Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2022 ar agor! Pwy fydd yn cael eich pleidlais chi?

Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2022 ar agor! Pwy fydd yn cael eich pleidlais chi?

Storm Troopers and Darth Vader standing around a model of the Millennium Falcon
Mae enwebiadau’n cydnabod prosiectau eithriadol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol sy’n gwneud gwahaniaeth i bobl a threftadaeth ledled y DU.

Ers 1994, mae’r Loteri Genedlaethol wedi codi mwy na £46 biliwn at achosion da. O hyn, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dosbarthu dros £8.4bn i fwy na 49,000 o brosiectau treftadaeth ledled y DU.

Bob blwyddyn, mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn dathlu’r bobl a’r prosiectau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau rhyfeddol gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol. 

Enillydd Prosiect y Flwyddyn y Loteri Genedlaethol y llynedd oedd Pollinating the Peak. Roedd y prosiect sydd wedi’i leoli yn Swydd Derby yn brosiect uchelgeisiol a gefnogwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn gweithio’n galed i adfywio niferoedd y cacwn yn y Peak District. 

Mae rhestr fer eleni yn cynnwys pum prosiect treftadaeth a ariennir gennym ni - ond pwy fydd yn cael eich pleidlais chi? 

South of Scotland Golden Eagle

Eryr Aur, gyda choeden yn y cefndir.
Eryr Aur. Llun gan Phil Wilkinson

Mae prosiect South of Scotland Golden Eagle Eryr yn helpu i atgyfnerthu poblogaeth un o rywogaethau eiconig yr Alban, yr Eryr Aur, yn ne’r Alban. Mae hyn yn cael ei wneud trwy gyfres o drawsleoliadau dros gyfnod o 5 mlynedd. 

Derbyniodd y Southern Uplands Partnership grant y Loteri Genedlaethol o £1,679,600 tuag at y prosiect, yn ogystal ag arian gan bartneriaid y prosiect a Llywodraeth yr Alban.

Ym mis Mawrth 2022, cynyddodd techneg ymchwil newydd y prosiect, o dan drwydded gan NatureScot, nifer yr Eryrod Aur yn Ne’r Alban i 33. Dyma’r nifer uchaf a gofnodwyd ers dechrau’r 19eg ganrif.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da y Loteri neu drwy rannu #NLAGoldenEagle ar Twitter.

Museum of Homelessness

Tywysydd yn y Secret Museum yn siarad â chynulleidfa.
Museum of Homelessness. Llun gan Anthony Luvera

Sefydlwyd y Museum of Homelessness yn 2015 ac mae’n cael ei chreu a’i rhedeg gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd. Mae'r amgueddfa'n gweithio i adeiladu'r casgliad cenedlaethol cyntaf ar gyfer digartrefedd yn y DU.

Derbyniodd y sefydliad grant o £9,000 yn 2017 i helpu i ddechrau ei gasgliad. Ers hynny maent wedi derbyn grant pellach o £98,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a arweiniodd at y ‘Secret Museum’, sef arddangosfa drochi 11 diwrnod. Trwy Secret Museum buont yn arddangos 11 stori gwrthrych a gasglwyd gan ystod o bobl, gyda hanner ohonynt wedi profi digartrefedd yn y pandemig. Cafodd gwaith dau artist yr effeithiwyd arnynt gan ddigartrefedd ei arddangos hefyd.

Enillodd y Secret Musem y Wobr Amgueddfeydd a Threftadaeth (2022) am yr arddangosfa dros dro/deithiol orau.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da y Loteri neu drwy rannu #NLAHomelessness ar Twitter.

An Tobar

People walking through a forest, photo taken from behind
Yng nghanolfan lles cymunedol a fferm gymdeithasol An Tobar.

Sefydlwyd An Tobar CIC gan y chwiorydd Margaret a Kathleen yn 2018. Mae’n ganolfan llesiant cymunedol a fferm gymdeithasol sy’n ceisio cysylltu pobl â byd natur i wella eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Dyfarnwyd grant Loteri Genedlaethol o £61,900 iddynt yn 2021 i helpu pobl i gysylltu â threftadaeth yn Brian’s Wood, Silverbridge. Crëwyd Brian’s Wood yn 2019, ar ôl i fwy na 13,000 o goed gael eu plannu gan y chwiorydd er cof am eu hewythrod.

Helpodd y prosiect i An Tobar gynnal 60 o weithdai natur a threftadaeth ddiwylliannol, gwella mynediad i Brian’s Wood a gweithredu cynllun digidol a helpodd i hyrwyddo treftadaeth y goedwig i gynulleidfa ehangach fyth trwy wefan newydd a deunyddiau dysgu rhyngweithiol.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da y Loteri neu drwy rannu #NLAATobar ar Twitter.

Arddangosfa y Millennium Falcon

Person yn gweithio ar fodel o’r Millennium Falcon.
Model o’r Millennium Falcon o’r ffilmiau Star Wars

O galacsi ymhell, bell i ffwrdd i Ddoc Penfro – mae’r stori am sut yr adeiladwyd llong seren eiconig y ffilmiau Star Wars yn cael ei hadrodd, diolch i grant o £8,000 gan y Loteri Genedlaethol.

“Cyfrinach waethaf” gorllewin Cymru oedd, ym 1979, i’r model maint bywyd cyntaf erioed o’r llong seren gael ei hadeiladu ar gyfer y ffilm The Empire Strikes Back mewn awyrendy awyren o’r Ail Ryfel Byd yn nhref Doc Penfro, a enillodd Oscar.

Mae'r arddangosfa barhaol yng Nghanolfan Dreftadaeth Doc Penfro ac yn cynnwys ffotograffau, darnau o ffilm nas gwelwyd o'r blaen, tystiolaeth gan yr adeiladwyr llongau a model manwl yn dangos gwahanol gamau'r adeiladu.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da y Loteri neu drwy rannu #NLAPembrokeDockFalcon ar Twitter.

The World Reimagined

Mae person yn sefyll o flaen cerflun The Echoes in the Present gan Larry Amponsah.
Cerflun The Echoes in the Present yn Leeds gan Larry Amponsah.

 

Mae The World Reimagined yn brosiect ledled y DU i drawsnewid sut rydym yn deall Masnach Drawsatlantig Caethweision Affricanaidd a’i heffaith ar bob un ohonom.

Mae’r rhaglen bwysig hon wedi derbyn grant o £250,000 gan y Gronfa Treftadaeth, ynghyd â chyllid gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Mae’r prosiect yn galluogi cymunedau sy’n newydd i’r dreftadaeth hon i ymgysylltu mewn ffordd hygyrch trwy gelf, cymunedau, hanes a dysg.

Mae casgliad Journey of Discovery yn cynnwys mwy na 300 o straeon a gyfrannwyd gan ymchwilwyr, academyddion a sefydliadau, megis hanes cerddoriaeth Ddu a’i chyfraniad at hunaniaeth Brydeinig. Mae hyn yn ategu llwybrau glôb a ddyluniwyd gan artistiaid sy'n cymryd rhan mewn dinasoedd cynnal; Bryste, Birmingham, Leeds, Caerlŷr, Rhanbarth Dinas Lerpwl, Llundain ac Abertawe.

Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da y Loteri neu drwy rannu #NLAReimagined ar Twitter.

Darganfod mwy a bwrw eich pleidlais heddiw

Ymwelwch â gwefan Achosion Da y Loteri i weld y rhestr lawn o brosiectau ac i fwrw eich pleidlais. Mae'r pleidleisio yn cau ddydd 12 Hydref am 5pm.

Mae’r enillwyr yn derbyn £5,000 a thlws Gwobrau’r Loteri Genedlaethol, a byddant yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni. 

Oes gennych chi syniad am brosiect?

Oes gennych chi syniad ar gyfer eich prosiect eich hun a allai wneud gwahaniaeth i bobl a threftadaeth yn y DU? Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei ariannu a chysylltwch â'ch tîm lleol i drafod eich syniad ymhellach.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...