Ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Dynes yn gwylio menyw iau yn glanhau antler y tu ôl i'r llenni yn Amgueddfeydd Norfolk
Glanhau antler y tu ôl i'r llen yn Amgueddfeydd Norfolk
Mae sicrhau bod pawb yn y DU yn cael cyfleoedd i archwilio, cael mynediad a mwynhau treftadaeth wedi bod wrth wraidd cenhadaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ers i ni gael ein sefydlu ym 1994.

Yn ein Fframwaith Ariannu Strategol 2019-2024, gwnaethom y daith honno'n glir. Mae cynhwysiant – 'cynnwys ystod ehangach o bobl' – yn ganlyniad gorfodol i'r holl brosiectau rydym yn eu hariannu.

Pan soniwn am gynhwysiant, rydym yn golygu mynediad cyfartal a theg i bawb, waeth beth fo'u hoedran, rhywedd, anabledd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhyw, ffydd, dosbarth neu incwm. 

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen i ni wneud mwy i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) ym mhob agwedd ar ein sefydliad a'i waith. Mae sicrhau newid yn broses barhaus. Rydym yn gwrando ac yn dysgu i helpu i yrru'r newid rydym am ei weld.

Ar y dudalen hon rydym yn rhannu ein hymrwymiad i'r gwaith hwnnw a'n camau gweithredu i'w ddatblygu.