Cynaliadwyedd a gwydnwch sefydliadol – canllaw arfer da

Cynaliadwyedd a gwydnwch sefydliadol – canllaw arfer da

Mae sefydliadau sy’n gynaliadwy ac yn wydn yn gallu addasu’n well i amgylchiadau newidiol a manteisio ar gyfleoedd newydd, gan arwain at fwy o effaith a gwaddol cryfach ar gyfer prosiectau treftadaeth.

Drwy ddarllen y canllaw hwn byddwch yn cael eich annog i feddwl am y ffactorau sy'n dylanwadu ar gynaliadwyedd eich sefydliad, beth sydd angen ei newid a'r hyn y gallech fod am ei gynnwys yn eich prosiect. Mae hefyd yn cynnwys dolenni i ragor o wybodaeth ac adnoddau.

Mae cynaliadwyedd sefydliadol yn un o'r pedair egwyddor buddsoddi a fydd yn llywio ein holl benderfyniadau ynghylch rhoi grantiau o dan Treftadaeth 2033.

Mae sector sy’n ymaddasol ac sy’n wydn yn ariannol, gyda sgiliau a gallu digonol, yn helpu i annog buddsoddiad newydd mewn treftadaeth ac yn dod â buddion i gymunedau ac economïau.

Mae cynaliadwyedd sefydliadol yn rhan bwysig o wneud y dreftadaeth sydd wrth wraidd eich prosiect yn fwy gwydn. Mae'n galluogi sefydliadau i gyflawni mwy, i gynllunio ar gyfer newid ac i lywio newid yn hyderus.   

Sut i feddwl am gynaliadwyedd

Bydd cynaliadwyedd a gwydnwch yn edrych yn wahanol i wahanol sefydliadau yn dibynnu ar anghenion unigol a ffocws treftadaeth eich prosiect.

Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am y ffactorau sy'n dylanwadu ar gynaliadwyedd eich sefydliad er mwyn deall yn well yr elfennau perthnasol i'w blaenoriaethu ar gyfer eich prosiect.

Efallai y bydd angen i chi feithrin sgiliau neu wybodaeth newydd, archwilio modelau gweithredu neu lywodraethu newydd, ystyried cymorth gan ymgynghorwyr allanol neu adolygu eich dull o gynhyrchu incwm.

  • Cyllid a strategaeth: adolygu a datblygu eich cynlluniau codi arian i amrywio ffynonellau incwm a chreu cynllun mwy hirdymor ar gyfer eich sefydliad, ymchwilio anghenion cynulleidfa a threftadaeth a dod â phobl ynghyd i ddatblygu strategaeth gliriach ar gyfer eich dyfodol.   
  • Adnoddau dynol: dadansoddi sgiliau, galluoedd a gallu'r bobl sydd eu hangen arnoch i wneud eich prosiect yn llwyddiant, gan gynnwys staff, gwirfoddolwyr a dibyniaethau allweddol megis unrhyw gyngor allanol arbenigol.
  • Systemau: a oes gan eich sefydliad y dull llywodraethu a gwneud penderfyniadau sydd ei angen i wneud y gorau o'ch prosiect? A allwch chi reoli, arwain a chyfathrebu'n effeithiol i gyflawni'r effaith a ddymunir gennych?  
  • Amgylchedd adeiledig a seilwaith: a yw'r seilwaith ffisegol a digidol sydd ei angen ar gyfer eich prosiect yn gadarn ac yn addas ar gyfer y dyfodol? Yn ogystal â ffocws treftadaeth eich prosiect, efallai y byddwch yn ystyried pethau sy'n hanfodol ar gyfer gallu eich sefydliad a chynulleidfaoedd i ymgysylltu, megis trafnidiaeth, ynni a'r cadwyni cyflenwi y mae eich sefydliad yn dibynnu arnynt.
  • Rhwydweithiau cymdeithasol: beth sydd ei angen arnoch i sicrhau bod gennych y rhwydweithiau, cyfathrebu ac ymddiriedaeth gyda'ch cynulleidfaoedd a rhanddeiliaid i wneud eich prosiect yn llwyddiant? A fydd eich prosiect yn gofyn am ffurfio a rheoli perthnasoedd newydd?
  • Rhwydweithiau proffesiynol: mae datblygu rhwydweithiau, partneriaethau neu strategaethau cydweithredu eraill gyda sefydliadau cymheiriaid sydd â nodau a heriau tebyg yn galluogi rhannu arbenigedd ac adnoddau.
  • Yr amgylchedd: sut y gall eich prosiect leihau effaith amgylcheddol negyddol a chefnogi eich treftadaeth i addasu i'r argyfwng hinsawdd?

Gyda dealltwriaeth o sefyllfa bresennol eich sefydliad – eich cryfderau a'ch gwendidau – a sut y mae wedi datblygu, byddwch mewn sefyllfa dda i gynllunio sut y gallwch wella cynaliadwyedd eich sefydliad drwy eich prosiect.

Ysbrydoliaeth

Mae'r rhestr ganlynol yn nodi enghreifftiau bras o'r math o waith datblygu a allai fod yn berthnasol i'ch sefydliad. Nid yw’n rhestr gyflawn o’r hyn y gallwn ei ariannu – ei nod yw rhoi ysbrydoliaeth i chi i feddwl am yr hyn a allai fod yn briodol ar gyfer eich amgylchiadau:

  • Ennill adnoddau, sgiliau a gallu i fynd i'r afael â bylchau a nodwyd yng ngwydnwch a chynaliadwyedd eich sefydliad.
  • Bwrw ymlaen â chamau cynnar datblygiad prosiect, gan gynnwys gwerthusiadau opsiynau, astudiaethau dichonoldeb ac ymgynghori.
  • Ymgymryd â datblygiad sefydliadol fel rhan o brosiect â phwrpas ehangach i wneud y mwyaf o effaith a chynaliadwyedd y prosiect hwnnw.
  • Archwilio a sefydlu cefnogaeth gan gonsortia a chymheiriaid o fewn grŵp o sefydliadau sydd â heriau cyffredin a nodwyd, a allai gynnwys rhwydweithiau, partneriaethau a strategaethau newydd i gydweithio.
  • Cynyddu sgiliau a gallu sefydliadau sy'n berchen ar safleoedd ac asedau treftadaeth ac yn eu rheoli.

Mae ein strategaeth Treftadaeth 2033 yn seiliedig ar fframwaith hyblyg o egwyddorion buddsoddi sydd wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu prosiectau gyda ffocws sy’n addas ar gyfer eich sefydliad a’ch treftadaeth. Rydym yn argymell eich bod yn trafod eich amgylchiadau unigol gyda'ch tîm Cronfa Treftadaeth leol cyn gwneud cais.

Rhagor o wybodaeth ac adnoddau

Cynlluniau busnes

Mae ein canllaw – arfer da cynllun busnes yn mynd â chi drwy ddatblygu ac ysgrifennu cynllun busnes ar gyfer eich prosiect gam wrth gam.

Sgiliau digidol

Archwiliwch yr adnoddau a gynhyrchwyd trwy ein menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth a all helpu sefydliadau treftadaeth i gael y gorau o ddigidol a deall y sylfeini ar gyfer gweithio ar-lein, o ddiogeledd a diogelwch i hygyrchedd a deallusrwydd artiffisial.

Er mwyn cynyddu effaith a chyrhaeddiad eich prosiect, mae angen i unrhyw allbynnau digidol a gynhyrchwch fod ar gael, yn hygyrch ac yn agored. Dysgwch fwy am drwyddedu agored yn ein canllaw arfer da digidol.

Strategaeth a chynllunio:

Cymorth datblygu busnes:

Codi arian:

Llywodraethu:

Buddsoddiad cymdeithasol: