Yr hyn a ariannwn

Yr hyn a ariannwn

Darganfyddwch pa dreftadaeth rydyn ni'n ei chefnogi, a beth allwch chi wario'r arian arno.

Rydym yn ariannu amrywiaeth eang o brosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth genedlaethol, rhanbarthol a lleol y DU.

Beth yw treftadaeth?

Dydyn ni ddim yn diffinio treftadaeth. Gofynnwn i chi ddweud wrthym beth rydych chi'n ei feddwl sy'n bwysig a dylid ei warchod a'i gadw.

O adeiladau hanesyddol, ein hetifeddiaeth ddiwydiannol a'r amgylchedd naturiol, i gasgliadau, traddodiadau, straeon a mwy – gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o'r gorffennol rydych chi'n ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

Gallai eich prosiect treftadaeth gynnwys:

  • gwaith natur i wella cynefinoedd neu warchod rhywogaethau, yn ogystal â helpu pobl i gysylltu â natur yn eu bywydau bob dydd.
  • tirweddau wedi'u cynllunio sy'n gwella ac yn gwarchod tirweddau hanesyddol fel parciau cyhoeddus, gerddi hanesyddol a gerddi botanegol.
  • tirweddau a chefn gwlad - prosiectau gwledig ar raddfa fawr sy'n helpu i wella tirweddau i bobl a natur, drwy, er enghraifft, adfer cynefinoedd a dathlu traddodiadau diwylliannol y tir.
  • recordiadau hanes llafar o straeon, atgofion a chaneuon pobl, fel ffordd o gyfathrebu a datgelu'r gorffennol.
  • traddodiadau diwylliannol sy'n archwilio hanes gwahanol ddiwylliannau drwy adrodd straeon, neu bethau a wnewch fel rhan o'ch cymuned. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o ddawns a theatr, i fwyd neu ddillad. Gallai hefyd gynnwys treftadaeth ieithoedd a thafodieithoedd.
  • coffáu a dathliadau yn adrodd straeon a hanesion pobl, cymunedau, lleoedd neu ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig ag amseroedd a dyddiadau penodol
  • adeiladau hanesyddol, henebion a'r amgylchedd hanesyddol o dai a melinau, i ogofâu a gerddi. Ardaloedd sy'n gysylltiedig â hanes a threftadaeth. 
  • archaeoleg gymunedol yn cynnwys cyfranogiad gweithredol gwirfoddolwyr mewn gweithgareddau archeolegol, popeth o ymchwilio, tynnu lluniau, arolygu i brosesu darganfyddiadau. Weithiau gall gynnwys cloddio. Weithiau fe'i gelwir yn archaeoleg gyhoeddus.
  • amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau sy'n gwneud y casgliadau y mae amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau yn eu dal yn fwy hygyrch drwy arddangosfeydd newydd, gwella adeiladau ac orielau cyhoeddus, neu ymgysylltu â phobl i ddehongli casgliadau newydd a phreig
  • caffael gwrthrychau newydd yn helpu tuag at y gost o gaffael gwrthrychau neu gasgliadau untro fel rhan o bolisi datblygu casgliadau
  • diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth gallai hyn fod yn lleoedd a gwrthrychau sy'n gysylltiedig â'n hanes diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth

Prosiectau rydym wedi'u hariannu

Angen ysbrydoliaeth?

Darganfyddwch prosiectau rydym wedi'u hariannu

Beth allwch chi wario'r arian arno

Gellir defnyddio'r arian rydych chi'n ei dderbyn ar gyfer:

  • gweithgareddau: ymgysylltu â'r gymuned ehangach yn eich treftadaeth. Gallent gynnwys teithiau cerdded treftadaeth dan arweiniad, rhannu hanesion llafar, neu weithdai. Dylai eich gweithgareddau gysylltu â ffocws treftadaeth eich prosiect a gored i anghenion y cynulleidfaoedd yr ydych am weithio gyda nhw, gan gynnwys addasiadau rhesymol.
  • atgyweirio a chadwraeth
  • allbynnau digidol: gallai hyn fod yn ddelweddau digidol, ffeiliau sain neu ddata, gwefan gyda deunydd treftadaeth, ap, neu ffilm a wnaed gan ddefnyddio technoleg ddigidol.
  • swyddi staff newydd: dylid cynnwys costau staff a fydd yn gweithio ar eich prosiect.
  • lleoliadau hyfforddi â thâl: gallai hyn hefyd gynnwys hyfforddiant i staff presennol, i gefnogi nodau'r prosiect.
  • ffioedd proffesiynol: yn cynnwys unrhyw un sy'n gysylltiedig â'ch prosiect yn broffesiynol, o benseiri a gweithwyr treftadaeth proffesiynol i staff addysgu.

Ni allwch wario'r arian ar y canlynol: 

  • swyddi staff presennol neu gostau sefydliadol: oni chlir drwy adennill costau llawn sy'n golygu sicrhau cyllid ar gyfer yr holl gostau sy'n gysylltiedig â rhedeg prosiect. Felly gallwch ofyn am gyllid ar gyfer costau prosiect uniongyrchol a hefyd am ran o orbenion eich sefydliad
  • atgyweiriadau i'ch cartref eich hun
  • cyfrifoldebau cyfreithiol a/neu statudol: mae'n cynnwys unrhyw beth y byddai'n talu amdano beth bynnag, p'un a aeth y prosiect yn ei flaen ai peidio. Er enghraifft, rhent, cyfleustodau, cynnal a chadw adeiladau, oni bai bod gennych grant menter treftadaeth.
  • hyrwyddo achosion neu gredoau sefydliadau gwleidyddol neu ffydd
  • TAW adenilladwy
  • costau ar gyfer unrhyw weithgaredd sydd wedi digwydd cyn dyfarnu grant
  • costau ar gyfer gosod glaswellt neu blanhigion artiffisial

Archwilio'r cyllid sydd ar gael

A oes angen cymorth pellach arnoch gyda'ch cais?

Rydym am sicrhau bod ein cyllid yn agored ac yn hygyrch i bawb. Rydym wedi nodi cynllun i ddiwallu anghenion mynediad pobl, o wasanaethau cyfieithu i gymorth ymgeisio digidol.