Canllaw arfer da prosiect Cymraeg dwyieithog

Canllaw arfer da prosiect Cymraeg dwyieithog

Os bydd eich prosiect yn digwydd yng Nghymru, rhaid i chi ddweud wrthym sut y byddwch yn ystyried y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith.

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu cynllunio a chyflwyno prosiectau dwyieithog. Mae’n ymdrin â’r hyn y mae angen i chi feddwl amdano cyn gwneud cais am ariannu, beth sydd angen ei gynhyrchu yn y ddwy iaith, costau cyfieithu, recriwtio siaradwyr Cymraeg a chyfryngau cymdeithasol dwyieithog. Mae hefyd yn esbonio sut rydym yn monitro prosiectau dwyieithog ac yn rhestru ffynonellau gwybodaeth pellach.

Mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o’n treftadaeth, nid yn unig i Gymru, ond i’r DU gyfan.

Mae Cymru'n wlad ddwyieithog – yn gyfreithiol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol – a chredwn fod gan bawb yr hawl i archwilio eu treftadaeth trwy gyfrwng eu dewis iaith. Dylai’r prosiectau a ariannwn yng Nghymru greu’r cyfleoedd hyn i archwilio a thrin y Gymraeg yn ddim llai ffafriol na’r Saesneg.

Efallai y bydd gan eich sefydliad hefyd gyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 neu Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Beth i feddwl amdano cyn gwneud cais am ariannu

Bydd gweithgareddau a deunyddiau yn y ddwy iaith yn rhan o'r dibenion cymeradwy a ddisgrifir pan fyddwn yn cadarnhau eich grant. Rhaid i siaradwyr Cymraeg allu cyrchu eich gwybodaeth a'ch gwasanaethau yn Gymraeg.

Felly, meddyliwch am sut y byddwch yn cynnal eich prosiect yn Gymraeg ac yn Saesneg cyn i chi gyflwyno eich cais. Dylid cynnwys unrhyw gostau cysylltiedig yng nghyllideb eich prosiect. Mae rhagor o wybodaeth am gostau cyfieithu yn nes ymlaen yn y canllaw hwn.

Wrth gynllunio'ch prosiect, meddyliwch hefyd am broffil ieithyddol eich ardal a’r bobl yr ydych am iddynt elwa o’ch prosiect. Bydd hyn yn eich helpu i ddenu a diwallu anghenion pobl na fyddech yn eu cyrraedd fel arall.

Gallwch gael cymorth i wella'ch cysylltiadau â’r gymuned Gymraeg gan:

  • Y Cyfeiriadur Cymraeg: Mae gan Y Lolfa fanylion cyswllt sefydliadau cyfryngau Cymraeg, gan gynnwys cylchgronau a phapurau bro (papurau newydd lleol). Gallant helpu hyrwyddo neu godi ymwybyddiaeth o'ch prosiect.
  • Mentrau Iaith Cymru: Mae Mentrau Iaith yn sefydliadau cymunedol sy’n gweithio i godi proffil y Gymraeg. Wedi'u lleoli ar draws Cymru, maent yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth iaith, gan gynnwys proffil iaith pob awdurdod lleol yng Nghymru.
  • Yr Awr Gymraeg: Mae'r ymgyrch #yagym ar X (Twitter yn flaenorol) yn cyrraedd dros filiwn o bobl bob nos Fercher rhwng 8 a 9pm. Mae cael llwyfan gyda llawer o ddilynwyr a dylanwad sylweddol yn galluogi prosiectau a sefydliadau i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol.

Beth sydd angen ei gynhyrchu yn y ddwy iaith

Argymhellwn yn gryf fod pob prosiect a gyflawnir yng Nghymru yn trin y ddwy iaith yn gyfartal, ond rydym yn cydnabod efallai na fydd hynny bob amser yn bosibl oherwydd natur y gwaith, costau, diffyg adnoddau a therfynau amser.

Serch hynny, dylech anelu at ddylunio'r holl ddeunyddiau gyda dwy iaith mewn golwg a dylai gwybodaeth fod yr un mor hawdd i'w gweld a'i darllen yn Gymraeg ag y mae yn Saesneg. Yn benodol, argymhellwn y dylai’r canlynol fod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg:

  • deunydd printiedig – llyfrynnau, taflenni, arwyddion, posteri, cyfarwyddiadau, cydnabyddiaeth, cyhoeddusrwydd, dehongli, llyfrau a deunyddiau arddangos
  • cynnwys digidol – unrhyw dudalennau gwefan a negeseuon cyfryngau cymdeithasol sy’n benodol i'ch prosiect (mae rhagor o wybodaeth am gael presenoldeb cyfryngau cymdeithasol dwyieithog yn nes ymlaen yn y canllaw hwn)
  • gweithgareddau sy’n cynnwys y cyhoedd – digwyddiadau byw, sgyrsiau, cyflwyniadau, gweithdai, sesiynau ar-lein, isdeitlau, cyfieithu ar y pryd a thrawsgrifiadau
  • deunyddiau sain neu weledol – ffilmiau a fideo, podlediadau, cyfweliadau, recordiadau hanes llafar, DVDs, cryno ddisgiau, arddangosiadau rhyngweithiol a chyflwyniadau. O ran hanesion llafar, argymhellwn i chi ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg i gymryd rhan yn eich prosiect.
  • hysbysebion swyddi

Efallai y bydd angen i chi ystyried cael logo dwyieithog Cymraeg a Saesneg ar gyfer eich prosiect neu sefydliad hefyd, a dylech ystyried opsiynau dwyieithog wrth gynhyrchu braille, print bras a theithiau sain ar gyfer pobl ag anableddau.

Rhaid i chi hefyd gydnabod ein cefnogaeth a dweud diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn Gymraeg ac yn Saesneg. At hynny, dylech bob amser ddefnyddio ein logo dwyieithog wrth hyrwyddo eich prosiect.

Gallwch gael cymorth i gynhyrchu deunyddiau yn y ddwy iaith gan:

Logos dwyieithog:

Costau cyfieithu

Mae cyfieithu'n gost gymwys o dan ein rhaglenni grant. Dylech ystyried eich costau cyfieithu'n ofalus a'u cynnwys o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau prosiect y ffurflen gais. 

Argymhellwn y dylai pob cais gynnwys lleiafswm o £500 ar gyfer cyfieithu yn eich cyllideb, er y gall y swm amrywio o brosiect i brosiect. Y gost gyfartalog ar gyfer cyfieithu 1,000 o eiriau yw tua £65–£85. Bydd hyn yn amrywio gan ddibynnu a ydych yn defnyddio cyfieithydd llawrydd neu asiantaeth, yn ogystal â'r terfynau amser a'r adeg o'r flwyddyn.

Cael cymorth gyda chyfieithiadau:

Recriwtio staff a gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith

Os yw eich prosiect neu leoliad yn ariannu rolau staff, rhaid i chi ystyried a oes angen siaradwyr Cymraeg arnoch i lenwi’r rolau hynny er mwyn i’ch buddiolwyr gyrchu’ch gwasanaeth yn eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith.

Mae'n bwysig ystyried y gofynion ieithyddol ar gyfer pob rôl. Mae gan rai angen amlwg am siaradwr Cymraeg, er enghraifft, rolau a fydd yn gweithio mewn cymunedau gyda nifer uchel o siaradwyr Cymraeg, neu rolau sy’n mynd i mewn i ysgolion i weithio gyda phlant. Er enghraifft, os yw prosiect yn cyflogi pedair rôl o'r unfath, bydd angen sgiliau Cymraeg ar gyfran o'r rolau hynny.

Dylid hysbysebu pob swydd yn ddwyieithog, waeth p'un a yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ai beidio. Mae’n fuddiol os gall prosiectau ddenu siaradwyr Cymraeg i unrhyw rôl. Gallwch hefyd ystyried cynnig hyfforddiant cyfryngau Cymraeg i staff a gwirfoddolwyr.

Gallwch gael cymorth i recriwtio siaradwyr Cymraeg gan:

Croesawu gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith

Dewch yn gyfarwydd â sgiliau Cymraeg eich gwirfoddolwyr presennol. Efallai eu bod yn siaradwyr Cymraeg neu'n ddysgwyr. Gall darparu gwybodaeth ddwyieithog ddangos bod eich sefydliad wedi'i ymrwymo i ddewis iaith yn fewnol ac yn allanol a sicrhau bod gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith yn teimlo y cânt eu croesawu i'ch sefydliad neu brosiect.

Wrth recriwtio gwirfoddolwyr, meddyliwch am y sgiliau iaith sydd eu hangen ar gyfer rolau gwirfoddol. Efallai y byddwch am gael pobl a all sgwrsio'n anffurfiol yn Gymraeg neu gyfieithu dim ond cwpl o eiriau. Dylech esbonio hyn yn glir pan fyddwch yn hysbysebu am wirfoddolwyr newydd. Hefyd, mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o gefnogi rhywbeth lleol, felly nodwch yn glir beth fydd y gwirfoddolwyr yn ei gefnogi trwy wirfoddoli gyda chi.

Gallwch gael cymorth gyda recriwtio gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith gan:

Adeiladu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol dwyieithog

Gall cyfryngau cymdeithasol fod yn bwysig ar gyfer marchnata a hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau eich prosiect neu le, a chysylltu'n uniongyrchol â phobl. Mae ymchwil yn dangos bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi postiadau cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg. Mae bod yn ddwyieithog ar gyfryngau cymdeithasol hefyd yn dangos eich bod yn cefnogi ac yn parchu’r iaith.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn darparu’r arweiniad canlynol ar gyfer elusennau a busnesau ar ddefnyddio’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol:

  • Os oes gennych un cyfrif cyfryngau cymdeithasol sy’n postio yn Gymraeg ac un arall sy’n postio yn Saesneg, ystyriwch ba mor aml y bydd y cyfrifon hyn yn cael eu defnyddio. Dylai'r defnydd o'r negeseuon a'u cynnwys fod yn gyson yn y ddwy iaith. Hefyd, dylai'r ffrwd Saesneg gynnwys cyfeiriad at y ffrwd Gymraeg (ac i'r gwrthwyneb).
  • Os ydych yn bwriadu cael un cyfrif dwyieithog yn unig, gwnewch yn siŵr bod y cynnwys Cymraeg yn weladwy ac ystyriwch bostio'r fersiwn Cymraeg yn gyntaf. 
  • Os oes gan eich prosiect neu sefydliad enw uniaith Saesneg, trefnwch iddo gael ei gyfieithu ac ychwanegwch hwn at eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Gallech ystyried cael enw dwyieithog creadigol a fyddai’n gweithio yn y ddwy iaith.
  • Peidiwch â dibynnu ar gyfieithu peirianyddol, mae'n well cael siaradwr Cymraeg neu gyfieithydd i wirio'ch negeseuon cymdeithasol.
  • Defnyddiwch hashnodau i hwyluso eich negeseuon Cymraeg. Mae’r Awr Gymraeg ar X (Twitter yn flaenorol) bob dydd Mercher rhwng 8 a 9pm, ond gallwch hefyd ddefnyddio hashnod Yr Awr Gymraeg bob tro rydych chi’n trydar yn Gymraeg: #yagym. Atgoffwch ddefnyddwyr am hashnod unrhyw iaith gyfatebol – dylid hyrwyddo hashnodau dwyieithog yn gyfartal.
  • Cyfathrebwch ar lwyfannau cymdeithasol eich bod yn hapus i bobl gysylltu â chi yn Gymraeg. Gallwch gynnwys hyn ar eich gwefan hefyd.
  • Os ydych yn cynllunio digwyddiad byw neu sesiwn postio'n fyw, gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried y Gymraeg er mwyn i bobl gymryd rhan yn eu dewis iaith.

Gallwch gael cymorth i adeiladu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol dwyieithog trwy:

  • gynnwys eich Menter Iaith leol wrth hyrwyddo eich digwyddiadau ar-lein, er enghraifft, @mentercaerdydd 
  • rhannu ffyrdd creadigol o gydnabod eich grant yn ddwyieithog gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol neu gyda’ch Rheolwr Buddsoddi
  • tagio sefydliadau iaith Gymraeg addas mewn unrhyw negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol
  • cymryd rhan yn ymgyrch wythnosol Yr Awr Gymraeg #yagym, sy'n hyrwyddo busnesau, unigolion a sefydliadau Cymraeg eu hiaith bob wythnos
  • ein tagio ar gyfryngau cymdeithasol lle bynnag y bo modd @HeritageFundCYM (Cymru – cyfrif dwyieithog) a @HeritageFundUK (prif gyfrif DU gyfan – Saesneg yn unig)

Cydymffurfiaeth a monitro

Cofiwch y bydd eich Rheolwr Buddsoddi yn monitro cydymffurfiaeth â'ch dibenion cymeradwy yn yr un modd â'n hamodau grant eraill. Disgwyliwn weld tystiolaeth bod eich prosiect ar gael yn ddwyieithog ac nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn ddim llai ffafriol.

Gall methu â bodloni eich dibenion cymeradwy gael effaith negyddol ar eich grant presennol gyda ni ac unrhyw grantiau posibl yn y dyfodol.

Ffynonellau cymorth a chefnogaeth bellach

Mae tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig cymorth a chyngor i’r trydydd sector a’r sector preifat ar ddefnyddio’r Gymraeg yn eich gwaith. Er enghraifft, darparu gwasanaethau prawfddarllen am ddim a chymorth ymarferol gyda drafftio negeseuon yn Gymraeg. Mae cymorth arall yn cynnwys:

  • ymchwil ac arweiniad
  • Cynllun Hybu'r Gymraeg
  • Hyfforddiant 'Dwyieithrwydd yn y Gwaith'
  • Adnoddau cyfryngau Cymraeg

Am fwy o wybodaeth gyrrwch e-bost i hybu@comisiynyddygymraeg.cymru neu ffoniwch 0345 603 3221.

Rydym yma i helpu hefyd

Am gymorth gyda’r Gymraeg yn eich prosiect a’ch gweithgareddau, cysylltwch â’n Rheolwr Iaith Gymraeg yn cymorthcymraeg@heritagefund.org.uk.

Gallwch hefyd siarad yn uniongyrchol â'ch Rheolwr Buddsoddi wrth i chi gyflwyno'ch prosiect neu ag un o'n Rheolwyr Ymgysylltu ar ddechrau'r broses ymgeisio.