Diwylliannau ac atgofion
Maen nhw hefyd yn hanesion personol i ni, y profiadau sydd wedi ein siapio ni a'n cymdeithas.
Ers 1994 rydym wedi dyfarnu dros £510m i fwy na 24,600 o brosiectau treftadaeth gymunedol a diwylliannol ledled y DU.
Beth rydym yn ei gefnogi?
Rydym yn ariannu prosiectau sy'n helpu i archwilio, cadw a dathlu traddodiadau, arferion, sgiliau a gwybodaeth gwahanol gymunedau.
Weithiau cyfeirir at y dreftadaeth ddiwylliannol hon fel treftadaeth anniriaethol neu fyw. Mae hyn oherwydd ei bod yn newid yn gyson ac yn cael ei chadw'n fyw pan gaiff ei hymarfer neu ei pherfformio.
Rydym hefyd yn ariannu prosiectau sy'n dogfennu ac yn rhannu atgofion pobl. Mae'r prosiectau hyn yn aml yn cynnwys cyfweliadau hanesion llafar, cyfleu straeon a safbwyntiau pobl yn ddigidol, a sicrhau eu bod yn cael eu hadneuo ac yn hygyrch yn awr ac yn y dyfodol.
Syniadau am brosiect
Gall ein harian helpu pobl i:
- ymchwilio a rhannu traddodiadau llafar, fel adrodd straeon neu dafodieithoedd lleol
- hyfforddi eraill mewn sgiliau a chrefftau traddodiadol, o adeiladu waliau sychion a llafnio i gwehyddu basgedi a gwneud tecstilau
- ymchwilio i darddiad diwylliant, megis cerddoriaeth, theatr neu ddawns, a chreu perfformiadau wedi'u dylanwadu gan arddulliau'r gorffennol
- rhannu hanes a hwyl dathliadau, gwyliau neu ddefodau gyda chynulleidfaoedd newydd, o gemau a choginio i carnifalau a ffeiriau
- casglu gwybodaeth draddodiadol neu eu pasio ymlaen, fel rheolaeth coetir neu feddyginiaeth cartref
- cofnodi straeon pobl gyffredin drwy hanesion llafar, er enghraifft am dyfu i fyny, ymfudo neu waith
- ailadrodd atgofion pobl am le neu ddigwyddiad, fel ysbyty arhosiad hir, streic y glowyr neu'r mudiad pync
Sut i gael arian
Straeon
Meet the first-time applicant using heritage to build a stronger future
Prosiectau
Cadw straeon codi pwysau Cymru
Mae'r prosiect hwn yn creu archif ddwyieithog sy'n dathlu mwy na 70 mlynedd o dreftadaeth codi pwysau Cymru.
Prosiectau
Cadw lleisiau cyn-filwyr Gwasanaeth Cenedlaethol Cymru
Mae'r prosiect hwn, sy'n cael ei redeg gan Age Cymru Dyfed, yn rhannu straeon am amser gan ddynion ledled canolbarth a gorllewin Cymru yn y Gwasanaeth Cenedlaethol.
Prosiectau
Dathlu Roy Francis: hyfforddwr chwaraeon Du cyntaf Prydain
Wedi'i eni ym Mrynmawr ym 1919, y chwaraewr rygbi'r gynghrair Roy Francis oedd yr hyfforddwr Du cyntaf mewn chwaraeon yn Prydain.
Newyddion
Cynigion arbennig a mynediad am ddim i atyniadau treftadaeth y gwanwyn yma
Newyddion
Enwebiadau ar agor ar gyfer rhestrau treftadaeth fyw y DU
Prosiectau
Cadw treftadaeth anabledd dysgu a magu plant
Mae Mencap yn casglu ac yn rhannu straeon y teuluoedd y mae wedi'u cefnogi ledled Cymru dros ei hanes 80 mlynedd.
Newyddion
Cofrestrwch eich prosiect ar gyfer Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2026
Prosiectau
Rhannu treftadaeth Pwylaidd Penley
Mae cymuned Pwylaidd Penley yn adrodd hanes bywyd ym mhentref Gogledd Cymru.
Prosiectau
Dathlu 60 mlynedd o wirfoddoli myfyrwyr yn Abertawe
Mae'r prosiect hwn yn dal a rhannu hanes grŵp myfyrwyr sy'n gwirfoddoli i dynnu sylw at y gwahaniaeth maen nhw wedi'i wneud dros y degawdau.
Prosiectau
Adeiladu sector treftadaeth fwy gwydn i Gymru
Mae prosiect ‘Treftadaeth Ymlaen’ Celfyddydau & Busnes Cymru yn helpu sefydliadau treftadaeth o bob maint i gael gafael ar y sgiliau, y wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen i ffynnu.
Newyddion
Cefnogi treftadaeth Gymreig yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Prosiectau
Dod â straeon Roma yn fyw yng Nghasnewydd, De Cymru
Bwriad prosiect ‘Roma Casnewydd, De Cymru’ yw cofnodi a rhannu straeon personol, diwylliant a threftadaeth cymuned Roma’r ardal.