Rheoli cymhorthdal
Rydym yn gorff cyhoeddus ac yn ariannwr grant penodedig mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU.
Fel Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau’r Loteri Genedlaethol o £10,000 i £10miliwn a mwy, gan ariannu prosiectau sy'n cynnal ac yn trawsnewid treftadaeth y DU.
Fel y Gronfa Treftadaeth, rydym yn dosbarthu arian nad yw'n dod o'r Loteri, gan gynnwys cymorth grant / cyllid gan y llywodraeth a benthyciadau, i sefydliadau treftadaeth.
Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022
Ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 2021, mae llywodraeth y DU wedi deddfu deddfwriaeth ddomestig i ddisodli cyfraith yr UE: Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 ('y Ddeddf’).
Nod y Ddeddf yw rheoli darpariaeth cymorthdaliadau - mae'n atal cystadleuaeth annheg neu effeithiau ar fasnachu a buddsoddi. Gallai hyn ddigwydd os byddai sefydliad yn derbyn cyllid o adnoddau gwladol (sy'n cynnwys ein harian ni, gan fod ein cronfeydd yn arian cyhoeddus) tra y byddai sefydliad arall yn defnyddio ei gyllid preifat ei hun yn unig.
Dylech ymgyfarwyddo â gofynion y drefn rheoli cymorthdaliadau newydd wrth ystyried gwneud cais i ni.
Bydd y Ddeddf mewn grym yn llawn o 4 Ionawr 2023. Mae'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), wedi cyhoeddi arweiniad drafft ar weithrediad y Ddeddf. Mae'r arweiniad hwn yn helpu awdurdodau cyhoeddus, fel y Gronfa Treftadaeth, i ddyfarnu cymorthdaliadau mewn ffordd sy'n isafu unrhyw effeithiau negyddol ar gystadleuaeth a buddsoddiad, yn ogystal â hyrwyddo'r defnydd effeithiol ac effeithlon o arian cyhoeddus. Caniateir y cymorthdaliadau hyn ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y Ddeddf.
Mae'n rhaid i gymorthdaliadau uwchben trothwy ariannol penodol (£100,000 ar hyn o bryd) gael eu cyhoeddi ar ein gwefan ein hunain, ac ar gronfa ddata a gedwir gan BEIS.
Mae'n bosib y bydd grantiau llai y tu hwnt i gwmpas y Ddeddf os nad ystyrir eu bod yn gymhorthdal. Er enghraifft, gan eu bod yn annhebygol o gael effaith ar fasnachu neu fuddsoddi.
Beth yw cymhorthdal?
Mae pedair nodwedd allweddol y mae'n rhaid iddynt oll fod yn bresennol er mwyn i ariannu gael ei ystyried yn gymhorthdal:
- cyfraniad ariannol
- wedi’i roi gan awdurdod cyhoeddus o gyllid cyhoeddus
- wedi’i roi i sefydliad, gan roi mantais economaidd iddynt nad yw ar gael ar delerau'r farchnad
- yn effeithio ar, neu a allai effeithio ar, gystadleuaeth neu fuddsoddiad o fewn y DU, neu fasnachu neu fuddsoddiad rhwng y DU a gwlad neu diriogaeth y tu allan i'r DU
Os yw ein hariannu'n cyfateb i bob un o'r pedair nodwedd allweddol, mae hynny'n golygu ei fod yn gymhorthdal. Er mwyn i gymhorthdal gael ei ganiatáu mae'n rhaid iddo gydymffurfio â'r saith egwyddor gyffredin fel y nodir ar wefan llywodraeth y DU.
Cyfraith Cymorth Gwladol yr UE
Bydd cyfraith cymorth gwladol flaenorol yr UE yn dal i fod yn berthnasol i rai grantiau a ddyfarnwyd cyn 31 Rhagfyr 2020, ac mae'n bosib y bydd rhai ystyriaethau ychwanegol yng Ngogledd Iwerddon.
Gellir dod o hyd i arweiniad cymorth gwladol y DU ar wefan llywodraeth y DU.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â dyfarniadau unigol, 2024
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i University of Kent
Dyddiad y grant: 15 Ebrill 2024
Dyddiad dod i ben y grant: 31 Mawrth 2026
Cyfeirnod: NL-22-00047
Grantï: University of Kent
Categori buddiolwr: Menter Fawr
Swm y cymhorthdal: £3,567,400
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Gan ddefnyddio arian a godir gan y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth y DU er mwyn creu newid cadarnhaol a pharhaus ar gyfer pobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth genedlaethol, rhanbarthol a lleol y DU. Yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Dylunnir y rhaglen Menter Treftadaeth i bontio'r bwlch ariannu sy'n atal ased hanesyddol y mae angen ei atgyweirio rhag cael ei ddychwelyd i ddefnydd buddiol a masnachol. Amcan polisi cyhoeddus ein rhaglen Menter Treftadaeth yw helpu prosiectau i gyflawni twf economaidd trwy fuddsoddi mewn treftadaeth. Mae’n cefnogi sefydliadau masnachol sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol i’w helpu achub adeiladau a safleoedd hanesyddol sydd wedi’u hesgeuluso a’u dychwelyd i ddefnydd cynhyrchiol hyfyw.
Diben y cymhorthdal: Bydd University of Kent yn trawsnewid Tŷ Adran Heddlu rhestredig Gradd II Iard Longau Chatham a’r tir o’i amgylch yn hyb menter ddigidol a chreadigol ac yn gartref blaenllaw i Sefydliad Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol (iCCi) y brifysgol. Mae’r prosiect yn cefnogi agendâu strategol ar gyfer datblygu sgiliau a thwf economaidd fel rhan o Lefelu i Fyny (LUF1) yn ogystal ag ymgysylltu â threftadaeth.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a chyfarfod penderfynu Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol.
Crynodeb o'r prosiect: Bydd prosiect The Docking Station yn darparu adnewyddiad o ansawdd uchel i Dŷ Adran Heddlu rhestredig Gradd II, gan gynnwys adfer y cwpola a gwelliannau mynediad i ddarparu man arddangos a man cyfarfod y gellir ei logi; caffi; stiwdios ôl-gynhyrchu; swyddfeydd; mannau cydweithio a chymunedol. Mae’n rhan allweddol o gynlluniau adfywio ar gyfer y safle glan dŵr hanesyddol ac yn darparu posibiliadau newydd ar gyfer pobl ifanc a chymunedau Caint a Medway.
Bydd adeilad stiwdio cynhyrchu digidol newydd yn y cefn yn dod yn brif stiwdio ar gyfer cynhyrchu rhithwir a recordio symudiad; darparu swyddfeydd cynhyrchu a mannau technegol. Ardaloedd newydd wedi'u tirlunio yn y blaen, gardd gwrt a gerddi tymhorol eraill gan gynnwys mannau cyhoeddus.
Bydd rhaglen ar gyfer trigolion lleol, teuluoedd a phlant, pobl ifanc 13-25 oed, ysgolion a cholegau, yn datblygu sgiliau digidol a chreadigrwydd yn ogystal ag archwilio treftadaeth amrywiol cymunedau’r iard longau a’r safle. Bydd Ecosystem Ddigidol Docking Station mewn tri lleoliad ym Medway a chydweithio â Tech31 Medway hefyd yn darparu mynediad ar gyfer trigolion Medway i greadigrwydd digidol.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Boston Preservation Trust Limited
Dyddiad y grant: 28 Mawrth 2024
Cyfeirnod: NL-21-00058
Grantï: Boston Preservation Trust Limited
Categori buddiolwr: Menter Fawr
Swm y cymhorthdal: £1,416,689
Dyddiad dod i ben y grant: 20 Mai 2027
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Bydd y cymhorthdal yn caniatáu i Boston Preservation Trust wneud cyfres o atgyweiriadau i Fydell House, tŷ tref rhestredig Gradd I, yn null y Frenhines Anne, sydd wedi'i leoli o fewn Ardal Gadwraeth Boston. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar dri nod: gwella mynediad, adnewyddu'r adeilad a datblygu gweithgareddau i gefnogi cynaladwyedd (gan gynnwys gweithredu lleoliad priodas a chaffi).
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli penderfynu dirprwyedig a gynullwyd yn arbennig.
Crynodeb prosiect: Mae cynllun gweithgareddau wedi'i ddatblygu i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd a datgelu hanes chwedlonol Fydell House. Cesglir hanesion llafar yn ymwneud â'r defnydd o Fydell House fel Coleg y Pererinion yn yr 20fed ganrif, a bydd sawl ystafell yn cael eu hailosod mewn gorchuddion sy'n briodol i'r cyfnod. Bydd gweithgareddau pellach yn ennyn diddordeb myfyrwyr oedran ysgol, a bydd amrywiaeth o fformatau hygyrch yn cael eu hystyried. Ymhlith y gwaith cyfalaf fydd:
- atgyweiriadau i'r adeiledd hanesyddol, gan gynnwys mowldiau a phlastr papier mâché arddull Rococo
- Bydd y landin garreg bresennol yn y brif fynedfa yn cael ei ddwyn ymlaen, a rampiau cymesurol yn cael eu hychwanegu bob ochr. Bydd hygyrchedd y safle'n cael ei wella ar hyd y llawr gwaelod a bydd y llwybrau gardd yn cael eu lledu.
- gwelliannau i gyfleusterau toiled a'r gegin ar y safle
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo
Dyddiad y grant: 28 Mawrth 2024
Dyddiad dod i ben y grant: 21 Mawrth 2025
Cyfeirnod: HG-17-01715
Grantï: Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo
Categori buddiolwr: Bach
Swm y cymhorthdal: Cynnydd yn y grant o £2,427,686; cyfanswm grant o £7,535,816
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ydyw sy’n canolbwyntio ar warchod a gwerthfawrogi treftadaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol, cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi gwell gynhwysiad, amrywiaeth, mynediad, a chyfranogiad mewn treftadaeth, a chryfhau treftadaeth i fod yn addasol ac yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau, oll yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Nod Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo yw adeiladu ymdeimlad newydd o falchder, gobaith a chydweithrediad yn yr ardal. Maent yn parhau â’u cenhadaeth drwy:
- warchod ac ailddefnyddio adeiladau hanesyddol Brymbo yn ddetholus i ddatblygu atyniad i ymwelwyr, hyb dysgu a gofod busnes bach
- ymchwilio ymhellach i Goedwig Ffosil Brymbo, sy’n 300 miliwn mlwydd oed, gan ddehongli hanes naturiol a’i effaith ar ddatblygiad diwydiant
- dathlu’r bobl, y sgiliau a’r agweddau sydd wedi cyfrannu at le Brymbo yn y byd
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.
Crynodeb prosiect:
Derbyniodd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo grant cyflwyno o £4,147,200 ym mis Mawrth 2020. Mae’r cynnydd hwn yn bwydo i mewn i nod y prosiect, sef:
- sefydlogi adeileddau allweddol gan gynnwys y ddau gwpola o'r 20fed ganrif a'r wal lwytho o'r 19eg ganrif
- sefydlogi/adnewyddu Tŷ’r Asiant, Glofa Blast a chyfres o adeiladau gwaith haearn gan gynnwys y Gweithdy Patrwm ac Asiedydd, y Ffowndri a'r Tŷ Castio
- adfer a gosod y Siop Beiriannau fel canolfan groeso a dehongli i ymwelwyr
- darparu amgylchedd gwarchodedig ar gyfer cloddio'r goedwig ffosil
- dehongliad o stori Brymbo
- rhaglen o weithgareddau ymgysylltu
Gwybodaeth rheoli cymhorthdal mewn perthynas â grant i Pailton Parish Council
Dyddiad y grant: 28 Mawrth 2024
Dyddiad dod i ben y grant: 30 Medi 2026
Cyfeirnod: NL-21-00042, Save the White Lion
Grantï: Pailton Parish Council
Categori buddiolwr: Micro
Swm y cymhorthdal: £2,040,170
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ydyw sy’n canolbwyntio ar warchod a gwerthfawrogi treftadaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol, cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi gwell gynhwysiad, amrywiaeth, mynediad, a chyfranogiad mewn treftadaeth, a chryfhau treftadaeth i fod yn addasol ac yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau, oll yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Prosiect Menter Treftadaeth a arweinir gan y gymuned i greu tafarn gymunedol yw hwn. Bydd gwaith adnewyddu sympathetig yn creu safle cwbl hygyrch ac yn gwella cynaladwyedd amgylcheddol.
Bydd y prosiect yn atgyweirio ac yn ailddefnyddio hen dafarn goetsis restredig Gradd II sydd mewn perygl, gan ateb y galw am amwynderau lleol a chreu cyfleoedd cyflogaeth.
Mae’r datganiad gweithgareddau'n cyflwyno canlyniadau cryf i bobl a bydd yn hwyluso cysylltiad rhwng cenedlaethau, gan leihau arwahanrwydd gwledig.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.
Crynodeb prosiect:
Mae'r White Lion Inn yn gyn dafarn goetsis restredig Gradd II, wedi'i lleoli ym mhentref Pailton, Swydd Warwick. Yn 2019, sicrhaodd Cyngor Plwyf Pailton fenthyciad gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus i brynu’r safle gyda’r nod o ddod ag ef yn ôl i ddefnydd cymunedol (mae wedi bod yn wag ers 2014).
Bydd y prosiect Menter Treftadaeth hwn yn adfer y White Lion ac yn darparu cyfleusterau ar gyfer ystod o ddefnyddiau cymunedol cyfoes. Bydd y dafarn yn cael ei hadfer, gyda chyfleusterau bwyty a chaffi ar y llawr gwaelod, a llety dros nos ar y lloriau uchaf. Mae'r defnyddiau newydd yn cynnwys:
- siop a Swyddfa Bost
- mannau cyfarfod cymunedol
- unedau menter
- gerddi cymunedol
- rhannau allanol newydd eu tirlunio i gynnal marchnadoedd a gweithgareddau i deuluoedd
Amserlen gyflwyno: Mai 2024 i Medi 2026
Gwaith cyfalaf:
- gwaith cadwraeth ac adfer llawn ar yr adeiladau rhestredig, gan ymgorffori technolegau cynaliadwy ar gyfer gweithredu'n garbon niwtral
- dymchwel bloc modern sy'n amharu ar yr arwyddocâd treftadaeth
- adnewyddu'r llawr gwaelod i greu tafarn drwyddedig, bwyty a chaffi gyda chyfleusterau cegin
- gwaith adnewyddu ar yr ail a'r trydydd llawr i greu pum ystafell ensuite ac un swît ar gyfer llety dros nos
- adfer y bragdy hanesyddol i greu siop gymunedol ac unedau menter ar gyfer cynhyrchwyr crefftus / busnesau lleol
- rhannau allanol wedi'u tirlunio i greu gerddi cymunedol, logia gardd a gofod ar gyfer digwyddiadau / marchnadoedd
- mynediad llawn i'r anabl
Ymysg y gweithgareddau fydd:
- ymchwilio, dehongli ac arddangos hanes y White Lion (gan gynnwys ffotograffau ac arteffactau)
- arlunydd lleol i ddylunio arwyddion ac addurniadau traddodiadol
- hybiau rhannu cof i gyflwyno sesiynau hel atgofion grŵp a chyfweliadau hanes llafar unigol
- adnoddau Swyddfa Bost rhyngweithiol, sydd wedi'u datblygu gyda theuluoedd lleol a'u cefnogi gan yr Amgueddfa Bost, i'w creu gan grefftwyr lleol
- ymchwilwyr gwirfoddol i ddatblygu adnoddau dehongli ac ar-lein, gyda chefnogaeth gan Swyddfa Cofnodion y Sir, y Gymdeithas Hanes Tafarndai a Chymdeithas Oddfellows
- Cyfres o ddarlithoedd What Made Pailton?
- datblygu gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol y White Lion
- marchnadoedd cynhyrchwyr a chrefftau lleol
- gemau a thwrnameintiau tafarn traddodiadol
- timau garddio cymunedol
- dathliadau lansio
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Quentin Blake Centre for Illustration
Dyddiad y grant: 25 Mawrth 2024
Dyddiad dod i ben y grant: 31 Ionawr 2028
Cyfeirnod: NL-22-00065
Grantï: Quentin Blake Centre for Illustration
Categori buddiolwr: Bach
Swm y cymhorthdal: dyfarniad grant o £3,750,000
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ydyw sy’n canolbwyntio ar warchod a gwerthfawrogi treftadaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol, cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi gwell gynhwysiad, amrywiaeth, mynediad, a chyfranogiad mewn treftadaeth, a chryfhau treftadaeth i fod yn addasol ac yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau, oll yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Bydd y prosiect hwn yn creu canolfan barhaol ar gyfer darlunio a chartref newydd i arddangos Archif Quentin Blake, ar safle New River Head (0.34 hectar) yn Clerkenwell, sy’n cynnwys pedwar adeilad (944 metr sgwâr) ac amrywiaeth o ofodau, ynghyd a rhaglenni ymgysylltu â’r gymuned.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.
Crynodeb prosiect: Bydd y prosiect hwn yn creu canolfan barhaol ar gyfer darlunio a chartref newydd i arddangos Archif Quentin Blake, ar safle New River Head (0.34 hectar) yn Clerkenwell, sy’n cynnwys pedwar adeilad (944 metr sgwâr) ac amrywiaeth o ofodau, ynghyd a rhaglenni ymgysylltu â’r gymuned.
Mae'r gwaith cyfalaf yn cynnwys adfer ac adnewyddu adeiladau ac estyniad wedi'i adeiladu o'r newydd. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys:
- dehongli treftadaeth gymunedol
- dehongli digidol
- rhaglen deithiol
- cyd-ddatblygu prosiect treftadaeth gymunedol gydag oedolion hŷn sydd mewn perygl o fod yn ynysig
- gweithdai ysgolion
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- dysgu oedolion
- hyfforddeiaethau/prentisiaethau
- rhaglen wirfoddoli
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i The Churches Conservation Trust
Dyddiad y grant: 14 Mawrth 2024
Dyddiad dod i ben y grant: 30 Mawrth 2025
Cyfeirnod: HE-13-00951
Grantï: The Churches Conservation Trust
Categori buddiolwr: Canolig
Swm y cymhorthdal: Cynnydd yn y grant o £373,422.45
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ydyw sy’n canolbwyntio ar warchod a gwerthfawrogi treftadaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol, cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi gwell gynhwysiad, amrywiaeth, mynediad, a chyfranogiad mewn treftadaeth, a chryfhau treftadaeth i fod yn addasol ac yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau, oll yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Mae'r Churches Conservation Trust wedi cyflwyno costau diwygiedig a chais am gynnydd mewn ariannu mewn cam hwyr o gyflwyno'r prosiect. Mae’r cynnydd yn deillio o heriau a chostau annisgwyl wrth atgyweirio’r adeilad ac ymdrin â’r darganfyddiadau archeolegol annisgwyl, sicrhau gweithredwr y dafarn a darparu ar gyfer eitemau ychwanegol o waith.
Prif ffocws y prosiect yw adfer tafarn yr Old Black Lion, sy'n wag ac mewn perygl, a'i hadeiladau allanol. Saif y rhain yng nghanol Northampton gerllaw Eglwys St Peter's, eglwys segur yng ngofal The Churches Conservation Trust.
Bydd yr adeilad yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau a dehongliad fel rhan o Borth Treftadaeth Northampton. Byddai incwm dros ben yn cyfrannu at gynaladwyedd St Peter's gan ddarparu cyfleusterau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.
Crynodeb prosiect:
Mae'r Old Black Lion yn Rhestredig Gradd II ac yn ffinio ag Eglwys St Peter's Rhestredig Gradd I ac olion cyfadeilad palas Sacsonaidd, sy'n Heneb Gofrestredig.
Bydd yr Old Black Lion yn cael ei atgyweirio a'i adnewyddu fel busnes newydd, lleoliad lletygarwch a chyrchfan treftadaeth hyfyw trwy arian y prosiect.
Mae partner tafarn gweithredol, Phipps Brewery, cwmni lleol â gwreiddiau yn Northampton, wedi cytuno ar benawdau telerau drafft. Bydd Central Council for Bellringers yn rhentu lle yn adeilad y stablau o fewn cwrt y dafarn.
Gwybodaeth rheoli cymhorthdal mewn perthynas â grant i Gyngor Dinas Plymouth
Dyddiad y grant: 14 Mawrth 2024
Dyddiad dod i ben y grant: 31 Mawrth 2029
Cyfeirnod: OL-19-03781
Grantï: Cyngor Dinas Plymouth
Categori buddiolwr: Menter fawr
Swm y cymhorthdal: £4,100,000
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Mae Grantiau Gorwelion Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn rhaglen grant wedi’i thargedu ar gyfer prosiectau treftadaeth trawsnewidiol: “Cefnogi syniadau mawr, datgloi posibiliadau". Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy’n drawsnewidiol, yn arloesol ac yn gydweithredol sy’n dod â newidiadau a buddion cadarnhaol i bobl a lleoedd ac sy’n chwyldroi treftadaeth y DU. Yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Pwrpas y cymhorthdal: Bydd Cyngor Dinas Plymouth yn gweithio gyda phartneriaid i greu Parc Morol Cenedlaethol cyntaf y DU, cyfle trawsnewidiol unwaith mewn oes i Plymouth. Bydd yn creu glasbrint a fydd yn fodel arloesol ar gyfer Parciau Morol Cenedlaethol. Mae Plymouth Sound yn dirwedd naturiol a threftadaeth heb ei hail sydd wedi chwarae rhan fawr yn y seice cenedlaethol, gan siapio ein hanes ers cannoedd o flynyddoedd. Tirwedd unigryw sydd, ers yr Oes Efydd, wedi bod yn dyst i rai o fomentau mwyaf arwyddocaol yr ymdrech ddynol.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn sefydliadau nid-er-elw.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a chyfarfod penderfynu Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol.
Crynodeb prosiect:
Bydd Parc Morol Cenedlaethol cyntaf y DU yn cynnwys tri ‘Phorth’ ar raddfa fawr:
- cyfleusterau hygyrch newydd ar gyfer defnyddwyr dŵr yn Tinside Lido a blaendraeth Hoe
- gwelliannau ar draws Penrhyn Mount Batten, gan wella'r dirwedd a'i threftadaeth
- gwaith cadwraeth ar The Garden Battery ym Mount Edgcumbe i greu man cyhoeddus newydd
Bydd y Parc Morol Cenedlaethol hefyd yn cynnwys:
- dau brosiect 'Pwyntiau Mynediad Cymunedol'; un yn Ernesettle Creek a’r llall yn Firestone Bay i wella mynediad ac ehangu cyfranogiad mewn ardaloedd sy’n bwysig i bobl leol
- pedwar prosiect 'Hwb Natur' penodol i helpu cefnogi adferiad rhywogaethau a chynefinoedd yn Plymouth Sound
- cynllun gweithgarwch cynhwysol a fydd yn gyrru rhaglen dinasyddiaeth forol, gan ddarparu cyfleoedd amrywiol i ymgysylltu â’r Parc, ei ddarganfod a dysgu mwy amdano a chefnogi gweithgareddau i helpu ei wella a gofalu amdano
- 'Parc Digidol' i ddod â rhyfeddodau'r Parc yn fyw a galluogi pawb i brofi'r trysorau o dan y tonnau
- Dehongli i adrodd storïau'r Parc, o'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Bydd nodweddion wedi'u lleoli yn y prif Byrth ac mewn ardaloedd i ffwrdd o'r glannau, gan gysylltu storïau Plymouth Sound ar draws y ddinas.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Urras nan Tursachan
Dyddiad y grant: 11 Mawrth 2024
Dyddiad dod i ben y grant: 21 Awst 2027
Cyfeirnod: NL-21-00130
Grantï: Urras nan Tursachan
Categori buddiolwr: Micro
Swm y cymhorthdal: £2,966,731
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ydyw sy’n canolbwyntio ar warchod a gwerthfawrogi treftadaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol, cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi gwell gynhwysiad, amrywiaeth, mynediad, a chyfranogiad mewn treftadaeth, a chryfhau treftadaeth i fod yn addasol ac yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau, oll yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Bydd Urras nan Tursachan yn ailddatblygu ac yn ehangu'r Ganolfan Ymwelwyr Calanais hen ffasiwn i greu profiad hygyrch a chyfoethog i ymwelwyr sy’n annog dealltwriaeth ddyfnach o Feini Hirion Calanais a’u harwyddocâd i Ynysoedd y Gorllewin. Mae'r prosiect yn cyd-fynd â Dualchas do Dhaoine, a gynhyrchwyd fel rhan o'r Cynllun Great Place a gefnogwyd gan y Gronfa Treftadaeth. Mae’r strategaeth hon yn nodi dwy elfen allweddol ar gyfer gweithgarwch yn y dyfodol:
- arloesi a datblygiadau sy'n canolbwyntio ar entrepreneuriaeth
- cynaladwyedd ariannol drwy fuddsoddiadau sy’n cefnogi anghenion tymor hwy
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig.
Crynodeb prosiect:
Bydd Urras nan Tursachan yn ailddatblygu ac yn ehangu'r Ganolfan Ymwelwyr Calanais hen ffasiwn i greu profiad hygyrch a chyfoethog i ymwelwyr sy’n annog dealltwriaeth ddyfnach o Feini Hirion Calanais a’u harwyddocâd i Ynysoedd y Gorllewin.
Ar yr un pryd, bydd Urras nan Tursachan yn ffurfio cytundeb gyda Historic Environment Scotland i reoli mynediad i'r safle a sicrhau gwell rheolaeth a chynnal a chadw drwy gynllun godi tâl a rennir. Bydd y rhan fwyaf o'r arian o'r cytundeb hwn yn cael ei ail-fuddsoddi yn yr Hebrides Allanol.
Lleolir Canolfan Ymwelwyr Calanais a'r meini hirion cyfagos ar arfordir gorllewinol Ynys Lewis.
Bydd y rhaglen tair blynedd yn cynnwys:
Gwaith cyfalaf
- Bydd y ganolfan ymwelwyr grom bresennol a adeiladwyd ym 1995 yn cael ei hadnewyddu'n llwyr a'i hehangu i fod yn ofod dehongli rhyngweithiol.
- Bydd estyniad i'r prif adeilad yn darparu cyfleusterau ar gyfer grwpiau mwy a digwyddiadau cymunedol.
- Bydd y ffermdy cyfagos o'r 19eg ganrif yn cael ei adnewyddu i gynnwys cegin, ardal gaffi mwy, ardal fanwerthu well a gofod swyddfa pwrpasol.
- Bydd gwaith tirlunio sylweddol yn cael ei wneud o amgylch y ganolfan ymwelwyr i wella hygyrchedd, darparu maes parcio a lle i fysiau.
- Bydd mynediad i'r cerrig yn cael ei wella drwy'r llwybrau.
Dehongli
- Bydd gofod dehongli yn cynyddu o 38 i 170 metr sgwâr.
Ymysg y gweithgareddau fydd:
- Digwyddiadau blynyddol sy'n cysylltu â'r cyhydnos a'r heuldro, yr Ŵyl Awyr Dywyll a Gŵyl Golau'r Flwyddyn Newydd. Bydd digwyddiadau partneriaeth cysylltiedig gydag Outer Hebrides Tourism ac An Lanntair yn cael eu cyflwyno gan gynnwys preswyliaethau, arddangosfeydd, digwyddiadau adrodd storïau a darnau awyr agored.
- Dau ddigwyddiad blaenllaw: digwyddiad lansio a digwyddiad Lunar Standstill yn 2025.
- Mae'r gweithgareddau a dargedir gan gynnwys prosiect celf i orchuddio'r ffensys heras, teithiau hetiau caled, gweithdai sgiliau traddodiadol, gweithdai sy'n canolbwyntio ar natur, cystadleuaeth ysgolion ac arddangosfa cyflenwyr crefftau chwarterol.
- Mewn cydweithrediad ag aelodau o Outer Hebrides Heritage Forum, bydd cyfres o deithiau cerdded go iawn a rhithwir.
- Bydd y gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar archaeoleg yn cynnwys gweithdai sgiliau, ysgol haf ac ailsefydlu'r Clwb Archaeolegwyr Ifanc.
- Caiff gwefan newydd ei chreu gyda gweithgareddau datblygu cynnwys gydag ysgolion lleol a sefydliadau treftadaeth.
Y cynulleidfaoedd targed ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned yw:
- y gymuned leol
- plant oedran ysgol a theuluoedd
- grwpiau diddordeb arbennig
- ymwelwyr o'r tu allan i'r ynys yn ymweld â theulu neu ffrindiau
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i The Worcestershire Building Preservation Trust Ltd
Dyddiad y grant: 30 Ionawr 2024
Dyddiad dod i ben y grant: 31 Awst 2026
Cyfeirnod: HE-19-03540
Grantï: The Worcestershire Building Preservation Trust Ltd
Categori buddiolwr: Bach
Swm y cymhorthdal: £2,328,595.00
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ydyw sy’n canolbwyntio ar warchod a gwerthfawrogi treftadaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol, cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi gwell gynhwysiad, amrywiaeth, mynediad, a chyfranogiad mewn treftadaeth, a chryfhau treftadaeth i fod yn addasol ac yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau, oll yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Mae Worcestershire Building Preservation Trust (WBPT) mewn partneriaeth â Chyngor Dosbarth Wychavon (WDC) wedi derbyn ariannu Menter Treftadaeth i atgyweirio ac addasu'n sensitif Ffermdy Willow Court Gradd II adfeiliedig, ger Droitwich, yn chwe chartref modern fforddiadwy y gellir eu rhentu. Ar ôl ei gwblhau bydd yr adeilad yn cael ei lesio i Platform Housing Group (PHG), darparwr tai cymdeithasol, a nhw fydd y landlord.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig.
Crynodeb prosiect:
Mae Worcestershire Building Preservation Trust (WBPT) mewn partneriaeth â Chyngor Dosbarth Wychavon (WDC) yn ymgeisio am ariannu Menter Treftadaeth i atgyweirio ac addasu'n sensitif Ffermdy Willow Court Gradd II adfeiliedig, ger Droitwich, yn chwe chartref modern fforddiadwy y gellir eu rhentu. Ar ôl ei gwblhau bydd yr adeilad yn cael ei lesio i Platform Housing Group (PHG), darparwr tai cymdeithasol, a nhw fydd y landlord.
Bydd cynllun adeileddol presennol yr adeilad o dri fflat gyda mynedfeydd annibynnol ar y llawr gwaelod, dwy fflat ar y llawr cyntaf ac un uned ar yr ail lawr yn cael ei gadw. Bydd yr estyniadau o'r 20fed ganrif yn cael eu hailadeiladu i gynnwys chwe fflat un ystafell wely modern (pum fflat sy'n addas ar gyfer dau berson ac un fflat sy'n addas ar gyfer un person).
Buddsoddiad cyfalaf:
- atgyweiriadau adeileddol i'r adeileddau wal wedi'u sefydlogi
- atgyweirio'r waliau gwaith maen a fframiau pren allanol presennol
- ffurfio adeileddau llawr mewnol newydd a waliau pared cysylltiedig a thrwsio'r rhai presennol
- ffurfio adeileddau to newydd a rhai wedi'u hatgyweirio, gan gynnwys inswleiddio a gorffeniadau teils o waith llaw i gyd-fynd ag adeiladwaith yr estyniadau (amnewid) presennol o'r 20fed ganrif
- ffenestri, drysau a gwaith asiedydd newydd drwy gydol yr adeilad, gan gynnwys yr holl waith haearn cysylltiedig
- Gosod gwasanaethau mecanyddol a thrydanol newydd
- cysylltiadau dŵr a draeniau o dan y ddaear
- ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd
- tirlunio allanol i gynnwys ffordd fynediad newydd a maes parcio, gyda darpariaeth gwefru cerbydau trydan
Mae datganiad gweithgareddau wedi’i gynhyrchu sy’n amlinellu’r allbynnau ffisegol a ganlyn sydd i'w darparu gyda chymorth ariannol:
- bydd y prif gontractwyr yn cyflogi dau brentis ac yn eu hyfforddi mewn sgiliau treftadaeth
- ffilm sy'n olrhain y broses adfer
- datblygu llwyfan ddigidol i rannu adferiad a datblygiad hanesyddol yr adeilad gan ddefnyddio mapiau
- creu hysbysfyrddau ar gyfer y sgaffald
- creu taith rithwir o gwmpas y safle a fydd yn cael ei huwchlwytho i'r wefan
- creu tapestri cymunedol
- pecynnau addysg pwrpasol ac ymweliadau rheolaidd gan ysgolion
- cynllun bwrsariaeth hyfforddiant treftadaeth myfyrwyr ac ariannu dau brentis
- Bydd atgofion trigolion presennol yn cael eu casglu a'u huwchlwytho i'r wefan, ynghyd â sgyrsiau, teithiau, a gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth y safle.
- Bydd penseiri'n cyflwyno dwy sesiwn arfer gorau ar y broses adfer ac ailddefnyddio adeiladau rhestredig fel tai fforddiadwy
- sesiynau hyfforddi blasu sgiliau treftadaeth mewn gwaith saer, gwaith maen a phwyntio (morter calch), plannu traddodiadol a chyfnewid hadau
- Cynhyrchu canllawiau defnyddiwr cartref newydd
Gwybodaeth rheoli cymhorthdal mewn perthynas â grant i New Lanark Trust
Dyddiad y grant: 10 Ionawr 2024
Dyddiad dod i ben y grant: 31 Rhagfyr 2024
Cyfeirnod: MF-22-00097
Grantï: Ymddiriedolaeth New Lanark
Categori buddiolwr: Bach
Swm y cymhorthdal: £2,395,140
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980.
Amcan polisi: Diogelu asedau treftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol yn Lloegr a oedd mewn perygl o ganlyniad uniongyrchol i'r coronafeirws (COVID-19).
Diben y cymhorthdal: Rhaglen waith i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o faterion cynnal a chadw ac atgyweirio adweithiol ar gyfer y safle Treftadaeth y Byd UNESCO hwn, sydd wedi gwaethygu yn ystod y pandemig oherwydd anallu’r sefydliad i gynhyrchu incwm digonol i dalu costau.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.
Crynodeb prosiect: Bydd y grant yn ariannu rhaglen waith i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw a materion atgyweirio adweithiol yn ei safle Treftadaeth y Byd UNESCO, sydd wedi'u gwaethygu gan effaith y pandemig ar allu'r Ymddiriedolaeth i gynhyrchu incwm.
Mae'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw ar gyfer 2022/23 wedi'i gynnwys ynghyd ag atgyweiriadau i'r Feithrinfa a'r Adeilad Newydd, Adeilad yr Ysgol a thoeon y Rhes Hir yn unol â'u cynllun cynnal a chadw â blaenoriaeth.
Darperir trosolwg o’r safle gan bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth New Lanark, Cyngor De Swydd Lanark a Historic Environment Scotland, sy’n galluogi’r partneriaid i ddod â’u meysydd amrywiol o arbenigedd i gefnogi’r safle dros y tymor hir.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd Cyf
Dyddiad y grant: 9 Ionawr 2024
Dyddiad dod i ben y grant: 1 Mehefin 2025
Cyfeirnod: NM-23-00837
Grantï: Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd Cyf
Categori buddiolwr: Bach
Swm y cymhorthdal: £249,295
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ydyw sy’n canolbwyntio ar warchod a gwerthfawrogi treftadaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol, cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi gwell gynhwysiad, amrywiaeth, mynediad, a chyfranogiad mewn treftadaeth, a chryfhau treftadaeth i fod yn addasol ac yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau, oll yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Mae Theatr Clwyd yn adeilad rhestredig Gradd II, a adeiladwyd ym 1976 gan Gyngor Sir Clwyd i wasanaethu’r rhanbarth gyda theatr a chelfyddydau o safon fyd-eang. Ers ei hagor, mae’r theatr wedi gweld perfformiadau o ddramâu clasurol Cymreig fel cynhyrchiad 2014 o Under Milk Wood i nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Defnyddiwyd rhan o’r adeilad fel y stiwdios darlledu gwreiddiol ITV Wales and West, ac mae’n cynnwys “y ffrâm paent weithiol wreiddiol”, “teils acwstig prin o waith llaw yn y prif awditoriwm” a “theils blaen tŷ o’r 1970au”.
Bydd y prosiect hwn yn gwella hygyrchedd Theatr Clwyd, gan alluogi i amrywiaeth ehangach o bobl ymgysylltu â threftadaeth yr adeilad. Mae treftadaeth adeiledig ac anniriaethol mewn perygl, felly mae angen y prosiect.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.
Crynodeb prosiect:
Mae'r prosiect hwn yn rhan o brosiect ehangach o waith adnewyddu cyfalaf i adeilad Theatr Clwyd. Mae dwy brif elfen i’r agwedd ar y prosiect a ariennir gennym ni:
Gwaith adnewyddu cyfalaf – Bydd holl ardaloedd cyhoeddus adeilad y theatr yn cael eu gwneud yn gwbl hygyrch a chynhwysol, gyda mynediad cynhwysfawr ar gyfer cadeiriau olwyn a bygîs a bydd pum lifft newydd yn cael eu gosod i alluogi ymwelwyr i gyrchu pob lefel, bydd toiledau, cawodydd ac ystafelloedd newid hygyrch yn ogystal â phwyntiau gwefru cadeiriau olwyn, a dolenni clyw.
Gweithgareddau – Cyflogi dau ymarferwr ymchwil i ymchwilio a chasglu storïau gan y cyhoedd yn ymwneud â nodweddion treftadaeth gweledol yr adeilad. Bydd yr ymchwil hon wedyn yn llywio’r gwaith o gynhyrchu drama radio 10 munud a datblygu llwybr treftadaeth drwy’r adeilad, gan amlygu storïau ac asedau treftadaeth y theatr. Bydd y llwybr treftadaeth yn hunan-dywysedig, gyda deunyddiau cysylltiedig y gellir eu casglu o'r swyddfa docynnau yn ystod oriau agor neu eu lawrlwytho'n ddigidol.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â dyfarniadau unigol, 2023
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Buxton Civic Association Ltd
Dyddiad y grant: 20 Rhagfyr 2023
Cyfeirnod: NM-23-00720
Grantï: Buxton Civic Association Ltd
Categori buddiolwr: Mentrau Bach a Chanolig eu Maint
Swm y cymhorthdal: £249,990
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Mae Buxton Civic Association (BCA) yn berchen ar ac yn rheoli 200 erw o goetir o amgylch Buxton a Poole's Cavern, ogof calchfaen naturiol dwy filiwn o flynyddoedd oed. Bydd y prosiect yn galluogi Buxton Civic Association (BCA) i weithredu newidiadau sefydliadol ac archwilio cyfleoedd newydd i ennyn diddordeb aelodau, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr yn yr atyniadau pwysig hyn.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli penderfynu dirprwyedig a gynullwyd yn arbennig.
Crynodeb prosiect: Bydd y prosiect 26 mis hwn yn cefnogi Buxton Civic Association (BCA) i ddod yn fwy cydnerth yn sefydliadol. Bydd yn cyflawni hyn drwy gynyddu gallu’r sefydliad i roi newidiadau ar waith, profi Cynlluniau Datblygu Cynulleidfa a Gwirfoddolwyr newydd, archwilio cyfleoedd masnachol newydd, a chomisiynu cyngor proffesiynol i wella llywodraethu.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Citizens Theatre
Dyddiad y grant: 19 Rhagfyr 2023
Dyddiad dod i ben y grant: 30 Mehefin 2024
Cyfeirnod: HG-13-09470
Grantï: Citizens Theatre
Categori buddiolwr: Canolig
Swm y cymhorthdal: cynnydd yn y grant o £2,500,000. Cyfanswm grant a ddyfarnwyd: £7,295,000.
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ydyw sy’n canolbwyntio ar warchod a gwerthfawrogi treftadaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol, cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi gwell gynhwysiad, amrywiaeth, mynediad, a chyfranogiad mewn treftadaeth, a chryfhau treftadaeth i fod yn addasol ac yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau, oll yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Bydd yr ariannu'n caniatáu i Citizens Theatre adfer a diogelu dyfodol y Citizens Theatre restredig Gradd B yn Glasgow. Mae'r theatr yn dirnod diwylliannol hanesyddol pwysig ac yn ganolbwynt cymunedol yn ardal Gorbals Glasgow.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.
Crynodeb prosiect: Nod y Prosiect yw adfer a diogelu dyfodol y Citizens Theatre restredig Gradd B eiconig yn Glasgow. Lleolwyd y theatr yn y Gorbals, ardal o amddifadedd cymdeithasol-economaidd difrifol ac roedd o bwysigrwydd diwylliannol enfawr yn y cyd-destun hwnnw ac ar gyfer y ddinas gyfan. Byddai'r prosiect yn ymgymryd â gwaith atgyweirio a chadwraeth brys i adfer awditoriwm gwreiddiol y theatr a dileu ychwanegiadau modern amhriodol. Byddai hygyrchedd yn cael ei wella a byddai gofod cefn llwyfan a'r awditoriwm yn cael eu gwneud yn fwy hyblyg. Byddai rhaglen o ddigwyddiadau datblygu cynulleidfaoedd ac allgymorth yn cael ei darparu.
Mae'r theatr yn dirnod diwylliannol hanesyddol pwysig ac yn ganolbwynt cymunedol yn ardal Gorbals Glasgow. Mae’r ardal wedi cael ei thrawsnewid yn sylweddol trwy ddymchwel blociau tŵr tai cymdeithasol uchel gerllaw a’u disodli â thai fforddiadwy o ansawdd uchel wedi’u darparu gan bartneriaeth o ddatblygwyr preifat a chymdeithasau tai yn yr hyn sy'n cael ei ystyried yn fodel disglair o gynllunio trefol.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio'n benodol ar:
- ddileu ac ailosod ychwanegiadau adfeiliedig nad ydynt yn rhai gwreiddiol
- gwella mynediad i'r cyhoedd a gwella'r profiad i ymwelwyr
- catalogio a gwarchod casgliadau hanesyddol
- dehongli treftadaeth yr adeilad
- darparu rhaglen o ymgysylltu â’r gymuned
- darparu cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddi a datblygu sgiliau.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Fenter Tŷ'n Llan Cyfyngedig
Dyddiad y grant: 19 Rhagfyr 2023
Cyfeirnod: NL-22-00028
Grantï: Menter Tŷ'n Llan Cyfyngedig
Categori buddiolwr: Mentrau Bach a Chanolig eu Maint
Swm y cymhorthdal: £1,709,456
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Mae Menter Tŷ’n Llan yn berchen ar ac yn rhedeg tafarn Tŷ’n Llan yn Llandwrog a’i nod yw datblygu’r adeilad hanesyddol a’i ardd i ddarparu hyb cymunedol hygyrch at ddibenion lles a chymdeithasol, i gefnogi ei gynaladwyedd sefydliadol trwy ddatblygu ffrydiau incwm newydd ar ffurf lletygarwch, a gwella perfformiad amgylcheddol yr adeilad.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli penderfynu wedi'u dirprwyo.
Crynodeb o'r prosiect: Nod y prosiect yw trawsnewid tafarn Tŷ’n Llan yn hyb cymunedol a fydd yn meithrin cysylltiadau rhwng pobl a lle ac yn dathlu treftadaeth adeiledig, naturiol a diwylliannol-ieithyddol Llandwrog a thu hwnt. Mae gwaith ffisegol yn cynnwys datblygu cyfleusterau arlwyo a lletygarwch, darparu mannau parcio, dehongli treftadaeth ranbarthol, a rhandir. Rhaglen ddigwyddiadau addysgol a chymdeithasol ar gyfer ymwelwyr a'r gymuned.
Gwybodaeth rheoli cymhorthdal mewn perthynas â grant i West Calder & Harburn Community Development Trust Ltd
Dyddiad y grant: 19 Rhagfyr 2023
Dyddiad dod i ben y grant: 31 Mawrth 2029
Cyfeirnod: NL-21-00135
Grantï: West Calder & Harburn Community Development Trust Ltd
Categori buddiolwr: Bach
Swm y cymhorthdal: £1,929,600
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ydyw sy’n canolbwyntio ar warchod a gwerthfawrogi treftadaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol, cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi gwell gynhwysiad, amrywiaeth, mynediad, a chyfranogiad mewn treftadaeth, a chryfhau treftadaeth i fod yn addasol ac yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau, oll yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Bydd y cymhorthdal yn ariannu prosiect a fydd yn atgyweirio ac yn ailddatblygu adeilad gwag ac mewn perygl fel canolfan dreftadaeth, hyb hygyrch ar gyfer addysg a hyfforddiant a phwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau lles lleol. Mae’r adeilad hanesyddol yn cynrychioli rhan bwysig o dreftadaeth gymdeithasol a diwydiannol y mudiad cydweithredol a oedd mor bwysig i dref West Calder ac ardal ehangach Gorllewin Lothian.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.
Crynodeb prosiect: Dros gam cyflwyno pum mlynedd, bydd y prosiect hwn yn atgyweirio ac yn ailddatblygu adeilad gwag ac mewn perygl fel canolfan dreftadaeth, hyb hygyrch ar gyfer addysg a hyfforddiant a phwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau lles lleol. Mae’r adeilad hanesyddol yn cynrychioli rhan bwysig o dreftadaeth gymdeithasol a diwydiannol y mudiad cydweithredol a oedd mor bwysig i dref West Calder ac ardal ehangach Gorllewin Lothian.
Gwaith cyfalaf
- Bydd gwaith atgyweirio cynhwysfawr ar ffabrig yr adeilad hanesyddol yn cynnwys atgyweirio gwaith brics, gosod llechi newydd ar y to, ailosod gwaith plwm a nwyddau dŵr glaw haearn bwrw, gosod ffenestri newydd a thynnu parwydydd mewnol.
- Bydd ailddatblygu'r adeilad yn darparu derbynfa, arddangosfa barhaol, oriel dros dro, gofod cymunedol hyblyg, cegin arlwyo, caffi, siop a thoiledau ar y llawr gwaelod.
- Ar y llawr uchaf, bydd gofod digwyddiadau/arddangosfa hyblyg, stordy archifau, man gweini, toiledau, stordy arddangosfa ac ystafell staff yn cael eu darparu. Bydd darparu stordy arddangosfa o fewn yr adeilad yn sicrhau bod arteffactau sy'n ymwneud â Mudiad Cydweithredol Yr Alban yn cael eu storio'n briodol.
- Ar y llawr gwaelod isaf, bydd hyb lles o ofod swyddfa ar gyfer sefydliadau partner, stordy, toiledau a thoiled Changing Places yn cael eu darparu.
Gweithgareddau, allbynnau a chynulleidfaoedd
- Mae'r cynulleidfaoedd â blaenoriaeth sydd i’w targedu'n cynnwys: teuluoedd, pobl ifanc, grwpiau awtistiaeth ac unigolion, pobl hŷn ac wedi ymddeol, ysgolion, sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach, twristiaid treftadaeth ac ymwelwyr diddordeb arbennig.
- Bydd gweithgarwch ymgysylltu â threftadaeth yn cynnwys rheoli casgliadau, cywain a chyd-gynhyrchu cynnwys, benthyciadau sefydliadol, sioe deithiol gasglu, cynnal prosiect hanes llafar, deunydd digidol torfol, rhaglenni ymchwil gymunedol, creu baneri a chyd-guradu arddangosfeydd dros dro.
- Bydd yr hyfforddeiaeth 'Hidden Histories' yn cynnwys tri lleoliad gwaith â thâl wedi'u targedu ar gyfer unigolion byddar, anabl neu niwrowahanol i ailddehongli storïau'r mudiad cydweithredol trwy lens anabledd.
- Bydd y rhaglen ddysgu'n darparu deunyddiau addysg i gyfoethogi ymweliadau ar gyfer ysgolion cynradd a deunydd mwy penodol ar gyfer disgyblion uwchradd mewn pynciau cymdeithasol ac iechyd a lles. Bydd lleoliadau gwaith yn cael eu darparu i fyfyrwyr o Ysgol Uwchradd West Calder a Choleg West Lothian.
- Bydd cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddiant yn cael eu darparu ochr yn ochr â'r rhan fwyaf o swyddogaethau yn y ganolfan (derbynfa, siop, tywysydd, casgliadau, digidol, digwyddiadau ac ati).
- Bydd llyfryn dathliadol yn cael ei gynhyrchu ar gyfer pen-blwydd Cymdeithas Gydweithredol West Calder yn 150 oed yn 2025, sydd i'w gynllunio ar y cyd ag aelodau’r gymuned a chyfranddalwyr cydweithredol.
- Bydd monitro a gwerthuso lles yn cael ei gefnogi a’i lywio gan grwpiau cynghori a phaneli goruchwylio gan gynnwys: Panel profiad o lygad y ffynnon Awtistiaeth/ASN, Panel Treftadaeth ac Amgueddfeydd y Mudiad Cydweithredol, a Phanel Sefydliadau Arbenigol.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â Gwaith Copr Hafod Morfa
Dyddiad y grant: Llythyr cynnydd grant dyddiedig 15 Rhagfyr 2023
Dyddiad dod i ben y grant: 29 Chwefror 2024
Cyfeirnod: HE-15-01729
Grantï: Dinas a Sir Abertawe
Categori buddiolwr: Mawr
Swm y cymhorthdal: Cynnydd yn y grant o £1,428,119 Cyfanswm y grant: £5,245,519
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ydyw sy’n canolbwyntio ar warchod a gwerthfawrogi treftadaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol, cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi gwell gynhwysiad, amrywiaeth, mynediad, a chyfranogiad mewn treftadaeth, a chryfhau treftadaeth i fod yn addasol ac yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau, oll yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Dylunnir y rhaglen Menter Treftadaeth i bontio'r bwlch ariannu sy'n atal ased hanesyddol y mae angen ei atgyweirio rhag cael ei ddychwelyd i ddefnydd buddiol a masnachol. Amcan polisi cyhoeddus ein rhaglen Menter Treftadaeth yw helpu prosiectau i gyflawni twf economaidd trwy fuddsoddi mewn treftadaeth. Mae’n cefnogi sefydliadau masnachol sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol i’w helpu achub adeiladau a safleoedd hanesyddol sydd wedi’u hesgeuluso a’u dychwelyd i ddefnydd cynhyrchiol hyfyw.
Roedd y grant gwreiddiol yn ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus i achub adeilad rhestredig Gradd II adfeiliedig, gan ei drawsnewid o gragen wag yn atyniad bywiog, creu swyddi'n lleol a chynyddu nifer yr ymwelwyr i ardal Copperopolis. Cynnydd yn y grant yw hwn, a chyfeiriwyd yr amcan polisi cyhoeddus gan ymchwydd yn y costau a'r sylweddoliad y byddai'r prosiect yn dod i ben heb arian ychwanegol.
Lefel y cymhorthdal yn yr achos hwn yw'r cynnydd mewn costau; ystyrir felly ei fod yn cynrychioli'r bwlch hyfywedd. Roedd yr amcan hwn yn cydnabod y byddai'r mesur yn sicrhau llawer o fanteision adfywio hirdymor pwrpasol, gan gyfrannu felly at ddatblygiad economaidd Cwm Tawe.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu gyhoeddus, neu bartneriaethau rhwng sefydliadau masnachol a rhai nid-er-elw.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig. Lefel y cymhorthdal yn yr achos hwn yw'r cynnydd mewn costau; ystyrir felly ei fod yn cynrychioli'r bwlch hyfywedd.
Crynodeb prosiect: Prosiect Menter Treftadaeth yw hwn, sy’n seiliedig ar y diffyg cadwraeth, lle mae gwerth presennol ased treftadaeth ynghyd â’r gost o'i ddychwelyd i ddefnydd yn fwy na gwerth yr ased ar ôl i’r datblygiad gael ei gwblhau.
Mae’r prosiect hwn wedi’i leoli ar safle hen Waith Copr Hafod Morfa, sy’n cynnwys 12 o adeiladau neu adeileddau rhestredig Gradd II sy' gysylltiedig â’r diwydiant copr (gan gynnwys y Pwerdy Gradd II* a’r Felin Rolio Gradd II).
Roedd adeilad y Felin Rolio, sy'n gweithredu'n rhannol fel Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe, mewn cyflwr rhesymol ond roedd yr adeiladau hanesyddol eraill wedi'u hesgeuluso bron yn gyfan gwbl ers 1980, gyda fandaliaeth, tanau bwriadol a llystyfiant i gyd yn gwaethygu'r dadfeiliad. Roedd llawer o'r adeiladau, gan gynnwys y Pwerdy, ar Gofrestr Adeiladau Rhestredig mewn Perygl y cyngor a heb eu hystyried fel rhai a allai fod yn fasnachol hyfyw.
Mae cwmni wisgi Penderyn wedi nodi’r potensial i leoli ehangiad o’u busnes hynod lwyddiannus yn adeilad y Pwerdy rhestredig Gradd II, ac mewn rhan o’r Felin Rolio restredig Gradd II ar safle Gwaith Copr Hafod-Morfa sydd o arwyddocâd rhyngwladol yn Abertawe.
Bydd ehangu Penderyn ar les 99 mlynedd yn darparu craidd cynaliadwy i weithredu fel catalydd i ddatgloi adfywio pellach ar safle a oedd yn grwsibl i ddiwydiant copr y byd yn y 1800au. Bydd defnyddio offer distyllfa copr yn cysylltu proses weithgynhyrchu newydd â gorffennol bywiog y safle.
Bydd dehongli newydd a chanolfan ymwelwyr integredig yn cysylltu’r gweithrediad masnachol â hanes copr cyfoethog y safle, ac yn gweithredu fel ffocws ar gyfer yr atgofion a’r arteffactau sy’n annwyl i bobl leol, gan ddod â nhw at gynulleidfa ryngwladol.
Mae gwaith cyfalaf y prosiect yn cynnwys:
- adfer Adeilad y Pwerdy
- ailgyflunio'r Felin Rolio gyfagos i'w defnyddio'n rhannol
- adeiladu canolfan ymwelwyr newydd rhwng y ddau
Lefel y cymhorthdal yn yr achos hwn yw'r cynnydd mewn costau; ystyrir felly ei fod yn cynrychioli'r bwlch hyfywedd.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â Kala Sangam
Dyddiad y grant: 13 Rhagfyr 2023
Dyddiad dod i ben y grant: 30 Mehefin 2026
Cyfeirnod: NL-21-00243
Grantï: Kala Sangam
Categori buddiolwr: Bach
Swm y cymhorthdal: £2,291,947
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ydyw sy’n canolbwyntio ar warchod a gwerthfawrogi treftadaeth ar gyfer y presennol a’r dyfodol, cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol, cefnogi gwell gynhwysiad, amrywiaeth, mynediad, a chyfranogiad mewn treftadaeth, a chryfhau treftadaeth i fod yn addasol ac yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau, oll yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Trawsnewid Treftadaeth yn Kala Sangam: dathlu, archifo a dod â hanesion y cymunedau sydd wedi siapio St Peter's House yn fyw ac adeiladu dyfodol disglair, hygyrch ar gyfer yr adeilad treftadaeth nodedig hwn.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.
Crynodeb prosiect: Mae Kala Sangam wedi cydweithio’n eang â chymunedau amrywiol Bradford, gan ddatblygu cynigion ar raddfa fawr i adfywio ei gartref, St Peter's House rhestredig Gradd II, drwy ddileu rhwystrau mynediad sylweddol a chreu'r gofodau ffisegol sydd eu hangen i gynyddu graddfa’r ddarpariaeth treftadaeth, wedi’i hategu gan raglen weithgareddau gynhwysol am ddwy flynedd.
Bydd y cam cyflwyno 39 mis yn dechrau ym mis Rhagfyr 2023, a disgwylir i'r gwaith cyfalaf gael ei gwblhau ym mis Ebrill 2025. Bydd gweithgareddau'n cael eu darparu hyd at fis Chwefror 2026. Mae'r staff amser llawn yn cynnwys Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol a Swyddog Ymgysylltu â Threftadaeth.
Ymhlith y gwaith cyfalaf fydd:
- mynedfa ganolog newydd, wedi'i dylunio'n sympathetig i gwblhau'r ffasâd presennol trwy addasu prif ffenestri fel agoriadau drws newydd, a grisiau.
- oriel a gofod dehongli newydd i weithredu fel cyntedd canolog, yn gartref i fan dehongli/arddangos treftadaeth parhaol a thymhorol
- pedwar gofod stiwdio newydd ar gyfer ymgysylltu â threftadaeth
- dau lifft hygyrch
- gwaith amddiffyn ffabrig y to
- ymyriadau mynediad
- Cyfleusterau 'Changing Places'
- ailbwrpasu’r llawr gwaelod, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer tenant newydd a arweinir gan y gymuned (BCB Community Radio), i bob pwrpas yn dyblu'r arwynebedd llawr sy’n hygyrch i’r cyhoedd yn St Peter's House
Bydd gweithgarwch helaeth yn ennyn diddordeb pobl o bob rhan o Bradford, gan ganolbwyntio'n benodol ar ardaloedd sy'n profi lefelau uchel o amddifadedd ac ymgysylltiad diwylliannol isel.
Bydd Kala Sangam yn gweithio gyda phedair cymuned graidd leol, sy'n adlewyrchu amrywiaeth amlddiwylliannol ward City (lle mae Kala Sangam wedi'i leoli):
- WomenZone (menywod hŷn, a aned ym Mhacistan, De Asia yn bennaf)
- NAFS (mamau a phlant o Dde Asia a ffoaduriaid o Ddwyrain Ewrop)
- u3a (hŷn, Gwyn Prydeinig a heb fod mewn gwaith amser llawn bellach)
- New Libya Society (pob oedran)
Yn ystod blwyddyn un, bydd gweithgarwch yn cael ei ddarparu mewn lleoliadau cymunedol lleol. Bydd gweithgareddau'r ail flwyddyn yn cael eu darparu ar y safle (ôl-gyfalaf) a bydd y gwaith a grëir yn teithio i gymunedau ar draws yr ardal.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Llanelly House Trust Ltd
Dyddiad y grant: 15 Tachwedd 2023
Cyfeirnod: NM-23-00581
Grantï: Llanelly House Trust Ltd.
Categori buddiolwr: Mentrau Bach i Ganolig eu Maint
Swm y cymhorthdal: £112,000 (Grant wedi'i ddyfarnu)
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Gan ddefnyddio arian a godir gan y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth y DU er mwyn creu newid cadarnhaol a pharhaus ar gyfer pobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth genedlaethol, rhanbarthol a lleol y DU. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Mae’r prosiect yn hwyluso mynediad am ddim i dreftadaeth a bydd y prosiect yn galluogi Llanelly House Trust Ltd i ailagor Plas Llanelly fel lleoliad ac atyniad i ymwelwyr sy’n gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu'n sefydliadau sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.
Crynodeb o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect un flwyddyn i adfywio cynllun busnes Llanelly House Trust a gwneud gwaith brys ar Blas Llanelly, adeilad rhestredig Gradd I sydd wedi’i ddisgrifio fel y plasty tref gorau o ddechrau’r 18fed ganrif yng Nghymru. Bydd y prosiect yn cael ei ariannu i gefnogi costau cynnal a chadw a gwaith uwchraddio hanfodol. Mae'r prosiect yn targedu pobl sy'n lleol i Blas Llanelly trwy alluogi'r adeilad i ailagor fel profiad ymwelwyr a lleoliad hyfyw a deniadol, yn enwedig ar gyfer ymweliadau ysgol.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Prosiect Adfer Marchnad Caerdydd
Dyddiad y grant: 30 Hydref 2023
Cyfeirnod: OL-18-07277
Grantï: Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd
Categori buddiolwr: Mawr
Swm y cymhorthdal: £2,091,500 o £6,504,800 (32%)
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Bydd y grant yn ariannu prosiect sy'n canolbwyntio ar adfer y farchnad dan do Fictoraidd restredig Gradd II* yng nghanol dinas Caerdydd, gyda ffocws ar wella cynaladwyedd y farchnad a chynyddu / rhannu dealltwriaeth well o'i threftadaeth.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.
Crynodeb o'r prosiect: Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar adfer y farchnad dan do Fictoraidd restredig Gradd II* yng nghanol dinas Caerdydd, gyda ffocws ar wella cynaladwyedd y farchnad. Trwy'r cynnig penodol hwn, mae'r ymgeisydd yn ceisio pontio'r bwlch ariannu sy'n atal yr ased hanesyddol y mae angen ei atgyweirio rhag cael ei adnewyddu a'i gynnal a'i gadw'n ddigonol er mwyn iddo barhau i fod o ddefnydd buddiol.
Mae’r prosiect hwn yn seiliedig ar farchnad dan do Fictoraidd sydd yn hanesyddol wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i siopwyr ond sydd wedi dioddef o ddirywiad yn y sylfaen ymwelwyr sy’n heneiddio a hen systemau – yn enwedig draenio – sydd bellach yn atal tenantiaid presennol a darpar denantiaid rhag cyrraedd y safonau gofynnol.
Bydd y prosiect yn sicrhau y gall yr ased hanesyddol barhau i wasanaethu’r gymuned a chefnogi’r economi leol i’r dyfodol, trwy ymgymryd â gwaith atgyweirio sylweddol, moderneiddio systemau nad ydynt yn ddigonol ac ehangu cynwysoldeb y farchnad.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â Dewsbury Arcade
Dyddiad y grant: 26 Hydref 2023
Cyfeirnod: NL-21-00235
Grantï: Cyngor Bwrdeistref Kirklees (Cyngor Kirklees)
Categori buddiolwr: Mawr (250 a mwy)
Swm y cymhorthdal: £4,441,032 o £6,044,378
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Bwriad y rhaglen Menter Treftadaeth yw cefnogi datblygiadau na fyddent yn denu diddordeb masnachol, gan olygu nad ydynt yn fasnachol ymarferol. Mae'r cyfrifiad grant wedi'i strwythuro o amgylch y diffyg cadwraeth er mwyn sicrhau bod ein cyfraniad yn cael ei dargedu ac yn gymesur yn briodol â'r gost ailddatblygu.
Mae’r Arcêd yn rhan bwysig o Fframwaith Datblygu Strategol Canol Tref Dewsbury (2018), Glasbrint Dewsbury (2020), y Cynllun Lleol a’r bartneriaeth HAZ. Mae hefyd yn rhan o Strategaeth Treftadaeth/Cynllun Gweithredu drafft y Cyngor. Maer llywodraeth wedi dangos ymrwymiad i'r prosiect trwy ymrwymo arian cyfatebol o'r Towns Fund (TF) a'r Getting Building Fund (GBF). Mae cais y Cyngor yn nodi y bydd y prosiect yn cyfrannu at Lefelu i Fyny.
Diben y cymhorthdal: Mae ein grant yn gyfraniad tuag at y diffyg cadwraeth ynghyd â chostau gweithgareddau ar gyfer adfer ac uwchraddio'r Dewsbury Arcade Gradd II ac eiddo cyfagos.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw, neu'n sefydliadau sector cyhoeddus, neu gallai ymgeiswyr sy'n sefydliadau er elw ffurfio partneriaeth â chorff nid-er-elw. Bu'n rhaid i'r ased treftadaeth fod o bwysigrwydd eithriadol i'r dreftadaeth genedlaethol ac mewn perygl.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.
Crynodeb prosiect: Bydd Cyngor Kirklees yn adfer ac yn uwchraddio'r Dewsbury Arcade Rhestredig Gradd II, ac eiddo cyfagos, i feddiannu man amlwg yn Ardal Gadwraeth Canol Tref Dewsbury sydd mewn perygl, cyn lesio’r rhan fwyaf ohonynt i Gymdeithas Buddiant Cymunedol, ar wahân i ddau hunangynhwysol y bydd yn eu gosod ar wahân. Bydd y Gymdeithas Buddiant Cymunedol yn rheoli’r Arcêd fel hyb canolog bywiog, gan ddarparu unedau manwerthu annibynnol, stiwdios artistiaid, gwasanaethau, digwyddiadau ac unedau mawr ar y naill ben a'r llall ar gyfer bwyd/diod.
Ei denantiaid targed fydd egin entrepreneuriaid/artistiaid creadigol, gyda ffocws penodol ar bobl ifanc a phobl o dreftadaeth Asiaidd. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys rhaglen ymgynghori, arddangosfeydd, gweithgareddau, creu adnoddau dysgu a theithiau. Bydd cynulleidfaoedd targed yn cynnwys myfyrwyr Coleg Kirklees, siopwyr, cerddwyr, ymwelwyr, grwpiau cymunedol a chynulleidfaoedd rhaglenni dysgu oedolion a chydlyniant y Cyngor. Unwaith eto, bydd ffocws arbennig ar gymunedau De Asiaidd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a phobl ifanc.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Gyngor Dinas Belfast a Strand Arts Centre
Dyddiad y grant: 20 Medi 2023
Cyfeirnod: NL-21-00125 Strand Arts Centre – A Lasting Picture House
Grantï: Cyngor Dinas Belfast a Strand Arts Centre (rhif elusen 104893) – grantïon ar y cyd
Categori buddiolwr:
Cyngor Dinas Belfast: Mawr, 250 a mwy o weithwyr
Strand Arts Centre: Menter fach, 10-49 o weithwyr
Swm y cymhorthdal: £768,069 o £6,940,069.00
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Mae'r prosiect a ariennir gan grant hefyd yn cyd-fynd â strategaethau ac amcanion lleol a llywodraeth.
Mae'n cyd-fynd â Rhaglen Llywodraeth (PfG) Gogledd Iwerddon sy'n pennu'r polisi ar gyfer llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon. Fel prosiect adfywio, celfyddydol a diwylliannol bydd y cais hwn yn cyflawni nifer o amcanion PfG ond yn fwyaf penodol bydd yn cyfrannu at dargedau Adran Cymunedau Gogledd Iwerddon yn ymwneud â’r amcan: ‘Mae pobl eisiau byw, gweithio ac ymweld yma’.
Mae'r prosiect yn ategu nodau trosgynnol Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon o dyfu ac ail-gydbwyso economi Gogledd Iwerddon yn ogystal â helpu i ymdrin â chanlyniadau sy'n gysylltiedig ag anfantais gymdeithasol i'r boblogaeth leol. Bydd y prosiect yn cydweddu â llawer o'r mentrau a gefnogir gan Gyngor Dinas Belfast ar hyn o bryd o ran ehangu arlwy ddiwylliannol y ddinas.
Ar lefel llywodraeth leol, bydd y buddsoddiad arfaethedig yn cyflawni amcanion polisi y Strategaeth Ddiwylliannol 'A City Imagining' sy'n gwneud ymrwymiad hirdymor i asedau treftadaeth, diwylliannol a thwristiaeth Belfast fel modd o ysgogi trawsnewid. Bydd yn cyfrannu'n feintiol at gyflawni 12 o'r 16 blaenoriaeth a nodir yn y strategaeth.
Diben y cymhorthdal: Ariannu ar gyfer prosiect cyfalaf dwy flynedd a hanner i adfer Strand Arts Theatre i'w gyflwyno gan Gyngor Dinas Belfast ynghyd â gweithgareddau amrywiol sydd i'w rhedeg gan Strand Arts Centre trwy gydol y prosiect cyfalaf.Ar ôl cwblhau’r prosiect cyfalaf, bydd Strand Arts Centre yn parhau i weithredu Strand Arts Theatre o dan ei les 25 mlynedd ar yr eiddo.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu a gynullwyd yn arbennig.
Asesodd yr arfarniad opsiynau a’r achos busnes ar gyfer darparu seilwaith celfyddydau yn y rhan hon o Belfast ac adnewyddu Strand Arts Centre nifer o opsiynau a nodwyd y prosiect hwn fel yr un sy'n cynnig y gwerth gorau am arian, gan gyflawni amrywiaeth o amcanion polisi drwy ei allbynnau cymdeithasol ac economaidd.
Crynodeb prosiect: Adfer adeilad Strand Arts Centre (SAC) mewn ffordd sy’n manteisio i'r eithaf ar ei statws tirnod treftadaeth ac yn galluogi datblygu gofod creadigol, cynaliadwy o ansawdd uchel mewn ffordd sy’n dod â buddion economaidd a chymdeithasol cadarnhaol ac amlwg i Ddwyrain Belfast.
Mae gwaith cyfalaf yn cynnwys ailddatblygu'r fynedfa ar gyfer mynediad gwastad, caffi bach a bar ar y llawr gwaelod. Estyniad i gefn yr adeilad ar gyfer mynediad ychwanegol. Adnewyddu'r llawr cyntaf i greu stiwdios dysgu ar gyfer dosbarthiadau dawns, perfformiadau bach, darlleniadau llenyddol. Uwchraddio Theatr 2 ar gyfer cerddoriaeth fyw a dramâu. Adfer y ffenestri Crittal a dinoethi'r trawstiau iard longau dramatig i ddatgelu treftadaeth yr adeilad. Darparu mynediad i'r anabl mewn lifft o'r cyntedd i theatrau newydd.
Gweithiau dehongli amlsynhwyraidd i adrodd stori'r Strand Theatre, sydd wedi'u dylunio i fod yn ddeniadol ac yn hygyrch i gynulleidfa eang â galluoedd ac arddulliau dysgu amrywiol.
Bydd ystod o weithgareddau yn ystod y gwaith cyfalaf yn cynnwys:
- sinema wib mewn uned wag tra bod yr adeilad ar gau
- datblygu cysylltiadau gyda chlybiau ffilm rhanbarthol
- digwyddiadau gyda grwpiau cymunedol a chartrefi gofal i gasglu atgofion o'r sinema goll
- 'Pop-up Picture House' ar daith gyda thema treftadaeth
- gweithdai cymunedol amrywiol
- datblygu taith dreftadaeth a gweithdy taflunio ymarferol i gyd-fynd â hi
- datblygu pecyn addysg STEM gan gynnwys digidol
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i The Seachange Trust
Dyddiad y grant: 20 Medi 2023
Cyfeirnod: NL-23-00009
Grantï: The Seachange Trust
Categori buddiolwr: Mentrau Bach a Chanolig eu Maint
Swm y cymhorthdal: £1,968,061
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Galluogi Out There Arts (The Seachange Trust) i gwblhau gwaith atgyweirio, adfer a gosod ar y Tŷ Iâ fel rhan o becyn ariannu ehangach, gan ddarparu'r adeilad i'r cyhoedd ei ddefnyddio am y tro cyntaf.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli penderfynu wedi'u dirprwyo.
Crynodeb o'r prosiect: Bydd y prosiect hwn yn atgyweirio ac yn adfer Tŷ Iâ Rhestredig Gradd II hanesyddol Great Yarmouth, yr enghraifft olaf o’i fath yn y DU. Bydd yr adeilad yn dod yn lleoliad diwylliannol aml-ddefnydd: canolfan ragoriaeth ar gyfer creu, hyfforddi a darparu Celfyddydau a Syrcas Awyr Agored, hyb cymunedol hygyrch, lleoliad digwyddiadau a chaffi/bar/teras i 650 o bobl ar lan yr afon. Bydd Rhaglen Dysgu am Dreftadaeth ac Ymgysylltu Cymunedol Creadigol yn cael ei chyflwyno ar y cyd â’r gwaith cyfalaf, gyda budd penodol i’r cymunedau o amgylch y Tŷ Iâ.
Gwybodaeth Rheoli Cymorthdaliadau mewn perthynas â grant i Red Rose Chain
Dyddiad y grant: 31 Mai 2023
Cyfeirnod: NM-22-01063
Grantï: Red Rose Chain
Categori buddiolwr: Menter Fach
Swm y cymhorthdal: £232,882
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Mae'r prosiect yn hwyluso mynediad am ddim i weithdai treftadaeth a drama ar gyfer nifer o grwpiau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol, y byddent fel arall yn profi anhawster wrth gymryd rhan.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig.
Crynodeb prosiect: Mae’r prosiect tair blynedd hwn (Medi 2023 i Awst 2026) yn Ipswich, Suffolk, yn defnyddio mythau Eingl-Sacsonaidd i gynnal gweithdai treftadaeth â thema theatr, creu adnoddau dysgu a digidol newydd, a chreu cynyrchiadau drama proffesiynol a chymunedol newydd. Bydd y gweithdai'n ymchwilio, yn ystyried ac yn ail-ddehongli mythau Eingl-Sacsonaidd, gyda rhai grwpiau'n creu cynyrchiadau cymunedol. Bydd grwpiau hefyd yn cyfrannu at arddangosfa a chreu adnodd ar-lein ynghylch yr Eingl-Sacsoniaid.
Mae rhaglen reolaidd y grantî yn ennyn diddordeb pobl ifanc a phobl sy'n byw ag anableddau mewn gweithdai theatr rhad ac am ddim (sydd wedi'u cyfeirio gan themâu treftadaeth a dysgu). Darperir gweithdai hefyd ar gyfer carcharorion oes, ysgolion mewn wardiau difreintiedig, a cheiswyr lloches.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge
Dyddiad y grant: 12 Mai 2023
Cyfeirnod: NM-22-01000
Grantï: Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge (IGMT)
Categori buddiolwr: Mentrau Bach a Chanolig eu Maint
Swm y cymhorthdal: £250,000
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Galluogi IGMT i ymestyn ymhellach i mewn i gymunedau lleol ac adeiladu ei chydnerthedd sefydliadol. Bydd hyn yn eu cefnogi i ddiogelu a chynnal eu portffolio o 49 o adeiladau a strwythurau ar draws Safle Treftadaeth y Byd Ceunant Ironbridge.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig.
Crynodeb prosiect: Mae IGMT yn bwriadu cynyddu ei chydnerthedd ariannol tymor canolig i dymor hwy trwy gomisiynu adolygiad allanol o'i model ariannol, buddsoddi yn ei hadran codi arian i gynyddu capasiti, a chomisiynu dadansoddiad segmentiad. Mae IGMT hefyd yn bwriadu ymgyrraedd ymhellach i mewn i gymunedau lleol drwy ariannu swydd i ddatblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer cynyddu ehangder ac amrywiaeth cynulleidfaoedd.
Dyddiad y grant: 24 Ionawr 2023
Cyfeirnod: NM-22-00712
Grantï: Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge (IGMT)
Categori buddiolwr: Menter Fach i Ganolig
Swm y cymhorthdal: £250,000 (Grant wedi'i ddyfarnu)
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Diogelu asedau treftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol yn Lloegr a oedd mewn perygl o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19.
Diben y cymhorthdal: Fel rhan o becyn parhaus o arian grant, bydd y prosiect yn helpu IGMT i symud y tu hwnt i'r heriau ariannol a waethygwyd gan COVID-19 a chan lifogydd difrifol dros y blynyddoedd diwethaf.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sefydliadau sector cyhoeddus. Bu'n rhaid i'r ased treftadaeth fod o bwysigrwydd eithriadol i'r dreftadaeth genedlaethol ac mewn perygl.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig.
Crynodeb prosiect: Fel rhan o becyn parhaus o arian grant, bydd y prosiect yn helpu IGMT i symud y tu hwnt i'r heriau ariannol a waethygwyd gan COVID-19 a chan lifogydd difrifol dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd mynd i'r afael â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw mewn rhaglen gynhwysfawr yn galluogi'r Ymddiriedolaeth i barhau â'u gweithrediad, yn hytrach nag 'ymladd tân' a chanolbwyntio dim ond ar atgyweiriadau neu materion diogelwch brys sydd wedi bod yn aros i gael eu cwblhau. Bydd y prosiect hwn yn cefnogi costau cynnal a chadw hanfodol gan ganolbwyntio ar feysydd o waith cynnal a chadw cynlluniedig ac ymatebol a chostau cyflog y staff presennol. Ariannu a gyfyngir gan amser ar sail Adennill Costau Llawn i gefnogi'r sefydliad i gyrraedd sefyllfa fwy cynaliadwy (o ran gallu sefydliadol a chyflwr yr asedau treftadaeth) yw hwn gan ddilyn cyfnod o heriau sylweddol.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Paxton17 Ltd
Dyddiad y grant: 24 Ionawr 2023
Cyfeirnod: NL-21-000140
Grantï: Paxton17 Ltd.
Categori buddiolwr: Menter Fach i Ganolig
Swm y cymhorthdal: £2,677,310 (Grant wedi'i ddyfarnu)
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Bwriad y rhaglen Menter Treftadaeth yw cefnogi datblygiadau na fyddent yn denu diddordeb masnachol, gan olygu nad ydynt yn fasnachol ymarferol. Mae'r cyfrifiad grant wedi'i strwythuro o amgylch y diffyg cadwraeth er mwyn sicrhau bod ein cyfraniad yn cael ei dargedu ac yn gymesur yn briodol â'r gost ailddatblygu.
Diben y cymhorthdal: Mae ein grant yn gyfraniad tuag at y diffyg cadwraeth ynghyd â chostau gweithgareddau. Ymhlith y cynigion mae caffi ac oriel. Bydd ein grant yn cefnogi ailddatblygu'r adeiladau hanesyddol fel stiwdios i artistiaid a thrwy gyfrwng y rhaglen weithgareddau bydd yn helpu i ddarparu cyfleoedd datblygu sgiliau ar gyfer cymunedau lleol.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bu'n rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw, neu'n sefydliadau sector cyhoeddus, neu gallai ymgeiswyr sy'n sefydliadau er elw ffurfio partneriaeth â chorff nid-er-elw. Bu'n rhaid i'r ased treftadaeth fod o bwysigrwydd eithriadol i'r dreftadaeth genedlaethol ac mewn perygl.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig.
Crynodeb prosiect: Mae Paxton17 Ltd wedi derbyn grant o dan ein rhaglen Menter Treftadaeth i adfer ac ailddatblygu dau dŷ tref Sioraidd Gradd II* a rhoi defnydd cynaliadwy newydd iddynt fel stiwdios i artistiaid. Bydd ein grant yn cefnogi ailddatblygu'r adeiladau hanesyddol fel stiwdios i artistiaid a thrwy gyfrwng y rhaglen weithgareddau bydd yn helpu i ddarparu cyfleoedd datblygu sgiliau ar gyfer cymunedau lleol.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â dyfarniadau unigol, 2022
Gwybodaeth Rheoli Cymorthdaliadau mewn perthynas â grant i Royal Chelsea Hospital
Dyddiad y grant: 16 Medi 2022
Cyfeirnod: NL-21-00018
Grantï: Royal Chelsea Hospital
Categori buddiolwr: Mentrau Bach a Chanolig eu Maint
Swm y cymhorthdal: £3,179,089
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 a Deddf y Loteri Genedlaethol Etc 1993.
Amcan polisi: Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU. Rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth DU gyfan, rhanbarthol a lleol. Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Diben y cymhorthdal: Fel rhan o gynllun cyfalaf ar draws y safle sydd y tu hwnt i gwmpas y prosiect hwn, bydd Soane Stables - sydd ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio fel storfa ac yn anaddas i'r cyhoedd fynd iddynt – yn cael eu hadfer a'u cyfarparu fel canolfan ymwelwyr. Bydd cyfleoedd dehongli ac ymgysylltu â'r cyhoedd newydd, a rhaglen o weithgareddau, yn hyrwyddo mwynhad y cyhoedd o’r dreftadaeth a’u gwybodaeth amdani.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth gynaliadwy a ffyniannus yn y DU. Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw neu sector cyhoeddus.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig.
Crynodeb Prosiect: Bydd Ysbyty Brenhinol Chelsea yn defnyddio'r cyllid dros dair blynedd a hanner (rhwng mis Medi 2022 i fis Rhagfyr 2025), i wneud gwaith cyfalaf i adnewyddu a chyfarparu Soane Stables. Ar yr un pryd, bydd cynllun gweithgareddau manwl a fydd yn cyflwyno newid sylweddol yn y cynnig i ymwelwyr. Bydd y ganolfan ymwelwyr ar gael i'r cyhoedd ar ôl y prosiect am weddill cyfnod ein contract.
Gwybodaeth Rheoli Cymhorthdal mewn perthynas â grant i Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge
Dyddiad y grant: 1 Chwefror 2022
Cyfeirnod: MF-21-00078
Grantï: Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge (IGMT)
Categori buddiolwr: Mentrau Bach a Chanolig eu Maint
Swm y cymhorthdal: £9,974,353
Sail gyfreithiol y cymhorthdal: Mae gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (y corff corfforaethol sy'n gweithredu'r Gronfa Treftadaeth) bŵer statudol i ddyfarnu grantiau o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980.
Gweinyddwyd y Gronfa Asedau Diwylliannol gan y Gronfa Treftadaeth, a ddosbarthodd arian cymorth grant (gyda chyllid a ddarparwyd gan DCMS fel rhan o Gronfa Adfer Diwylliant ehangach llywodraeth y DU) i gefnogi unrhyw ased treftadaeth sydd o bwysigrwydd eithriadol i'r dreftadaeth genedlaethol ac a oedd mewn perygl o ganlyniad i effaith y coronafeirws (COVID-19).
Amcan polisi: Diogelu asedau treftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol yn Lloegr a oedd mewn perygl o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19.
Diben y cymhorthdal: Diogelu, drwy alluogi atgyweirio a chadwraeth, portffolio o 49 o adeiladau ac adeileddau ar draws Safle Treftadaeth y Byd Ceunant Ironbridge, a darparu gwaddol i alluogi'r grantï i ddychwelyd i hyfywedd ariannol ac i weithredu ar ôl y pandemig.
Cymhwysedd ar gyfer y cymhorthdal: Roedd yn rhaid i ymgeiswyr i'r Gronfa Asedau Diwylliannol fod yn elusennau, sefydliadau nid-er-elw, neu sefydliadau'r sector cyhoeddus. Bu'n rhaid i'r ased treftadaeth fod o bwysigrwydd eithriadol i'r dreftadaeth genedlaethol ac mewn perygl o ganlyniad i effaith COVID-19.
Sail dros gyfrifo'r cymhorthdal: Costau'r prosiect fel y nodir yng nghais y grantï ac wedi'u hasesu a'u dilysu gan staff y Gronfa Treftadaeth a'r paneli argymell a phenderfynu sy'n cael eu cynnull yn arbennig.
Crynodeb Prosiect: Bydd IGMT yn defnyddio'r cyllid cymhorthdal i fynd i'r afael ag ôl-groniad o atgyweiriadau cadwraeth ar 49 o adeiladau ac adeileddau ar draws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn Swydd Amwythig. Mae'r prosiect yn cynnwys rhaglen gwaith cyfalaf tair blynedd a fydd yn galluogi IGMT i ymdrin â'r anghenion cadwraeth mwyaf brys sydd y tu hwnt i'w gallu ariannol ar hyn o bryd, a dychwelyd yr Ymddiriedolaeth i sail ariannol sefydlog er mwyn cynorthwyo adferiad yn sgil COVID-19. Mae'r cymhorthdal hefyd yn cynnwys £4.5m o gyllid gwaddol sydd i'w reoli gan gwmni Rheoli Buddsoddiadau proffesiynol er mwyn cynhyrchu incwm i ariannu gwaith cynnal a chadw cadwraeth parhaus.