Cynllun busnes – canllaw arfer da

Cynllun busnes – canllaw arfer da

Mae cynllun busnes yn ddogfen sy'n disgrifio agweddau ariannol a threfniadaethol eich busnes. Mae'n canolbwyntio ar y sefydliad yn gyffredinol, nid gweithgareddau penodol, ac mae'n ofynnol fel rhan o'ch cais am ariannu.

Trwy ddarllen y canllaw hwn byddwch yn cael cymorth ar sut i ddatblygu cynllun busnes, gan gynnwys penawdau sylfaenol ac awgrymiadau ar sut i adolygu eich cynllun wrth iddo ddatblygu. Mae hefyd yn cynnwys rhestr o adnoddau pellach a rhestr termau sy'n ymwneud â chynllunio busnes.

Noder: Os oes gennych gynllun busnes eisoes, nid oes angen i chi gynhyrchu un newydd.

Ysgrifennu eich cynllun

Cyn cynhyrchu eich cynllun busnes, ystyriwch:

  • a oes angen arbenigedd arnoch mewn meysydd fel dadansoddi'r farchnad, trethiant neu faterion cyfreithiol
  • pwy fydd yn ymwneud ag ysgrifennu'r cynllun, gan gynnwys staff ac ymddiriedolwyr
  • yr amserlenni ar gyfer cymeradwyo'r cynllun busnes

Mae’r penawdau isod yn rhoi fframwaith sylfaenol ar gyfer datblygu cynllun busnes, ond mae pob sefydliad yn wahanol felly efallai y byddwch am ddefnyddio gwahanol benawdau neu gynnwys ychwanegol sy’n esbonio’n well sut mae’ch sefydliad chi'n gweithio:

  • crynodeb gweithredol
  • ynghylch y sefydliad   
  • strwythurau llywodraethu a rheoli
  • strategaeth
  • arfarniad o'r farchnad a'r dull presennol
  • arfarniad ariannol
  • cofrestr risgiau
  • monitro a gwerthuso'r sefydliad
  • asesiad o'r effaith ar y sefydliad
  • manylion cyswllt ar gyfer y sefydliad
  • atodiadau

Unwaith y bydd gennych ddrafft mae'n syniad da ei adolygu er mwyn asesu ei gryfderau a'i wendidau, ymdrin ag unrhyw fylchau a sicrhau ei fod mor glir, cryno a rhesymegol â phosibl.

Bydd eich cynllun busnes yn ddogfen y byddwch yn cyfeirio’n ôl ati’n barhaus ac yn ei diweddaru wrth i chi redeg eich sefydliad yn gyffredinol, felly gofynnwch i’ch hun:

  • A yw eich cynllun busnes yn cyflwyno strategaeth ar gyfer cyflawni eich nodau a'ch cenhadaeth?
  • A yw eich cynllun busnes yn cydweddu ag egwyddorion buddsoddi ein strategaeth Treftadaeth 2033?

Crynodeb gweithredol

Dylai eich cynllun ddechrau gyda throsolwg cryno (dim mwy na dwy dudalen) yn amlygu'r wybodaeth bwysicaf yn y ddogfen, gan gynnwys:

  • trosolwg o'ch sefydliad gan gynnwys eich datganiad cenhadaeth a'r hyn rydych am ei gyflawni
  • nodau allweddol y sefydliad ar gyfer cyfnod y cynllun (3-5 mlynedd fel arfer)
  • elfennau allweddol o’ch strategaeth gan gynnwys sut y byddwch yn sicrhau dyfodol ariannol tymor hwy y sefydliad
  • y prif risgiau sy'n wynebu eich sefydliad a sut rydych yn bwriadu rheoli'r rhain yn y tymor byr, canolig a hir
  • esboniad o sut mae eich sefydliad yn ddigon cydnerth i ymdrin â heriau: mae hyn yn debygol o gynnwys gwybodaeth ariannol, sut y byddwch yn sicrhau bod strwythurau llywodraethu a rheoli'n addas i’r diben, a’r prosesau monitro a gwerthuso sydd gennych
  • unrhyw wybodaeth allweddol ychwanegol

Adolygwch yr adran hon trwy ofyn:

  • A yw'n grynodeb wedi'i strwythuro'n dda sy'n amlygu pwyntiau allweddol o'r cynllun?
  • Pe bai rhywun heb unrhyw wybodaeth flaenorol am eich sefydliad yn darllen y crynodeb hwn ar ei ben ei hun, a fyddai'n gwneud synnwyr?

Ynghylch y sefydliad

Dylai hwn ddarparu gwybodaeth am strwythur, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad, gan gynnwys:

  • pryd a pham y cafodd ei ddechrau
  • ei ddiben, ei nodau a'i lwyddiannau allweddol
  • y meysydd gweithgarwch, cynhyrchion a/neu wasanaethau allweddol yr ydych yn eu cyflwyno, sut maent yn unigryw a sut y cânt eu datblygu dros gyfnod y cynllun
  • manylion y targedau yr ydych wedi'u gosod ar gyfer pob maes gweithgaredd
  • Statws cyfreithiol, e.e.: cymdeithas neu ymddiriedolaeth anghorfforedig, neu gorfforedig drwy Ddeddf Seneddol, Siarter Frenhinol, fel cwmni cyfyngedig trwy gyfranddaliadau/gwarant, Sefydliad Corfforedig Elusennol (Yr Alban) neu Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus. Nodwch a yw'n Gwmni Buddiant Cymunedol neu wedi'i gofrestru neu ei gydnabod fel elusen.
  • a oes ganddo aelodaeth o unigolion, ac os felly nifer yr aelodau
  • enwau unrhyw endidau eraill y mae ganddo gysylltiad ffurfiol â hwy (e.e: unrhyw gyrff y mae cytundebau ariannu gyda nhw neu sydd â’r hawl i enwebu aelodau bwrdd lluosog)
  • A yw’n bartneriaeth o wahanol sefydliadau sydd â buddiant a rennir, gan nodi’r sefydliadau/rhanddeiliaid eraill y byddwch yn gweithio gyda nhw, sail y trefniant ac a yw’n ffurfiol neu’n anffurfiol. Crynhowch unrhyw gytundebau partneriaeth.
  • nifer a rolau staff cyflogedig (cyfanswm a chyfwerth ag amser llawn) ac esbonio'r tasgau y maent yn eu cyflawni o fewn y sefydliad
  • rôl gwirfoddolwyr (rhowch amcangyfrif o nifer y gwirfoddolwyr rheolaidd, y tasgau y maent yn eu gwneud o fewn y sefydliad a chyfanswm yr oriau y maent yn gweithio ar bob tasg bob blwyddyn)
  • disgrifiwch sut yr ydych yn ariannu gweithgareddau eich sefydliad, gan nodi unrhyw ffynonellau sy’n cyfrif am gyfran arbennig o fawr o’ch incwm ac, os daw’r rhain o gorff ariannu, pryd y bydd yr ariannu hwn yn cael ei adolygu

Adolygwch yr adran hon trwy ofyn:

  • A ydych wedi disgrifio pwrpas a phrif feysydd gweithgarwch eich sefydliad yn gywir a sut yr ydych yn unigryw?
  • A ydych yn amlygu llwyddiannau allweddol?
  • A yw'n glir pa wasanaethau neu gynhyrchion yr ydych yn eu cynnig a sut yr ydych yn bwriadu eu datblygu?
  • A ydych wedi gosod targedau clir?
  • A yw strwythur eich sefydliad wedi'i ddisgrifio yn glir mewn ffordd sy'n hawdd ei deall?
  • A ydych wedi cynnwys gwybodaeth allweddol am eich trefniant cyfreithiol a sut yr ydych yn staffio ac yn ariannu gweithgareddau craidd?

Strwythurau llywodraethu a rheoli

Dylai hyn esbonio strwythur rheoli, prosesau gwneud penderfyniadau a llinellau cyfathrebu ac adrodd allweddol eich sefydliad. Gall gynnwys organogramau/diagramau rhwydwaith syml i ddangos eich strwythurau llywodraethu, rheoli a staffio.

Crynodeb o lywodraethu

Dylai hyn roi trosolwg o'r llywodraethu sydd ar waith yn eich sefydliad i sicrhau bod cynlluniau a strategaethau busnes yn cael eu cymeradwyo a'u monitro.

Disgrifiwch faint a chyfansoddiad y corff llywodraethu (e.e: cyngor, bwrdd ymddiriedolwyr, bwrdd cyfarwyddwyr) a, lle bo'n briodol, trefniadau ar waith ar gyfer cynllunio olyniaeth a hyfforddiant datblygu'r bwrdd. Rhestrwch y rolau a gyflawnir gan eich uwch dîm rheoli.

Dylech esbonio cyfansoddiad eich bwrdd. Mae hyn yn cynnwys sut mae'r bwrdd yn darparu amrywiaeth o bersbectif a sgiliau. Dylech hefyd esbonio eu hymgysylltiad â’r sefydliad, yn enwedig mewn perthynas â:

  • chynllunio busnes, polisïau prisio a strategaethau marchnata
  • rheoli a gweinyddu ariannol
  • codi arian
  • cymeradwyo prosiectau posibl a chynnal goruchwyliaeth
  • comisiynu cynghorwyr ac ymgynghorwyr

Crynhowch swyddogaethau unrhyw is-grwpiau, gan ddisgrifio eu haelodaeth, eu rolau a'u cyfrifoldebau, a chan nodi unrhyw bwerau dirprwyedig y maent wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio. Nodwch ba mor aml y mae grwpiau o'r fath yn cyfarfod.

Strwythur rheoli

Dylech gynnwys organogramau neu ddiagramau rhwydwaith syml. Dylai'r rhain ddangos teitl pob swydd. Nid oes angen cynnwys enwau unigolion.

Dangoswch faint o ddeiliaid swyddi sy'n cael eu cyflogi ym mhob swydd ac a ydyn nhw'n amser llawn, yn rhan amser neu'n wirfoddolwyr. 

Enghraifft o organogram, yn cynnwys tair lefel o hierarchaeth o'r Rheolwr i gynorthwywyr

Dylai atodlen gysylltiedig restru pob rôl, gan grynhoi ei phwrpas a'i swyddogaeth, ac enw deiliad y swydd (fel y gallwn weld a oes swyddi gwag mewn rolau allweddol).

Dylech ddarparu gwybodaeth am eich polisïau recriwtio staff craidd. Os ydych yn defnyddio cynghorwyr allanol yn rheolaidd, dylech roi manylion eu cwmni a'u rôl a sut y maent yn berthnasol i'r swyddi ar yr organogram.

Gwirfoddolwyr

Os yw gwirfoddolwyr yn rhan allweddol o’ch sefydliad, dylech esbonio:

  • y rolau y mae gwirfoddolwyr yn eu chwarae yn y sefydliad, gan gynnwys y mathau o gyfrifoldebau sydd ganddynt
  • faint o wirfoddolwyr y mae'r sefydliad yn gweithio gyda nhw
  • nifer yr oriau gwirfoddoli
  • y rôl o fewn eich sefydliad sy'n gyfrifol am reoli gwirfoddoli a sut mae hyn yn cael ei fonitro

Adolygwch yr adran hon trwy ofyn:

  • A ydych wedi ymdrin mewn ffordd glir â sut y caiff eich sefydliad ei reoli a'i lywodraethu? A oes unrhyw wybodaeth ar goll?
  • A ydych wedi cynnwys y prif heriau a wynebwch wrth redeg eich busnes?
  • A yw'n glir pa sgiliau a phrofiad sydd eu hangen yn y dyfodol? A ydych wedi cynnwys gwybodaeth am sut rydych yn datblygu sgiliau o fewn y sefydliad?
  • A ydych wedi cynnwys cynlluniau ar gyfer datblygu eich strwythur a phrosesau yn y dyfodol?

Strategaeth

Dylai hyn gynnwys trosolwg manylach o nodau eich sefydliad ar gyfer cyfnod y cynllun a sut y maent yn berthnasol i'ch cenhadaeth gyffredinol, gan nodi'r gweithgareddau allweddol y byddwch yn eu gwneud er mwyn eu cyflawni.

Dylech gynnwys unrhyw brosiectau yr ydych yn bwriadu ymgymryd â nhw, gan ddangos sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni nodau eich sefydliad. Dylech gynnwys gwybodaeth am yr effaith y bydd prosiectau ychwanegol yn ei chael ar eich sefydliad a sut rydych yn bwriadu ymdrin â'r effeithiau hynny.

Dylech gynnwys dyddiadau ac amserlen ar gyfer adolygu a diweddaru eich strategaeth.

Arfarniad o'r farchnad a'r dull presennol

Mae arfarniad o'r farchnad yn archwilio eich cynnig o fewn cyd-destun y farchnad. Dylech asesu eich marchnad, eich cystadleuaeth a'ch strategaeth farchnata. Dylai dadansoddiad o'r farchnad fod yn gymesur â chwmpas a maint eich sefydliad.

Disgrifiwch eich marchnad bresennol:

  • Ydy proffil eich atyniad neu le treftadaeth o ddiddordeb lleol neu genedlaethol? A yw llawer o bobl yn gwybod amdano?
  • A yw'n cael ei werthfawrogi gan drawstoriad eang o'r cyhoedd neu gan grŵp diddordeb arbennig mwy cyfyngedig?
  • Faint o gwsmeriaid ydych chi wedi'u cael bob blwyddyn dros y 10 mlynedd diwethaf?
  • Beth yw demograffeg eich cwsmeriaid ac ymwelwyr presennol – eu hoedran, rhyw, incwm, addysg, a galwedigaeth? Pa gyfran yw grwpiau teulu/ysgolion?
  • Ble maen nhw'n byw - yn lleol iawn, o'r rhanbarth cyfagos, o'r DU neu dramor?
  • Pa gyfran o gysylltiadau cwsmer sy'n dychwelyd?

Dangoswch eich bod yn gwybod eich marchnad:

  • Ar sail genedlaethol neu ranbarthol, a yw eich marchnad yn tyfu, yn crebachu neu'n sefydlog?
  • Sut mae hyn yn berthnasol i brofiad eich sefydliad?
  • A oes unrhyw dueddiadau neu bolisïau economaidd-gymdeithasol cenedlaethol a fydd yn effeithio ar eich marchnad?
  • Sut allai newidiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a/neu dechnolegol y gellir eu rhagweld effeithio ar eich marchnad?

Ystyriwch eich cynulleidfa botensial/darged:

  • Pwy yw'r bobl sydd fwyaf tebygol o gyrchu'ch gwasanaeth?
  • Ydyn nhw'n gwsmeriaid sengl neu'n gwsmeriaid sy'n dychwelyd?
  • Beth yw eu hanghenion, eu hymddygiad, eu chwaeth a'u hoffterau?
  • Beth mae ymchwil wedi'i ddangos i chi hyd yma?

Adolygwch y gystadleuaeth

Mae gan bob sefydliad gystadleuaeth o ryw fath. Darganfyddwch pa sefydliadau sy'n cystadlu â'ch un chi. Edrychwch ar sut maent yn prisio eu gweithgareddau, eu strategaeth fusnes, eu cryfderau a'u gwendidau.

Datblygwch strategaeth gystadleuol ar gyfer eich sefydliad

Gwnewch ddadansoddiad 'SWOT' gan edrych ar gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau i'ch sefydliad.

Defnyddiwch wybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chofiwch gynnwys ffactorau mewnol ac allanol. Disgrifiwch beth sy'n unigryw ac yn arbennig i'ch sefydliad, gan gynnwys yr anfanteision sydd gennych.

Amlinellwch eich strategaeth farchnata

Strategaeth farchnata yw sut y byddwch yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae’n debygol y bydd yn seiliedig ar dystiolaeth gan:

  • ddata rydych wedi’i gasglu, dros gyfnod mor hir o amser ag y bo modd ei gyflawni
  • data cenedlaethol, er enghraifft, yr arolwg Taking Part (yn Lloegr), arolygon twristiaeth cenedlaethol, ystadegau cenedlaethol ac awdurdodau lleol
  • ymchwil farchnad bresennol
  • ymchwil farchnad a gomisiynwyd i amcangyfrif marchnadoedd posibl a phoblogrwydd posibl y busnes gyda'ch marchnad darged
  • adolygu gweithrediadau sy'n debyg i'r rhai yr ydych yn eu cynnig yn eich ardal eich hun a thu hwnt, gan ddefnyddio cyfrifon blynyddol sydd ar gael ar-lein gan y Comisiwn Elusennau (Lloegr) neu Dŷ'r Cwmnïau

Dylai eich strategaeth farchnata nodi’r canlynol yn glir:

  • pobl: pwy yw eich cynulleidfaoedd targed, gan gynnwys maint y cynulleidfaoedd hyn
  • cynnyrch: yr hyn yr ydych yn ei gynnig i bobl
  • cost: eich strategaeth brisio a'r rhesymeg y tu ôl iddi
  • hyrwyddo: y sianeli cyfathrebu a'r negeseuon y byddwch yn eu defnyddio i gyrraedd eich cynulleidfaoedd targed

Arfarniad ariannol

Dylai hyn gynnwys asesiad ariannol cyffredinol o'ch sefydliad, trosolwg o'ch cyfanswm anghenion ariannol i gefnogi eich gweithrediadau o ddydd i ddydd a manylion eich model ariannol, gan gynnwys eich prif ffynonellau ariannu.

Darparwch ddogfennau ategol mewn atodiad ar ddiwedd eich cynllun busnes, yn manylu ar:

  • rhagolwg cyfrif incwm a gwariant
  • rhagolwg llif arian parod yn dangos y llif arian parod misol disgwyliedig
  • datganiadau o dybiaethau sy'n sail i'r rhagolygon

Rhowch fanylion y tybiaethau a wneir yn eich cyfrifiadau. Tybiaeth yw unrhyw beth yr ydych yn dibynnu arno i wneud rhagolygon. Er enghraifft, nifer cyfartalog yr ymwelwyr yr ydych yn eu disgwyl yn seiliedig ar y flwyddyn flaenorol, neu unrhyw gostau anhysbys o ran deunyddiau. Cofiwch sicrhau eich bod hefyd yn cynnwys manylion unrhyw gronfeydd wrth gefn.

Efallai y byddwch am wneud dadansoddiad sensitifrwydd i ddangos sut olwg fyddai ar eich sefyllfa ariannol pe bai eich rhagamcanion o'ch symiau amrywiol yn brin, er enghraifft rhwng 5% ac 20%. Beth fyddai'r risg i'ch gweithrediad pe bai'r naill neu'r llall o'r senarios hyn yn digwydd a pha gamau y gallai fod angen i chi eu cymryd?

Adolygwch yr adran hon trwy ofyn:

  • A ydych chi wedi disgrifio sut mae’ch sefydliad yn gweithredu’n ariannol mewn ffordd sy’n hawdd ei deall?
  • A ydych wedi cynnwys trosolwg o'ch cyfanswm anghenion ariannol, beth yw eich prif ffynonellau ariannu a sut mae eich prif weithgareddau'n cyfrannu at gyflawni hyn?
  • A ydych wedi cynnwys rhagolwg llif arian parod disgwyliedig a rhagolwg incwm a gwariant?

Cofrestr risgiau

Mae asesiad risg yn nodi gwendidau mewnol eich sefydliad a bygythiadau allanol. Mae cofrestr risgiau, sydd fel arfer wedi'i llunio fel tabl, yn rhestru'r holl risgiau a nodwyd, wedi'u blaenoriaethu yn nhrefn pwysigrwydd.

Ar gyfer pob risg, amlinellwch:

  • natur y risg, e.e.: technegol, marchnad, ariannol, economaidd, rheoli, cyfreithiol
  • disgrifiad o'r risg
  • y tebygolrwydd y bydd y risg yn digwydd: isel, canolig, uchel neu fel canran
  • yr effaith y gallai’r risg ei chael, e.e.: ar gost, amser, perfformiad
  • lefel yr effaith: isel, canolig, uchel, neu fel canran
  • sut y byddech yn paratoi ar gyfer y risg ac yn lleihau ei heffaith

Adolygwch yr adran hon trwy ofyn:

  • A ydych wedi rhestru'r problemau posibl allweddol y mae eich sefydliad yn eu hwynebu?
  • Ar ôl myfyrio, ai eich prif risgiau yw'r rhain neu a ellir lleihau'r rhestr?
  • A yw'r risgiau wedi'u cyfrifo'n gywir?
  • A oes angen i chi feddwl ymhellach sut y caiff risgiau eu lliniaru?
  • A oes unrhyw gamau gweithredu eraill nad ydynt wedi'u hystyried?

Monitro a gwerthuso eich sefydliad

Yn yr adran hon dylech ddisgrifio'ch cynlluniau ar gyfer monitro a gwerthuso perfformiad ac effaith eich sefydliad er mwyn sicrhau eich bod yn cwrdd â'ch nodau ac yn cyflawni eich cenhadaeth.

Bydd angen i chi gasglu gwahanol fathau o wybodaeth ar wahanol gamau, gan ddechrau cyn gynted â phosibl drwy feincnodi ble rydych chi fel cam cychwynnol. Dylech osod cyfres o gerrig milltir, targedau ariannol a thargedau perfformiad i dracio'r rhain.

Dylid cynnal gwerthusiad yn rheolaidd gan ddefnyddio'r wybodaeth fonitro. Dylech grynhoi eich dull gweithredu arfaethedig a chynnwys manylion y cerrig milltir. Dylai eich ymagwedd ddangos pryd rydych yn rhagweld y byddwch yn gwerthuso eich cyflawniadau a phennu cwmpas y gwerthusiad ac a yw eich sefydliad yn bwriadu recriwtio unrhyw arbenigedd i'ch helpu i asesu i ba raddau yr ydych yn cyflawni eich nodau.

Adolygwch yr adran hon trwy ofyn:

  • A ydych wedi cynnwys manylion y newidiadau yr ydych am i'ch sefydliad eu gwneud? Sut mae hyn yn cysylltu â'ch cenhadaeth a'ch nodau?
  • A ydych wedi nodi sut yr ydych yn bwriadu monitro cynnydd? A fydd angen unrhyw gyngor allanol arnoch?
  • A ydych wedi manylu ar sut beth yw llwyddiant? Sut fyddwch yn gwybod a ydych wedi cyflawni eich nodau?
  • A oes gennych gynllun ar gyfer cysylltu eich canfyddiadau â phenderfyniadau yn y dyfodol? Sut ydych chi'n adrodd yn ôl i'ch bwrdd ymddiriedolwyr?

Asesiad o'r effaith ar y sefydliad

O fewn eich cais rydym am weld sut y bydd eich prosiect arfaethedig yn effeithio ar eich sefydliad a’i sefyllfa ariannol ac yn parhau i gyflwyno yn erbyn ein hegwyddorion buddsoddi am gyfnod o bum mlynedd ar ôl diwedd y prosiect, gan gynnwys:

Sut fydd unrhyw gostau ychwanegol a grëir gan y prosiect yn parhau i gael eu hariannu?

Gall y rhain gynnwys costau staffio a chadw tŷ ychwanegol, ardrethi busnes, rhwymedigaethau cynnal a chadw sy'n deillio o weithredu cynlluniau rheoli a chynnal a chadw (ac, os yn berthnasol, cynlluniau cadwraeth). Dogfennwch y costau ychwanegol hyn mewn tabl.

Lle disgwylir i’r prosiect arwain at lai o wariant (er enghraifft, llai o wariant ar ynni, enillion cynhyrchiant oherwydd technoleg well), dylech gynnwys costau’r arbedion yn y tabl i roi’r gost neu’r arbediad ychwanegol net arfaethedig.

Pa fewnbwn ychwanegol fydd ei angen gan wirfoddolwyr?

Dywedwch wrthym am y nifer ychwanegol o oriau sydd i'w gweithio a nifer yr oriau ychwanegol sydd eu hangen. Nodwch o ble mae'r gwirfoddolwyr hyn yn dod a'r effaith ar eich trefniadau rheoli a hyfforddi gwirfoddolwyr.

A oes unrhyw newidiadau mewn llywodraethu neu reoli a allai effeithio ar y prosiect?

Dywedwch wrthym am unrhyw newidiadau perthnasol i gyfansoddiad y bwrdd neu strwythur pwyllgorau, neu amrywiad mewn dyletswyddau neu gyfrifoldebau unigol. Os bydd y strwythur yn wahanol yn ystod gwahanol gamau o'ch prosiect, darparwch ddiagramau ar wahân i esbonio'r trefniadau. Amlinellwch unrhyw newid sylweddol arall yn y modd y caiff y sefydliad ei reoli o ganlyniad i'r prosiect.

Darparwch y rhagamcanion ariannol canlynol:

Datganiad o gronfeydd anghyfyngedig, neu o incwm a gwariant os yw’r sefydliad yn awdurdod lleol, yn brifysgol neu’n sefydliad mawr arall a bod maint y prosiect yn amherthnasol i gyfanswm amgylchiadau ariannol y sefydliad. Os oes gan y sefydliad is-gwmni masnachu, dylid cydgrynhoi ei ragamcanion â rhai ei riant. Dylech gynnwys:

  • mantolen y sefydliad
  • y tybiaethau y mae'r rhagamcanion ariannol yn seiliedig arnynt
  • dadansoddiad sensitifrwydd

Wrth gynnal yr asesiad effaith hwn dylech:

  • Ddefnyddio'r arfarniad o'r farchnad rydych wedi'i gyflawni fel rhan o'ch cynllunio busnes cyffredinol i roi manylion maint eich marchnad a'r incwm a gynhyrchir. Dylai'r tybiaethau ddangos yn glir ar ba sail y cyfrifwyd y rhifau.
  • dangos mai'r duedd gyffredinol fydd i'r sefydliad gynhyrchu gwarged blynyddol ar ei gronfeydd anghyfyngedig
  • Seiliwch eich asesiad ar eich blwyddyn ariannol gyflawn ddiweddaraf os ydych wedi bod mewn bodolaeth am y cyfnod hwnnw o amser (neu ar gyllideb y flwyddyn gyfredol). Defnyddiwch hwn fel man cychwyn ar gyfer eich rhagamcanion fel y gallwch asesu'n glir yr effaith net ar eich sefyllfa ariannol o incwm a gwariant cynyddrannol parhaus y prosiect yr ydych yn ei gynnig.
  • Yn y dadansoddiad sensitifrwydd dylech gynnwys yr eitemau incwm sydd fwyaf hanfodol i lwyddiant y sefydliad, a'r rhai sydd fwyaf ansicr neu sy'n cynnwys y risg fwyaf. Trwy addasu’r rhain yn ôl canrannau rhwng 5% ac 20%, gan ddibynnu ar eu natur a’u risg, gellir gweld yr effaith ar y gwarged a adroddir.

Manylion cyswllt eich sefydliad

Ar ddiwedd eich cynllun busnes, dylech gynnwys:

  • cyfeiriad y brif swyddfa
  • gwefan
  • rhif ffôn
  • cyfeiriad e-bost

Atodiadau

Os oes angen i chi gynnwys gwybodaeth ychwanegol i gefnogi'ch cynllun, er enghraifft, tystiolaeth neu adroddiadau rydych wedi'u comisiynu, cyngor allanol, gwybodaeth ariannol neu ddeunydd gweledol sy'n cefnogi'r cynllun, ychwanegwch y rhain fel atodiadau.

Ar ôl i chi gwblhau'r cynllun, adolygwch eich atodiadau i sicrhau nad ydych wedi hepgor unrhyw fanylion perthnasol. Gwiriwch a ydych wedi cynnwys gwybodaeth yn y prif gynllun busnes y dylid ei rhestru yn yr atodiad yn lle.

Adnoddau ychwanegol

Rhestr termau sy'n ymwneud â chynllunio busnes

Amcanion: cyflawniadau a nodir i fusnes anelu atynt, yn aml o fewn amserlen benodol. Dylai'r rhain fod yn 'CAMPUS', h.y.: cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol. Maent yn tanategu gweithgareddau cynllunio a strategol ac yn gweithredu fel sail ar gyfer monitro a gwerthuso perfformiad.

Ased: eitem o werth y mae’r sefydliad yn berchen arno ac yn ei reoli ac sydd ag oes ddefnyddiol sy’n hwy nag un cyfnod cyfrifyddu.

Cenhadaeth: cyfeiriad arweiniol cyffredinol y sefydliad, sydd fel arfer yn datgan eich pwrpas, yn cyfeirio at yr hyn y mae eich sefydliad yn ei wneud, i bwy y mae'n ei wneud a beth sy'n unigryw neu'n wahanol am yr hyn yr ydych yn ei wneud.

Cronfeydd anghyfyngedig: arian y gellir ei wario ar unrhyw weithgaredd sy'n hybu pwrpas y sefydliad.

Cyllideb: cynllun ar gyfer gweithgarwch yn y dyfodol wedi'i fynegi yn nhermau adnoddau sy'n dod i mewn ac yn mynd allan.

Dadansoddiad sensitifrwydd: yn profi gwahanol senarios i weld sut y byddant yn effeithio ar eich gwaelodlin ariannol, er enghraifft trwy gynyddu a lleihau eich rhagamcanion ariannol rhwng 5% ac 20%.

Effaith: y newidiadau cynaliadwy bwriadol neu anfwriadol a achosir gan fenter, prosiect, rhaglen neu sefydliad.

Llif arian parod: patrwm incwm a gwariant sefydliad. Mae cael gwarged ariannol mewn llaw ar ôl talu'r holl ddyledion ar y dydd y maent yn ddyledus yn lif arian 'positif', ac mae diffyg arian parod i dalu dyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus yn llif arian 'negyddol'.

Nodau: datganiad eang o fwriad.

Rhagolwg: rhagamcaniad ariannol, yn seiliedig ar berfformiad hyd yma, o ble mae’r sefydliad yn disgwyl bod ar ddiwedd y cyfnod ariannol presennol. Mae rhagolygon diwygiedig yn aml yn cael eu paratoi drwy gydol y flwyddyn ariannol.

Ymddiriedolwr: person sydd â rheolaeth annibynnol dros, a chyfrifoldeb cyfreithiol am, reolaeth a gweinyddiaeth sefydliad (yn enwedig elusen). Dysgwch fwy am ymddiriedolwyr ar wefan Llywodraeth y DU.