Sut rydym yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd

Mae gan y sector treftadaeth rôl hanfodol i'w chwarae o ran lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rydym yn cydweithio â'n partneriaid yn y sector i weithredu. Darllenwch ein datganiad ar y cyd. [Saesneg yn unig]
Newid sefydliadol
Fel sefydliad, bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cyrraedd allyriadau di-garbon net erbyn 2030. Rydym yn dechrau drwy ddatgarboneiddio ein swyddfeydd, ein teithio a'n gwastraff.
Hyd yn hyn rydym wedi:
- recriwtio Rheolwr Newid yn yr Hinsawdd i lywio ein dull gweithredu
- sefydlu'r Cynllun Effaith Werdd ar gyfer staff
- cymryd ymagwedd "rheilffordd yn gyntaf" at deithio
- cynyddu ein defnydd o geir trydan a hybrid ar gyfer teithiau lle nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael
- ehangu ein cynllun Beicio i'r Gwaith
- darparu hyfforddiant mewnol i gefnogi gwneud penderfyniadau cynaliadwy
- ymgorffori effeithlonrwydd ynni yn y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer mannau swyddfa
Yn ystod y 12 mis nesaf byddwn yn datblygu ein strategaeth amgylcheddol a fydd yn amlinellu ein dull o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd
Rydym yn cyhoeddi ein heffaith amgylcheddol bob blwyddyn fel rhan o'n hadroddiadau a'n cyfrifon blynyddol.
Rhoi grantiau a'r argyfwng hinsawdd
Rydym yn ystyried effaith amgylcheddol pob prosiect – nid prosiectau tirwedd a natur yn unig – yn ein penderfyniadau.
Er mwyn cyrraedd ein gofyniad cynaliadwyedd amgylcheddol, rydym yn disgwyl i bob math o brosiect treftadaeth, mawr a bach,:
- cyfyngu ar unrhyw ddifrod posibl i'r amgylchedd
- cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac yn enwedig ar gyfer natur
Darllenwch ein canllawiau cynaliadwyedd amgylcheddol.