Mynegiad o Ddiddordeb: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd chwech) £250,000 i £1miliwn
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch i benderfynu p'un a fyddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn ai beidio. Nid yw gwahoddiad i wneud cais yn gwarantu grant gennym yn y dyfodol, ond mae'n nodi ein bod yn gweld potensial yn eich cynigion cychwynnol.
Rhaid i chi ddefnyddio'r canllaw hwn i’ch cynorthwyo i gwblhau’r Mynegiad o Ddiddordeb (MoDd) ar-lein ar gyfer grantiau dros £250,000 hyd at £1miliwn. Os na fyddwch yn cyflwyno MoDd ni fyddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno cais llawn.
Mae cyfrif geiriau'r MoDd yn fwriadol fyr (uchafswm o 1,000 o eiriau) er mwyn lleihau amser ac ymdrech i chi wrth gwblhau'r cam hwn.
Rhaid i chi gyflwyno eich MoDd erbyn 12 hanner dydd ar 5 Awst 2026.
Pwysig: Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn defnyddio’r un ffurflenni ar draws amrywiaeth o raglenni yr ydym yn eu darparu. Wrth lenwi eich ffurflen gais, mae'n rhaid i chi ddilyn yr arweiniad isod am fod angen ateb rhai cwestiynau yn wahanol ar gyfer y rhaglen hon. Ni ddylech ddefnyddio'r eiconau cymorth sydd wedi'u hymwreiddio yn y ffurflen ar-lein gan nad ydynt yn gysylltiedig â'r ariannu hwn.
Cyn cyflwyno
Cofiwch sicrhau eich bod wedi:
- Darllen arweiniad ymgeisio llawn y Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd chwech)
- Darllen ein safbwynt a’n cyngor ar ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial (AI) yn eich Mynegiad o Ddiddordeb
Sut i gyflwyno
Pan fyddwch yn barod, cwblhewch y MoDd ar ein gwasanaeth ar-lein.
Bydd angen i chi gofrestru cyfrif i chi'ch hun ac i'r sefydliad. Trwy wneud hynny, chi fydd ein prif gyswllt ar gyfer eich sefydliad. Mae'n bwysig sicrhau bod gennych yr awdurdod i gwblhau'r MoDd ac i gyflwyno unrhyw gais yn y dyfodol ar ran eich sefydliad, os cewch eich gwahodd i wneud cais.
Y terfyn amser i gyflwyno eich Mynegiad o Ddiddordeb yw 12 hanner dydd ar 12 Awst 2025.
Clywed yn ôl gennym
Anelwn at ymateb i'ch MoDd o fewn 20 diwrnod gwaith o'r terfyn amser MoDd.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a ydych wedi llwyddo i gael eich gwahodd i gyflwyno cais llawn i Rhwydweithiau Natur (Rownd chwech).
Cwestiynau'r Mynegiad o Ddiddordeb
Gallwch weld y cwestiynau yn y MoDd isod.
Ydych chi wedi siarad ag unrhyw un yn y Gronfa Treftadaeth am eich syniad?
Os ydych, dywedwch wrthym beth yw eu henw.
Dywedwch wrthym hefyd os ydych wedi siarad ag unrhyw un yn Cyfoeth Naturiol Cymru am eich prosiect, ac am beth e.e. caniatadau neu drwyddedau.
Mae gennych 50 gair
Disgrifiwch yr hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod y prosiect.
Gofynnir i chi gynnwys unrhyw dasgau y mae'n rhaid i chi eu gwneud i gyflawni nod y prosiect. Er enghraifft, disgrifiwch pa gamau penodol y byddwch yn eu cymryd i wella rheolaeth ar gynefinoedd/ rhywogaethau .
Mae gennych 200 o eiriau.
A oes gennych deitl ar gyfer y prosiect?
Rhowch deitl neu enw i ni y gallwn ei ddefnyddio i gyfeirio at eich prosiect. Gallwch newid hyn unrhyw bryd.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw bostiadau cyhoeddus a wneir am eich prosiect a bydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis teitl rydych chi'n hapus i ystod eang o bobl ei weld.
Rhaid i chi gynnwys y rhagddodiad #NNF6 yn nheitl eich prosiect.
Er enghraifft, #NNF6 Gwelliannau i warchodfa natur gweision y neidr, gan fod yn glir ac yn gryno ynghylch gweithgarwch a lleoliad y prosiect os yn bosib.
Amlinellwch sut y bydd eich prosiect yn ymateb i'n pedair egwyddor fuddsoddi.
Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn gweddu i'n holl egwyddorion buddsoddi, ond eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar gryfder y ffocws a'r pwyslais ar bob egwyddor, a dangos hynny.
Achub treftadaeth, dywedwch wrthym:
- sut y bydd eich prosiect yn gwella cyflwr rhwydwaith safleoedd gwarchodedig Cymru.
- sut y byddwch chi'n adfer cysylltedd ac yn cyfrannu at Rwydweithiau Ecolegol Cydnerth (REN), hyd yn oed os bydd hyn yn y dyfodol.
Diogelu'r amgylchedd, dywedwch wrthym:
- sut y bydd eich prosiect yn lliniaru ac yn addasu i fygythiadau i safleoedd gwarchodedig, fel newid hinsawdd, rhywogaethau estron goresgynnol, neu lygredd.
- pa wasanaethau ecosystem y byddwch yn gweithio i'w gwarchod neu eu hadfer.
- sut y bydd eich gwaith yn cyfrannu at gydnerthedd ecosystemau ar raddfa'r dirwedd.
Cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad, dywedwch wrthym:
- sut fydd cymunedau neu gynulleidfaoedd yn cymryd rhan yn weithredol yn y safleoedd gwarchodedig ac o’u cwmpas.
- Os bydd unrhyw welliannau hygyrchedd.
Cynaladwyedd sefydliadol, dywedwch wrthym:
- sut y bydd eich prosiect yn datblygu ac yn cynnal sgiliau a gallu a/neu'n gwella cydnerthedd eich sefydliad i sicrhau dyfodol hirdymor i rwydwaith y safleoedd gwarchodedig.
Mae gennych 300 o eiriau.
Dywedwch wrthym am dreftadaeth y prosiect.
Ar gyfer y rhaglen hon, mae treftadaeth yn cyfeirio at y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig. Dylech esbonio sut mae eich prosiect yn cysylltu â'r rhwydwaith (er enghraifft, enwau safleoedd penodol e.e. SoDdGA a/neu fanylion y bobl/sefydliadau sy'n eu rheoli) a pham ei fod yn bwysig (ar gyfer bioamrywiaeth/bywyd gwyllt a phobl).
Dywedwch wrthym:
- Ble fydd y gwaith yn digwydd? Rhowch god post neu gyfeirnod grid os yn bosibl.
- Pa ecosystemau/cynefinoedd/poblogaethau rhywogaethau y byddwch chi'n gweithio i'w gwarchod neu eu hadfer?
Mae gennych 100 o eiriau.
Beth yw’r angen am y prosiect hwn?
Dywedwch wrthym:
- Beth yw'r angen am y prosiect hwn o ran cefnogi amcanion y Gronfa Rhwydweithiau Natur?
- Beth yw cyflwr presennol y safle(oedd)?
- A oes risg benodol i'r safle(oedd)?
- am unrhyw ymchwil yr ydych wedi'i wneud gyda'ch cynulleidfa.
Mae gennych 200 o eiriau.
Faint o amser ydych chi'n meddwl y bydd y prosiect yn ei gymryd?
Dywedwch wrthym beth yw eich dyddiadau dechrau a gorffen amcangyfrifedig. Rhaid i'ch prosiect gael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2030 gan gynnwys gwerthuso ac adrodd terfynol.
Mae gennych 50 o eiriau.
Faint mae'r prosiect yn debygol o gostio?
Rhaid i chi wneud cais am swm rhwng £250,000 ac £1miliwn Gellir amcangyfrif y costau hyn. Rhowch y costau amcangyfrifedig y byddwch yn gwneud cais amdanynt, Rhaid gwahanu’r costau hyn i gyfalaf a refeniw.
Mae gennych 200 o eiriau.
Faint o ariannu ydych chi’n bwriadu gwneud cais amdano gennym?
Nodwch swm.
Pryd ydych chi'n debygol o gyflwyno cais am ariannu, os gofynnir i chi wneud hynny?
Mae gennych 50 o eiriau. Os cewch eich gwahodd, bydd yn rhaid i chi gyflwyno eich cais erbyn 12 hanner dydd ar 3 Tachwedd 2026.