Cwestiynau Cyffredin: Crofna Rhwydweithiau Natur (rownd chwech)
Cododd y rhai a fynychodd y weminar gyfres o gwestiynau, yr ydym wedi’u hateb isod.
Gellir dod o hyd i atebion i nifer o gwestiynau a godwyd hefyd trwy ddarllen yr arweiniad.
Cwestiynau Allweddol / Wedi'u Crynhoi
Beth yw'r lleiafswm rhaniad cyfalaf/refeniw ar gyfer prosiectau?
Nid oes lleiafswm neu fwyafswm rhaniad cyfalaf-i-refeniw rhagnodedig ar gyfer prosiectau unigol. Mae Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd chwech) yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu buddsoddi cyfalaf ochr yn ochr â gweithgarwch sy'n cefnogi cyfranogiad gweithredol cymunedau. Rydym yn cydnabod y bydd y cydbwysedd rhwng costau cyfalaf a refeniw yn amrywio gan ddibynnu ar natur y prosiect, ac efallai y bydd angen cyfran uwch o ariannu refeniw ar rai prosiectau i gyflawni eu hamcanion. Felly, bydd ceisiadau'n cael eu hystyried ar ba mor dda y mae'r gyllideb arfaethedig yn cefnogi darparu canlyniadau'r prosiect, yn hytrach nag yn erbyn cymhareb cyfalaf/refeniw penodol.
Faint o waith datblygu y gellir ei gynnwys mewn prosiect?
Mae Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd chwech) yn canolbwyntio'n bennaf ar gyflwyno prosiectau yn hytrach na datblygu prosiectau. Felly disgwylir y bydd gan ymgeiswyr gynnig datblygedig ac y gallant gyflwyno canlyniadau o fewn y cyfnod ariannu. Fodd bynnag, gellir cynnwys rhywfaint o waith datblygu lle bo angen er mwyn galluogi cyflwyno. Er enghraifft, mae'n dderbyniol ymgymryd â rhai gweithgareddau datblygu ym mlwyddyn gyntaf y prosiect ac yna symud ymlaen i weithredu ym mlwyddyn dau a thri. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod unrhyw waith datblygu'n gymesur a'u bod yn hyderus y gellir cwblhau'r prosiect o fewn amserlenni penodedig y rhaglen, gan na ellir ymestyn ariannu y tu hwnt i'r dyddiad dod i ben a gyhoeddwyd.
Beth mae 'grantï ar y cyd' yn ei olygu ac a allant dderbyn ariannu'n uniongyrchol?
Ystyr grantï ar y cyd yw bod corff arall yn gyfrifol ar y cyd am fodloni telerau'r grant. Fel arfer, perchennog y tir neu'r eiddo yw hwn os yw'n wahanol i'r sefydliad sy'n cyflwyno'r prosiect. Gall grantïon ar y cyd fod wedi'u hymrwymo i delerau llawn y grant neu rai telerau yn unig os yw hynny'n briodol (fel y telerau sy'n ymwneud ag eiddo).
Er i ni ddefnyddio'r term grantï ar y cyd, fe fydd grantï arweiniol, sef y sefydliad yr ydym yn talu'r grant iddo ac sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros gyflwyno'r prosiect. Os yw grantï ar y cyd hefyd yn ymwneud â chyflwyno rhan sylweddol o'r prosiect, rydym yn disgwyl i'r trefniadau hynny weddu i'n harweiniad ar gyflwyno'r prosiect mewn partneriaeth, wedi'u ffurfioli gyda chytundeb partneriaeth.
A oes angen cytundebau tirfeddiannwr ffurfiol yn ystod y cam Mynegiad o Ddiddordeb?
Nac oes.
Mae angen i gytundebau tirfeddianwr wedi'u llofnodi fod yn eu lle cyn y bydd prosiect yn derbyn Caniatâd i Ddechrau. Ni allwch ddechrau ar waith cyfalaf ar dir sydd ym mherchnogaeth trydydd parti hyd nes i chi ymrwymo i gytundebau cyfreithiol rwymol gyda'r trydydd partïon dan sylw.