Bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Mae'r Gronfa Treftadaeth wedi ymrwymo i ddatblygu cydraddoldeb o fewn y sefydliad a chwrdd â'n cyfrifoldebau statudol. Isod ac yn y PDF sydd ynghlwm rydym yn rhannu gwybodaeth am ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer 2021-2022. Mae'r gwaith hwn yn bwysig i ni ac rydym yn defnyddio gwasanaethau arbenigwr allanol, XpertHR, i gefnogi ein dadansoddiad o ddata.
Fel gyda chyflogwyr eraill, cymerir ein data o 'giplun' o'r gweithlu ym mis Mawrth 2022, yr adroddir arno blwyddyn wedyn.
Gallwch lawrlwytho adroddiadau sy'n mynd yn ôl i 2016–2017 o'r dudalen hon.
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer 2021–2022
Ein bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau yw 8.45%, gostyngiad sylweddol o 4.65% ers y cyfnod blaenorol.
Ein bwlch cyflog cymedr rhwng y rhywiau yw 12.2%, gostyngiad o 13.7% ers ein hadroddiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau diwethaf.
Mae'n bwysig cofio nad yw'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yr un fath â thâl cyfartal. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn edrych ar y gwahaniaeth mewn tâl cyfartalog rhwng yr holl ddynion a menywod yn y gweithlu. Mae tâl cyfartal yn ymwneud â gwahaniaethau mewn tâl rhwng dynion a menywod sy'n gwneud yr un gwaith neu waith cyfwerth.
Bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau y Gronfa Treftadaeth
| Blwyddyn | Bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau |
|---|---|
| 2018–2019 | 17.4% |
| 2019–2020 | 12.1% |
| 2020–2021 | 13.1% |
| 2021–2022 | 8.45% |
Cyfrifir tâl ar sail rhywedd drwy asesu gwahaniaethau rhwng chwartelau tâl rhwng dynion a menywod. Yn y Gronfa Treftadaeth mae gennym anghydbwysedd rhywedd yn ein gweithlu (mae dros 75% o'n pobl yn fenywod), sy'n cyfrannu'n fawr at ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Canran y dynion/merched yn ein gweithlu yn ôl chwartel tâl
| Chwartel | Dynion | Menywod |
|---|---|---|
| Isaf | 14.77% | 85.23% |
| Canol isaf | 25% | 75% |
| Canol uchaf | 27.27% | 72.37% |
| Uchaf | 37.93% | 62.07% |
Gwahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau rhwng dynion/menywod yn ôl chwartel tâl
| Chwartel | Gwahaniaeth | Dynion/menywod yn derbyn llai |
|---|---|---|
| Isaf | 0% | - |
| Canol isaf | 5.06% | Dynion |
| Canol uchaf | 0.3% | Dynion |
| Uchaf | 1% | Menywod |
Data pellach
Ceir mwy o fanylion am y data a gasglwyd gennym, a sut y defnyddir cyfartaleddau canolrifol a chymedr i fesur y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, yn y PDF 2021–2022 ar y dudalen hon.
Ymdrin â'n bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Rydym yn cydnabod na ddylai fod gennym fwlch cyflog rhwng y rhywiau a'n bod yn ymrwymedig i archwilio, dadansoddi a thaclo'r ffactorau niferus sy'n ei achosi.
Ers ein hadroddiad diwethaf - ochr yn ochr ag amrywiaeth o newidiadau fel rhan o'n gwaith ehangach i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad – rydym wedi:
- ffocysu ein dyfarniad cyflog 2021–2022 i gefnogi dilyniant o ran tâl, yn enwedig i unigolion ar chwartelau tâl is ac mewn amrediadau is
- penodi swydd newydd Arweinydd Cydraddoldeb a Diwylliant y Gweithlu i siapio a gyrru ein gweithredoedd yn well
Yn y flwyddyn i ddod, byddwn yn ceisio lleihau ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau ymhellach drwy flaenoriaethu:
- creu gweithgor bwlch cyflog rhwng y rhywiau newydd i fynd ati i nodi, dadansoddi, deall a thaclo ffactorau sy'n achosi gwahaniaethau cyflog
- yn amodol ar gyfyngiadau tâl y sector cyhoeddus, parhau i ffocysu dyfarniadau cyflog yn y dyfodol i gefnogi ein pobl ar chwartelau is ac mewn amrediadau cyflog is
- parhau i ddadansoddi data'r gweithlu'n rheolaidd er mwyn helpu i wella ein gwaith monitro a gwneud penderfyniadau