- llyfrgelloedd hanesyddol
- archifau cymunedol a chasgliadau hanes llafar
- sefydliadau sydd â chasgliadau treftadaeth
Syniadau prosiect
Gallai ein hariannu helpu pobl i:
- greu mannau arddangos a dysgu newydd cyffrous
- denu cynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol
- caffael eitemau newydd a datblygu casgliadau
- gwella cydnerthedd sefydliadol
Am fwy o ysbrydoliaeth, gweler y storïau isod neu porwch y prosiectau rydyn ni wedi'u hariannu.
Prosiectau
Amgueddfa Dau Hanner: Wrecsam yn dathlu treftadaeth gymunedol a phêl-droed
Mae amgueddfa Wrecsam yn dod â threftadaeth pêl-droed yn ôl i'w chartref hanesyddol yng Nghymru diolch i ddyfarniad o £2.7 miliwn.
Prosiectau
Pride in Suffolk's Past: Rhannu straeon LGBTQ+ y gorffennol a'r presennol
Bydd prosiect diweddaraf Archifau Suffolk yn datgelu a rhannu'r straeon LGBTQ+ cudd o hanes Suffolk.
Newyddion
£7.6miliwn wedi'i ddyfarnu i amgueddfeydd unigryw ar draws y DU
Newyddion
Cannoedd o gynigion treftadaeth arbennig ledled y DU y gwanwyn hwn
Publications
Dehongli – canllaw arfer da
Newyddion
Llwyddiant i brosiectau treftadaeth yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol
Newyddion
Buddsoddiad £12.2m i helpu achub adeiladau hanesyddol y DU
Blogiau
Final weeks to apply for Dynamic Collections grants
Straeon
Mae Cymru'n Falch: golwg ar gasgliad LHDTC+ cenedlaethol
Straeon
Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2022 ar agor! Pwy fydd yn cael eich pleidlais chi?
Newyddion
Pum ffordd y gall amgueddfeydd wella iechyd meddwl a llesiant
Newyddion