Ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Dynes yn gwylio menyw iau yn glanhau antler y tu ôl i'r llenni yn Amgueddfeydd Norfolk
Glanhau antler y tu ôl i'r llen yn Amgueddfeydd Norfolk
Mae sicrhau bod pawb yn y DU yn cael cyfleoedd i archwilio, cael mynediad a mwynhau treftadaeth wedi bod wrth wraidd cenhadaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ers i ni gael ein sefydlu ym 1994.

Yn ein Fframwaith Ariannu Strategol 2019-2024, gwnaethom y daith honno'n glir. Mae cynhwysiant – 'cynnwys ystod ehangach o bobl' – yn ganlyniad gorfodol i'r holl brosiectau rydym yn eu hariannu.

Pan soniwn am gynhwysiant, rydym yn golygu mynediad cyfartal a theg i bawb, waeth beth fo'u hoedran, rhywedd, anabledd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhyw, ffydd, dosbarth neu incwm. 

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen i ni wneud mwy i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) ym mhob agwedd ar ein sefydliad a'i waith. Mae sicrhau newid yn broses barhaus. Rydym yn gwrando ac yn dysgu i helpu i yrru'r newid rydym am ei weld.

Ar y dudalen hon rydym yn rhannu ein hymrwymiad i'r gwaith hwnnw a'n camau gweithredu i'w ddatblygu. 

Merched ifanc yn y coed
Merched ifanc ym mhrosiect treftadaeth naturiol SHEROES. Credyd: Wayfinding

Hub

Treftadaeth gynhwysol

Mae cynhwysiant yn ymwneud â chymryd camau i sicrhau bod cymdeithas gyfoes yn y DU yn cael ei chynrychioli'n well yn eich prosiect treftadaeth.
Pedwar o bobl yn eistedd gyda gwaith celf mawr y tu ôl iddynt
Yn The Painted Hall, Llundain

Basic Page

Ein Gwerthoedd a'n Hymddygiad

Ein Gwerthoedd a'n Hymddygiad yw'r sylfaen ar gyfer adeiladu llwyddiant i'n pobl, ein cymunedau a'n treftadaeth.