Partneru gyda ni

Partneru gyda ni

Fel rhan o'n strategaeth Treftadaeth 2033, rydym wedi ymrwymo i gryfhau partneriaethau â llywodraethau, awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol a chydweithio â'r rhai sy'n rhannu ein gweledigaeth.

Rydym am greu partneriaethau sy'n fuddiol i dreftadaeth ac yn darparu mwy o werth i bobl, cymunedau a lleoedd drwy ddeall anghenion a blaenoriaethau lleol ac ymateb iddynt.

Dywedodd ein Prif Weithredwr, Eilish McGuinness: “Mae partneriaethau a gwaith ar y cyd yn rhan bwysig o gyflawni ein gweledigaeth: gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb yn y dyfodol. Boed hynny drwy ymchwil, ariannu cyfunol, cyfathrebu neu ymhellach, rydyn ni'n gwybod bod angen i ni weithio gydag eraill i wneud gwahaniaeth parhaol dros dreftadaeth.” 

Beth rydym yn chwilio amdano mewn partner

Nid ydym yn gosod meini prawf ffurfiol ar gyfer creu partneriaethau, ond byddwn yn rhoi blaenoriaeth i'r rhai lle mae'r:

  • bartneriaeth yn cymryd ein hegwyddorion buddsoddi i ystyriaeth, yn enwedig pan fo'n ymwneud â defnyddio arian grant 
  • sefydliadau partner wedi'u halinio â'n gwerthoedd ac ymddygiadau 
  • partneriaeth yn deg o ran ei dull, er enghraifft lle gall partner(iaid) ychwanegu gwerth, cyfrannu adnoddau a rhannu ei risg a'i darpariaeth

Pan fydd cyfleoedd partneriaeth ar gael, byddwn yn eu rhestru isod.

Sut rydym eisoes yn gweithio mewn partneriaethau

Cyfuno buddsoddiad grant â chefnogi prosiectau'n well 

Menter partneriaeth strategol yw Trefi a Dinasoedd Natur rhyngom ni, Natural England a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. 

Rydym wedi buddsoddi £15 miliwn mewn prosiectau a fydd yn helpu creu lleoedd mwy gwyrdd a hapus i bobl fyw a gweithio ynddynt, ac mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Natural England yn darparu arbenigedd a chefnogaeth i garfanau, gan helpu ein hariannu i fynd hyd yn oed ymhellach.

Cyflwyno grantiau arbenigol ar ran eraill

Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ers 2020. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd rhoi grantiau, ein systemau sydd wedi profi eu gwerth a'n rhwydweithiau i ddarparu ariannu sy'n cefnogi Cynllun Hinsawdd a Natur Llywodraeth Cymru a'n huchelgais i ddiogelu'r amgylchedd a sicrhau adferiad treftadaeth naturiol.

Ar hyn o bryd rydym yn derbyn ceisiadau i'r Gronfa Rhwydweithiau Natur ar gyfer prosiectau sy'n adfer bioamrywiaeth, yn creu swyddi ac yn cryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau a'u hamgylchedd naturiol ar draws Cymru. 

Gwneud i ariannu'r Loteri Genedlaethol fynd ymhellach gyda phartneriaethau buddsoddi cymdeithasol

Cronfa partneriaeth strategol yw'r Gronfa Effaith Celfyddydau a Diwylliant sy'n cynnig cyllid fforddiadwy ac ad-daladwy i sefydliadau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth a ysgogir gan gymdeithas. Mae'n cael ei reoli gan Figurative ar ein rhan ni ac ar ran buddsoddwyr eraill, gan gynnwys: 

  • Cyngor Celfyddydau Lloegr
  • Sefydliad Esmée Fairbairn
  • Big Society Capital
  • Sefydliad Freelands
  • Bank of America Merrill Lynch
  • Nesta

Gellir ei ddefnyddio, ymhlith pethau eraill, i gaffael asedau newydd, gwella seilwaith adeiledig a datblygu mentrau newydd. 

Cyfleoedd partneriaeth

Buddsoddi mewn ymgysylltiad plant a phobl ifanc â threftadaeth

Rydym am helpu trawsnewid sut mae'r sector treftadaeth yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Hoffem bartneru ag arianwyr eraill ac arbenigwyr dysgu ac effaith i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith unrhyw ymyriad a wnawn. Archwiliwch y cyfle ar Hwb Cydweithio'r Gymdeithas Sefydliadau Elusennol.

Mwy o wybodaeth ac i gael gwybod y diweddaraf

Dilynwch ni ar LinkedIn a chofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gadw'n gyfredol â'n cyfleoedd partneriaeth diweddaraf. Gallwch e-bostio ni hefyd i gofrestru eich diddordeb neu mae mwy o wybodaeth ar gael gan emma.stagg@heritagefund.org.uk

Rydym hefyd yn postio cyfleoedd partneriaeth ar Hwb Cydweithio y Gymdeithas Sefydliadau Elusennol.