Sut y byddwn yn defnyddio deallusrwydd artiffisial

Sut y byddwn yn defnyddio deallusrwydd artiffisial

See all updates
Mae'r dudalen hon yn nodi ein hymagwedd at deallusrwydd artiffisial (AI). Ni fwriedir iddi ddarparu arweiniad manwl ar gymhwyso AI, ond i ddarparu sail ar gyfer polisïau a chyngor pellach.

Diffiniad

Mae llawer o ddiffiniadau o AI. Rydym yn ei ddefnyddio i gyfeirio at systemau awtomeiddio a bwerir gan gyfrifiaduron i gyflawni tasgau sydd yn aml yn cynnwys darogan neu wneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys technolegau fel adnabod delweddau a thestun, modelau iaith mawr (LLM) a'r gallu i gynhyrchu testun, delweddau, sain a fideo.

Ein man cychwyn ymgysylltu ag AI

Byddwn bob amser yn gweithredu'n gyfreithlon, yn foesegol ac yn gyfrifol yn ein defnydd o AI. Fel corff hyd braich o Lywodraeth y DU, rydym yn edrych yn gyntaf ac yn bennaf ar eu canllawiau gan gynnwys y deg egwyddor a nodir yn Fframwaith AI Cynhyrchiol Llywodraeth EF. Rydym yn ymrwymo i ddilyn yr egwyddorion hyn wrth i ni arbrofi gyda'r defnydd o AI i gefnogi cyflawniad ein strategaeth, Treftadaeth 2033. Fel ariannwr mwyaf treftadaeth y DU, sydd wedi'i ymddiried â'r gwaith o wneud penderfyniadau pwysig sy'n effeithio ar lawer o sefydliadau a phobl, mae gennym gyfrifoldeb i weithredu'n onest ac yn dryloyw yn ein defnydd o AI.

At hynny, fel cyflogwr ac fel rheolwr data, prosesydd a chyhoeddwr data grantiau, rhaid i ni feddwl yn ofalus am pryd a sut rydym yn defnyddio technolegau newydd a phwerus. Credwn mai dim ond drwy gyfuno AI â chwilfrydedd dynol, greddf a sgiliau datrys problemau y byddwn yn gwireddu ei fanteision posibl.

Ein hymrwymiad i AI cyfrifol, yn unol â'n gwerthoedd

Uchelgeisiol

  • Byddwn yn chwilfrydig, yn llawn dychymyg ac yn greadigol am yr hyn y gall AI ei wneud i'n helpu i gyflwyno'r uchelgeisiau a nodir yn Treftadaeth 2033.
  • Byddwn yn parhau i ddysgu gan eraill sydd ar flaen y gad o ran AI i addasu ein ffordd o weithio ac i ymestyn ein nodau.
  • Byddwn yn sicrhau bod ein staff yn cael eu cefnogi a'u grymuso i ymdopi â newidiadau mewn technoleg AI, gan gynnwys hyfforddiant priodol.

Cynhwysol

  • Bydd ein defnydd o AI yn cyd-fynd â goruchwyliaeth ddynol effeithiol a chymesur, sy'n ystyried gwahanol safbwyntiau a phrofiadau ein staff a'n rhanddeiliaid o lygad y ffynnon.
  • Lle y byddwn yn dewis defnyddio AI, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n foesegol, yn gydnerth, yn gadarn ac yn ddiogel i bawb. Byddwn yn chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio AI i gynyddu cynhwysiad a hygyrchedd. A byddwn yn asesu cywirdeb, dibynadwyedd a chysondeb yr offer AI rydym yn eu defnyddio ac yn dod ar eu traws.
  • Byddwn yn ymwybodol bod tuedd ac anghydraddoldeb yn bodoli wrth ddatblygu neu ddefnyddio offer AI a byddwn yn rhagweithiol wrth nodi, cyfathrebu a mynd i'r afael â'r rhain.

Cydweithredol 

  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid a chymheiriaid i rannu arbenigedd a phrofiad er budd cwsmeriaid a staff.  
  • Rydym yn disgwyl i'n partneriaid a'n cyflenwyr gymryd y gwerthoedd a'r mesurau diogelu hyn yn erbyn niwed posibl technolegau AI yr un mor ddifrifol ag yr ydym ni.
  • Byddwn yn ystyried hawliau ein holl randdeiliaid wrth ddefnyddio AI gan gynnwys ymgeiswyr, partneriaid ariannu, staff a chyflenwyr.

Dibynadwy

  • Byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o AI yn cydymffurfio â  deddfwriaeth diogelu data ac yn parchu hawliau unigolion. Byddwn yn gweithio gydag offer AI dim ond pan fydd gennym hyder yn eu heffeithiolrwydd a'u cywirdeb a'n gallu i reoli unrhyw risgiau y maent yn eu cyflwyno.
  • Byddwn yn dryloyw ynghylch ble rydym wedi defnyddio offer AI yn fwriadol, gan nodi lle bo modd pryd a sut mae cynnwys neu ddata wedi'i gynhyrchu gan beiriant. Rydym yn disgwyl i’n rhanddeiliaid wneud yr un peth.
  • Byddwn yn ceisio cydbwyso effaith amgylcheddol negyddol defnyddio offer AI yn erbyn eu manteision.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...