Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd chwech)

Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd chwech)

See all updates
Nod y gronfa hon, sy'n dyfarnu grantiau rhwng £250,000 ac £1miliwn, yw cryfhau cydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir, dŵr croyw a morol gwarchodedig, ac adeiladu gallu sefydliadau i gyflymu adferiad byd natur ac ymgysylltu â chymunedau.

Ai hon yw'r rhaglen iawn i chi?

  • Ydych chi'n sefydliad sy'n gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru? 
  • A oes angen ariannu arnoch i gynllunio neu gyflwyno prosiect sy'n seiliedig ar fyd natur? 
  • A yw eich prosiect yn canolbwyntio ar wella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yng Nghymru o fewn ac o amgylch y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig? 
  • A oes angen grant rhwng £250,000 ac £1m arnoch? 
  • Os gwnaethoch chi ateb yn gadarnhaol i'r cwestiynau hyn, yna mae Cronfa Rhwydweithiau Natur yn addas i chi.

Trosolwg

Rydym yn cyflwyno Cronfa Rhwydweithiau Natur ar ran Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Nod Cronfa Rhwydweithiau Natur yw gwella cydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir, dŵr croyw a morol gwarchodedig. Mae'n elfen allweddol o gyflwyno Rhaglen Rhwydweithiau Natur ehangach Llywodraeth Cymru, gan gefnogi ei thargedau adferiad byd natur fel '30x30’.

Beth yw'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig?

Mae'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yn cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, safleoedd Ramsar a Pharthau Cadwraeth Forol. I wirio a yw ardal o dir, dŵr croyw neu fôr wedi'i chynnwys o fewn un o'r safleoedd hyn, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol CymruPhorth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru.

Mae gwella cyflwr a chysylltedd rhwng safleoedd gwarchodedig yn eu galluogi i weithredu'n well fel rhwydweithiau natur. Mae rhwydweithiau natur yn ardaloedd hanfodol a chydnerth lle gall cynefinoedd a rhywogaethau ffynnu, ehangu ac addasu i newid amgylcheddol. Bydd adfer cysylltedd yn y rhwydweithiau hyn yn:

  • atal dirywiad pellach mewn rhywogaethau a chyflwr cynefinoedd 
  • cefnogi adferiad byd natur 
  • gwella’r gallu i addasu i’r argyfwng hinsawdd 
  • gwella darpariaeth gwasanaethau ecosystem sy'n cefnogi ein lles

Mae'r gronfa hon hefyd yn cefnogi cyfranogiad gweithredol cymunedau mewn safleoedd gwarchodedig ac o'u cwmpas. Gall hyn fod yn hanfodol i lwyddiant hirdymor prosiectau adferiad byd natur, ac yn aml hefyd bydd manteision ehangach ar gyfer iechyd a lles pobl.

Gall sefydliadau sy’n gymwys gyflwyno uchafswm o un cais fel ymgeisydd arweiniol i’r Gronfa Rhwydweithiau Natur. Efallai y byddwch yn rhan o brosiectau ychwanegol fel partner.

Pethau y mae angen i chi eu gwybod

  • Rhaid i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb yn gyntaf i ddweud wrthym am eich syniad. Efallai y cewch eich gwahodd wedyn i wneud cais llawn. 
  • Mae'r dudalen hon yn cynnwys y prif arweiniad sydd ei angen arnoch i lunio eich cais, fodd bynnag mae gennym dudalennau arweiniad ychwanegol i'ch helpu i ateb y cwestiynau ar ein ffurflenni ar-lein a dylech ddarllen y rhain hefyd cyn dechrau ar eich cais.
  • Rhaid peidio â dechrau eich prosiect cyn i ni wneud penderfyniad.
  • Rydym yn darparu llawer o arweiniad arfer da. Gallwch ddarllen yr arweiniad sy'n berthnasol i chi i'ch helpu i ddatblygu a rheoli eich prosiect. 
  • Darllenwch ein safbwynt a’n cyngor ar ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial (AI) yn eich cais am grant.

Gweminar

Os ydych yn sefydliad sydd â diddordeb mewn gwneud cais, ac os ydych wedi darllen yr arweiniad ymgeisio ond mae gennych gwestiynau o hyd, ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar cyn-ymgeisio Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 6) ar Dydd Iau 16 Gorffennaf, 2–3.30pm trwy gofrestru yma.

Beth mae Rhwydweithiau Natur yn ei ariannu

Drwy’r Gronfa Rhwydweithiau Natur, rydym am gefnogi:

  • Gweithredu ar safleoedd gwarchodedig neu'r rhwydweithiau ecolegol sy'n eu cynnal. Gall hyn gynnwys gweithredu y tu allan i safleoedd gwarchodedig a fydd yn fanteisiol i'r rhwydwaith yn gyffredinol (gweler 'Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan brosiectau' isod).   Dylai'r prosiect hefyd ddangos rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol ar draws Cymru.   
  • Camau gweithredu y gall cymunedau lleol gymryd rhan ynddynt mewn ffordd deg a gweithredol, ac elwa ohonynt. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cyfranogiad gweithredol gydag ystod amrywiol o bobl a chymunedau (yn enwedig grwpiau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol). Dylai cyfranogiad y gymuned gynyddu’r rhwydwaith o bobl sy’n ymwneud â byd natur, a meithrin cydnerthedd safleoedd gwarchodedig a’u rhwydweithiau ecolegol. 

Iaith Gymraeg

Rhaid i chi gynnwys y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith. Dywedwch wrthym sut y byddwch chi'n hyrwyddo ac yn cefnogi'r Gymraeg ac yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru.

Gwnewch yn siŵr bod cyfieithu wedi'u cynnwys yn eich cynllun prosiect a chyllideb eich prosiect o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau prosiect y cais.

Am ragor o wybodaeth gweler ein Harweiniad prosiect dwyieithog yng Nghymru.

Hyrwyddo a chydnabod ariannu

Darperir yr ariannu hwn gan Lywodraeth Cymru. Fel rhan o’ch grant, rhaid i chi gydnabod eich ariannu ar gyfryngau cymdeithasol, drwy ddatganiadau i’r wasg, a thrwy arddangos ein logo partneriaeth. Darllenwch ein Canllaw cydnabod eich grant gan Lywodraeth Cymru.  

Bydd cynllunio'n gynnar, a dyrannu cyllideb briodol, yn eich helpu i fodloni ein gofynion a chydnabod eich grant mewn ffyrdd sy'n greadigol ac yn addas ar gyfer eich prosiect.

Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer cydnabyddiaeth yn y categori costau 'Cyhoeddusrwydd a hyrwyddo' yn adran costau prosiect y cais. Rydym yn argymell i chi seilio'r costau hyn ar ddyfynbrisiau gan ddarpar gyflenwyr.

Defnyddiwch ein harweiniad cydnabyddiaeth i gynllunio eich gweithgareddau'n gymesur â maint eich grant.

Gwerthuso ac adrodd

Rydym yn argymell i chi ystyried gwerthuso o ddechrau eich prosiect. Po fwyaf gofalus y mae prosiectau'n cyllidebu ar gyfer eu gwerthusiad, yr uchaf fydd ansawdd yr adroddiad terfynol. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn ein canllaw gwerthuso.  

Ar ddiwedd eich prosiect byddwn yn disgwyl i chi gyflwyno adroddiad gwerthuso. Mae angen cyflwyno hwn cyn i ni dalu'r 10% olaf o'ch grant.  Dylai hyn gynnwys manylion am sut mae cydnerthedd ecosystemau a/neu gysylltedd cynefinoedd wedi elwa o’r buddsoddiad (neu y bydd yn elwa yn y dyfodol). Dylech rannu data a methodoleg monitro perthnasol. 

Byddwn hefyd yn disgwyl i chi rannu data geo-ofodol a data eraill ar ble mae eich prosiect wedi gweithio er mwyn gwella setiau data Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn disgwyl i chi gyflwyno cofnodion presenoldeb/absenoldeb rhywogaethau i'ch canolfan cofnodion amgylcheddol leol a/neu gronfa ddata cofnodion cyhoeddus debyg. Caiff arweiniad pellach ar hyn ei ddarparu os dyfernir grant i chi. 

Adennill costau llawn

Os ydych yn sefydliad yn y sector gwirfoddol (er enghraifft, efallai bod gennych fwrdd ymddiriedolwyr ac wedi'ch ariannu gan grantiau a rhoddion), gallwn dalu cyfran o orbenion eich sefydliad ar ffurf adennill costau llawn.

Mae adennill costau llawn yn golygu sicrhau ariannu ar gyfer yr holl gostau sydd ynghlwm wrth redeg prosiect. Mae hyn yn golygu y gallwch ofyn i gostau prosiect uniongyrchol gael eu hariannu yn ogystal â chyfran gymesur o gostau sefydlog eich sefydliad.

Gall hyn gynnwys costau sy’n cefnogi’r prosiect yn rhannol, ond sydd hefyd yn cefnogi prosiectau neu weithgareddau eraill y mae eich sefydliad yn eu darparu, megis cyflogau staff sy’n gweithio ar draws prosiectau ym meysydd gweinyddu, rheoli, AD, neu godi arian, costau swyddfa fel rhent neu gyfleustodau a ffioedd cyfreithiol neu archwilio.

Gall ariannu sy’n talu am rai o’ch costau rhedeg fod yn bwysig i’ch cynaladwyedd, felly rydym yn eich annog i ystyried cynnwys hyn yn eich cyllideb yn y categori costau ‘Adennill costau llawn’ os ydych yn gymwys. 

Mae arweiniad cydnabyddedig ar gyfrifo’r swm adennill costau llawn sy’n berthnasol i’ch prosiect ar gael gan sefydliadau megis Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan brosiectau

Mae'n rhaid i weithgareddau greu buddion uniongyrchol ar gyfer y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig nawr neu yn y dyfodol. Bydd hyn fel arfer yn ymwneud â gwelliannau'n uniongyrchol ar safle neu ar leoliadau cyfagos a fydd yn gwella cyflwr nodweddion a chysylltedd safleoedd. Gall gynnwys y canlynol hefyd: 

  • gwelliannau i hygyrchedd safle 
  • cefnogi sefydliadau i gyrraedd cymunedau sydd heb eu gwasanaethau'n ddigonol 
  • cefnogi sefydliadau neu unigolion sydd (neu a fydd yn y dyfodol) yn ymwneud â phrosiectau ar safleoedd a/neu ar rwydweithiau ecolegol sy'n eu cefnogi. Gallai hyn gynnwys cynllunio, staffio, hyfforddiant, prentisiaethau, cyllid gwyrdd, caffael tystiolaeth drwy arolygon ac yn y blaen.

Gall prosiectau weithredu ar dir/dŵr croyw/ymôr o fewn a thu hwnt i'r safleoedd gwarchodedig eu hunain. Er enghraifft, gallai prosiectau y tu hwnt i safleoedd gwarchodedig:

  • wella cysylltedd ecolegol rhwng safleoedd gwarchodedig penodol  
  • gweithredu er budd cynefinoedd neu rywogaethau y tu hwnt i safleoedd gwarchodedig lle y maent hefyd yn nodweddion o safleoedd gwarchodedig cysylltiedig 
  • canolbwyntio ar rywogaeth nad yw’n nodwedd o safle, cyn belled â’i bod yn creu buddion o ran cyflwr, cysylltedd neu weithrediad ecosystem safleoedd penodol a’u nodweddion 
  • fod o fudd i gynefin neu rywogaeth nad yw'n nodwedd o safle ar hyn o bryd, ond bod tystiolaeth yn awgrymu y gallai fod felly 
  • fod yn seiliedig ar ardaloedd diffiniedig nad ydynt o dan warchodaeth statudol ar hyn o bryd, ond sydd â lefel debyg o bwysigrwydd o ran bioamrywiaeth 
  • lleihau effeithiau allanol ar safleoedd gwarchodedig i wella cyflwr, er enghraifft o ddyddodiad nitrogen neu gytrefu Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol (INNS)
  • adfer swyddogaethau ecosystem o amgylch safleoedd gwarchodedig ar raddfa'r dirwedd

Ym mhob un o'r achosion hyn, rhaid i gais gynnwys cyfiawnhad sy'n seiliedig ar dystiolaeth dros gymhwystra'r prosiect. Dylid enwi'r safleoedd a'r nodweddion penodol sy'n elwa o'r prosiect ac esbonio'r sail resymegol ecolegol drosto.

Bydd disgwyl i chi ddangos bod eich prosiect arfaethedig yn cyflwyno yn erbyn yr amcanion rheoli neu amcanion cadwraeth ar gyfer y safle dan sylw.  

Byddwn yn ceisio ariannu cyfuniad o weithgarwch cyfalaf a refeniw ar draws portffolio o brosiectau. I gael mwy o ddealltwriaeth, gweler ‘Pa gostau allwch chi ymgeisio amdanynt?' isod. 

Nodi safleoedd posibl ar gyfer cysylltedd

Bydd camau gweithredu i wella cysylltedd rhwng safleoedd gwarchodedig yn fwyaf effeithiol os caiff eu lleoli i wella patrymau cysylltedd presennol yn y dirwedd. Mae camau gweithredu'n debygol o fod yn fwyaf effeithiol os ydynt yn atgyfnerthu, yn ehangu neu'n creu cysylltiadau rhwng rhwydweithiau cynefinoedd.

Mae’r Mapiau Rhwydweithiau Natur ar gael i helpu gyda hyn a gellir eu cyrchu trwy MapDataCymru a Phorth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru. 

Mae’r mapiau’n dangos rhwydweithiau wedi’u modelu ar gyfer amrywiaeth o gynefinoedd sy’n dangos pa mor dda y mae ardaloedd cynefin yn debygol o fod wedi'u cysylltu ar draws Cymru ac â’r Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth. Maent yn dynodi cysylltedd presennol tebygol yn benodol rhwng ac o amgylch safleoedd gwarchodedig ar gyfer cynefinoedd gwahanol. Mae'r mapiau hefyd yn cyflwyno byffer generig o amgylch yr holl safleoedd gwarchodedig i dynnu sylw at bwysigrwydd gweithredu yn agos at safleoedd presennol.

Mae'n bwysig nodi mai allbynnau wedi'u modelu yw'r mapiau hyn a'u bwriad yw cyfeirio camau gweithredu, yn hytrach na'u rhagnodi. Efallai y bydd allbynnau model eraill ar gael, ac mae nodweddion cysylltiol eraill yn y dirwedd, megis cyrsiau dŵr, cloddiau neu hyd yn oed ymylon ffyrdd, a allai gael eu hystyried wrth gynllunio prosiectau.

Trwyddedau, caniatadau a chydsyniadau 

Rhaid i ymgeiswyr ddangos yn eu cais eu bod yn ymwybodol o'r caniatadau a'r trwyddedau perthnasol i gyflawni eu prosiect, a’u bod yn gweithio tuag at eu caffael.

Dylech gynnwys manylion unrhyw ganiatadau sydd dal heb eu caffael yn eich cynllun prosiect, sydd ar gael ar ein tudalen templedi.

Gwyddoniaeth dinasyddion

Dylai gweithgareddau gwyddoniaeth dinasyddion nodi'n glir unrhyw drwyddedau, caniatadau neu gydsyniadau sydd eu hangen, gan gynnwys ystyriaethau mynediad i safleoedd a rhywogaethau gwarchodedig lle bo'n berthnasol. Dylai prosiectau sicrhau bod gwirfoddolwyr wedi'u hyfforddi'n briodol a’u bod yn gweithredu o fewn gofynion cyfreithiol a diogelwch. Rhaid i ymgeiswyr ddangos sut mae casglu data yn gweddu i arfer da cydnabyddedig. Dylai prosiectau adolygu'r arweiniad ar Ofod Dinasyddion Cyfoeth Naturiol Cymru. Dylai unrhyw brosiectau sy'n gofyn am gymorth gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas ag ansawdd data, storio ac alinio ag anghenion tystiolaeth, sicrhau bod allbynnau yn gadarn ac yn addas ar gyfer llywio rheolaeth amgylcheddol, gwblhau cais cydweithio gwyddoniaeth dinasyddion.

Amserlen ymgeisio a dyddiadau allweddol

  • Terfyn amser ar gyfer Mynegiadau o Ddiddordeb: 12 hanner dydd ar 5 Awst 2026
  • Terfyn amser ymgeisio: 12 hanner dydd ar 3 Tachwedd 2026
  • Bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud: Chwefror 2027
  • Dyddiad cwblhau eich prosiect: 31 Mawrth 2030

Pwy all ymgeisio?

Mae'r cynllun yn agored i bob sefydliad sy'n gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru. Rhaid i chi ddangos eich bod yn ymwybodol o feddu ar y caniatadau, y trwyddedau a'r cydsyniadau cywir sydd eu hangen i ymgymryd â gweithgaredd ar y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig neu'r ardaloedd cyfagos, a'ch bod wedi sicrhau'r rhain yn barod neu y byddwch yn gweithio tuag at eu sicrhau.  Mae'n rhaid i'r ardal yr ydych yn ei wella fod yng Nghymru, ond gallwch chi/eich sefydliad fod wedi’ch lleoli unrhyw le yn y DU.

Partneriaethau

Rydym yn eich annog yn gryf i weithio gyda phobl eraill i ddatblygu a chyflawni eich prosiect. 

Mae partner yn sefydliad arall neu gorff trydydd parti sy'n rhan annatod o gyflawni'ch prosiect.

Nid yw partneriaid yn isgontractwyr. Bydd ganddynt rôl weithredol yn y prosiect a byddant yn cymryd rhan yn y prosiect. Byddant yn helpu i adrodd ar y prosiect, yn mynychu cyfarfodydd partneriaeth rheolaidd ac yn cefnogi gwerthusiad y prosiect. 

Os ydych yn bwriadu gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni cyfran sylweddol o'ch prosiect, mae'n rhaid i chi ffurfioli eich perthynas trwy gytundeb partneriaeth.

Gweithio ar dir preifat

Ceir llawer o gynefinoedd a rhywogaethau dynodedig ar dir sy'n eiddo i unigolion preifat neu sefydliadau er-elw. Gall prosiectau gyflwyno gwaith neu weithgareddau ar dir preifat cyhyd â bod unrhyw fudd cyhoeddus yn amlwg yn drech nag unrhyw fudd preifat posibl ac ar yr amod nad yw rheolau rheoli cymorthdaliadau'n cael eu torri. 

Er enghraifft, gallem ariannu gwaith adfer gwrychoedd neu greu pyllau ar fferm, ar yr amod nad ydynt yn ychwanegu gwerth ariannol at y tir nac yn cyfleu unrhyw fudd ariannol anuniongyrchol sylweddol a allai dorri rheolau rheoli cymorthdaliadau. 

Wrth weithio ar dir preifat, rydym yn deall y gall fod cyfyngiadau ar fynediad cyhoeddus. Fodd bynnag, rydym yn annog mynediad cyhoeddus pryd bynnag y bo'n ymarferol. Rydym hefyd yn cydnabod efallai na fydd mynediad ffisegol bob amser yn briodol nac yn ddymunol am resymau cadwraeth cynefinoedd. Os yw mynediad gwell yn bosib, efallai y byddwch hefyd eisiau gwneud cais am ariannu ar gyfer seilwaith newydd, er enghraifft llwybrau neu guddfannau, a all helpu i ddarparu mwy o fynediad i'r cyhoedd. 

Gall gwaith gael ei wneud ar dir sy'n eiddo i adran o'r llywodraeth neu gorff hyd braich ar yr amod nad ydynt yn elwa'n ariannol o unrhyw fuddsoddiad. Pe bai elusen neu bartneriaeth amgylcheddol yn gwneud gwaith ar y fath dir, dim ond ar gyfer gwaith na fyddai'n dod o dan unrhyw gyfrifoldeb statudol y gall fod.

Pa gostau allwch chi ymgeisio amdanynt?

Ar gyfer Rownd Chwech Cronfa Rhwydweithiau Natur, rydym am ariannu prosiectau sy’n canolbwyntio ar ddarpariaeth gyfalaf.

Dylai prosiectau gynnwys mwyafrif o ariannu cyfalaf a dylent ganolbwyntio ar waith cyfalaf. Gallwch gynnwys costau refeniw i gefnogi darpariaeth y gwaith hwn. Rhaid i brosiectau sy’n rhoi mwy o bwyslais ar weithgarwch refeniw gyfiawnhau’r angen am y dull hwn yn glir o ran bodloni canlyniadau’r gronfa.

Mae’n bwysig i chi nodi yn eich cais pa rai o’ch costau sy’n gyfalaf a pha rai sy’n refeniw.

Costau cyfalaf:

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o gostau cyfalaf ond nid yw'n rhestr gyflawn.

  • prynu eitemau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau rheoli tir, megis coed, planhigion gwrychoedd, ffensys ac eitemau gwaith cyfalaf sy'n ofynnol i gyflwyno’r canlyniadau 
  • costau cyffredinol a geir wrth osod y gwaith cyfalaf, sy'n cynnwys costau contractwyr ar gyfer llafur a defnyddio offer 
  • prynu peiriannau ac offer hyd at werth yr ased ar y farchnad 
  • prynu, dylunio a gosod paneli dehongli, gan gynnwys costau cyfieithu 
  • caffael neu ddatblygu meddalwedd cyfrifiadurol a chaffael patentau, trwyddedau, hawlfreintiau a nodau masnach 
  • ffioedd ymgynghorydd, costau dylunio technegol eraill, arolygon safle a ffioedd proffesiynol megis arolygon ecolegol
  • Ffioedd a chostau'r cais cynllunio. Mae ffioedd a godir am ganiatadau, trwyddedau a chydsyniadau statudol yn gymwys, ar yr amod eu bod yn hanfodol er mwyn cyflwyno'r prosiect cyfalaf ac yn cael eu codi ar ôl i'r grant gael ei ddyfarnu. 
  • ariannu wrth gefn ar gyfer costau cyfalaf ychwanegol (argymhellwn tua 10% o arian wrth gefn) 
  • ariannu ar gyfer chwyddiant i ganiatáu ar gyfer cynnydd mewn costau cyflwyno’r prosiect yn y dyfodol 

Costau refeniw

  • amser staff 
  • adennill costau llawn neu gostau sefydliadol craidd tuag at gyflwyno prosiect (sefydliadau'r sector gwirfoddol yn unig)
  • costau gweithgareddau (digwyddiadau, lluniaeth, llogi ystafell, etc) 
  • gwerthuso 
  • cynllunio'r prosiect (astudiaethau dichonoldeb, ymgynghori â thirfeddianwyr/y gymuned, adolygiadau llywodraethu, cyngor ymgynghorol ar gyllid gwyrdd, etc) 
  • costau hyfforddi a phrentisiaethau 
  • costau cyfieithu 
  • ariannu wrth gefn ar gyfer costau refeniw ychwanegol (argymhellwn tua 10% o arian wrth gefn) 
  • ariannu chwyddiant i ddarparu ar gyfer cynnydd mewn costau staff dros flynyddoedd ariannu staff yn y dyfodol

Costau anghymwys

Ni chewch gynnwys costau ar gyfer:

  • cynnal a chadw parhaus neu gostau rhedeg yn y dyfodol y tu hwnt i gyfnod y prosiect. 
  • caffael tir neu adeiladau
  • codi adeiladau newydd ar raddfa fawr (e.e. canolfannau ymwelwyr)
  • TAW y gellir ei adennill
  • costau unrhyw weithgarwch sydd wedi digwydd cyn i grant gael ei ddyfarnu

Arian cyfatebol

Nid oes unrhyw ofynion o ran cyfraniadau arian parod neu anariannol ar gyfer y Gronfa Rhwydweithiau Natur. Fodd bynnag, gall unrhyw gyfraniadau arian parod, anariannol neu ar ffurf gwirfoddolwyr y byddwch yn eu darparu ychwanegu at effaith a gwerth am arian eich prosiect, a fydd yn cael eu hystyried yn y cam asesu. 

Ni chewch ddefnyddio'r grant hwn fel arian cyfatebol ar gyfer prosiect gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, nac i'r gwrthwyneb.

Sut i wneud cais

Noder: Peidiwch â symud ymlaen yn syth at lunio'ch cais. Yn gyntaf mae'n rhaid i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb er mwyn i ni allu rhoi adborth cynnar i chi ar eich cynnig prosiect. Mae’n bosibl wedyn y cewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn.

Gofynnwn i bob ymgeisydd sy'n gwneud cais am grant rhwng £250,000 ac £1miliwn gwblhau ffurflen Mynegiad o Ddiddordeb (MoDd) fer. Ewch i'n tudalen Mynegiad o Ddiddordeb i gael gwybod mwy am sut i lenwi eich ffurflen.

Rhaid i chi gyflwyno eich MoDd erbyn 12 hanner dydd ar 5 Awst 2026.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch i benderfynu p'un a fyddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn ai beidio. nid yw gwahoddiad i wneud cais yn gwarantu grant gennym yn y dyfodol, ond mae'n dangos ein bod yn gweld potensial yn eich cynigion cychwynnol.

Anelwn at ymateb i'ch Mynegiad o Ddiddordeb o fewn 20 diwrnod gwaith.  Os bydd eich MoDd yn llwyddiannus, rhaid i chi gyflwyno eich cais llawn erbyn 12 hanner dydd ar 5 Tachwedd 2026.

Ewch i’n gwasanaeth ar-lein i wneud cais.

Dogfennau ategol

Bydd angen i chi ddarparu'r dogfennau ategol perthnasol a restrir isod fel rhan o'r broses ymgeisio. Ewch i'n tudalen Cwestiynau ymgeisio: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd chwech) am fanylion llawn. Gallwch lawrlwytho'r templedi angenrheidiol yma fel rhan o'ch cais. Dylai maint y ffeiliau fod yn llai na 20MB.

Noder bod rhai o'r dogfennau ategol sydd eu hangen ar gyfer y rhaglen hon yn wahanol i'r rhai a nodir yn y ffurflen gais ar-lein.

Rhaid i bob prosiect ddarparu'r dogfennau gorfodol canlynol:

  • dogfen lywodraethu (oni bai eich bod wedi’ch eithrio)
  • Cyfrifon wedi'u harchwilio neu eu dilysu. Rhaid i chi ddarparu eich cyfrifon diweddaraf sydd wedi'u harchwilio neu eu dilysu gan gyfrifydd ar gyfer y tair blynedd diwethaf a’ch cyfrifon rheoli ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Os yw cyfrifon eich sefydliad yn hŷn na 18 mis oed, neu os sefydlwyd eich sefydliad lai na 14 mis yn ôl ac nad oes ganddo set o gyfrifon wedi'u harchwilio, rhaid i chi ddarparu eich tair cyfriflen banc ddiwethaf neu lythyr wedi'i lofnodi gan eich banc.
  • cynllun prosiect a chofrestr risgiau (defnyddiwch ein templed sydd ar gael yma, gan gwblhau pob tab)
  • templed costau (defnyddiwch ein templed costau prosiect sydd ar gael yma a rhaid i chi wahanu'r costau i Gyfalaf a Refeniw)
  • dogfennau perchnogaeth tir, fel y Gofrestrfa Tir neu les neu Benawdau Telerau (gorfodol ar gyfer prosiectau cyfalaf)
  • map yn dangos lleoliad y safle(oedd) ar raddfa ranbarthol
  • o leiaf un map yn dangos lleoliadau gwaith cyfalaf, gyda safleoedd/nodweddion gwarchodedig wedi'u labelu. 
  • dogfen yn amlinellu strwythur rheoli eich prosiect er mwyn i ni wybod pwy fydd yn gwneud penderfyniadau a sut y byddwch yn rheoli newid yn ystod eich prosiect
  • dogfen yn amlinellu'r prif risgiau sy'n wynebu'r prosiect ar ôl iddo gael ei gwblhau a sut y byddant yn cael eu rheoli

Yn ogystal â'r dogfennau gorfodol, gall pob prosiect gynnwys y dogfennau canlynol lle bo'n berthnasol hefyd:

  • cytundeb partneriaeth (gorfodol os ydych yn gweithio mewn partneriaeth) 
  • disgrifiadau swydd (gorfodol os ydych yn creu swyddi neu brentisiaethau newydd fel rhan o’ch prosiect) 
  • briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir (gorfodol os ydych yn comisiynu gwaith fel rhan o’ch prosiect)  
  • cyfrifo Adennill Costau Llawn (os yn berthnasol) tystiolaeth o gefnogaeth, megis llythyrau, e-byst neu fideos cefnogol (dewisol)

Sut y byddwn yn asesu'ch cais

Pan fyddwn yn asesu eich cais, byddwn yn ystyried amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys:

  • y cyfraniad y mae eich prosiect yn ei wneud at wella cyflwr a chysylltedd y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yng Nghymru
  • eich cynlluniau i sicrhau bod gan bawb gyfleoedd i ddysgu, datblygu sgiliau newydd a fforio natur, beth bynnag fo'u cefndir neu amgylchiadau personol
  • a fydd eich sefydliad yn datblygu ac yn cynnal sgiliau a gallu i sicrhau dyfodol hirdymor i'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yng Nghymru
  • sut y bydd effaith eich prosiect yn cael ei chynnal

Meini prawf cydbwyso

Os byddwn yn derbyn mwy o geisiadau o ansawdd da nag y gallwn eu hariannu, byddwn yn blaenoriaethu prosiectau a fydd yn:

  • gweithio mewn ardaloedd sydd fwyaf tebygol o gefnogi’r gwaith o ddarparu Rhwydweithiau Ecolegol Cydnerth o fewn y Rhaglen Rhwydweithiau Natur gyda thystiolaeth o hyn fel y nodir ar y Map Rhwydweithiau Natur
  • cynrychioli lledaeniad o ran daearyddiaeth, bioamrywiaeth a sefydliadau arweiniol ledled Cymru ac ar draws yr holl rowndiau ariannu Rhwydweithiau Natur blaenorol

Ystyried risg

Wrth asesu'ch cais, byddwn yn gwneud dyfarniad pwyllog ar y risgiau posibl i’ch prosiect a’ch risgiau sefydliadol presennol – ac yn edrych i weld a ydych wedi nodi’r rhain a dweud wrthym sut y byddwch yn lliniaru yn eu herbyn. 

Bydd pob prosiect yn wynebu bygythiadau a chyfleoedd y bydd angen i chi eu nodi a'u rheoli. Rydym am i chi fod yn realistig ynghylch y risgiau y gallai eich prosiect a'ch sefydliad eu hwynebu fel eich bod mewn sefyllfa dda i reoli a chyflwyno'r prosiect yn llwyddiannus.

Dylech hefyd ystyried chwyddiant a chostau wrth gefn yn ofalus yn eich cais.

Mae chwyddiant ar gyfer prosiectau adeiladu'n debygol o barhau'n uchel hyd y gellir rhagweld. Dylech ddarparu ar gyfer chwyddiant yn seiliedig ar amserlen y prosiect, ynghyd â ffactorau eraill fel y deunyddiau a ddefnyddir, gofynion o ran llafur a lleoliad.

Y mathau o risgiau a phroblemau y dylech eu hystyried yw:

  • ariannol: er enghraifft, gostyngiad yn y cyfraniad o ffynhonnell ariannu arall
  • sefydliadol: er enghraifft, prinder pobl â'r sgiliau sydd eu hangen arnoch neu staff sy'n gorfod gweithio ar brosiectau eraill
  • economaidd: er enghraifft, cynnydd annisgwyl yng nghost deunyddiau
  • technegol: er enghraifft, darganfod rhywogaethau gwarchodedig annisgwyl ar eich safle
  • cymdeithasol: er enghraifft, ymatebion negyddol i ymgynghori neu ddiffyg diddordeb gan eich cynulleidfa darged
  • rheoli: er enghraifft, newid arwyddocaol yn nhîm y prosiect
  • cyfreithiol: er enghraifft, rheoli cymhorthdal, neu newidiadau yn y gyfraith sy'n golygu nad yw'r prosiect yn ymarferol
  • amgylcheddol: er enghraifft, anawsterau wrth ddod o hyd i ffynonellau pren o goedwigoedd a reolir yn dda

Amser asesu

Byddwn yn anelu at wneud penderfyniadau ar brosiectau erbyn diwedd mis Chwefror 2027.

Noder: na allwn ddechrau asesu eich cais hyd nes i'r holl wiriadau gofynnol gael eu cwblhau a’n bod wedi derbyn yr holl wybodaeth ategol ofynnol.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus

Byddwn yn darparu arweiniad ychwanegol ar ein gofynion monitro ac amodau cyfreithiol ar bwynt y dyfarniad. 

Bydd pob grant yn cael eu talu mewn ôl-daliadau, mewn rhandaliadau rheolaidd, wrth dderbyn tystiolaeth o wariant. 

Rhaid i chi aros i dderbyn caniatâd gennym cyn dechrau ar eich prosiect. 

Os yw eich cais yn aflwyddiannus

Mae’r broses asesu'n gystadleuol ac ni allwn ariannu pob un o’r ceisiadau o ansawdd da a dderbyniwn. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn dweud pam wrthych chi.

Grantiau cymunedol

Mae cynlluniau grantiau cymunedol a thrydydd parti'n gronfeydd ariannol y gallwch eu defnyddio i ariannu grwpiau neu sefydliadau eraill i gyflwyno prosiectau bach i'ch helpu cyflawni eich nodau treftadaeth trosgynnol. Gallant eich helpu i wella ymgysylltu ac ehangu effaith eich prosiect.

Gellir defnyddio grantiau cymunedol i ariannu gweithgareddau neu waith cyfalaf ar asedau treftadaeth. Gellir eu dyfarnu i grwpiau cymunedol nid-er-elw neu berchnogion preifat treftadaeth i ymgymryd â gwaith cyfalaf er mwyn gwarchod y dreftadaeth honno. Ni ellir rhoi grantiau cymunedol i gaffael tir, adeiladau neu eitemau treftadaeth.

Os mai chi yw'r ymgeisydd arweiniol, chi fydd yn rheoli'r broses grantiau cymunedol a'r gronfa ariannu. Chi fydd yn gyfrifol am:

  • wahodd ac asesu ceisiadau drwy broses deg, agored a thryloyw
  • sefydlu panel i wneud penderfyniadau i ddyfarnu neu wrthod grantiau
  • adolygu'r cynnydd a wnaed ar y prosiect i sicrhau ei fod yn foddhaol
  • gwneud taliadau grant
  • monitro cydymffurfiaeth â thelerau'r grant cymunedol, datrys unrhyw broblemau ac ad-dalu'r grant os oes angen

Yn eich cais dylech esbonio beth yw nodau eich cynllun grantiau cymunedol, sut mae'n cyfrannu at y prosiect ehangach a sut y caiff ei reoli.  

Argymhellwn na ddylai’r gronfa grantiau cymunedol fod yn fwy na £200,000. Dylid cyfyngu grantiau unigol i £10,000 ar gyfer gweithgareddau a £25,000 ar gyfer gwaith cyfalaf.

Bydd angen i chi ffurfioli'r dyfarniad grant mewn cytundeb trydydd parti rhyngoch chi a derbynnydd y grant cymunedol sy'n diffinio'r gweithgareddau i'w cyflwyno ac yn nodi telerau'r grant. Mae’n rhaid i dderbynyddion grantiau cymunedol ymrwymo i’n telerau ac amodau, gan gyfeirio’n benodol at y canlynol (lle bo’n berthnasol):

  • Dyddiad Dod i Ben Cyffredinol y Grant
  • cydnabod ariannu gan Lywodraeth Cymru
  • hawlio'n ôl
  • monitro'r prosiect
  • grant heb ei wario
  • caffael
  • gofynion digidol
  • tir neu adeiladau sy'n eiddo i drydydd parti

Bydd angen i chi adlewyrchu'r meysydd hyn yn eich cytundebau gyda derbynyddion y grantiau cymunedol, gan mai chi fydd yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn deall telerau ac amodau eich grant ac yn cytuno iddynt.

Rhaid i gytundebau â thirfeddianwyr trydydd parti, gan gynnwys perchnogion preifat, sicrhau bod gwaith cyfalaf yn cael ei reoli a'i gynnal a chadw o ddechrau'r gwaith ar y prosiect tan 10 mlynedd ar ôl cwblhau'r prosiect.

Gallwch gynnwys costau rheoli'r cynllun grant, gan gynnwys costau addasu a sefydlu unrhyw gytundebau trydydd parti a cheisio cyngor cyfreithiol, fel rhan o’r costau, yn eich cais.

Bydd angen i chi ddatblygu proses ymgeisio deg a thryloyw gyda chanllawiau clir. Rhaid i chi gyflwyno'ch cais a'ch proses fonitro i ni i'w cymeradwyo cyn lansio'r cynllun grantiau cymunedol.

Dylai fod gennych feini prawf clir ar gyfer ceisiadau a sicrhau bod y meini prawf hyn ar gael yn gyhoeddus ynghyd â rhestr o'ch dyfarniadau.

Rhaid i chi ymgymryd â diwydrwydd dyladwy cyn dyfarnu grantiau cymunedol. Fel lleiafswm, bydd angen i chi ofyn am y canlynol gan ymgeisydd:

  • dogfen lywodraethu'r sefydliad (oni bai ei fod yn sefydliad sector cyhoeddus neu’n berchennog preifat treftadaeth)
  • prawf o berchnogaeth os yw’r prosiect yn cynnwys gwaith ar dir, adeiladau neu eitemau treftadaeth (er enghraifft, gweithredoedd, lesau neu unrhyw wybodaeth yn ymwneud â morgeisi)
  • copi o gyfrifon diweddar neu gyfriflenni banc y tri mis diwethaf

Rhaid i benderfyniadau i ddyfarnu neu wrthod ceisiadau gael eu gwneud gan banel grantiau. Ni ddylai pob aelod o'r panel ddod o'r un sefydliad, ac ni ddylai gynnwys sefydliadau neu unigolion a fydd o bosibl yn dymuno gwneud cais am grantiau o'r gronfa gymunedol. Gwrthdaro buddiannau yw hwn.

Bydd angen i chi sicrhau bod derbynyddion grantiau cymunedol wedi cydymffurfio â thelerau'ch cynllun grant cymunedol a bod y grant wedi’i ddefnyddio’n briodol. I wneud hyn bydd angen i chi gywain tystiolaeth gan dderbynnydd y grant cymunedol. Dylai lefel y manylder y gofynnwch amdano fod yn gymesur â swm y grant.

Bydd angen i chi ddatrys unrhyw broblemau gyda derbynnydd y grant cymunedol gan gynnwys y trefniadau ar gyfer ad-dalu'r grant neu ei hawlio'n ôl.

Bydd gennych gyfrifoldeb cyffredinol dros adrodd i ni ar gynnydd y grantiau cymunedol a bydd angen i chi gynhyrchu adroddiad gwerthuso ar ddiwedd eich prosiect. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn dyrannu cyllideb ddigonol i ymgymryd â'r gwaith gwerthuso hwn. 

Gofynion cyfreithiol a pholisi

Perchnogaeth

Disgwyliwn i chi fod yn berchennog ar unrhyw eiddo (tir, adeiladau, eitemau treftadaeth neu eiddo deallusol) yr ydych yn gwario'r grant arno neu feddu ar les sy'n bodloni ein gofynion. 

Rhaid i chi fod yn berchennog ar y rhydd-ddaliad neu feddu ar les gydag o leiaf bum mlynedd yn weddill arni ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect.

Dyddiad Cwblhau'r Prosiect yw'r dyddiad pan fyddwn yn eich hysbysu y rhoddwyd cofnod wedi'i gwblhau i'r Prosiect. 

Rhaid i bob les fodloni'r gofynion canlynol:

  • nid ydym yn derbyn lesau sydd â chymalau torri (mae’r rhain yn rhoi’r hawl i un neu fwy o bartïon y les ddod â’r les i ben o dan rai amgylchiadau)
  • nid ydym yn derbyn lesau sydd â fforffediad ar gymalau ansolfedd (mae’r rhain yn rhoi’r hawl i’r landlord ddod â'r les i ben os bydd y tenant yn mynd yn fethdalwr)
  • mae'n bosibl y bydd modd i chi werthu, is-osod neu forgeisio'r cyfan neu ran o’ch les, ond os byddwn yn dyfarnu grant i chi, rhaid i chi gael caniatâd gennym yn gyntaf i wneud unrhyw un o’r rhain

Os mai tir sy'n eiddo i drydydd parti neu drydydd partïon lluosog yw testun eich prosiect, byddwn fel arfer yn disgwyl i'r perchennog gael ei wneud yn grantï ar y cyd. Mewn rhai sefyllfaoedd, yn hytrach na gwneud y perchennog yn grantï ar y cyd, efallai y byddwn yn gofyn iddynt lofnodi llythyr ychwanegol yn cytuno i gydymffurfio ag unrhyw delerau ac amodau sy’n ymwneud â’u heiddo. 

Yn yr achos hwn, dylid rhoi cytundeb cyfreithiol ar waith hefyd rhwng pob perchennog tir neu adeilad a'r grantï. Nid oes ffurf ragnodedig ar gytundeb, ond mae gennym ofynion penodol y dylid eu cynnwys mewn unrhyw gytundeb perchennog trydydd parti. 

Fel lleiafswm, dylai’r cytundebau gynnwys y canlynol:

  • cadarnhad ynghylch sut mae’r tir wedi'i ddal (rhydd-ddaliad neu ar brydles)
  • disgrifiad o'r eiddo (gan gynnwys cynlluniau)
  • cyfamodau ar ran y perchennog i gynnal a chadw’r eiddo a darparu mynediad cyhoeddus yn unol â thelerau’r grant (fel y bo’n berthnasol)
  • darpariaeth y dylai unrhyw warediad ymlaen fod yn ddarostyngedig i'r cytundeb trydydd parti
  • cadarnhad y bydd y cytundeb yn para o ddechrau’r gwaith ar dir y trydydd parti tan 10 mlynedd yn dilyn Dyddiad Cwblhau’r Prosiect.

Bydd angen cwblhau'r cytundebau a'u rhoi ar waith cyn rhyddhau unrhyw arian grant ar gyfer gwaith ar unrhyw dir neu adeilad sy'n eiddo i drydydd parti. 

Rydym yn derbyn ceisiadau am brosiectau tirwedd a natur sydd ar dir cyhoeddus a phreifat, ar yr amod bod y budd cyhoeddus yn drech nag unrhyw fudd preifat i’r tirfeddiannw(y)r unigol os ydynt yn unigolion preifat neu’n sefydliadau er-elw.

Gwaith digidol

Mae gennym ofynion penodol ar gyfer gwaith digidol a gynhyrchir fel rhan o unrhyw brosiect.

Mae hyn yn ymdrin ag unrhyw beth yn eich prosiect rydych yn ei greu mewn fformat digidol sydd wedi'u dylunio i roi mynediad i dreftadaeth a/neu helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth a dysgu amdani.

Er enghraifft, gallai hyn gynnwys ffotograffau, testun, meddalwedd, cynnwys gwe ac apiau, cronfeydd data, modelau 3D, recordiadau sain a fideo. Nid yw eitemau a grëir wrth reoli'r prosiect, er enghraifft e-byst rhwng aelodau tîm a chofnodion cyfarfodydd, wedi'u cynnwys yn y gofyniad.

Gofynnwn i chi rannu eich allbynnau digidol o dan drwydded agored. Ein trwydded agored ddiofyn yw CC-BY 4.0. Mae hyn yn helpu dileu rhwystrau i ddefnyddio ac ailddefnyddio gwaith a ariennir, gan alluogi gwell ymgysylltiad â threftadaeth y DU. Mae hefyd yn helpu sicrhau bod eraill yn rhoi credyd priodol i'ch gwaith.

Mae ein rheoliadau ynghylch gwaith digidol yn amrywio gan ddibynnu ar faint y grant.

Gallwch ddarllen arweiniad pellach ar gynhyrchu deunyddiau digidol fel rhan o brosiect.

Caffael

Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau caffael. Fel trosolwg, dylai prosiectau ag unrhyw nwyddau, gwaith neu wasanaethau unigol sy’n werth mwy na £10,000 (ac eithrio TAW), geisio o leiaf dri thendr/dyfynbris cystadleuol. Ar gyfer yr holl nwyddau, gwaith a gwasanaethau sy'n werth mwy na £50,000 (ac eithrio TAW), rhaid i chi ddarparu prawf o weithdrefnau tendro cystadleuol.    

Dylai eich prawf fod yn adroddiad ar y tendrau yr ydych wedi'u derbyn, ynghyd â'ch penderfyniad ar ba un i'w dderbyn. Rhaid i chi roi rhesymau llawn os na fyddwch yn dewis y tendr isaf. Gan ddibynnu ar natur eich sefydliad a’ch prosiect, mae'n bosibl y bydd gofyn i chi gydymffurfio â Deddfwriaeth Caffael y DU.      

Os yw partner yn y prosiect yn darparu nwyddau neu wasanaethau y telir amdanynt drwy'r grant, mae angen i chi ddweud wrthym pam y cawsant eu dewis a pham nad yw proses dendro agored yn briodol. Byddwn yn ystyried ai dyma’r ffordd orau o gyflawni eich prosiect ac yn disgwyl i chi ddangos gwerth am arian a bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol.  

Os ydych yn ansicr ynghylch eich rhwymedigaethau, rydym yn eich cynghori i geisio cyngor proffesiynol neu gyfreithiol. Os ydych eisoes wedi caffael nwyddau, gwaith neu wasanaethau gwerth mwy na £10,000 (ac eithrio TAW) ar gyfer eich prosiect, bydd angen i chi ddweud wrthym sut y gwnaethoch chi hynny. Ni allwn dalu eich grant os nad ydych wedi dilyn y drefn gywir. 

Recriwtio staff

Rhaid hefyd i chi hysbysebu'n agored yr holl swyddi staff ar gyfer y prosiect, gyda'r eithriadau a ganlyn:

  • Mae gennych aelod staff â chymwysterau addas ar eich cyflogres yr ydych yn ei symud i swydd ar y prosiect.
  • Rydych yn ymestyn oriau aelod staff â chymwysterau addas ar eich cyflogres fel y gall weithio ar y prosiect. Yn yr achos hwn byddwn yn ariannu cost yr oriau ychwanegol sy'n cael eu treulio ar y prosiect a bydd angen i chi ddweud wrthym beth yw eu rôl.

Yn yr achosion hyn, mae angen o hyd i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer y swydd sy'n esbonio'r gwaith y bydd yr aelod staff a benodir yn ei wneud yng nghyd-destun eich prosiect.

Rydym wedi'n hymrwymo i sicrhau bod y sector treftadaeth yn gynhwysol ac yn gynaliadwy. Fel lleiafswm mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r gyfradd Cyflog Byw (a Chyflog Byw Llundain lle bo'n berthnasol) ar gyfer holl staff y prosiect. Gofynnir i chi ddangos tystiolaeth o gyllidebu ar gyfer y cyfraddau Cyflog Byw fel lleiafswm yn eich costau staff a'ch cyllidebau.   

Rhaid i weithdrefnau recriwtio ymgynghorwyr a chontractwyr fod yn deg ac yn agored a glynu wrth y ddeddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol.

Rheoli cymorthdaliadau

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n bwysig cofio bod ein grant yn dod o arian cyhoeddus a'i fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022. Gofynnwn i chi ymgyfarwyddo â'r gofynion allweddol.

Ceir cymhorthdal pan fydd awdurdod cyhoeddus yn darparu cymorth ariannol o arian cyhoeddus sy’n rhoi mantais economaidd i’r derbynnydd, lle y gellir ystyried bod y derbynnydd hwnnw'n ymwneud â gweithgareddau economaidd. Bydd y rhan fwyaf o’n grantiau naill ai heb fod yn gymhorthdal neu’n gallu symud ymlaen fel cymhorthdal cyfreithlon sy’n bodloni gofynion Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022. 

Fel corff cyhoeddus, ein cyfrifoldeb ni yw penderfynu’n derfynol a yw eich grant yn gymhorthdal a/neu gymhwyso eithriadau perthnasol fel y bo angen ac mae ein hasesiad rheoli cymhorthdal yn rhan bwysig o’r broses ymgeisio.  Wrth baratoi eich cais dylech ystyried a yw unrhyw eithriad rheoli cymhorthdal penodol yn ofynnol ar gyfer eich prosiect. Byddwn yn disgwyl i'ch grant gydymffurfio ag egwyddorion y gyfundrefn rheoli cymhorthdal gan gynnwys y Ddeddf a'r Arweiniad Statudol a gyhoeddwyd. Os ydych yn ansicr a fydd eich prosiect yn bodloni'r gofynion perthnasol dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol. 

Rydym yn cadw'r hawl i bennu gofynion pellach a cheisio gwybodaeth bellach yn hyn o beth a byddwn yn disgwyl i chi ddarparu unrhyw gymorth y gallwn fod ei angen yn rhesymol i gwblhau asesiad rheoli cymhorthdal.

Embargos a sancsiynau llywodraeth y DU

Rhaid i'n grantiau beidio â chael eu defnyddio i ariannu sefydliadau sy’n cefnogi eithafiaeth, gweithgarwch troseddol ac/neu sy’n destun embargos a sancsiynau llywodraeth y DU.

Rhaid i chi ddilyn yr holl ddeddfwriaeth a rheoliadau sy'n berthnasol i'ch prosiect a chyflawni eich diwydrwydd dyladwy eich hun ar unrhyw gronfeydd, contractau neu unigolion sy'n gysylltiedig â lleoedd a allai fod yn ddarostyngedig i embargos a sancsiynau.

Os yw eich prosiect wedi'i effeithio, cysylltwch â'ch Rheolwr Buddsoddi neu eich swyddfa leol. Rydym yn cadw'r hawl i atal taliadau grant os ystyriwn fod arian cyhoeddus mewn perygl. 

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn am y Gronfa Rhwydweithiau Natur, cysylltwch â natur@heritagefund.org.uk.

Rydym yn deall efallai y bydd penderfyniad yn peri siom i chi.

Gyda'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, nid oes hawl i apelio. Ni allwn ond adolygu ein penderfyniad os byddwch yn gwneud cwyn ffurfiol am sut yr ydym wedi ymdrin â'ch cais. Mae gennym broses gwynion dau gam ar gyfer y rhaglen hon. 

Ni fyddwn ond yn gallu ystyried ac ymchwilio i’r gŵyn os gallwch ddangos y canlynol:

  • ni fu i ni ddilyn y gweithdrefnau cyhoeddedig ar gyfer asesu eich cais
  • rydym wedi camddeall rhan sylweddol o'ch cais
  • ni fu i ni gymryd gwybodaeth berthnasol i ystyriaeth

Rhaid gwneud cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y penderfyniad ar eich cais. Rhaid i chi anfon eich cwyn at: enquire@heritagefund.org.uk

Anelwn at gydnabod eich cwyn o fewn tri diwrnod gwaith.

Bydd eich cwyn yn cael ei hadolygu yn y lle cyntaf gan un o'n Cyfarwyddwyr Ardal a Gwlad, sy’n annibynnol ar y paneli argymell a phenderfynu ar gyfer y gronfa hon.

Anelwn at gyfathrebu penderfyniad o fewn 15 diwrnod gwaith o'r adeg y gwnaethoch gyflwyno'ch cwyn.

I gael cymorth, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 020 7591 6044 neu gyrrwch e-bost enquire@heritagefund.org.uk.

Rheoli eich data

Y Gronfa Treftadaeth a Llywodraeth Cymru fydd y cyd-reolwyr data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperwch mewn perthynas â’ch cais am grant neu gais am arian grant. Byddwn yn ei brosesu'n unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio ynom i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio hunaniaeth. 

Bydd eich data personol a data sy'n gysylltiedig â'r grant yn cael eu rhannu â rheolydd data arall, Llywodraeth Cymru, ac unrhyw gontractwr a benodir gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad allanol o’r Rhwydweithiau Natur i adolygu effaith, perfformiad a chostau'r cynllun. Byddwch yn cael eich hysbysu pan fydd gwerthusiad allanol yn cael ei gynnal a byddwch yn cael cyfle i optio allan.

Diweddariadau i'r arweiniad

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.


Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd chwech) yn cael ei chyflwyno gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.