Canllawiau arfer da
Canllawiau i'ch helpu i gynllunio a chyflawni eich prosiect treftadaeth.
Edrychwch ar y canllawiau rydym wedi'u darparu i'ch helpu chi gyda'ch prosiect. P'un a oes angen cymorth arnoch i gyflawni ein canlyniadau, ceisiadau grant neu sefydlu eich amcanion eich hun, rhestrir popeth sydd ei angen arnoch i'ch rhoi ar ben ffordd.
Rhestrwyd 31 o gyhoeddiadau arfer da.
Mynegai
A
Adennill Costau Llawn
Os ydych yn sefydliad yn y sector gwirfoddol, gallwn gwmpasu cyfran o orbenion eich sefydliad, y mae'n rhaid iddo fod yn briodol i'r amser neu'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer eich prosiect
Arweiniad ar gyfer cyflwyno prosiect dwyieithog yng Nghymru
Mae'r canllawiau hyn wedi'u cynllunio ar gyfer ymgeiswyr a grantïon prosiectau yng Nghrymu – bydd yn eich helpu i reoli eich prosiect yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg.
C
Canllaw ar gynllun gweithgarwch
Mae cynllun gweithgarwch yn nodi popeth y byddwch yn ei wneud fel rhan o'ch prosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y bobl sydd ynghlwm ag ef.
Canllaw ar yr economi leol
Mae'r canllawiau hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu i gyflawni ein canlyniad: Sut y gall eich prosiect roi hwb i'ch economi leol.
Canllaw ardal leol
Mae'r canllawiau hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu i gyflawni ein canlyniad blaenoriaethol: bydd yr ardal leol yn lle gwell i fyw, gweithio neu ymweld.
Canllaw Cydnerthedd Sefydliadol
Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i feddwl sut y gall Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol eich cynorthwyo i wneud eich sefydliad yn fwy gwydn neu i ymgymryd â rheoli treftadaeth.
Canllaw Cynaliadwyedd Amgylcheddol
Beth rydym yn ei ddisgwyl gan ein prosiectau – cyngor a syniadau ar sut y gall eich prosiect helpu i daclo’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol.
Canllaw Cynhwysiant
Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i fynd i'r afael â'n blaenoriaeth cynhwysiant yn eich prosiect.
Canllaw cynllun rheoli a chynnal a chadw ar gyfer tirweddau, parciau a gerddi
Os ydych yn gwneud cais am dros £250,000 o dan Raglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, byddwn yn gofyn i chi baratoi cynllun rheoli a chynnal a chadw yn ystod eich cyfnod datblygu.
Canllaw Cynllunio Cadwraeth
Mae cynllunio cadwraeth yn broses a fydd yn eich helpu i ofalu am eich treftadaeth y ffordd orau y gallwch.
Canllaw digidol: cyflwyniad i hygyrchedd ar-lein
Mae'r canllaw digidol hwn wedi'i gynllunio i helpu sefydliadau treftadaeth i wneud eu cynnwys ar-lein yn hygyrch i bawb.
Canllaw Grantiau Cymunedol
Mae Cynlluniau Grant Cymunedol yn gronfa arian wedi'i neilltuo y gallwch ei defnyddio i ariannu grwpiau/sefydliadau eraill i gyflawni prosiectau bach ar wahân.
Canllaw gwaith cynnal a chadw adeiladau
Y ffordd orau o fynd i'r afael â gofal hirdymor adeiladau hanesyddol yw canolbwyntio ar waith cynnal a chadw ataliol rheolaidd.
Canllaw Gwerthuso Prosiect
Yn y canllawiau hyn, rydym yn darparu rhywfaint o wybodaeth am sut i gynnal gwerthusiad o'ch prosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.
Canllaw Gwirfoddoli
Gwirfoddoli yw pan fydd rhywun yn treulio amser, heb dâl, yn gwneud rhywbeth er budd cymdeithas, yr amgylchedd neu rywun nad ydynt yn perthyn yn agos iddo. Rhaid i wirfoddoli fod yn ddewis personol a wneir gan bob unigolyn.
Canllaw Hanesion Llafar
Hanesion llafar yw cofnodi ac archifo atgofion, teimladau ac agweddau pobl.
Canllaw Llesiant
Bydd y canllawiau yma yn eich helpu i fynd i'r afael â'r canlyniad 'bydd gan bobl gwell llesiant' yn eich prosiect. Mae'n fater i bawb sy'n gwneud cais am grant, waeth beth yw maint neu fath y sefydliad yr ydych yn ei gynrychioli neu faint o arian yr ydych yn gofyn amdano.
Canllaw Natur a Thirweddau
Mae'r canllaw yma i'ch helpu i gynllunio a chyflawni prosiectau sy'n ymwneud â gwaith neu weithgarwch sy'n gysylltiedig â chynefinoedd, rhywogaethau, tirweddau, daeareg neu'r ecosystemau y maen nhw yn rhan ohonynt.
Canllaw sgiliau a hyfforddiant
Pan fyddwch yn gwneud cais am arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd angen i chi roi sylw i rai o'n canlyniadau.
Canllawiau digidol ar gyfer prosiectau
Mae gofynion digidol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn berthnasol i bob prosiect.
Creu adnoddau digidol: GDPR, hawlfraint a defnyddio trwyddedu agored
Pecyn cymorth newydd i helpu prosiectau treftadaeth i drwyddedu deunyddiau digidol yn agored, yn unol â rheolau hawlfraint a phreifatrwydd.
Cynlluniau ardal a chynlluniau gweithredu ardal
Rydym yn argymell eich bod yn darllen y canllawiau hyn yn llawn cyn cyflwyno eich ymholiad prosiect neu fynegiant o ddiddordeb a chyn llenwi eich ffurflen gais.
Cynllunydd prosiect digideiddio, llawlyfr ac enghreifftiau
Bydd y cynlluniwr yn eich tywys drwy’r camau y mae eu hangen arnoch i droi eich syniad digideiddio yn gynllun diffiniedig.
D
Deall eich treftadaeth
Mae'r ddogfen yma’n rhoi arweiniad cryno ynghylch deall treftadaeth eich gwrthrych, eich lle neu'ch safle. Drwy ystyried yr holl wahanol agweddau ar dreftadaeth, y gobaith yw y bydd gennych yr holl offer a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i helpu pobl i ymgysylltu'n llawn â'ch prosiect. Byddwch hefyd yn gallu datblygu polisïau'n well i reoli a chynnal eich treftadaeth.
Digideiddio ar gyllideb dynn: canllaw i brosiectau digidol isel eu cost
Mae’r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o ddigideiddio isel ei gost ac mae’n casglu enghreifftiau ysbrydoledig o brosiectau gan fudiadau a sefydliadau.
P
Pecyn Cymorth Ecwiti Hiliol mewn Natur
Canllaw'r Gronfa Treftadaeth i recriwtio a meithrin talent gyrfa gynnar amrywiol.
R
Rhowch gychwyn arni ar-lein gyda'n canllawiau digidol newydd
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi comisiynu cyfres newydd o ganllawiau i gefnogi sefydliadau treftadaeth sy'n symud i fyd ar-lein.
S
Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth: Preifatrwydd a diogelwch ar-lein
Cyngor ac adnoddau ar gyfer sefydliadau treftadaeth - cadw gwybodaeth yn ddiogel a diogelu preifatrwydd pobl wrth weithio ar-lein.
T
Templed a chanllaw cynllun busnes
Canllaw i ddatblygu cynllun busnes i'ch sefydliad, i wneud cais am arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Templedi cynllun prosiect
Gofynnwn i chi gwblhau'r templed cynllun prosiect yma fel y gallwn weld sut rydych yn bwriadu rheoli eich prosiect a chysylltu'r holl dasgau a gweithgareddau gyda'i gilydd mewn ffordd resymegol.
Y
Ysgrifennu brîff ar gyfer caffael nwyddau neu wasanaethau
Dyma dempled ar gyfer caffael da neu wasanaethau. Mae'n dangos i chi beth y gallech fod am ei gynnwys wrth chwilio am nwyddau a gwasanaethau.