Cynaliadwyedd amgylcheddol – canllaw arfer da

Cynaliadwyedd amgylcheddol – canllaw arfer da

Mae'r Gronfa Treftadaeth wedi ymrwymo i gefnogi adferiad natur a chynaliadwyedd amgylcheddol ar draws ein holl weithgarwch. Disgwyliwn i'r prosiectau a ariannwn helpu i warchod yr amgylchedd.

Drwy ddarllen y canllaw hwn, byddwch yn dysgu mwy am sut i gynllunio prosiect treftadaeth gyda chynaliadwyedd amgylcheddol mewn golwg, yn ogystal â chanllawiau ac offer gwlad-benodol a all eich helpu i fodloni ein disgwyliadau.

Rôl y Gronfa Treftadaeth

Mae'r argyfwng hinsawdd yma. Mae tymereddau byd-eang yn codi o ganlyniad i allyriadau nwyon tŷ gwydr a achosir gan weithgarwch dynol. Mae gwyddoniaeth yn dweud wrthym mai dim ond ychydig ddegawdau sydd gennym i atal dyfodol anrhagweladwy a allai fod yn beryglus.

Ni fu ein byd naturiol erioed dan bwysau mor ddwys. Yn y DU mae ein rhywogaethau anifeiliaid a phlanhigion wedi gostwng ar gyfartaledd tua 19% ers dechrau monitro yn 1970 ac rydym bellach yn un o’r gwledydd sydd wedi colli fwyaf o ran byd natur yn y byd. Mae tua un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o gael eu colli o’r DU. Mae cysylltiad annatod rhwng colli ein treftadaeth naturiol a newid hinsawdd. Mae arnom angen byd natur i helpu i leihau ac arafu newid yn yr hinsawdd ac mae angen i ni atal newid hinsawdd i achub byd natur.

Os ydym am i genedlaethau’r dyfodol allu mwynhau ac elwa o’n treftadaeth naturiol a diwylliannol, rhaid inni wneud dewisiadau amgylcheddol cyfrifol yn awr ynghylch sut yr ydym yn byw, yn gweithio ac yn gofalu amdani. Mae angen inni fod yn rhan o godi uchelgeisiau hinsawdd y DU ar gyfer 2035 a newid y DU er gwell.

Fel buddsoddwr mawr mewn cadwraeth, mae gan y Gronfa Treftadaeth ran sylweddol i’w chwarae drwy’r prosiectau a ariannwn. Mae gwarchod yr amgylchedd yn un o'r pedair egwyddor buddsoddi a fydd yn llywio ein holl benderfyniadau ynghylch rhoi grantiau o dan Treftadaeth 2033.

Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan y prosiectau a ariannwn

Gan ddibynnu ar yr hyn sydd fwyaf priodol ar gyfer pob prosiect, gofynnwn i’r prosiectau rydym yn eu hariannu helpu i warchod yr amgylchedd:

  • drwy gefnogi cadwraeth ac adferiad natur
  • drwy leihau effaith amgylcheddol negyddol
  • drwy gefnogi treftadaeth i addasu i'r argyfwng hinsawdd

Esbonnir pob un o'r rhain yn fanwl yn ddiweddarach yn y canllaw hwn.

Ble i ddechrau

Dilynwch y pedwar cam hyn wrth lunio'ch cais.

Cam 1: Darllenwch y canllawiau isod a gwnewch eich ymchwil eich hun cyn i chi ddechrau cynllunio

  • Meddyliwch yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
  • Gofynnwch beth allai eich prosiect ei gyflawni ar gyfer yr amgylchedd?
  • Gofynnwch beth yw'r effeithiau amgylcheddol negyddol posibl y gallai ei gael?
  • Meddyliwch yn y tymor byr a’r tymor hir: ystyriwch gylch bywyd cyfan unrhyw ddeunyddiau, cynhyrchion neu wasanaethau a ddefnyddir neu a grëir. Er enghraifft, y daith o ddeunyddiau crai i'r adeg pan ddaw pethau'n wastraff a thu hwnt.

Cam 2: Nodwch beth rydych chi am ei gyflawni gyda'ch prosiect a sut rydych chi'n mynd i'w fesur

  • Meddyliwch am y gwelliannau rydych am eu gwneud a sut y byddwch yn monitro eich cynnydd. Beth ydych chi'n mynd i'w fesur a phryd, a sut olwg fydd ar lwyddiant? Er enghraifft, efallai y byddwch yn anelu at ychwanegu oeri goddefol i'ch adeilad a llwyddiant fydd gallu aros ar agor ar ddiwrnodau pan fo'r tymheredd awyr agored yn uwch na 30 gradd Celsius.
  • Peidiwch ag anghofio meddwl am yr adnoddau y gallai fod eu hangen i gynnal y prosiect yn y dyfodol - gelwir hyn yn 'gostio bywyd llawn'.

Cam 3: Ailystyriwch eich prosiect os oes angen

  • Monitrwch y cynnydd ac adolygu eich prosiect yn gyson i wneud yn siŵr eich bod yn cyflawni'r hyn yr oeddech yn bwriadu ei gyflawni ar gyfer yr amgylchedd a lliniaru unrhyw effeithiau negyddol.
  • Wrth i'ch prosiect fynd rhagddo efallai y bydd angen i chi addasu dyluniadau, cynnwys neu gynlluniau cyflawni. Dywedwch wrthym os gallai'r newidiadau hyn leihau'r buddion amgylcheddol neu gynyddu effeithiau amgylcheddol negyddol.

Cam 4: Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, ymunwch â Fit for the Future

Mae Fit for the Future yn rhwydwaith cynaliadwyedd amgylcheddol ledled y DU. Mae’n dod â sefydliadau o’r sectorau di-elw, treftadaeth, cyhoeddus, diwylliannol a masnachol ynghyd i rannu syniadau a gwybodaeth.

Mae’r Gronfa Treftadaeth yn gweithio gyda Fit for the Future i helpu ein hymgeiswyr i ymgorffori cynaliadwyedd a gwarchodaeth amgylcheddol yn eu prosiectau.

Rydym yn argymell bod pob ymgeisydd yn ymuno â Fit for the Future. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod eich prosiect yn cyrraedd y safonau gorau posibl o gynaliadwyedd a gwarchodaeth amgylcheddol a bydd yn cryfhau eich cais.

Gallwch ymuno chwe mis cyn cyflwyno'ch cais a chynnwys y ffi aelodaeth fel cost prosiect cymwys yn eich cais. Peidiwch ag anghofio cyfrifo faint o flynyddoedd o aelodaeth fydd ei angen arnoch: bydd y ffi hon wedyn yn cael ei chynnwys mewn unrhyw grant.

Sylwch, ni allwn dalu ffioedd os na fydd eich cais yn llwyddiannus, os yw’ch sefydliad eisoes yn aelod o Fit for the Future, neu os gwnaethoch ymuno cyn y chwe mis cyn cyflwyno’ch cais. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: info@fftf.org.uk.

Cefnogi cadwraeth ac adferiad natur

Dylai ymgeiswyr ddangos sut y bydd eu prosiectau o fudd i'r amgylchedd naturiol wrth gefnogi cynefinoedd a rhywogaethau, a sut y byddant yn lliniaru unrhyw ddifrod neu golled a achosir trwy gyflawni eu prosiect.  Gallwch wneud hyn drwy:

Gwarchod a gwella cynefinoedd presennol a chreu cynefinoedd newydd

Rydym yn cefnogi’r egwyddorion a sefydlwyd yn Making Space for Nature: A review of England’s Wildlife Sites and Ecological Network a oedd yn argymell creu rhagor o fannau mwy, gwell a chydgysylltiedig ar gyfer byd natur ledled y DU:

  • Rhagor – angen cynyddu cyfran y tir ar gyfer natur drwy greu cynefinoedd newydd.
  • Mwy – po fwyaf yw’r cynefinoedd, y mwyaf gwydn y byddant yn y dyfodol.
  • Gwell – gwella safleoedd presennol i annog mwy o amrywiaeth a digonedd o rywogaethau.
  • Cydgysylltiedig – cynefinoedd presennol wedi’u cysylltu’n well i ganiatáu i rywogaethau symud wrth i amodau newid a chreu rhwydweithiau adfer natur.

Lleihau colli natur

Gallai unrhyw ddatblygiad – boed yn ehangu amgueddfa, yn adfer adeilad hanesyddol neu’n gwella mynediad i'r cyhoedd – arwain at golli cynefinoedd a rhywogaethau. Ein nod yw sicrhau enillion net i fyd natur a lleihau unrhyw golled a achosir gan y prosiectau a ariannwn. Os nad oes modd osgoi colled, dylid gwneud iawn am hynny drwy greu cynefinoedd newydd a/neu wella cynefinoedd presennol ar y safle neu gerllaw iddo. Byddwn yn annhebygol o gefnogi prosiectau sy’n golygu colli cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth neu a warchodir, ac ni fyddwn yn cefnogi prosiectau sy’n cynnwys defnyddio mawn, glaswellt artiffisial neu blanhigion artiffisial.

Ystyried dal a storio carbon

Mae gan yr amgylchedd naturiol ran hanfodol i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd oherwydd bod ecosystemau iach yn cymryd ac yn storio swm sylweddol o garbon mewn priddoedd, gwaddodion a llystyfiant. Mae plannu coed ac adfer cynefinoedd carbon-gyfoethog fel mawnogydd, gwlyptiroedd, morwellt y môr, dolydd a thwyni tywod i gyd yn dal a storio carbon. Byddwn yn cefnogi prosiectau sy'n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

Lleihau llygredd

Gofynnwn i brosiectau ddangos protocolau clir sy'n dangos sut y bydd y prosiect yn osgoi neu'n lleihau unrhyw effeithiau amgylcheddol negyddol yn ystod ac ar ôl datblygu, ee llygredd aer, sŵn, pridd a dŵr.

Adnoddau a deunyddiau digidol

Bydd llawer o brosiectau treftadaeth naturiol yn cynhyrchu deunydd digidol neu 'allbynnau', megis ffotograffau, setiau data, cynnwys gwe ac apiau digidol. Mae gennym ofynion penodol ar gyfer allbynnau digidol, a nodir yn ein telerau grantiau ac a eglurir yn ein canllaw arfer da digidol.

Mae’n rhaid i’r adnoddau digidol rydyn ni’n eu hariannu fod ar gael, yn hygyrch ac yn agored, i wneud yn siŵr bod modd dod o hyd i’r deunyddiau treftadaeth rydyn ni’n eu hariannu heddiw a’u defnyddio yn y dyfodol.

Cofnodi data ar gynefinoedd a/neu rywogaethau

Er mwyn rheoli cynefinoedd a rhywogaethau yn y dyfodol rhaid cael data gwaelodlin cywir ar helaethrwydd, iechyd a dosbarthiad rhywogaethau a chynefinoedd. Cedwir data presennol gan lawer o sefydliadau megis grwpiau rhywogaethau neu gynefinoedd arbenigol, awdurdodau lleol, canolfannau cofnodion lleol a chyrff cenedlaethol megis yr asiantaethau statudol a'r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (NBN).

Mae’r Gronfa Treftadaeth yn ei gwneud yn ofynnol i brosiectau sy’n cynnwys casglu a chofnodi data cynefinoedd a rhywogaethau:

  • gwneud data yn hygyrch i fwy o bobl
  • darparu cyfleoedd gwirfoddoli a dysgu i adnabod, arolygu a chofnodi rhywogaethau a chynefinoedd i ystod fwy amrywiol o bobl
  • cyflenwi’r holl ddata cynefinoedd a rhywogaethau, yn rhad ac am ddim, i ganolfannau cofnodion amgylcheddol lleol ac i’r NBN

Er mwyn cyflenwi data ar gynefinoedd a rhywogaethau i’r NBN, mae’n rhaid i arsylwadau gydymffurfio â’r safonau ar gyfer ansawdd a hygyrchedd data fel y nodir gan Ymddiriedolaeth yr NBN ar Atlas yr NBN. Rhaid i'r data hwn fod ar gael i'r cyhoedd adeg eu nodi, yn amodol ar gyfyngiadau rhywogaethau sensitif.

Gweler canllawiau’r NBN ar gyflwyno data ar gyfer prosiectau’r Gronfa Treftadaeth. Os nad ydych yn siŵr am y ffordd orau o gyflenwi data, anfonwch e-bost at Ymddiriedolaeth yr NBN: support@nbnatlas.org.

Lleihau effaith amgylcheddol negyddol

Dylai prosiectau ystyried eu hôl troed carbon, gwastraff a llygredd a nodi ffyrdd o'u lleihau. Mae’r meysydd i ganolbwyntio arnynt yn cynnwys:

Adeiladu

Mae prosiectau yn aml yn cynnwys ôl-osod, gwaith cadwraeth neu strwythurau dros dro ar gyfer arddangosfeydd neu ddigwyddiadau. Gall eich prosiect leihau ei effaith amgylcheddol negyddol drwy:

  • lleihau deunyddiau'r prosiect
  • ystyried yr allyriadau carbon oes gyfan a achosir gan y prosiect
  • sicrhau bod y gwaith adeiladu mor ynni-effeithlon â phosibl
  • defnyddio achrediadau a methodolegau adeiladu cynaliadwy cydnabyddedig

Mae ein Strategaeth Treftadaeth 2033 yn datgan “os yw prosiectau’n ymwneud ag adeiladu, byddwn yn annog gwaith adfer, cadwraeth ac ailddefnyddio, yn hytrach nag adeiladu o’r newydd”. Mae hyn yn golygu y byddwn yn canolbwyntio ein cefnogaeth ar brosiectau sy'n ailddefnyddio, adfer a chadw adeiladau presennol.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd llawer o brosiectau angen rhywfaint o waith adeiladu newydd (fel estyniad neu adeilad ategol) i wneud safleoedd treftadaeth yn hyfyw, hygyrch ac effeithiol o ran arbed treftadaeth. Nid ydym yn pennu cyfran uchaf o safle a all fod yn adeilad newydd, ond dylai unrhyw agweddau ar eich cynlluniau sy’n cynnwys adeiladau newydd fod â sail resymegol glir sy’n dangos pam eu bod yn angenrheidiol i gyflawni prosiect sy’n gynhwysol, yn hygyrch, yn ariannol hyfyw ac yn effeithiol wrth warchod treftadaeth. Dylid cyflawni pob agwedd ar brosiect adeiladu o'r newydd i'r safonau amgylcheddol uchaf.

Gweithrediad y safle

Mae’r ynni a’r dŵr sydd eu hangen i gadw safle i redeg a pharhau i gyflawni canlyniadau unwaith y bydd prosiect wedi’i gwblhau yn golygu y gall ein cyllid gael effaith amgylcheddol hirdymor.

Dylai ymgeiswyr ddangos sut y maent yn bwriadu cadw eu hôl troed carbon yn isel unwaith y bydd unrhyw waith cyfalaf wedi'i orffen a'r safle yn gweithredu'n llawn neu i wrthweithio defnydd uwch o gyfleustodau o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr ymwelwyr. Gallwch wneud hyn drwy:

  • leihau'r defnydd parhaus o ynni trwy reoli ynni'n effeithiol
  • defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy
  • arbed dŵr

Gwastraff

Mae llawer o gyfleoedd i leihau faint o wastraff a gynhyrchir gan eich prosiect, o'r cam dylunio hyd at weithrediad y safle ar ôl cwblhau. Gellir cyflawni hyn trwy:

  • ystyried sut i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau adeiladu
  • cael cynllun rheoli gwastraff parhaus yn ei le ar gyfer y safle

Caffael

Gall y ffordd y mae’r nwyddau a’r gwasanaethau sydd eu hangen i gyflawni prosiect yn cael eu dewis a’u cludo gael effaith sylweddol ar ei ôl troed carbon cyffredinol a’r potensial i gefnogi’r economi leol.

Gofynnwn i brosiectau sicrhau eu bod yn defnyddio dull amgylcheddol gynaliadwy o ddewis eu cyflenwyr, er enghraifft, drwy:

  • blaenoriaethu cyflenwyr lleol
  • cadw golwg ar eich cadwyn gyflenwi

Trafnidiaeth

Gall trafnidiaeth effeithio ar yr amgylchedd mewn llawer o wahanol ffyrdd – o’r llygredd aer a’r risg i iechyd a achosir gan allyriadau o bibellau ceir, i ddinistrio cynefinoedd naturiol i greu rhwydweithiau trafnidiaeth.

Dylai eich prosiect ystyried sut i leihau effaith amgylcheddol ymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr sy’n teithio i safle’r prosiect, er enghraifft, drwy:

  • ystyried y seilwaith trafnidiaeth presennol a gwneud gwelliannau lle bo modd
  • annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus

Cefnogi treftadaeth i addasu i'r argyfwng hinsawdd

Mae cynhesu byd-eang, a'r newidiadau y mae eisoes yn eu hachosi, yn effeithio'n uniongyrchol ar ein treftadaeth, ein cymdeithas a'n hamgylchedd naturiol. Mae’r amgylchedd adeiledig a naturiol hanesyddol yn arbennig o agored i ddigwyddiadau tywydd eithafol a phatrymau tywydd cyfnewidiol o ganlyniad i’n hinsawdd newidiol. Mae angen i brosiectau ystyried ac asesu rhagamcanion hinsawdd ac integreiddio cynllunio cydnerthedd i ddatblygiad prosiectau.

Er mwyn helpu treftadaeth i ffynnu mewn dyfodol cynaliadwy, dylai prosiectau feddwl am yr addasiad sydd ei angen ar gyfer gwydnwch hirdymor yn wyneb ein hinsawdd newidiol.

Addas safleoedd treftadaeth

Efallai y bydd angen i brosiectau a safleoedd ystyried heriau o ran llifogydd, sychder, gwyntoedd cryf iawn, erydu arfordirol a chodiadau yn lefel y môr, a newidiadau mewn tymheredd tymhorol megis rheoli gorboethi difrifol, a phlâu a chlefydau anfrodorol ymledol. Mae addasu i'r hinsawdd yn ymwneud ag ystyried sut i atal difrod i safleoedd ac asedau treftadaeth drwy ystyried rhagfynegiadau hinsawdd yn y dyfodol.

Datblygu sgiliau a chyfnewid gwybodaeth

Rydym eisiau grymuso partneriaid prosiect gyda gwybodaeth am ffactorau amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd, trwy hyfforddi ac chynyddu sgiliau cyfranogwyr a chydnabod ei effaith ar lesiant. Mae gan sgiliau ac arferion traddodiadol rôl i’w chwarae mewn dyfodol cynaliadwy a hoffem gefnogi prosiectau sy’n archwilio trosglwyddo gwybodaeth a defnyddio dulliau traddodiadol mewn cyd-destun cyfoes.

Cryfhau cymunedau

Gall gwirfoddoli ac ymgysylltu â’r gymuned fod yn borth gwych i ddatblygu cynaliadwy, adfer natur a gweithredu ar yr hinsawdd. Hoffem glywed sut mae prosiectau'n cryfhau eu canlyniadau amgylcheddol trwy ymgysylltu â'r gymuned.

Casglu cyfoes

Yn aml mae gan ein prosiectau gyfle unigryw i ymgysylltu cymunedau â phynciau yn ymwneud â chynaliadwyedd amgylcheddol. Yn ogystal, mae'n bwysig ein bod yn nodi a chofnodi'r newidiadau a grëwyd gan yr argyfwng hinsawdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Arweinyddiaeth sefydliadol

Mae angen cynllunio hirdymor i alluogi sefydliadau treftadaeth i gefnogi a ffynnu mewn dyfodol cynaliadwy. Dylai ymgeiswyr ystyried sut y gallant ymgorffori cynaliadwyedd amgylcheddol yn llwyddiannus yn eu sefydliad, er enghraifft, trwy:

  • gweithredu strategaeth gynaliadwyedd
  • monitro ac adrodd ar eu hôl troed carbon
  • ymgorffori cynaliadwyedd yng nghenhadaeth a gwerthoedd eu sefydliad

Enghreifftiau o arfer da

Manteision lluosog

Gwyddom fod cynaliadwyedd amgylcheddol ar draws y sector treftadaeth bob amser yn ymwneud â chymesuredd, felly yn dibynnu ar faint eich sefydliad a’r grant yr ydych yn ei geisio, bydd llwyddiant yn edrych yn wahanol iawn.

Mae arfer gorau yn broses ddysgu sy'n esblygu, wedi'i llywio gan yr egwyddorion yn y canllawiau hyn. Dylai eich prosiect gyfrannu newid cadarnhaol i'ch ardal leol a'ch cymunedau a thrwy hynny gyfrannu at y blaned ehangach.

Mae yna themâu a rennir ar draws cynaliadwyedd amgylcheddol fel yr amlinellwyd uchod, hy: yn eich dulliau o ran newid hinsawdd, yn eich gwaredu gwastraff a'ch defnydd gofalus o ddŵr. Fel rhywbeth cyson, mae cydweithio bob amser â chymunedau i feithrin gwybodaeth leol a chyfranogiad yn sail i gynaliadwyedd amgylcheddol.

  • Enillodd brosiect ailddatblygu Amgueddfa Brampton, Newcastle Under Lyme Wobr Arian Twristiaeth Foesegol, Cyfrifol a Chynaliadwy yng ngwobrau Enjoy Staffordshire 2022, gan ddangos bod arfer amgylcheddol da yn dda i fusnes hefyd.
  • Gwellodd prosiect ailddatblygu Casgliad Burrell, Glasgow hefyd fynediad i fyd natur, gan gynnwys Parc Gwledig Pollok cyfagos. Mae’r cynllunio bwriadol, cydgysylltiedig hwn yn golygu bod gan bobl leol fwy o resymau i ymweld â’r ddau safle, aros yn hirach a mwynhau eu cymdogaeth leol, ochr yn ochr â manteision cynyddol i dwristiaid cenedlaethol a rhyngwladol.   

Dulliau creadigol

Dros y 30 mlynedd diwethaf o arian y Loteri Genedlaethol, mae miloedd o ymarferwyr creadigol ar draws theatr, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, ysgrifennu, perfformio barddoniaeth a mwy wedi rhannu sgiliau ac arbenigedd gyda sefydliadau treftadaeth, gan gefnogi’r sector treftadaeth i ddod yn fwy cynaliadwy a pherthnasol. Mae’r dulliau creadigol a’r arddulliau dysgu ehangach hyn yn ymgysylltu ag ystod ehangach o gynulleidfaoedd, yn recriwtio staff a gwirfoddolwyr iau a mwy amrywiol, ac yn cynyddu ymgysylltiad lleol a rhyngwladol â chynaliadwyedd amgylcheddol.

  • Gweithiodd Gardd Gymunedol Pontypridd gyda chymdogion a gwirfoddolwyr lleol a myfyrwyr i agor yr ardd i ystod ehangach a mwy cynhwysol o ymwelwyr. Mae cyfleoedd i gymryd rhan a gwirfoddoli – fel gweithdai llesiant ac ioga am ddim, garddio ymarferol a sgiliau tyfu bwyd – wedi’u hymgorffori drwy’r tymhorau.  
  • Mae arddangosfa Canolfan Sainsbury yn Norwich, Sediment Spirit: Towards the Activation of Art in the Anthropocene yn dwyn ynghyd weithiau celf lleol a rhyngwladol o’r 1960au hyd heddiw sy’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Mae’n cyflwyno gweithiau celf rhyngweithiol sy’n gwahodd cynulleidfaoedd i “edrych ar y Ddaear fel rhywbeth byw ac ymatebol yr ydym yn chwarae rhan weithredol yn ei chynnal”.

Cyngor ac offer gwlad-benodol

Lloegr

Deddf Newid Hinsawdd 2008 yw’r sail ar gyfer dull y DU o fynd i’r afael â newid hinsawdd ac ymateb iddo. Yn Lloegr, mae’n ymrwymo Llywodraeth y DU yn ôl y gyfraith i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gan o leiaf 100% o lefelau 1990 (sero net) erbyn 2050.

I gael cyngor ar sut mae’r Ddeddf Newid Hinsawdd yn gweithio, ewch i wefan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (CCC). Mae'r CCC yn sicrhau bod targedau allyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael eu hasesu'n annibynnol. Mae A Green Future: Our 25 year plan to improve the environment yn nodi camau gweithredu’r llywodraeth i helpu byd natur i adennill a chadw iechyd da.

Cyngor ar gyfer treftadaeth adeiledig a diwylliannol

Cyngor ar gyfer tirweddau a natur

Pecynnau cymorth a chyngor

Yr Alban

Mae’r Alban wedi datgan argyfwng hinsawdd ac wedi gosod targedau sy’n arwain y byd i ddod yn wlad allyriadau sero net erbyn 2045Mae Deddf Newid Hinsawdd (Targedau Lleihau Allyriadau) (Yr Alban) 2019 yn gosod y targedau hyn, gyda thargedau interim ar gyfer gostyngiadau o 56% o leiaf erbyn 2020, 75% erbyn 2030 a 90% erbyn 2040.

Mae polisi newid hinsawdd yn yr Alban yn ymateb i fframweithiau’r DU a’r Alban. Mae deddfwriaeth yr Alban yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun cyflawni ar gyfer cyrraedd targedau gael ei gyhoeddi o leiaf bob pum mlynedd.

Mae Rhaglen Addasu i Newid Hinsawdd yr Alban (SCCAP) yn mynd i'r afael â'r effeithiau a nodwyd ar gyfer yr Alban yn Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU (CCRA). Cyhoeddodd Climate Ready Scotland: A Second Scottish Climate Change Adaptation Programme 2019–2024 ym mis Medi 2019. Cafodd diweddariad ar y Cynllun Newid Hinsawdd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020.

Mabwysiadwyd pedwerydd Fframwaith Cynllunio Cenedlaethol (NPF4) yr Alban gan Weinidogion yr Alban ym mis Chwefror 2023. Mae NPF4 yn nodi polisïau a blaenoriaethau cynllunio a gofodol cenedlaethol. Mae’n cynnwys chwe egwyddor ofodol trosfwaol a fydd yn cael eu defnyddio i gynllunio lleoedd yn y dyfodol: pontio cyfiawn, gwarchod ac ailgylchu asedau, byw’n lleol, twf trefol cryno, datblygu wedi’i ail-gydbwyso ac adfywio gwledig.

Caeodd ymgynghoriad ar Strategaeth Bioamrywiaeth ddrafft yr Alban, a’r cynllun cyflawni cyntaf, ym mis Rhagfyr 2023. Mae'r strategaeth ddrafft yn nodi gweledigaeth Llywodraeth yr Alban i atal a gwrthdroi colledion bioamrywiaeth. Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn ymdrin â’r Bil Amgylchedd Naturiol arfaethedig, a fydd yn “darparu fframwaith ar gyfer sefydlu targedau natur statudol i ysgogi cyflawniad”. 

Cyngor ar gyfer treftadaeth adeiledig a diwylliannol

Cyngor i amgueddfeydd a chasgliadau

Cyngor ar gyfer tirweddau a natur

Canllawiau NatureScot ar:

Pecynnau cymorth a chyngor

Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd. Ym mis Mehefin 2019, gosododd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig darged i Gymru gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050. Mae gan Gymru hefyd dargedau interim ar gyfer 2030 a 2040, a chyfres o gyllidebau carbon pum mlynedd. Maent yn cynnwys cyfran Cymru o allyriadau o hedfan rhyngwladol a morgludiant rhyngwladol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn anelu at sicrhau bod gan genedlaethau’r dyfodol o leiaf yr un ansawdd bywyd ag sydd gennym ar hyn o bryd. Mae’n gosod ein saith nod llesiant a manylion ffyrdd y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i wella llesiant Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i gyrff ar sut y gallant gydymffurfio.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn darparu fframwaith cyfreithiol i reoli adnoddau naturiol Cymru. Ym mis Mawrth 2019, lansiodd Llywodraeth Cymru Cymru Carbon Isel. Mae’r cynllun yn nodi dull Llywodraeth Cymru o dorri allyriadau a chynyddu effeithlonrwydd mewn ffordd sy’n sicrhau’r manteision ehangach mwyaf posibl i Gymru. Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru: Ffyniant i bawb: Cymru sy’n ymwybodol o’r hinsawdd, gan nodi cynllun addasu i'r newid hinsawdd pum mlynedd a ffeithlun.

Cyngor ar gyfer treftadaeth adeiledig a diwylliannol

Cyngor ar gyfer tirweddau a natur

Pecynnau cymorth a chyngor

Gogledd Iwerddon

Mae Deddf Newid Hinsawdd (Gogledd Iwerddon) 2022 yn gosod targed o ostyngiad o 100% o leiaf mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) sero net erbyn 2050.

Mae rhagor o wybodaeth yn Rhaglen Ymaddasu i Newid Hinsawdd Gogledd Iwerddon 2019–2024 a dogfen ategol Cymdeithas Sifil a Llywodraeth Leol yn Addasu.  

Mae rhagor o wybodaeth yn Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU 2017 ar gyfer Gogledd Iwerddon a Rhagamcanion Newid Hinsawdd y DU.

Cyngor ar gyfer treftadaeth adeiledig a diwylliannol

Pecynnau cymorth a chyngor

Ffynonellau rhagor o wybodaeth